Ymchwilio i Ymfudo
Rydyn ni’n mynd i ymchwilio i’r gwledydd mae llawer o bobl yn eu gadael er mwyn mynd i leoedd mwy diogel, fel Ewrop.
Y gwledydd hyn yw:
- Y Dwyrain Canol
- Affrica
- Gogledd Affrica
- Affrica Islaw Sahara
- Affganistan
Yr Argyfwng Ymfudwyr yn Ewrop 2015
Llun: European migrant crisis. Asylum applicants in Europe between 1 January and 30 June 2015. - Maximilian Dörrbecker © Creative Commons Attribution-Share Alike 2.0 Generic license
Lawrlwytho yr Argyfwng Ymfudwyr yn Ewrop 2015
Y Dwyrain Canol
Llun: Middle East - TownDown © Creative Commons Attribution-Share Alike 3.0 Unported license
Sgil - Daearyddiaeth hanesyddol
Dechreuodd hanes modern y Dwyrain Canol ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf.
Yr hanes cyn hynny (mewn trefn):
- Dros 500 mlynedd fel rhan o’r Ymerodraeth Otomanaidd (Ymerodraeth Twrci).
- Cyn hyn, roedd pwerau Cristnogol ac Islamaidd wedi bod yn ymladd dros y rhan hon o’r byd ers y 7fed ganrif O.C.
- Cyn y 7fed ganrif, Cristnogaeth oedd y brif ffydd ac roedd y rhan fwyaf o’r grym yn nwylo’r Ymerodraeth Fysantaidd.
- Dechreuoedd yr Ymerodraeth Fysantaidd yn bennaf oherwydd rhwyg yn yr Ymerodraeth Rufeinig.
Llun: The maximum extent of the Roman Empire. Superimposed on a physical map - Andrei nacu © Public Domain
- Yr enw ar y Dwyrain Canol cyn goresgyniad y Rhufeiniaid yw ‘Crud Gwareiddiad’.
- Y rheswm am hyn yw mai dyma’r rhan o’r byd ble y tyfodd nifer o wareiddiadau mawr; gan gynnwys yr ymerodraethau canlynol:
- Eifftaidd
- Iddewig
- Babylonaidd
- Asyriaidd
- Persaidd
O’r rhanbarth hon y daeth nifer o’n datblygiadau mwyaf ni (o safbwynt yr hil ddynol):
- Dechrau amaeth
- Defnyddio technoleg/offer
- Meddygaeth
- Pensaernïaeth
- Mathemateg
- Gweithio gyda metelau
- Crochenwaith/Cerameg.
Daeth nifer o grefyddau mawr y byd o’r rhan hon o’r byd hefyd, gan gynnwys Islam, Iddewiaeth a Christnogaeth.
Hanes Modern
- Ar ôl bod yn rhan o’r Ymerodraeth Otomanaidd am dros 500 mlynedd, dechreuodd pethau newid yn gyflym ar ddechrau’r 20fed ganrif.
- Cafodd olew ei ddarganfod ym 1908 a goresgynnodd Ffrainc a Phrydain nifer o leoedd.
- Ym 1914, ymunodd yr Ymerodraeth Otomanaidd gyda’r Almaen ac Awstria/Hwngari yn y Rhyfel Byd Cyntaf.
- Gan fod yr Ymerodraeth Otomanaidd ar yr ochr a gollodd y rhyfel, cafodd ei chwalu.
- Dechreuodd llawer o ryfeloedd yn fuan, er enghraifft Rhyfel Annibyniaeth Twrci, a arweiniodd at sefydlu Twrci fodern ym 1923.
- Daeth y rhan fwyaf o Ogledd Affrica a’r Dwyrain Canol o dan reolaeth Ffrainc a Phrydain.
- Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd Prydain wedi addo rhoi rheolaeth dros ardaloedd eang i arweinwyr Arabaidd pwerus megis Sharif Hussein yn gyfnewid am ymosod ar yr Otomaniaid.
- Cafodd y rhan fwyaf o’r addewidion hyn eu cadw ar ôl 1918 a chrëwyd gwledydd newydd.
Llun: Hussein Bin Ali - Unknown Author © Public Domain
- Ond Roedd anghytuno mawr ym Mhalesteina.
- Roedd arweinwyr Arabaidd lleol yn credu y dylai’r ardal fod yn rhan o’r ardal a oedd dan eu rheolaeth nhw.
- Ond roedd y Prydeinwyr wedi addo y byddai’r ardal hon yn ‘famwlad’ ar gyfer yr Iddewon.
- Ar ôl 1918 y dechreuodd y broses hon.
- Cafodd Palesteina ei rhannu’n ddwy ran, gyda llywodraeth Iddewig yng Ngorllewin Palesteina gyda Phrydain yn ei gwarchod.
- Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, roedd y rhanbarth cyfan yn rhan o’r gwrthdaro ar draws y byd.
- Roedd y rhanbarth yn ansefydlog iawn ar ôl 1945 ac roedd nifer o ryfeloedd.
- Mae Wikipedia’n rhestru 69 gwrthdaro/rhyfel ers 1946 ac roedd llawer o’r rhain yn gysylltiedig â’r famwlad Iddewig newydd, Israel.
Llun: Flag of Israel - Typhix © Public Domain
- Ar ddiwrnod cyntaf ei hannibyniaeth ym 1948, cafodd Israel ei goresgyn gan fyddinoedd Yr Aifft, Syria, Trawsiorddonen, Libanus, Irác a Sawdi-Arabia.
- Roedd gwrthdaro cyson, bron, hyd nes y cafodd cytundebau heddwch eu llofnodi ym 1993.
Materion pwysig
- Dim ond Twrci, Israel a Libanus a ddaeth yn wledydd democrataidd yn y rhan hon o’r byd– daeth mwyafrif y gwledydd yn wladwriaethau breniniaethol neu’n wladwriaethau unbenaethol.
- Bu ymosodiadau creulon ar grwpiau ethnig a grwpiau crefyddol mewn sawl ardal, ymosodiadau y gellid eu galw’n hil-laddiad.
- Roedd ymdrechion i gael newidiadau gwleidyddol yn gallu arwain at garchar, artaith a llofruddio.
- Roedd gwahaniaethau crefyddol yn gallu arwain at erledigaeth ac roedd gwahaniaethau rhywiol yn gallu arwain at lofruddiaeth a oedd yn cael ei cymeradwyo gan y wladwriaeth.
- Ymhen hir a hwyr, bu’n rhaid i’r gymuned ryngwladol ymosod yn filwrol mewn sawl lleoliad oherwydd erledigaeth, hyrwyddo terfysgaeth ryngwladol, goresgyn gwledydd gerllaw a bygythiadau i ddiogelwch byd-eang ac i gyflenwadau olew.
Llun: Gulf War photo collage for use in the infobox - User:Acdx © Public Domain
Ers 1990, mae’r rhanbarth wedi cael ei ddominyddu gan ddigwyddiadau yn ac o gwmpas Irác
Mae llawer o ffoaduriaid, yn ddiweddar ac ar hyn o bryd, yn dod o wahanol rannau o Irác.
- Ym 1990, roedd gan Irác y bedwaredd fyddin fwyaf yn y byd.
- Roedd Irác wedi bod yn ymladd gyda’i chymydog, Irán, rhwng 1980 a 1988.
- Collodd mwy na 1,000,000 o bobl eu bywyd.
Llun: Flag of Iraq - User:Hoshie © Public Domain
- Roedd Irác yn cael ei rheoli gan unben creulon o’r enw Saddam Hussein.
- Roedd llawer o broblemau o fewn Irác ar ôl y rhyfel yn erbyn Irán a phenderfynodd Saddam Hussein mai’r ateb oedd goresgyn ei gymydog, Coweit, lle’r oedd llawer o olew.
- Bu’n bygwth Sawdi-Arabia hefyd.
Llun: Saddam Hussain Iran-Iraqi war 1980s - AFP/Getty-images © Public Domain
Goresgynnodd Coweit o fewn ychydig dros 2 ddiwrnod!
Fodd bynnag, roedd Irác wedi camfarnu’r gefnogaeth ryngwladol ac roedd yn wynebu clymblaid ryngwladol, gan gynnwys Prydain, o dan arweiniad UDA. Yr enw ar y gwrthdaro hwn yw ‘Rhyfel Cyntaf y Gwlff’.
Llun: Coalition of the Gulf War vs Iraq - Author Unknown © Creative Commons Attribution-Share Alike 3.0 Unported license
Cafodd Irác ei gyrru allan o Goweit yn gyflym gan y glymblaid; roedd y cyfan drosodd 100 o oriau ar ôl i’r ymosodiad ar y ddaear ddechrau.
Fodd bynnag, cododd problemau newydd yn Irác:
- Ym 1991, wrth i Irác gael ei gorfodi i adael Coweit, cododd nifer o grwpiau yn Irác mewn gwrthryfel
- y Cwrdiaid yn y gogledd
- Mwslemiaid Shia yn y de.
- Yna, dioddefodd grwpiau Cwrdaidd a Shia erledigaeth/hil-laddiad ofnadwy:
- Yna, dioddefodd grwpiau Cwrdaidd a Shia erledigaeth/hil-laddiad ofnadwy:
- Yn ne Irác, cafodd llawer o afonydd eu dargyfeirio er mwyn:
- achosi llifogydd mewn rhai ardaloedd
- rhwystro ardaloedd eraill rhag cael dŵr i yfed ac i dyfu bwyd.
- Cafodd arfau cemegol eu defnyddio mewn rhai ardaloedd, gan gynnwys nwy mwstard a’r nwy nerfol, sarin.
- Ymosodwyd ar nifer o grwpiau Cwrdaidd a Shia, a defnyddiwyd menywod a phlant lleol fel ‘amddiffynfeydd dynol’.
- Condemniodd Irác bawb yn yr ardaloedd Cwrdaidd a Shia o dan yr ymadrodd ‘cyfrifoldeb cyfunol’ a chafodd llawer ohonyn nhw eu harteithio, eu treisio’n rhywiol a’u llosgi’n fyw.
- Mae dros 200 o feddau torfol y dioddefwyr wedi cael eu darganfod hyd yma, gyda’r un mwyaf ohonyn nhw’n cynnwys dros 10,000 o gyrff.
Rhyfel Irác
Llun: Iraq War montage - Futuretrillionaire © CC BY-SA 2.5 / Public Domain
- Yn 2003, goresgynnodd clymblaid ryngwladol newydd, gan gynnwys Prydain, Irác. Yr enw arno yw ‘Ail Ryfel y Gwlff’. Roedd Irác wedi bygwth y Gorllewin gydag ‘Arfau Distryw Mawr’.
- Roedd Irác yn arfer defnyddio arfau cemegol.
- Roedd gan Irác dros 500 tunnell o wraniwm hefyd a gellid defnyddio hyn ar gyfer gwneud arfau’n seiliedig ar ymbelydredd ‘budr’ neu fom niwclear hyd yn oed.
- Oherwydd bod bygythiad y byddai Irác yn defnyddio ‘Arfau Distryw Mawr’ yn erbyn gweddill y byd, ymunodd nifer o wledydd yn y rhyfel.
- Fodd bynnag, roedd tystiolaeth o hil-laddiad o fewn Irác ac roedd y gyfraith ryngwladol yn mynnu bod rhaid gweithredu.
Er bod lluoedd y glymblaid wedi ennill yn gyflym, mae wedi bod yn anodd sicrhau heddwch gan fod llawer o grwpiau gwahanol yn ymladd yn erbyn lluoedd y glymblaid, lluoedd llywodraeth newydd Irác ac yn erbyn ei gilydd.
- Cyfeirir at hyn yn aml fel gwrthryfel.
- Rhwng 2003 a 2011, cafodd 179 o filwyr Prydain eu lladd a chafodd 3,598 eu hanafu.
- Un o’r grwpiau gwrthryfelgar hyn yw’r Wladwriaeth Islamaidd/ISIL fel y’i gelwir.
2015 Rheolaeth dros Irác a Syria
Llun: Syria and Iraq 2014-onward War map - Haghal Jagul © Creative Commons CC0 1.0 Universal Public Domain Dedication
- Rhwng 2003 a 2006, mwy na thebyg bod 600,000 o bobl wedi marw o ganlyniad i drais.
- Roedd hyn dros 500 o bobl bob dydd.
- Heddiw, mae rhyfel creulon rhwng y Wladwriaeth Islamaidd/ISIL fel y’i gelwir, lluoedd llywodraeth Irác a lluoedd Cwrdaidd wedi arwain at:
- hil-laddiad grwpiau lleiafrifol, megis yr Yazidiaid
- ac roedd llawer iawn o:
- gaethiwed
- artaith
- trais rhywiol
- llofruddiaeth.
- Does dim pŵer, dŵr na bwyd mewn llawer o leoedd.
Oherwydd hyn i gyd, mae llawer o ffoaduriaid yn gadael Irác.