30

Ymchwilio i Syria ac Affganistan

Syria

undefined

Llun: Syria (orthographic projection) - L'Américain © Creative Commons Attribution-Share Alike 3.0 Unported license

  • Er gwaetha’r sefyllfa ofnadwy yn Libia, mae’r sefyllfa yn Syria yn llawer iawn gwaeth.
  • Mae’r Arlywydd Assad wedi bod yn rheoli Syria ers y flwyddyn 2000.
    • Daeth i rym pan fu farw ei dad.
    • Roedd ei dad wedi bod mewn grym ers 1970.
  • Roedd amodau byw yn Syria yn llwm iawn a dim ond  ychydig iawn o ryddid oedd yno.
  • Roedd pethau’n well ar gyfer rhai grwpiau crefyddol ac yn waeth ar gyfer grwpiau eraill.
    • Mae llywodraeth Assad a’i gefnogwyr yn dilyn Islam Shia gan fwyaf.
    • Mae lluoedd y Gwrthwynebwyr yn dilyn Islam Sunni gan fwyaf.
  • Mae mwyafrif y Cwrdiaid yn dilyn Islam Sunni ond mae rhai yn dilyn Islam Shia. Mae’r iaith Gwrdeg a’i diwylliant yn bwysicach na chrefydd.
  • Mae Byddin Rhyddid Syria yn grŵp ambarél sy’n cynnwys grwpiau megis Ffrynt al-Nusra sy’n rhan o’r grŵp terfysgol rhyngwladol, al-Qaeda.
  • Dechreuodd y Wladwriaeth Islamaidd/ISIL fel y’i gelwir fel grŵp Jihadaidd yn Affganistan.
    • Roedd yn deyrngar i al-Qaeda.
    • Ymunodd â’r gwrthryfel yn Irác yn 2003 a bu’n gyfrifol am lawer o erchyllterau.
    • Mae wedi lledu i Syria erbyn hyn.

undefined

undefined

Llun: Syrian Civil War - Spesh531 © Creative Commons Attribution-Share Alike 4.0 International, 3.0 Unported, 2.5 Generic, 2.0 Generic and 1.0 Generic license 

  • Ers 2011 mae’r amodau byw yn Syria yn ofnadwy ac mae llawer o erchyllterau yn cael eu cyflawni yno fel rhan o’r gwrthdaro, gan gynnwys defnyddio arfau cemegol, llofruddio, arteithio a threisio’n rhywiol.
  • Mae’r sefyllfa’n cael ei waethygu gan fod gwledydd eraill yn cefnogi/ymladd ar ochrau gwahanol.
    • Mae Rwsia, Irác ac Irán yn cefnogi llywodraeth Assad.
    • Mae 17 gwlad, gan gynnwys y DU, UDA, Ffrainc a mwyafrif gwledydd y Gynghrair Arabaidd yn cefnogi Cynghrair Genedlaethol Syria.
    • Fodd bynnag, mae Sawdi-Arabia, Twrci a Qatar yn cefnogi’r Ffrynt al-Nusra yn gwbl agored.
  • Yn Syria, mae’r rhan fwyaf o’r pŵer, y dŵr a’r  cyflenwad bwyd wedi mynd.

undefined

Llun: Syrian refugees in the Middle East map - Furfur © Creative Commons Attribution-Share Alike 4.0 International license

  • Ar ben hyn:
    • mae dros 7.6 miliwn o bobl wedi cael eu dadleoli’n fewnol yn Syria
    • mae dros 5 miliwn o bobl eraill wedi cael eu dadleoli i wledydd cyfagos megis Twrci, Libanus, Irác, Coweit a’r Aifft.
    • Dim ond rhai cannoedd o filoedd sydd wedi ceisio cyrraedd Ewrop fel ffoaduriaid ac mae hyn, o ystyried graddfa’r erchylltra, yn nifer cymharol isel.

Y Wladwriaeth Islamaidd/ISIL fel y’i gelwir

Mae’r rhan fwyaf o bobl yn defnyddio’r ymadrodd ‘fel y’i gelwir’ wrth gyfeirio at y mudiad hwn oherwydd byddai rhoi i fudiad o’r fath y lefel o barch/cydnabyddiaeth sy’n ddyledus i ‘wladwriaeth’ neu wlad yn annerbyniol.

Enwau

  • Saesneg
    • Islamic State of Iraq and the Levant (ISIL)
    • Islamic State of Syria (ISIS)
    • IS (Islamic State)
  • Cymraeg
    • Gwladwriaeth Islamaidd Irác a’r Lefant (ISIL)
    • Gwladwriaeth Islamaidd Syria (ISIS)
    • Y Wladwriaeth Islamaidd
  • Arabeg
    • Daesh
  • Dechreuodd yn Affganistan ym 1999.
  • Roedd yn cael ei ariannu gan al-Qaeda.
  • Yn 2003, ymunodd â’r gwrthryfel yn Irác yn erbyn llywodraeth newydd y wlad ynghyd â’r glymblaid.
  • Erbyn 2015,
    • mae ganddi reolaeth dros ardaloedd eang ar draws ffin Irác a Syria
  • Mae’n rheoli rhannau o:
    • Libia
    • Affganistan
    • Sinai (yr Aifft)
    • Nigeria (drwy Boko Haram).
  • Mae llawer o grwpiau terfysgol wedi ymuno (gan adael al-Qaeda yn bennaf) ac oherwydd hynny mae’n ehangu’n gyflym. 

Mae’r grŵp hwn yn credu mewn lladd pob un nad yw’n derbyn ei ddehongliad cyntefig o Islam.

undefined

  • Mae pobl wedi ymuno ag ISIL fel y’i gelwir o wledydd ar draws y byd, gan gynnwys Cymru er gwaethaf pethau ofnadwy fel:
    • caethiwed
    • llofruddiaeth dorfol
    • artaith
    • torri pennau i ffwrdd.
      • Yn 2014, roedd sôn bod ISIL wedi torri pennau dros 100 o recriwtiaid tramor oherwydd eu bod wedi ceisio gadael dinas Raqqa.
  • Mae’r defnydd o gyfryngau cymdeithasol yn golygu bod pobl yn gallu cael eu radicaleiddio o fewn eu cartrefi eu hunain.
  • Mae gan y grŵp fyddin sy’n ceisio recriwtio ar-lein.
    • Rhaid i bawb edrych ar ôl eu ffrindiau ysgol.
    • Os byddan nhw’n gweld arwyddion bod ffrindiau’n cefnogi’r mudiad hwn rhaid eu helpu nhw drwy siarad gydag:
      • athrawon
      • aelodau o’r teulu
      • arweinwyr y gymuned. 

Mae llawer o recriwtiaid yn ceisio gadael ar ôl cyrraedd; mae rhai’n llwyddo i ddianc ond mae’r rhai sy'n cael eu dal, e.e. y 100+ yn Raqqa, yn cael eu lladd drwy dorri eu pennau i ffwrdd.

Affganistan

undefined

Llun: Afghanistan (orthographic projection) - Shahid Parvez © GNU Free Documentation License, version 1.2

  • Y gwledydd sy’n ffinio ag Affganistan yw
    • Pacistan
    • Irán
    • Tyrkmenistan
    • Wsbecistan
    • Tajikistan
    • China.
  • Roedd chwyldro comiwnyddol yn Affganistan ym 1978. 
  • Aeth ymladdwyr eithafol i Affganistan i ymladd mewn ‘rhyfel sanctaidd’ neu Jihad yn erbyn llywodraeth gomiwnyddol Affganistan. 
  • Ym 1979, anfonodd yr Undeb Sofietaidd ei lluoedd arfog i Affganistan a bu rhyfel a laddodd dros 1,000,000 o bobl. 
  • Aeth degau o filoedd o ymladdwyr o wledydd Islamaidd i ymuno â’r ‘Jihad’. 
  • Un o’r ymladdwyr cyfoethog hyn oedd Osama Bin Laden o Sawdi-Arabia. Sefydlodd e al-Qaeda.
  • Helpodd e i sefydlu’r hyn sy’n cael ei alw’n Wladwriaeth Islamaidd/ISIL.

undefined

Llun: Osama bin Laden - Hamid Mir © Creative Commons Attribution-Share Alike 3.0 Unported license

  • Ym 1989, tynnodd y lluoedd Sofietaidd allan o Affganistan ac erbyn 1992, roedd y comiwnyddion wedi cael eu trechu. 
  • Yna, roedd rhyfel cartref arall rhwng grwpiau gwahanol o ymladdwyr Jihadaidd a chafodd 400,000 mwy o bobl eu lladd. 
  • Erbyn 1996, enillodd un grŵp, y Taliban, ac roedden nhw’n rheoli ar sail eu dehongliad llym eu hunain o Islam.
  • Parhaodd Osama bin Laden a’i fudiad al-Qaeda i weithredu ochr yn ochr â’r Taliban.
  • Ar Fedi’r 11eg, 2001, ymosododd al-Qaeda ar UDA.

undefined

Llun: National Park Service 9-11 Statue of Liberty and WTC fire - National Park Service © Public Domain

undefined

Llun: September 17 2001 - U.S. Navy photo by Chief Photographer's Mate Eric J. Tilford © Public Domain

  • Arweiniodd hyn at y ‘Rhyfel yn erbyn Terfysg ’ a chafodd Affganistan ei goreesgyn gan glymblaid a oedd yn cynnwys y DU ac UDA.

Y Wal Goffa Brydeinig yn Affganistan

undefined

Llun: Camp Bastion Memorial Wall Vigil MOD - Cpl Daniel Wiepen/MOD © OGL (Open Government License)

  • Er y llwyddiant cyflym yn 2001, bu’n anodd cael heddwch.
  • Bu farw dau aelod o lu awyr y DU ym mis Hydref 2015 gan ddod â chyfanswm colledion milwrol y DU yn ystod y gwrthdaro i 456.
  • Bu farw nifer o Gymry, hyd yn oed yn 2015.
  • Mae’r Taliban yn parhau i ymladd yn erbyn lluoedd llywodraeth Affganistan.
  • Mae’r Wladwriaeth Islamaidd/ISIL fel y‘i gelwir yn rheoli rhai ardaloedd wrth iddo recriwtio aelodau o’r Taliban.

undefined

Gweithgaredd disgyblion

Ar ôl darllen y tair erthygl a gwneud y gweithgareddau, defnyddiwch y daflen A3 i’ch helpu chi i ymchwilio i’r prif leoedd mae ymfudwyr i Ewrop yn teithio ohonynt.

 

Erthyglau eraill efallai y byddwch a diddordeb mewn Ymfudo o Fecsico i UDA, Ymfudo yn y DU a Gwneud penderfyniadau – Argyfwng yr Ymfudwyr.

Top

Mwy o’r rhifyn yma...

O ble mae mwyafrif yr ymfudwyr sy’n cyrraedd yr UE yn dod ar hyn o bryd?

O ble mae mwyafrif yr ymfudwyr sy’n cyrraedd yr UE yn dod ar hyn o bryd?

Ymchwilio i’r Gwanwyn Arabaidd a Libia

Ymchwilio i’r Gwanwyn Arabaidd a Libia