30

O ble mae mwyafrif yr ymfudwyr sy’n cyrraedd yr UE yn dod ar hyn o bryd?

Disgrifiwch y lleoliadau sydd wedi’u rhifo 1-4 ar y map

undefined

Edrychwch ar y map – Disgrifiwch leoliadau 1-4. 

  • Gogledd Affrica
  • Affrica Islaw Sahara
  • Affganistan (a’i chymdogion)
  • Y Dwyrain Canol
  1. Affganistan (a’i chymdogion)
  2. Y Dwyrain Canol
  3. Gogledd Affrica
  4. Affrica Islaw Sahara

Edrychwch ar y map o’r Dwyrain Canol a defnyddiwch y rhestr isod er mwyn enwi’r gwledydd sydd wedi cael eu rhestru. 

Trafodwch mewn grŵp a defnyddiwch atlas neu atlas digidol ar-lein.

undefined

Llun: Middle East - Madhero88 © Wikimedia Commons

Ymchwilio i Ymfudo

Yn y rhifyn hwn o Daearyddiaeth yn y Newyddion, rydyn ni’n mynd i ymchwilio i brif leoliad gwreiddiol ymfudwyr sy’n cyrraedd yr Undeb Ewropeaidd.

Y prif rai yw:

  • Y Dwyrain Canol
    • Irác
    • Syria
  • Affrica
    • Gogledd Affrica
    • Affrica Islaw Sahara
  • Affganistan

Yr Argyfwng Ymfudwyr yn Ewrop 2015

undefined

Llun: European migrant crisis. Asylum applicants in Europe between 1 January and 30 June 2015. - Maximilian Dörrbecker © Creative Commons Attribution-Share Alike 2.0 Generic license

Lawrlwytho yr Argyfwng Ymfudwyr yn Ewrop 2015

undefined

Y Dwyrain Canol

undefined

Llun: Middle East - TownDown © Creative Commons Attribution-Share Alike 3.0 Unported license

Daearyddiaeth hanesyddol

Dechreuodd hanes modern y Dwyrain Canol ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf. 

Am ganrifoedd cyn hyn, roedd y rhan fwyaf o’r Dwyrain Canol wedi bod yn rhan o’r Ymerodraeth Otomanaidd (Ymerodraeth Twrci). 

Cyn hyn, roedd pwerau Cristnogol ac Islamaidd wedi bod yn ymladd dros y rhan hon o’r byd ers y 7fed ganrif O.C. 

Cyn y 7fed ganrif, Cristnogaeth oedd y brif ffydd ac roedd y rhan fwyaf o’r grym yn nwylo’r Ymerodraeth Fysantaidd

Daeth yr Ymerodraeth Fysantaidd i fodolaeth yn bennaf oherwydd rhwyg yn yr Ymerodraeth Rufeinig.

undefined

Llun: The maximum extent of the Roman Empire. Superimposed on a physical map - Andrei nacu © Public Domain

Yn aml, yr enw ar y Dwyrain Canol cyn goresgyniad y Rhufeiniaid yw ‘Crud Gwareiddiad’. Y rheswm am hyn yw mai dyma’r rhan o’r byd ble y tyfodd nifer o wareiddiadau mawr, ac roedd y rhain yn cystadlu â’i gilydd, yn uno neu chwalu; yn eu plith yr oedd yr ymerodraethau canlynol: 

  • Eifftaidd
  • Iddewig
  • Babylonaidd
  • Asyriaidd
  • Persaidd

O’r rhanbarth hon y daeth nifer o’n datblygiadau mwyaf ni (o safbwynt yr hil ddynol):

  • Geni amaeth
  • Defnyddio technoleg/offer
  • Meddygaeth
  • Pensaernïaeth
  • Mathemateg
  • Gweithio gyda metelau
  • Crochenwaith/Cerameg.

Daeth nifer o grefyddau mawr y byd o’r rhan hon o’r byd hefyd, yn eu plith Islam, Iddewiaetha Christnogaeth.

Hanes Modern

Ar ôl bod yn rhan o’r Ymerodraeth Otomanaidd am gannoedd o flynyddoedd, dechreuodd pethau newid pan gafodd olew ei ddarganfod ym 1908 a daeth y rhanbarth i sylw ymerodraethau Ffrainc a Phrydain. 

Ym 1914, ymunodd yr Ymerodraeth Otomanaidd gyda’r Almaen ac Awstria/Hwngari yn y Rhyfel Byd Cyntaf. 

Gan fod yr Ymerodraeth Otomanaidd ar yr ochr a gollodd y rhyfel, cafodd ei chwalu. Fodd bynnag, dechreuodd rhyfeloedd yn gyflym; un rhyfel mawr oedd Rhyfel Annibyniaeth Twrci, a arweiniodd at sefydlu Twrci fodern ym 1923. 

Daeth y rhan fwyaf o Ogledd Affrica a’r Dwyrain Canol o dan reolaeth Ffrainc a Phrydain. 

Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd Prydain wedi addo rhoi rheolaeth dros ardaloedd eang i arweinwyr Arabaidd pwerus megis Sharif Hussein yn gyfnewid am ymosod ar yr Otomaniaid. 

Anrhydeddwyd y rhan fwyaf o’r addewidion hyn ar ôl 1918 a chrëwyd gwledydd newydd.

undefined

Llun: Hussein Bin Ali - Unknown Author © Public Domain

Roedd Palesteina yn un ardal lle’r oedd anghytuno mawr. Roedd arweinwyr Arabaidd lleol yn credu y dylai’r ardal fod yn rhan o’r ardal a oedd dan eu rheolaeth nhw, ond roedd y Prydeinwyr wedi addo y byddai’r ardal hon yn ‘famwlad’ ar gyfer yr Iddewon.

Ar ôl 1918 y dechreuodd y broses hon; rhannwyd Palesteina’n ddwy ran, gyda llywodraeth Iddewig ‘gysgodol’ yng Ngorllewin Palesteina a Phrydain yn ei gwarchod. 

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, roedd y rhanbarth cyfan yn rhan o’r gwrthdaro byd-eang. 

Roedd y rhanbarth yn ansefydlog iawn ar ôl 1945 ac roedd nifer o ryfeloedd.  Mae Wikipedia’n rhestru 69 gwrthdaro/rhyfel ers 1946 ac roedd llawer o’r rhain yn gysylltiedig â’r famwlad Iddewig newydd, Israel.

undefined

Llun: Flag of Israel - Typhix © Public Domain

Ar ddiwrnod cyntaf ei hannibyniaeth ym 1948, cafodd Israel ei meddiannu gan fyddinoedd Yr Aifft, Syria, Trawsiorddonen, Libanus, Irác a Sawdi-Arabia. 

Roedd gwrthdaro cyson, bron, hyd nes y llofnodwyd cytundebau heddwch ym 1993.

Materion pwysig

  • Dim ond Twrci, Israel a Libanus a ddaeth yn wledydd democrataidd yn y rhan hon o’r byd– daeth mwyafrif y gwledydd yn wladwriaethau breniniaethol neu’n wladwriaethau unbenaethol.
  • Bu ymosodiadau creulon ar grwpiau ethnig a grwpiau crefyddol mewn sawl ardal, ymosodiadau y gellid eu galw’n hil-laddiad.
  • Gallai ymdrechion i gael diwygiadau gwleidyddol arwain at garchar, artaith a llofruddio.
  • Gallai gwahaniaethau crefyddol arwain at erledigaeth.
  • Ymhen hir a hwyr, bu’n rhaid i’r gymuned ryngwladol ymosod yn filwrol mewn sawl lleoliad oherwydd erledigaeth, hyrwyddo terfysgaeth ryngwladol, goresgyn gwledydd cyfagos a bygythiadau i ddiogelwch byd-eang.

undefined

Llun: Gulf War photo collage for use in the infobox - User:Acdx © Public Domain

Ers 1990, mae’r rhanbarth wedi cael ei ddominyddu gan ddigwyddiadau yn ac o gwmpas Irác

Mae llawer o ffoaduriaid, yn ddiweddar ac ar hyn o bryd, yn dod o wahanol rannau o Irác.

  • Ym 1990, roedd gan Irác y bedwaredd fyddin fwyaf yn y byd.
  • Roedd Irác wedi bod yn ymladd gyda’i chymydog, Irán, rhwng 1980 a 1988.

  • Collodd mwy na 1,000,000 o bobl eu bywyd.

undefined

Llun: Flag of Iraq - User:Hoshie © Public Domain 

Roedd Irác yn cael ei rheoli gan unben creulon o’r enw Saddam Hussein. Roedd llawer o broblemau o fewn Irác ar ôl y rhyfel yn erbyn Irán a phenderfynodd mai’r ateb oedd goresgyn ei gymydog, Coweit, lle’r oedd llawer o olew. 

Bu’n bygwth Sawdi-Arabia hefyd.

undefined

Llun: Saddam Hussain Iran-Iraqi war 1980s - AFP/Getty-images © Public Domain

Goresgynnodd Coweit o fewn ychydig dros 2 ddiwrnod! 

Fodd bynnag, roedd Irác wedi camfarnu’r gefnogaeth ryngwladol ac roedd bellach yn wynebu clymblaid ryngwladol, gan gynnwys Prydain.  Yr enw ar y gwrthdaro hwn yw ‘Rhyfel Cyntaf y Gwlff’.

undefined

Llun: Coalition of the Gulf War vs Iraq - Author Unknown © Creative Commons Attribution-Share Alike 3.0 Unported license

Cafodd Irác ei gyrru allan o Goweit yn gyflym gan y glymblaid; roedd y cyfan drosodd 100 o oriau ar ôl i’r ymosodiad ar y ddaear ddechrau.

Fodd bynnag, nid oedd y problemau wedi cael eu datrys:

  • Ym 1991, wrth i Irác gael ei gorfodi i adael Coweit, cododd nifer o grwpiau yn Irác mewn gwrthryfel yn erbyn Saddam Hussein, e.e. y Cwrdiaid yn y gogledd a Mwslemiaid Shia yn y de.

o   Yna, dioddefodd grwpiau Cwrdaidd a Shia erledigaeth/hil-laddiad ofnadwy:

  • Ymosodwyd ar fwy na 2,000,000 o ffoaduriaid o’r awyr droeon wrth iddyn nhw ffoi o Irác.
  • Yn ne Irác, cafodd llawer o afonydd eu dargyfeirio er mwyn achosi llifogydd mewn rhai ardaloedd ac er mwyn rhwystro ardaloedd eraill rhag cael dŵr i yfed ac i dyfu bwyd.
  • Cafodd arfau cemegol eu defnyddio mewn rhai ardaloedd, gan gynnwys nwy mwstard a’r nwy nerfol, sarin.
  • Ymosodwyd ar nifer o grwpiau Cwrdaidd a Shia, a defnyddiwyd menywod a phlant lleol fel ‘amddiffynfeydd dynol’.
  • Condemniodd Irác bawb yn yr ardaloedd Cwrdaidd a Shia o dan yr ymadrodd ‘cyfrifoldeb cyfunola chafodd llawer ohonyn nhw eu harteithio, eu treisio’n rhywiol a’u llosgi’n fyw.

Mae dros 200 o feddau torfol y dioddefwyr wedi cael eu darganfod hyd yma, gyda’r un mwyaf ohonyn nhw’n cynnwys dros 10,000 o gyrff.

Rhyfel Irác

undefined

Llun: Iraq War montage - Futuretrillionaire © CC BY-SA 2.5 / Public Domain

Yn 2003, ymosododd clymblaid ryngwladol newydd, gan gynnwys Prydain, ar Irác. Yr enw arno yw ‘Ail Ryfel y Gwlff’.

Roedd Irác wedi bygwth y Gorllewin gydag ‘Arfau Distryw Mawr’. Roedd Irác yn arfer defnyddio arfau cemegol. Roedd gan Irác dros 500 tunnell o wraniwm hefyd a gellid defnyddio hyn ar gyfer gwneud arfau’n seiliedig ar ymbelydredd ‘budr’ neu fom niwclear efallai. 

Roedden nhw’n meddwl bod arfau cemegol fel nwy mwstard neu’r nwy nerfol, sarin, yn Irác. Cafodd nifer fawr o arfau a oedd yn cynnwys y rhain eu darganfod a’u dinistrio gan fyddinoedd y glymblaid. 

Oherwydd bod bygythiad y byddai Irác yn defnyddio ‘Arfau Distryw Mawr’ yn erbyngweddill y byd, ymunodd nifer o wledydd yn y rhyfel. Hefyd, roedd tystiolaeth o hil-laddiad o fewn Irác ac roedd y gyfraith ryngwladol yn mynnu bod rhywun yn gweithredu. 

Er bod lluoedd y glymblaid wedi ennill, mae wedi bod yn anodd sicrhau heddwch gan fod llawer o grwpiau gwahanol yn ymladd yn erbyn lluoedd y glymblaid, lluoedd llywodraeth Irác ac yn erbyn ei gilydd. 

Cyfeirir at hyn fel gwrthryfel.

Rhwng 2003 a 2011, cafodd 179 o filwyr Prydain eu lladd a chafodd 3,598 eu hanafu. 

Un o’r grwpiau gwrthryfelgar hyn yw’r Wladwriaeth Islamaidd/ISIL fel y’i gelwir.

2015 Rheolaeth dros Irác a Syria

undefined

Llun: Syria and Iraq 2014-onward War map - Haghal Jagul © Creative Commons CC0 1.0 Universal Public Domain Dedication

undefined

Mae astudiaethau dibynadwy yn amcangyfrif fod 600,000 o bobl wedi marw rhwng 2003 a 2006 o ganlyniad i drais, sef dros 500 o bobl bob dydd. 

Heddiw, mae rhyfel creulon rhwng y Wladwriaeth Islamaidd/ISIL fel y’i gelwir, lluoedd llywodraeth Irác a lluoedd Cwrdaidd wedi arwain at hil-laddiad yn ogystal â llawer iawn o gaethiwed, artaith, trais rhywiol a llofruddiaeth.

Does dim pŵer, dŵr na bwyd mewn llawer o leoedd. 

Mewn amgylchedd o’r fath, lle mae gwrthdaro parhaus, mae Irác yn parhau i fod yn ffynhonnell ffoaduriaid sy’n teithio tuag at ei chymdogion ac Ewrop.

Gweithgaredd disgyblion

  • Dychmygwch eich bod yn ffoadur o Irác yn Ewrop.
  • Rydych yn cael eich cyfweld gan y BBC.
  • Ysgrifennwch drawsgrif o’ch cyfweliad neu defnyddiwch gyfleusterau sain i’w recordio.
    • Ysgrifennwch eich rhesymau ar ffurf drafft yn gyntaf.

'Eglurwch pam rydych chi wedi gadael Irác’ (Ffactorau Gwthio dros Ymfudo).

·       

Mae’r adnodd hwn wedi cael ei gynllunio i’w ddefnyddio gyda’r dosbarth cyfan o du blaen y dosbarth ar brojector/bwrdd gwyn rhyngweithiol.

Dylai’r athro roi eglurhad ar y delweddau amrywiol, gan seilio’r sylwadau ar y testun. Ni fydd modd i fwyafrif llethol y disgyblion ddarllen y testun cyfan o fewn yr amser sydd ar gael.

Yn ddelfrydol, dylai’r disgyblion gael mynediad i’r adnodd ar-lein er mwyn gweithio ar y daflen gweithgareddau (dylid argraffu hon ar bapur A3).

Yn ddelfrydol, dylid rhoi cefnogaeth ar gyfer y gweithgareddau hyn, sef ystafell rwydwaith, llechi/gliniaduron neu ffonau/dyfeisiau’r disgyblion eu hunain, os caniateir y rhain.

Fodd bynnag, mae’r gweithgareddau wedi cael eu cynllunio ar gyfer eu defnyddio mewn gwers arferol, sef un awr, gyda’r athro’n defnyddio’r adnodd yn nhu blaen yr ystafell ddosbarth ochr yn ochr â’r daflen adnoddau.

Yna, gellid rhoi gwaith cartref i’r disgyblion, sef astudio’r tair erthygl cyn y wers nesaf.

Mae’r adnodd a’r daflen gysylltiedig wedi cael eu cynllunio fel eu bod yn cefnogi’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd, gan roi i ddisgyblion wybodaeth ddaearyddol allweddol mewn perthynas â’r lleoedd sy’n gysylltiedig â’r argyfwng sy’n ymwneud â dadleoli gorfodol yn y Dwyrain Canol.

Darllenwch a chwblhewch y gweithgareddau yn yr erthygl ar-lein ac yn yr erthyglau cysylltiedig yn y rhifyn hwn o Daearyddiaeth yn y Newyddion – naill ai yn yr ystafell ddosbarth neu gartref. Ceisiwch orffen yr holl weithgareddau sydd ar y daflen adnoddau. 

Beth fyddwch chi’n ei ddysgu:

  • Byddwch chi’n cynyddu eich gwybodaeth am broblemau yn y Dwyrain Canol.
  • Byddwch chi’n cynyddu eich dealltwriaeth o’r ffordd mae’r ffactorau hyn yn gallu  effeithio ar bobl ac ar weithgareddau pobl.
  • Byddwch chi’n cael cyfle i ddysgu neu ymarfer sgiliau llythrennedd a rhifedd pwysig.

Byddwch chi’n dysgu ymadroddion daearyddol newydd, wedi’u goleuo mewn porffor. Dylech chi ddysgu’r rhain a’u cynnwys mewn geirfa. Rhestr o eiriau a’u hystyr yw geirfa. Gallech chi gael un yng nghefn eich llyfr ysgrifennu daearyddiaeth. Os oes gyda chi gynlluniadur, mwy na thebyg bod lle da yn hwnnw ar gyfer cadw geirfa neu gallech chi gadw llyfr geirfa ar wahân. Mae geirfa dda yn eich helpu chi i ddatblygu eich geirfa a’ch llythrennedd. Chwiliwch am ystyr geiriau drwy ddefnyddio gweddill cynnwys yr erthygl, drwy drafod neu defnyddiwch eiriadur (naill ai ar-lein neu lyfr).

Erthyglau eraill efallai y byddwch a diddordeb mewn Ymfudo o Fecsico i UDA, Ymfudo yn y DU a Gwneud penderfyniadau – Argyfwng yr Ymfudwyr.

Top

Mwy o’r rhifyn yma...

Ymchwilio i’r Gwanwyn Arabaidd a Libia

Ymchwilio i’r Gwanwyn Arabaidd a Libia

Ymchwilio i Syria ac Affganistan

Ymchwilio i Syria ac Affganistan