11

Ymfudo o Fecsico i UDA

Mae ymfudo a newid mewn poblogaeth wedi bod yn ganolog i sawl stori newyddion yn Haf 2011. Mae'r rhifyn hwn yn edrych ar rai o'r rhain, bydd hefyd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am rai o'ch astudiaethau achos chi.

undefined

Y newid o ran cydbwysedd yr ymfudo o Fecsico i UDA

Mae Mecsicanwyr ifanc wedi bod yn ymfudo i UDA yn y gobaith o ddod o hyd i waith a gwell bywyd ers bron i ganrif. Mae miliynau o bobl wedi ceisio croesi'r ffin yn gyfreithlon ac yn anghyfreithlon. Ar ddiwedd yr 20fed Ganrif cyrhaeddodd mewnfudo ei benllanw gyda miliynau yn ceisio croesi'r ffin bob blwyddyn nes cael ei datgan fel problem epidemig. Byddai'r bobl fel arfer yn ceisio croesi'r ffin yn ystod y nos gan felly roi'r holl arian sydd ganddyn nhw i'w henw yn y fantol, peryglu eu hunain i niwed oherwydd eu bod mewn amgylchedd peryglus a hefyd yn rhoi eu hun mewn perygl o gael eu dal gan swyddogion y ffin i UDA a fyddai'n arwain i alltudiaeth yn ôl i Fecsico.

Mae'r astudiaeth achos am Fecsico ac UDA yn hawdd i'w deall oherwydd bod cenedl gyfoethog, atyniadol yn rhannu ffin â gwlad lai economaidd ddatblygedig sydd â thwf poblogaeth gyflym.

Mae hon wedi dod yn un o'r astudiaethau mwyaf poblogaidd o ran ymfudo mewn ysgolion Cymreig. Eleni, roedd disgyblion Lefel A yn dal i'w ffafrio fel eu dewis o astudiaeth achos. Ond ydyn nhw'n gwneud y peth cywir i'w ddewis o hyd?

Oeddech chi'n gwybod?

Mae ymfudo i Fecsico yn hen hanes erbyn hyn. Mae'r darn nesaf am ymfudo ychydig yn nes at adref.

Wyt ti wedi clywed am Lampedusa? Ynys fechan yw hi sy'n rhan o Wladwriaeth Yr Eidal. Mae hi wedi'i lleoli hanner ffordd rhwng arfordir gogleddol Affrica a thir mawr Yr Eidal.

Mae gan Lampedusa boblogaeth fechan o tua 6,000 o bobl ac arwynebedd oddeutu 25 cilometr sgwar. Mae wedi cyrraedd penawdau'r newyddion fel problem ymfudo fawr i'r Eidal a'r Undeb Ewropeaidd.

Mae'r Undeb Ewropeaidd bellach yn gyrchfan ddymunol iawn ar gyfer ymfudwyr economaidd o wledydd tlawd gogledd Affrica lle mae 'na wrthdaro ac ansawdd bywyd llawer is nag Ewrop. Mae ymfudwyr economaidd yn teithio drwy ardaloedd peryglus y Sahara er mwyn cyrraedd arfordir y Canoldir. Yn anffodus, dydy llawer ohonynt ddim yn cyflawni'r daith. Mae diwydiant troseddol yn tyfu ac wedi datblygu er mwyn cludo'r bobl dlawd a llawn gobaith yma ar drws y Sahara a thros môr y canoldir i Lampedusa. Fel arfer, digwydd hyn yn y nos ar gychod sy'n beryglus o orlawn. Ym mis Awst, mae gwylwyr y glannau yn yr Eidal wedi darganfod 25 o gyrff dynion ar gwch gorlawn o ffoaduriaid yn ffoi o Libiya. Glaniodd y cwch oedd yn 15 metr o hyd gyda 271 wedi goroesi'r daith a chorff 25 dyn yn ystafell injan y cwch. Buon nhw farw o ddifyg ocsigen neu o fwg yr injan. Roedd yr ymfudwyr o wledydd fel Somalia, Nigeria a Ghana.

Mae miloedd o ffoaduriaid o Ogledd Affrica wedi cyrraedd yr ynys yn yr wythnosau diweddar ac amcangyfrifir bod un ym mhob deg yn marw ar y ffordd yno. Mae'r Eidalwyr yn eithaf blin eu bod nhw'n gorfod ymdopi a phroblem i'r Undeb Ewropeaidd ar eu pen eu hunain. Mae Canolfannau Brys wedi'u sefydlu mewn amryw ardaloedd yn yr Eidal i geisio ymdopi a'r llif o ffoaduriaid ond mae'r broblem yn debygol o waethygu yn y dyfodol.

 

 

Ydy, mae'r ymfudo o Fecsico i UDA wedi arafu llawer.

Flash Player Required

Get Adobe Flash player

Beth oedd mor ddeniadol am UDA? Beth sydd wedi newid? Gweler y gwahanol ffactorau isod.

Flash Player Required

Get Adobe Flash player

Top

Mwy o’r rhifyn yma...

Newid poblogaeth y DU

Newid poblogaeth y DU

Newyn yn Horn Affrica

Newyn yn Horn Affrica