11

Newid poblogaeth y DU

Mae Daearyddwyr yn defnyddio patrwm neu 'fodel' er mwyn disgrifio a darogan y ffordd y mae poblogaeth unrhyw wlad yn newid wrth i'r wlad ddatblygu. Maen nhw wedi'i alw'n Fodel Trawsffurfiad Demograffeg (neu Demographic Transition Model - DTM). Bydd gan eich llyfrau gwaith rai manylion am ei 5 cam.

 

undefined

Enghraifft o Fodel Trawsffurfiad Demograffeg (DTM) - Pyramidiau

Mae'r DU wedi cyrraedd y camau pellaf (4 a 5). Mae hynny'n darogan bod maint y wlad unai am aros yr un fath neu hyd yn oed ddechrau gostwng.

undefinedAchos y newid yma mewn poblogaeth yw bod pobl yn dewis cael teuluoedd llai, gyda dim ond un neu ddim plant. Wrth i bob cenhedlaeth dyfu, mae llai neu does dim plant i gymryd lle'r ddau oedolyn pan maen nhw'n marw. Golyga hyn bod y Gyfradd geni (nifer y genedigaethau pob blwyddyn ar sail 1000 o'r boblogaeth) yn gostwng yn is na'r Gyfradd marwolaeth (nifer y marwolaethau pob blwyddyn ar sail 1000 o'r boblogaeth).

Ond mae'n debyg fod y DU yn wahanol i wledydd eraill yng ngham 5. Mae'n edrych fel bod y DU wedi dychwelyd at boblogaeth sy'n tyfu eto.

Flash Player Required

Get Adobe Flash player

Top

Mwy o’r rhifyn yma...

Newyn yn Horn Affrica

Newyn yn Horn Affrica

Ymfudo o Fecsico i UDA

Ymfudo o Fecsico i UDA