Llifogydd yng Nghymru

Mae mwy na 5 miliwn o bobl Cymru a Lloegr yn byw ac yn gweithio mewn mannau sydd o fewn perygl llifogydd môr neu afon. Mae'r bygythiad yn fwy mewn rhai lleoedd, ac felly maent mewn preygl yn amlach na lleoedd eraill. Efallai y bydd newid yn yr hinsawdd yn peri llifogydd amlach yn y dyfodol.

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru yn un o amryw gyrff sy'n gweithio er mwyn ein cadw ni'n ddiogel. Yn ystod llifogydd yng Nghymru, bydd y gwasanaethau brys (heddlu, tân ac ambiwlans) yn gweithio ag awdurdodau lleol ac Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru er mwyn sicrhau fod cymunedau cyn ddiogeled ag y bo modd.

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn cynnig gwasanaeth arbennig sy'n rhybuddio pobl mewn da bryd ynghylch llifogydd posibl. “Rhybuddion Floodline Uniongyrchol” yw enw'r gwasanaeth hwn. Os yw'r gwasanaeth arbennig hwn ar gael yng nghyffiniau'ch cartref neu'ch ysgol chi, gallwch ofyn am dderbyn rhybuddion llifogydd ar ffurf galwad ffôn, e-bost neu neges destun. Ymwelwch â gwefan Asiantaeth yr Amgylchedd yma neu galwch Floodline ar 0845 988 1188 a rhowch eich cyfeiriad a'ch cod post.

Rhybuddion llifogydd newydd! 

Edrychwch isod ar GODAU RHYBUDD LLIFOGYDD NEWYDD Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru! Maen nhw'n hawdd i'w deall, yn cynnwys gwybodaeth leol, ac yn egluro beth ddylid ei wneud mewn ffordd syml. Sicrhewch eich bod chi'n gwybod ystyr y codau newydd.

undefined A flood alert will mean flooding is possible. People should make some plans, think about what they would have to do in a flood and keep an eye on the situation.
undefined A flood warning will mean flooding of homes and businesses is very likely. People should take action to make sure they and their family are safe, and try to reduce the impact of the flood (such as moving important items to a safe place).
undefined A severe flood warning will mean worse flooding is likely, with danger to life. People should get to a safe place with a way of escape, and be ready in case they have to leave. Listen to the advice of the emergency services.

Gallai pobl weld neu glywed y rhybuddion hyn trwy'r gwasanaeth Rhybuddio Floodline Uniongyrchol, yn narllediadau tywydd ar y teledu, trwy orsafoedd radio lleol ac ar y rhyngrwyd. Edrychwch yma am yr wybodaeth llifogydd ddiweddaraf.

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru hefyd yn gwneud mapiau sy'n dangos ble sydd dan fygythiad llifogydd. Mae'r mapiau hyn ar gael ar wefan Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru. Cliciwch yma er mwyn canfod a oes perygl llifogydd ddigwydd yn eich ardal chi. Ydych chi'n byw mewn ardal o'r fath, neu'n mynd i ysgol yn un?

Un agwedd yn unig ar waith Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru yw mesur newidiadau yn lefelau d_r afonydd. Mae gwybodaeth lefelau afonydd ar y rhyngrwyd bellach, fel y gall pobl weld lefel afon I'R FUNUD. Cliciwch yma er mwyn gweld lefelau afonydd yn eich ymyl chi.

Cewch ragor o wybodaeth am leoedd sydd mewn perygl o lifgoydd, beth i'w wneud yn ystod llifogydd, lefelau presennol afonydd yn eich ymyl chi a llawer iawn mwy ar www.environment-agency.gov.uk/flood

Ymwybyddiaeth Llifogydd Cymru

Mae gan Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru gynllun o'r enw 'Ymwybyddiaeth Llifogydd Cymru'. Amcan y cynllun yw sicrhau bod pawb sy'n byw mewn ardal y gallasai llifogydd ei tharo yn gwybod sut mae amddiffyn eu teulu a'u cartrefi pe digwyddai hynny. Yn rhan o hyn, mae Ymwybyddiaeth Llifogydd Cymru wedi mynd â phâr o esgidiau glaw enfawr ar daith ledled Cymru, er mwyn siarad â phobl am fygythiad llifogydd. Mae yna dimau arbennig o swyddogion ymwybyddiaeth llifogydd hefyd, sy'n curo drysau ardaloedd y gallasai llifogydd eu taro, er mwyn siarad â phobl yngl_n â sut y gallant baratoi at lifogydd.

Cewch ragor am Ymwybyddiaeth Llifogydd Cymru trwy ymweld ag

www.environment-agency.gov.uk/floodwales

 

Natural Resources Wales

Gweithgareddau

Dyma ychydig syniadau ynghylch gweithgareddau y gallech chi roi cynnig arnynt gartref, neu gyda'ch dosbarth chi yn yr ysgol:

  • Canfyddwch ragor am fygythiad llifogydd yn ardal eich cartref a'ch ysgol chi. Defnyddiwch wefan Asiantaeth yr Amgylchedd i'ch cynorthwyo.

  • Edrychwch ar lefelau afon yn ymyl eich ysgol neu'ch cartref chi. Defnyddiwch ragolygon y tywydd er mwyn ystyried beth allasai ddigwydd i'r afon.

  • Edrychwch ar ganllawiau arweiniad Asiantaeth yr Amgylchedd ynghylch yr hyn y dylid ei wneud cyn, yn ystod, ac wedi llifogydd:

http://www.environment-agency.gov.uk/homeandleisure/floods/31624.aspx

Lawrlwytho

Gweithlen 1

Meddyliwch - o ble y gallai llifogydd ddod ac am beryglon posibl pob math o lifogydd

Gweithlen 2

Canfod dulliau lleihau effaith llifogydd ar eich cartref chi.

Gweithlen 3

Penderfynwch beth gynhwysech chi mewn pecyn llifogydd

Llifogydd a'ch teulu chi