11

Ymfudo o Fecsico i UDA

Mae ymfudo a newid mewn poblogaeth wedi bod yn ganolog i sawl stori newyddion yn Haf 2011. Mae'r rhifyn hwn yn edrych ar rai o'r rhain, bydd hefyd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am rai o'ch astudiaethau achos chi.

undefined

Y Newid o ran cydbwysedd yr ymfudo o Fecsico i UDA

Ers bron i ganrif, mae Mecsicanwyr ifanc wedi bod yn ymfudo i UDA yn y gobaith o ddod o hyd i waith a gwell bywyd. Mae miliynau o bobl wedi ceisio croesi'r ffin yn gyfreithlon ac yn anghyfreithlon. Ar ddiwedd yr 20fed Ganrif cyrhaeddodd mewnfudo ei benllanw gyda miliynau yn ceisio croesi'r ffin bob blwyddyn nes iddi gael ei datgan fel problem epidemig. Byddai'r bobl fel arfer yn ceisio croesi'r ffin yn ystod y nos gan felly roi'r holl arian sydd ganddyn nhw i'w henw yn y fantol, rhoi eu hunain mewn perygl o niwed oherwydd eu bod mewn amgylchedd beryglus a hefyd yn rhoi eu hun mewn perygl o gael eu dal gan swyddogion y ffin i UDA a fyddai'n arwain i alltudiaeth yn ôl i Fecsico.

Mae'r astudiaeth achos am Fecsico ac UDA yn hawdd i'w deall oherwydd bod cenedl gyfoethog, atyniadol yn rhannu ffin â gwlad lai economaidd ddatblygedig sydd â thwf poblogaeth gyflym.

Mae hon wedi dod yn un o'r astudiaethau mwyaf poblogaidd o ran ymfudo mewn ysgolion Cymreig. Eleni, roedd disgyblion Lefel A yn dal i'w ffafrio fel eu dewis o astudiaeth achos. Ond ydyn nhw'n gwneud y peth cywir i'w dewis o hyd?

Flash Player Required

Get Adobe Flash player

Beth oedd mor ddeniadol am UDA? Beth sydd wedi newid? Gweler y gwahanol ffactorau isod.

Flash Player Required

Get Adobe Flash player

Top

Mwy o’r rhifyn yma...

Newid poblogaeth y DU

Newid poblogaeth y DU

Newyn yn Horn Affrica

Newyn yn Horn Affrica