30

Ymchwilio i Syria ac Affganistan

Syria

undefined

Llun: Syria (orthographic projection) - L'Américain © Creative Commons Attribution-Share Alike 3.0 Unported license

Er gwaetha’r sefyllfa ofnadwy yn Libia, mae gwrthryfel y Gwanwyn Arabaidd, ac yna’r rhyfel cartref yn Syria, wedi gwaethygu’n ofnadwy mewn gwirionedd.

Mae’r Arlywydd Assad wedi bod yn rheoli Syria ers y flwyddyn 2000; daeth i rym pan fu farw ei dad. Roedd ei dad wedi bod mewn grym ers 1970. 

Mae amodau byw yn Syria wedi bod yn llwm iawn a dim ond  ychydig iawn o ryddid oedd yno. Roedd pethau’n well ar gyfer rhai grwpiau crefyddol ac yn waeth ar gyfer grwpiau eraill.

Mae llywodraeth Assad, ei gefnogwyr a’i luoedd yn cynnwys grwpiau sy’n dilyn Islam Shia.

Mae lluoedd y Gwrthwynebwyr yn cynnwys grwpiau sy’n dilyn Islam Sunni yn bennaf. 

Mae’r Cwrdiaid yn grŵp ar wahân, gyda’r mwyafrif ohonyntyn dilyn Islam Sunni, er bod lleiafrif yn dilyn Islam Shia. Mae’r iaith Gwrdeg yn cael ei siarad gan y ddwy garfan ac mae’r iaith a’r diwylliant yn bwysicach iddyn nhw na chrefydd. 

Mae Byddin Rhyddid Syria yn grŵp ambarél sy’n cynnwys grwpiau megis Ffrynt al-Nusra sy’n rhan o’r grŵp terfysgol rhyngwladol, al-Qaeda. 

Dechreuodd y Wladwriaeth Islamaidd/ISIL fel y’i gelwir fel grŵp Jihadaidd yn Affganistan a oedd yn cael ei ariannu gan al-Qaeda ac a oedd yn deyrngar iddo. Ymunodd â’r gwrthryfel yn Irác yn 2003 a bu’n gyfrifol am lawer o erchyllterau. Yn 2014 torrodd al-Qaeda a Ffrynt al-Nusra bob cysylltiad ag ISIL. 

Mae llawer o grwpiau llai eraill yn ymladd ochr yn ochr ac o fewn y grwpiau hyn.

undefined

undefined

Llun: Syrian Civil War - Spesh531 © Creative Commons Attribution-Share Alike 4.0 International, 3.0 Unported, 2.5 Generic, 2.0 Generic and 1.0 Generic license

Ers 2011 mae’r amodau byw yn Syria yn arswydus ac mae llawer o erchyllterau yn cael eu cyflawni fel rhan o’r gwrthdaro, gan gynnwys defnyddio arfau cemegol, llofruddio, arteithio a threisio’n rhywiol. 

Mae’r sefyllfa’n cael ei waethygu gan fod gwledydd eraill yn cefnogi/ymladd ar ochrau gwahanol. 

  • Mae Rwsia, Irác ac Irán yn cefnogi llywodraeth Assad.
  • Mae 17 gwlad, gan gynnwys y DU, UDA, Ffrainc a mwyafrif gwledydd y Gynghrair Arabaidd yn cefnogi Cynghrair Genedlaethol Syria.
  • Fodd bynnag, mae Sawdi-Arabia, Twrci a Qatar yn cefnogi’r Fyddin Goncwest/Ffrynt al-Nusra yn gwbl agored.

Mae seilwaith sylfaenol rhan helaeth o’r wlad, gan gynnwys pŵer, dŵr a’r cyflenwad bwyd wedi mynd.

undefined

Llun: Syrian refugees in the Middle East map - Furfur © Creative Commons Attribution-Share Alike 4.0 International license

Yn ogystal â’r sefyllfa druenus hon, mae dros 7.6 miliwn o bobl wedi cael eu dadleoli’n fewnol yn Syria ac mae dros 5 miliwn o bobl eraill wedi cael eu dadleoli i wledydd cyfagos megis Twrci, Libanus, Irác, Coweit a’r Aifft. 

Dim ond rhai cannoedd o filoedd sydd wedi ceisio cyrraedd Ewrop fel ffoaduriaid ac mae hyn, o ystyried graddfa’r erchylltra, yn nifer cymharol isel.

Y Wladwriaeth Islamaidd/ISIL fel y’i gelwir

Mae’r rhan fwyaf o bobl yn defnyddio’r ymadrodd ‘fel y’i gelwir’ wrth gyfeirio at y mudiad hwn oherwydd byddai rhoi i fudiad o’r fath y lefel o barch/cydnabyddiaeth sy’n ddyledus i ‘wladwriaeth’ neu wlad yn annerbyniol.

Enwau

  • Saesneg
    • Islamic State of Iraq and the Levant (ISIL)
    • Islamic State of Syria (ISIS)
    • IS (Islamic State)
  • Cymraeg
    • Gwladwriaeth Islamaidd Irác a’r Lefant (ISIL)
    • Gwladwriaeth Islamaidd Syria (ISIS)
    • Y Wladwriaeth Islamaidd
  • Yr ymadrodd Arabeg cyfatebol
    • Daesh

Dechreuodd y mudiad terfysgol ofnadwy hwn yn Affganistan ym 1999 ac roedd yn cael ei ariannu gan al-Qaeda; yn 2003, ymunodd â’r gwrthryfel yn Irác yn erbyn llywodraeth newydd y wlad ynghyd â’r glymblaid a oedd yn ei chefnogi, yn enwedig UDA a’r DU. 

Erbyn 2015, mae ganddi reolaeth dros ardaloedd eang ar draws ffin Irác a Syria; mae’n rheoli rhannau o Libia, Affganistan, Sinai (yr Aifft) ac, yn sgil Boko Haram (sydd wedi addo teyrngarwch iddi), mae’n rheoli rhannau o Nigeria a Gorllewin Affrica. 

Mae llawer o grwpiau terfysgol o nifer o wledydd wedi addo’u teyrngarwch (gan gilio oddi wrth al-Qaeda yn bennaf) ac oherwydd hynny mae’r digwyddiadau’n ehangu’n gyflym. 

Mae’r grŵp hwn yn credu mewn caethiwo mewn dull creulon, a lladd maes o law, bob un nad yw’n derbyn ei ddehongliad cyntefig o Islam gynnar. Mae bron bob cangen o Islam a bron bob ysgolhaig Islamaidd wedi ei gondemnio fel fersiwn gwyrdröedig o Islam a dysgeidiaeth y grefydd yna.

undefined

Er gwaethaf erchyllterau caethiwed a llofruddiaeth dorfol drwy artaith a thorri pennau i ffwrdd, mae’r grŵp hwn wedi llwyddo i ddenu recriwtiaid o wledydd ar draws y byd, gan gynnwys Cymru. 

Yn 2014, roedd sôn bod ISIL wedi torri pennau dros 100 o recriwtiaid tramor oherwydd eu bod wedi ceisio gadael dinas Raqqa. 

Mae’r defnydd o gyfryngau cymdeithasol yn golygu bod pobl yn gallu cael eu radicaleiddio o fewn eu cartrefi eu hunain, sef mannau a dylai fod yn ddiogel. 

Mae gan y grŵp fyddin rithwir sy’n ceisio recriwtio ar-lein bobl sy’n fregus efallai, ac mae’n hanfodol bod pawb yn edrych ar ôl eu ffrindiau ysgol. Os byddan nhw’n gweld arwyddion bod cefnogaeth i’r mudiad hwn dylid eu helpu drwy siarad gydag athrawon, aelodau o’r teulu neu arweinwyr y gymuned. 

Mae llawer o recriwtiaid yn ceisio gadael ar ôl cyrraedd; mae rhai’n llwyddo i ddianc ond mae’r rhai sy'n cael eu dal, e.e. y 100+ yn Raqqa, yn cael eu dienyddio drwy dorri eu pennau i ffwrdd.

Tiwnisia

undefined

Llun: Tunisia AU Africa - Flappiefh © Public Domain

Ar 26ain Awst 2015, bu pum ymosodiad Islamaidd yn Tiwnisia, Ffrainc, Coweit, Syria a Somalia. Digwyddodd yr ymosodiadau ar ôl derbyn gorchymyn ar-lein gan un o uwch reolwyr ISIL. 

Yn yr ymosodiad yn Tiwnisia, cafodd twristiaid ar eu gwyliau eu targedu gan ddyn â gwn. Lladdodd 38 o bobl. Roedd 30 o’r rhain yn dod o’r DU. Anafwyd 39 arall. 

Tiwnisia oedd gwlad gyntaf y Gwanwyn Arabaidd ac roedd dymchwel yr arlywydd, a oedd wedi bod mewn grym ers 1987, a sefydlu cyfansoddiad newydd a democratiaeth, wedi digwydd yn gymharol dawel.

undefined

undefined

Llun: Arab Spring and Regional Conflict Map - Ian Remsen - © Public Domain

Roedd hi’n syndod mawr i lawer o bobl a llywodraethau pan dorrodd gweithred o derfysgaeth eithafol ar draws canlyniad heddychlon.

Affganistan

undefined

Llun: Afghanistan (orthographic projection) - Shahid Parvez © GNU Free Documentation License, version 1.2

Mae llawer o’r argyfwng presennol yn y Dwyrain Canol a Gogledd Affrica yn deillio o’r digwyddiadau yn Affganistan yn ystod y 30 mlynedd diwethaf. 

Arweiniodd y Gwanwyn Arabaidd at ddenu ymladdwyr eithafol o Affganistan ac mae’r rhain wedi bod yn rhan bwysig o’r twf yn y mudiadau eithafol yn Syria, Irác, Libia, Gorllewin a Dwyrain Affrica. 

Mae Pacistan, Irán, Tyrkmenistan, Wsbecistan, Tajikistan a China yn ffinio ag Affganistan. 

Aeth ymladdwyr eithafol ar draws y byd Islamaidd i Affganistan i ymateb i’r hyn a welid yn ‘rhyfel sanctaidd’ neu Jihad yn erbyn llywodraeth gomiwnyddol Affganistan. 

Roedd chwyldro comiwnyddol yn Affganistan ym 1978 ac nid yw’n syndod bod hyn wedi digwydd oherwydd roedd nifer o gymdogion y wlad yn rhan o’r hen Undeb Sofietaidd gomiwnyddol o dan reolaeth Rwsia. Mae China’n wlad gomiwnyddol ac yn gymydog iddi hefyd.

Cafwyd rhyfel cartref rhwng y llywodraeth gomiwnyddol newydd ac ymladdwyr Jihadaidd (Rhyfel Sanctaidd Islamaidd). Ym 1979, anfonodd yr Undeb Sofietaidd ei lluoedd arfog i Affganistan a bu rhyfel creulon, gan ladd dros 1,000,000 o bobl. 

Rhoddodd UDA arian i ymladdwyr ymladd yn erbyn yr Undeb Sofetaidd drwyBacistan ac ymunodd degau o filoedd o ymladdwyr o’r byd Islamaidd â’r Jihad. 

Un o’r ymladdwyr cyfoethog hyn oedd Osama Bin Laden o Sawdi-Arabia. Sefydlodd al-Qaeda a rhoddodd arian ar gyfer ariannu yr hyn sy’n cael ei alw’n Wladwriaeth Islamaidd/ISIL.

undefined

Llun: Osama bin Laden - Hamid Mir © Creative Commons Attribution-Share Alike 3.0 Unported license

Ym 1989, tynnodd y lluoedd Sofietaidd allan o Affganistan ac erbyn 1992, roedd y comiwnyddion wedi cael eu trechu. Yna, cafwyd rhyfel cartref arall rhwng grwpiau gwahanol o ymladdwyr Jihadaidd a lladdwyd 400,000 mwy o bobl. 

Erbyn 1996, enillodd un grŵp, y Taliban, gyda chefnogaeth Sawdi-Arabia a Pacistan, gan reoli ar sail eu dehongliad llym eu hunain o Islam. Parhaodd Osama bin Laden a’i fudiad al-Qaeda i weithredu ochr yn ochr â’r Taliban. 

Ar Fedi’r 11eg, 2001, ymosododd al-Qaeda ar UDA.

undefined

Llun: National Park Service 9-11 Statue of Liberty and WTC fire - National Park Service © Public Domain

undefined

Llun: September 17 2001 - U.S. Navy photo by Chief Photographer's Mate Eric J. Tilford © Public Domain

  • Arweiniodd hyn at y ‘Rhyfel yn erbyn Terfysg’ a goresgynnwyd Affganistan gan glymblaid a oedd yn cynnwys y DU ac UDA.

Y Wal Goffa Brydeinig yn Affganistan

undefined

Llun: Camp Bastion Memorial Wall Vigil MOD - Cpl Daniel Wiepen/MOD © OGL (Open Government License)

Er y llwyddiant cyflym yn 2001, bu’n anodd cael heddwch. Bu farw dau aelod o lu awyr y DU ym mis Hydref 2015 gan ddod â chyfanswm colledion milwrol y DU yn ystod y gwrthdaro i 456. Bu farw nifer o Gymry, hyd yn oed yn 2015. 

Mae’r Taliban yn parhau i ymladd yn erbyn lluoedd llywodraeth Affganistan ac mae’r Wladwriaeth Islamaidd/ISIL fel y‘i gelwir yn rheoli rhai ardaloedd wrth iddo recriwtio aelodau o’r Taliban. 

Mae Affganistan a’r byd Islamaidd yn wynebu cyfnod gofidus wrth i filoedd lawer o ymladdwyr Jihadaidd ymuno â’rWladwriaeth Islamaidd/ISIL fel y’i gelwir neu ddychwelyd adref o Affganistan er mwyn hyrwyddo gwrthdaro mewn gwledydd eraill.

undefined

Gweithgaredd y disgyblion

Ar ôl darllen y tair erthygl a gwneud y gweithgareddau, defnyddiwch y daflen A3 i’ch helpu chi i ymchwilio i’r prif leoedd mae ymfudwyr i Ewrop yn teithio ohonyn nhw.

 

Erthyglau eraill efallai y byddwch a diddordeb mewn Ymfudo o Fecsico i UDA, Ymfudo yn y DU a Gwneud penderfyniadau – Argyfwng yr Ymfudwyr.

Top

Mwy o’r rhifyn yma...

O ble mae mwyafrif yr ymfudwyr sy’n cyrraedd yr UE yn dod ar hyn o bryd?

O ble mae mwyafrif yr ymfudwyr sy’n cyrraedd yr UE yn dod ar hyn o bryd?

Ymchwilio i’r Gwanwyn Arabaidd a Libia

Ymchwilio i’r Gwanwyn Arabaidd a Libia