Cyfres o brotestiadau, terfysgoedd a rhyfeloedd a ddechreuodd ar 18 Rhagfyr 2010 yn Tiwnisia ar ffurf Chwyldro Tiwnisia oedd y Gwanwyn Arabaidd. Ymledodd ar draws gwledydd y Gynghrair Arabaidd a’r gwledydd cyfagos.
Erbyn mis Chwefror 2012, gorfodwyd yr arweinwyr i ildio’u grym yn Tiwnisia, yr Aifft, Libia ac Iemen ac roedd gwrthryfeloedd wedi digwydd mewn sawl gwlad arall.
Yn anffodus, trodd y Gwanwyn Arabaidd llawn gobaith yn Aeaf Arabaidd ofnadwy.
Yng Ngorllewin Affrica, mae grŵp o derfysgwyr o’r enw Boko Haram wedi cymryd rheolaeth dros rannau o Ogledd Nigeria a’r ardaloedd cyfagos ger y ffin. Mae Boko Haram wedi dod yn rhan o’r wladwriaeth Islamaidd/ISIL fel y’i gelwir.
Mae Libia, yng ngogledd Affrica, wedi bod yn un o’r gwledydd mwyaf problemus ers y Gwanwyn Arabaidd. Roedd Libia wedi bod yn cael ei rheoli gan unben creulon – yr Arlywydd Gaddafi ers 1969.
Roedd yr Arlywydd Gaddafi wedi bod yn cefnogi llawer o grwpiau o derfysgwyr rhyngwladol yn gwbl agored, gan gynnwys yr IRA.
Roedd Libia’n gysylltiedig ag ymosodiadau terfysgol, gan gynnwys bomio’r awyren jet uwchben yr Alban, a laddodd 259 o deithwyr a chriw arni ynghyd ag 11 o bobl ar y ddaear.
Dechreuodd grwpiau o wrthwynebwyr ryfel cartref yn erbyn Gaddafi yn 2011. Ar y dechrau, cafod y grwpiau hyn eu trechu gan rym milwrol cryf y llywodraeth, yn enwedig y lluoedd arfog. Fodd bynnag, cafodd nifer o bobl ddiniwed eu dal yn yr ymladd, yn enwedig pan oedd yr awyrennau’n ymosod. Rhoddodd y Cenhedloedd Unedig awdurdod i’w haelodau weithredu er mwyn gwarchod pobl gyffredin.
Rhoddodd clymblaid rynglwadol, gan gynnwys Prydain, gefnogaeth y lluoedd awyr ac arfau i’r gwrthryfelwyr. Ym mis Hydref 2011, cafodd Gaddafi a’i uwch-arweinwyr/aelodau agos ei deulu eu lladd.
Ar ôl 2011, gwaethygodd y sefyllfa i’r hyn sy’n cael ei alw’n Aeaf Arabaidd; nid oeddgrwpiau a oedd yn gwrthwynebu ei gilydd yn gallu cytuno ar lywodraeth newydd ac erbyn hyn mae chwech o grwpiau gwahanol yn rheoli rhannau gwahanol o Libia ac mae ymladd cyson.
Un ffynhonnell arian bwysig i’r grwpiau hyn yw masnachu pobl drwy gymryd ffoaduriaid i Ewrop.
Mae llawer o ffoaduriaid yn dioddef yn sgil camdrin ofnadwy gan y masnachwyr pobl, sy’n eu gorfodi i weithio fel caethweision neu ymladd ar ran y grwpiau os nad ydynt yn gallu fforddio i’w talu.
Yn aml iawn, mae ymfudwyr sydd ag arian yn cael eu caethiwo gan y gangiau hyd nes y bydd cychod ar gael er mwyn sicehau nad ydynt yn mynd at gangiau eraill. Ychydig iawn o ymfudwyr sy’n cario arian parod ond mae eu teuluoedd gartref yn gallu cael eu gorfodi i drosglwyddo arian ar-lein neu ar ffôn symudol.
Mae Libia’n ganolfan fawr ar gyfer smyglo pobl o’r ardaloedd canlynol:
Mae Libia wedi troi’n fan gwyllt ac afreolus ac mae llawer o grwpiau’n ymladd er mwyn ceisio rheoli. Mae un ardal yn cael ei rheoli gan gangen leol o’r Wladwriaeth Islamaidd/ISIL fel y’i gelwir hyd yn oed.
Beth yw ystyr ‘Y Gwanwyn Arabaidd’?
Beth yw ystyr ‘Y Gaeaf Arabaidd’?
Meddyliwch am yr hyn a ddigwyddodd yn Libia ac mewn gwledydd eraill yn Affrica.
Beth ddigwyddodd yn Chibok?
Edrychwch ar y ffotograff o Michelle Obama.
Trafodwch y tri chwestiwn hyn mewn grŵp bach a pharatowch ‘feicro-gyflwyniad’ 30 eiliad er mwyn rhannu eich atebion gyda’ch dosbarth. Dim ond geiriau sydd mewn ‘meicro-gyflwyniad’; ddylech chi ddim defnyddio delweddau, posteri na meddalwedd PowerPoint.
Erthyglau eraill efallai y byddwch a diddordeb mewn Ymfudo o Fecsico i UDA, Ymfudo yn y DU a Gwneud penderfyniadau – Argyfwng yr Ymfudwyr.