Y Gwanwyn Arabaidd
Llun: A collage for MENA protests - User:ليبي صح">ليبي © Creative Commons Attribution-Share Alike 3.0 Unported license
- Cyfres o brotestiadau a therfysgoedd a ddechreuodd ar 18 Rhagfyr 2010 yn Tiwnisia ar ffurf Chwyldro Tiwnisia oedd y Gwanwyn Arabaidd.
- Ymledodd ar draws llawer o wledydd eraill.
- Erbyn mis Chwefror 2012, roedd yr arweinwyr wedi cael eu gorfodi i adael Tiwnisia, yr Aifft, Libia ac Iemen.
- Roedd gwrthryfeloedd mewn sawl gwlad.
Dathliadau yn Cairo
Llun: Celebrations in Tahrir Square after Omar Soliman's statement that concerns Mubarak's resignation. February 11, 2011 - Jonathan Rashad © Creative Commons Attribution 2.0 Generic license
Yn anffodus, trodd y Gwanwyn Arabaidd llawn gobaith yn Aeaf Arabaidd ofnadwy.
Yng Ngorllewin Affrica, mae grŵp o derfysgwyr o’r enw Boko Haram wedi cymryd rheolaeth dros rannau o Ogledd Nigeria a’r ardaloedd cyfagos ger y ffin. Mae Boko Haram wedi dod yn rhan o’r wladwriaeth Islamaidd/ISIL fel y’i gelwir.
- Mae 2.3 miliwn o bobl wedi cael eu dadleoli gan wrthdaro Boko Haram ers mis Mai 2013.
- Mae 250,000 o bobl wedi gadael Nigeria ac wedi ffoi i Gamerŵn, Chad neu Niger.
- Mae Boko Haram wedi lladd dros 17,000 o bobl ers 2009.
- Mae’r grŵp wedi cipio grwpiau o bobl, gan gynnwys 276 o ferched ysgol o Chibok ym mis Ebrill 2014.
Michelle Obama yn cofio merched Chibok
Llun: First Lady Michelle Obama holding a sign with the hashtag "#bringbackourgirls" in support of the 2014 Chibok kidnapping. Posted to the FLOTUS Twitter account on May 7, 2014. - Michelle Obama, Office of the First Lady © Public Domain
Libia
- Mae Libia, yng ngogledd Affrica, wedi bod yn un o’r gwledydd mwyaf problemus ers y Gwanwyn Arabaidd.
- Unben creulon – yr Arlywydd Gaddafi – oedd wedi bod yn rheoli Libia 1969.
- Roedd yr Arlywydd Gaddafi wedi bod yn cefnogi llawer o grwpiau o derfysgwyr rhyngwladol yn gwbl agored, gan gynnwys yr IRA.
- Roedd Libia’n gysylltiedig ag ymosodiadau terfysgol, gan gynnwys bomio awyren jet uwchben yr Alban.
- Cafodd 259 o deithwyr a chriw arni ac 11 o bobl ar y ddaear eu lladd.
Llun: Muammar al-Gaddafi at the 12th AU summit, February 2, 2009, in Addis Abeba. - U.S. Navy photo by Mass Communication Specialist 2nd Class Jesse B. Awalt/Released © Public Domain
- Dechreuodd grwpiau o wrthwynebwyr ryfel cartref yn erbyn Gaddafi yn 2011.
- Ar y dechrau, cafodd y grwpiau hyn eu trechu gan rym milwrol cryf y llywodraeth, yn enwedig y lluoedd arfog.
- Fodd bynnag, cafodd nifer o bobl ddiniwed eu dal yn yr ymladd, yn enwedig pan oedd yr awyrennau’n ymosod.
- Rhoddodd y Cenhedloedd Unedig awdurdod i’w haelodau weithredu er mwyn gwarchod pobl gyffredin.
Llun: Caricatures of Gadafi in old square, Street Al Oroba, Al Bayda - User:ليبي_صح © Creative Commons CC0 1.0 Universal Public Domain Dedication
- Rhoddodd clymblaid rynglwadol, gan gynnwys Prydain, gefnogaeth y lluoedd awyr ac arfau i’r gwrthryfelwyr.
- Ym mis Hydref 2011, cafodd Gaddafi a’i uwch-arweinwyr/aelodau agos ei deulu eu lladd.
Y Gaeaf Arabaidd
- Ar ôl 2011, gwaethygodd y sefyllfa yn Libia.
- Nid oedd grwpiau a oedd yn gwrthwynebu ei gilydd yn gallu cytuno ar lywodraeth newydd.
- Erbyn hyn, mae chwech o grwpiau gwahanol yn rheoli rhannau gwahanol o Libia ac mae ymladd cyson.
Un ffynhonnell arian bwysig i’r grwpiau hyn yw masnachu pobl drwy fynd â ffoaduriaid i Ewrop.
Mae llawer o ffoaduriaid yn dioddef oherwydd eu bod yn cael eu camdrin yn ofnadwy gan y masnachwyr pobl, sy’n eu gorfodi i weithio fel caethweision neu ymladd ar ran y grwpiau os nad ydynt yn gallu fforddio i’w talu.
Mae Libia’n ganolfan fawr ar gyfer smyglo pobl o’r ardaloedd canlynol:
- Gogledd Affrica
- Irác
- Syria.
- Pobl sy’n dod o orllewin Affrica ac sydd wedi cael eu gyrru allan gan y trais gan eithafwyr treisgar fel Boko Haram
- Pobl sy’n dod o Ddwyrain Affrica:
- Somalia, sydd wedi cael ei dinistrio gan y grŵp eithafol al-Shabaab ac sy’n gysylltiedig ag al-Qaeda.
- Eritrea, sy’n eithafol o safbwynt cam-drin hawliau dynol ac sy’n cefnogi al-Shabaab
- Swdan a De Swdan, sydd wedi dioddef yn ddiweddar yn sgil rhyfel cartref a cham-drin gan y llywodraeth.
Mae Libia wedi troi’n wlad wyllt ac afreolus ac mae llawer o grwpiau’n ymladd er mwyn ceisio rheoli.
Mae un ardal yn cael ei rheoli gan gangen leol o’r Wladwriaeth Islamaidd/ISIL fel y’i gelwir hyd yn oed.
Llun: Libyan Civil War - John Smith © Creative Commons Attribution 3.0 Unported license