29

Gwneud penderfyniadau – Argyfwng yr Ymfudwyr

Beth allwn ni wneud am argyfwng yr ymfudwyr?

Ymfudwyr chwe mis cyntaf 2015

undefined

Ffynhonell: UN High Commissioner for Refugees (UNHCR), The sea route to Europe: The Mediterranean passage in the age of refugees , 1 Gorffennaf 2015

  • Edrychwch ar y ffotograff a chwiliwch am 5 peth sydd, yn eich barn chi, yn sefyll allan.
  • Beth, yn eich barn chi, mae’r ffotograff yn ei ddangos?
  • Beth yw cysylltiad hyn ag argyfwng yr ymfudwyr?

Beth sy’n digwydd?

Pan fyddwch chi’n gwylio’r teledu neu’n darllen gwybodaeth ar y rhyngrwyd, mae’n hawdd cael yr argraff fod byddin o bobl yn ceisio dod i mewn i’r Deyrnas Unedig.

Efallai eich bod chi wedi gweld tua 3,000 o ymfudwyr yn Ffrainc:

  • yn ceisio rhuthro i fynedfa Twnnel y Sianel
  • yn cuddio mewn lorïau heb i neb eu gweld neu hyd yn oed mewn carafanau
  • Bu farw un dyn yn Llundain ar ôl syrthio oddi ar olwynion awyren o Dde Affrica.

Mae llawer o wleidyddion a phobl eraill yn gwneud môr a mynydd am hyn ac yn dweud mai pobl yn y Deyrnas Unedig yw’r bobl sy’n teimlo’r effaith fwyaf.

Wel, mae hyn yn rhannol gywir ond mae’r rhan fwyaf yn anghywir.

Mae’n rhannol gywir oherwydd:

  • pan achosodd yr ymfudwyr broblemau yn Nhwnnel y Sianel, roedd tagfeydd traffig mawr yng Nghaint.
  • Gyrwyr lorïau a chwmnïau cludiant sy’n dioddef fwyaf:

o   Maen nhw’n gallu cael eu dal mewn tagfeydd traffig anferth, ac mae hyn yn defnyddio amser a           thanwydd.

o   Maen nhw’n gallu cael dirwy o ddegau o filoedd o bunnau os bydd ymfudwyr yn torri i mewn i’w        lorïau ac yn cael eu dal.

o   Mae’n bosib y bydd rhaid iddyn nhw dalu am gostau llwythi sydd wedi cael eu difa ar ôl i                      ymfudwyr dorri i mewn i lorïau a chysgu ar lwythi fel bwyd neu os ydyn nhw’n defnyddio                      rhan o’r lori fel tŷ bach.

undefined

Llun gan Gémes Sándor/SzomSzed fe’u defnyddir o dan CC BY

Ymgyrch Pentyrru

Mae’r tagfeydd traffig anferth yn rhan o gynllun yr heddlu a’r enw arno yw Ymgyrch Pentyrru. Mae’r  lorïau’n gorfod aros mewn llinellau hir iawn ar hyd y traffyrdd hyd nes y byddan nhw’n gallu mynd i Dwnnel y Sianel neu ar y llongau fferi i Ffrainc.

undefined

Llun gan Barry Davis fe’u defnyddir o dan CC BY

Newyddion Mawr

  • Ym mis Awst 2015, dywedodd yr Almaen ei bod yn disgwyl o leiaf 650,000 o geisiadau am loches yn ystod 2015.
  • Mae’r Almaen wedi rhybuddio efallai y bydd y nifer yn cyrraedd 800,000 hyd yn oed.
  • Sweden yw’r wlad sy’n derbyn y nifer fwyaf o ffoaduriaid ar ôl yr Almaen, ac mae disgwyl y bydd y nifer yn 80,000 yn 2015.
  • Hyd at fis Awst, roedd mwy na 240,000 o ymfudwyr wedi croesi Môr y Canoldir yn ystod 2015 a chyrraedd glannau Gwlad Groeg a’r Eidal.

Pam mae hyn yn effeithio cymaint ar y DU?

Cafodd 59.5 miliwn o bobl ledled y byd eu dadleoli trwy orfodaeth ar ddiwedd 2014 oherwydd erledigaeth, gwrthdaro ac ymyriadau â hawliau dynol; dyna’r lefel uchaf sydd wedi cael ei chofnodi. Roedd hynny’n 8.3 miliwn o bobl yn fwy nag ar ddiwedd 2013: y cynnydd blynyddol mwyaf erioed. Roedd 19.5 miliwn o’r bobl hynny’n ffoaduriaid. Croesawodd gwledydd yr EU gyfran gymharol fach o’r ffigur hwnnw. Ar ddiwedd 2014, Twrci oedd y wlad a dderbyniodd y nifer fwyaf yn y byd, yna Pacistan, Libanus, Iran, Ethiopia ac Iorddonen. Libanus yw’r wlad a dderbyniodd y nifer fwyaf o ffoaduriaid o bell ffordd ar sail poblogaeth, sef 232 am bob 1,000 o drigolion. Ar draws y byd, mae 86 y cant o’r ffoaduriaid sydd o dan fandad Uchel Gomisiynydd y Cenhedloedd Unedig dros Ffoaduriaid yn byw mewn gwledydd datblygol.

Ffynhonnell: UNHCR Global Trends 2014, World at War

CEISIADAU AM LOCHES Y LLYNEDD, 2014, (yr UE a gwledydd eraill Gorllewin Ewrop)

undefined

Wow! 6ed safle – rydyn ni’n gwneud yn eitha da!

Neu a ydyn ni?

Sut mae hyn yn edrych os ydyn ni’n cymharu hyn gyda phoblogaeth bresennol y gwledydd?

Mae’r graff hwn yn dangos y ceisiadau am bob miliwn o boblogaeth y gwledydd:

undefined

Wps! Safle 19, a dim ond o fewn Ewrop mae hynny!

Ond:

Cofiwch: ceisiadau am loches yn 2014 yw’r rhain. Beth am y penderfyniadau? A gawson nhw i gyd eu cymeradwyo?

Dyma’r penderfyniadau gwreiddiol (efallai y bydd rhai penderfyniadau’n cael eu newid yn sgil apêl).

undefined

Ffynhonell: Eurostat, Asylum in the EU: Facts and Figures, Mawrth 2015

undefined

Felly, mae’r DU yn gwrthod 61% o’r bobl sy’n gwneud cais am loches. 

Rydyn ni ar ganol argyfwng byd-eang; defnyddiwch y ffigurau o’r erthygl hon mewn tabl syml er mwyn dweud am berfformiad y DU fel gwlad bwysig ddatblygedig o safbwynt ei chyfraniad i helpu’r argyfwng byd-eang.

Da Gwael
   
   
   
   
   
   

A ydyn ni, fel gwladwriaeth, yn gwneud gwaith da?

Ar ôl darllen y tair erthygl a gwneud y gweithgareddau, defnyddiwch y daflen A3 i’ch helpu chi i wneud Ymarfer Gwneud Penderfyniad.

Eurostat Asylum PDF

Eurostat Migration PDF

UN Report PDF

 

 

Ymarfer Gwneud Penderfyniad

Darllenwch a chwblhewch y gweithgareddau yn yr erthygl ar-lein ac yn yr erthyglau cysylltiedig yn y rhifyn hwn o Daearyddiaeth yn y Newyddion – naill ai yn yr ystafell ddosbarth neu gartref. Ceisiwch orffen yr holl weithgareddau sydd ar y daflen adnoddau.

Beth fyddwch chi’n ei ddysgu:

  • Byddwch chi’n cynyddu eich gwybodaeth am ymfudo a lloches yn yr UE/ DU.
  • Byddwch chi’n cynyddu eich dealltwriaeth o’r ffordd mae’r ffactorau hyn yn  gallu  effeithio ar bobl ac ar weithgareddau pobl.
  • Byddwch chi’n cael cyfle i ddysgu neu ymarfer sgiliau llythrennedd a rhifedd pwysig.

Byddwch chi’n dysgu ymadroddion daearyddol newydd, wedi’u goleuo mewn porffor. Dylech chi ddysgu’r rhain a’u cynnwys mewn geirfa. Rhestr o eiriau a’u hystyr yw geirfa. Gallech chi gael un yng nghefn eich llyfr ysgrifennu daearyddiaeth. Os oes gyda chi gynlluniadur, mwy na thebyg bod lle da yn hwnnw ar gyfer cadw geirfa neu gallech chi gadw llyfr geirfa ar wahân. Mae geirfa dda yn eich helpu chi i ddatblygu eich geirfa a’ch llythrennedd. Chwiliwch am ystyr geiriau drwy ddefnyddio gweddill cynnwys yr erthygl, drwy drafod neu defnyddiwch eiriadur (naill ai ar-lein neu lyfr).

Erthyglau eraill efallai y byddwch a diddordeb mewn Ymfudo o Fecsico i UDA a Ymfudo yn y DU.

Top

Mwy o’r rhifyn yma...

Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid

Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid

Pam mae pobl yn ymfudo?

Pam mae pobl yn ymfudo?