29

Pam mae pobl yn ymfudo?

Mae daearyddwyr yn defnyddio’r model gwthio-denu er mwyn ein helpu ni i ddeall pam mae pobl yn ymfudo.

undefined

  • Mae’r llun uchod yn ceisio dangos beth sy’n digwydd ym meddwl rhywun sy’n ystyried  ymfudo.
  • Mewn un cylch, mae’r person yn gweld bod rhai agweddau cadarnhaol (+) yn perthyn i’r man ble mae’n byw ar hyn o bryd.
  • Fodd bynnag, mae llawer iawn mwy o agweddau negyddol (-). Yr enw ar y rhain yw’r ffactorau gwthio.

Weithiau, dim ond un elfen negyddol (-) anferth yw’r rheswm, er enghraifft MARWOLAETH neu DRAIS neu BOENYDIO – neu, weithiau, y TRI.

  • Mae’r ardal neu’r lleoliad lle mae’n dymuno mynd yn dangos agweddau cadarnhaol (+) yn bennaf ym marn yr ymfudwr. Yr enw ar yr agweddau cadarnhaol yw ffactorau denu.

undefined

  • Dylai gwir ffoaduriaid a cheiswyr lloches fynd i le diogel ac yna cofrestru gydag awdurdodau fel UNHCR - The United Nations High Commissioner for Refugees.
  • Yna,  bydd gwledydd datblygedig fel y rhai sydd yn yr UE yn derbyn gwir geiswyr lloches ond mae’n ymddangos bod y system hon wedi methu.
  • Mae gwledydd yr UE yn delio â channoedd o filoedd o geiswyr lloches/ffoaduriaid sydd wedi cyrraedd mewn dull anghyfreithlon yn ystod 2015.
  • Pe baen ni’n cynnwys y rhai sydd heb eu prosesu eto, rydyn ni’n siarad am dros filiwn o bobl!

Ydy’r holl bobl hyn yn ddilys?

Nac ydyn, wrth gwrs, ond mae’n anodd gwylio rhieni’n dal eu plant uwch eu pennau yn ceisio’u hachub nhw rhag boddi heb i ni deimlo drostyn nhw.

Mae llawer ohonyn nhw’n dianc o wledydd peryglus a rhyfelgar fel Syria neu Somalia ond nid dyma’r bobl dlotaf na’r rhai mwyaf haeddiannol.

Mae troseddwyr sydd wedi troi at smyglo pobl – yr ymadrodd arno weithiau yw masnachu pobl – yn broblem fawr.

Mae gangiau o droseddwyr yn codi $10,000 (UDA) ar gyfartaledd am gymryd pobl i’r UE. Yn aml iawn, mae teuluoedd cefnog yn gwerthu darnau o dir er mwyn codi’r arian ac yna’n anfon yr aelodau mwyaf addysgedig o’u teuluoedd. 

Mae llawer o’r gangiau hyn o droseddwyr yn derfysgwyr sy’n achosi rhyfeloedd mewn gwledydd fel Syria.

Llysgennad UNICEF, Lucy Liu, yn dangos pa mor beryglus yw masnachu pobl.

undefined

Llun gan Bethany fe’u defnyddir o dan CC BY

Mae’n drist bod nifer fawr o ymfudwyr yn dod o deuluoedd sydd wedi cael addysg, sy’n gymharol gyfoethog a’u bod yn talu am gael bod yn ymfudwyr economaidd neu’n defnyddio dulliau eraill i gyrraedd gwledydd mwy datblygedig.

Y ffordd hawsaf mae pobl gefnog o wledydd gwahanol yn gallu dod yn geiswyr lloches yw drwy gael fisas dilys,neu rai ffug, er mwyn ymweld â gwlad yn yr UE, er enghraifft y DU.

Does ond angen twyllo staff ym maes awyr y wlad wreiddiol gyda fisa ffug ac mae’n ddigon hawdd llwgrwobrwyo swyddogion y maes awyr mewn llawer o leoedd. Pan fydd yr ymfudwr ar yr awyren, bydd yn dinistrio’r pasbort/dogfennau teithio a phan fydd yn cyrraedd y wlad arall, bydd yn gofyn am loches.

Beth rydyn ni’n ei wneud?

Bydd hyn ond yn helpu troseddwr a therfysgwyr a bydd yn cymryd cyfleoedd oddi ar geiswyr lloches go iawn sydd mewn gwersylloedd gorlawn ar gyfer ffoaduriaid mewn gwledydd tlawd ac sy’n ceisio gwneud pethau yn y ffordd gyfreithlon.

Nid dim ond yn yr UE mae hyn yn digwydd

Yng Ngogledd America, mae gangiau troseddol ac unigolion yn ceisio symud pobl o America Ganol a De America drwy Fecsico i mewn i’r Unol Daleithiau. Mae nifer fawr o bobl yn gwneud y daith beryglus ar draws y môr o rannau o Asia i Awstralia.

Eleni, gwnaeth Awstralia benderfyniad beiddgar er mwyn ceisio dileu’r ffactor denu o safbwynt ‘ymfudwyr y cychod’ a oedd yn wynebu risg ddifrifol o foddi yn y môr ac o safbwynt yr holl ymfudwyr anghyfreithlon eraill.

Dechreuodd Awstralia bolisi lle mae pawb yn gorfod cael eu rhoi mewn canolfannau cadw - mae pawb yn mynd i gael eu cadw mewn canolfannau neu wersylloedd ar Ynysoedd y Môr Tawel.

undefined

Llun by DIAC Images fe’u defnyddir o dan CC BY

Rhoddodd llywodraeth Awstralia arian i lywodraethau ‘gwledydd diogeleraillar ynysoedd yn y Môr Tawel er mwyn codi gwersylloedd fel yr un yma ar ynysoedd fel Ynys Manus, sy’n rhan o ynysoedd Papua Gini Newydd. 

Mae llywodraethau’r ynysoedd a nifer o bobl leol yn gweld hyn yn ffordd dda o ennill arian.

  • Efallai y gallen ni ddefnyddio nifer o’r ynysoedd oddi ar arfordir yr Alban lle mae nifer fach o bobl neu ddim pobl o gwbl yn byw
  • neu wneud yr un peth ag Awstralia drwy sefydlu partneriaeth gyda llywodraethau ‘gwledydd diogel’ yn Affrica. Fel rydych chi wedi darllen yn barod, mae gan Sbaen ganolfannau mewnfudo yng Ngogledd Affrica.

Ardal Sbaenaidd Ffens Melilla yng Ngogledd Affrica.

undefined

Llun by Ongayo fe’u defnyddir o dan CC BY

  • A oes angen gweithredu rheolau cryf ar draws yr UE - tebyg i’r rhai sydd yn Awstralia, sef bod rhaid rhoi ymfudwyr anghyfreithlon mewn canolfannau cadw? 
  • Drwy wneud hyn, mae modd prosesu ceiswyr lloches go iawn mewn canolfannau mewn gwledydd fel Twrci a Libanus ac yna’u symud yn ddiogel i wledydd fel yr Almaen a Sweden, sef y gwledydd sy’n derbyn y nifer fwyaf o ymfudwyr.

Hyd yma yn Daearyddiaeth yn y Newyddion, rydyn ni wedi gwneud i’r DU edrych braidd yn wael o safbwynt derbyn ceiswyr lloches a hyd yn oed o safbwynt derbyn y gyfran fwyaf o’r gronfa Ewropeaidd.

Mewn gwirionedd, mae’r DU yn wlad dda iawn o safbwynt delio gyda’r ffactorau gwthio:

  • Mae ein gwasanaethau milwrol yn helpu i greu heddwch.
  • Rydyn ni’n talu am wersylloedd UNHCR ac yn gofalu am ffoaduriaid go iawn yn y man diogel cyntaf/gwledydd cyntaf.
  • Rydyn ni’n talu am wella bywyd pobl dlawd drwy ariannu Nodau Datblygu’r Mileniwm.

Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth am Nodau Datblygu’r Mileniwm mewn rhifau blaenorol o Daearyddiaeth yn y Newyddion. Yn ystod y pymtheng mlynedd diwethaf, maen nhw wedi bod yn canolbwyntio ar leihau’r ffactorau gwthio o safbwynt ffoaduriaid.

Ym mis Medi, mae Nodau Datblygu Cynaliadwy yn cael eu lansio yn eu lle a bydd Daearyddiaeth yn y Newyddion yn dweud wrthych chi amdanyn nhw.

Ar ôl i chi ddarllen y tair erthygl a gwneud y gweithgareddau, defnyddiwch y daflen A3 i’ch helpu chi i wneud yr ymarfer gwneud penderfyniad.

Erthyglau eraill efallai y byddwch a diddordeb mewn Ymfudo o Fecsico i UDA a Ymfudo yn y DU.

Top

Mwy o’r rhifyn yma...

Gwneud penderfyniadau – Argyfwng yr Ymfudwyr

Gwneud penderfyniadau – Argyfwng yr Ymfudwyr

Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid

Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid