Rydyn ni’n clywed llawer am ‘Geiswyr Lloches’, ‘Ffoaduriaid’ a ‘Mudwyr Economaidd’, yn enwedig yn y DU. Un broblem yw bod ymadroddion fel hyn yn cael eu defnyddio’n anghywir yn aml iawn gan nad yw pobl yn gwybod yr ystyr, neu oherwydd eu bod nhw’n gallu golygu rhywbeth gwahanol mewn cyd-destunau gwahanol.
Mae’r rhan fwyaf o’r sail gyfreithiol dros warchod ffoaduriaid yn dod o’r "confensiwn ar ffoaduriaid"; enw arall arno yw Confensiwn Genefa 1951, sy’n diffinio ffoadur fel person sydd…
...oherwydd ofn credadwy o gael ei erlid oherwydd ei hil, crefydd, cenedligrwydd, aelodaeth o grŵp cymdeithasol penodol neu farn wleidyddol, y tu allan i wlad ei ddinasyddiaeth ac sydd yn methu, neu, oherwydd y fath ofn, yn anfodlon manteisio ar amddiffyniad y wlad honno; neu sydd, o beidio â bod yn ddinesydd a’i fod y tu allan i’r wlad roedd yn arfer byw ynddi, yn methu dychwelyd iddi neu’n anfodlon gwneud oherwydd y fath ofn.
Mae pob un o’r gwledydd yn dioddef yn sgil rhyfel.
Ystyr Ceisydd lloches yw person sydd wedi gwneud cais am loches o dan Gonfensiwn Genefa.
Ystyr Ffoadur yn y cyd-destun hwn yw ceisydd lloches y mae ei gais wedi bod yn llwyddiannus. Mewn cyd-destun ehangach, mae’n gallu golygu rhywun sy’n rhedeg i ffwrdd oddi wrth rywbeth fel rhyfel cartref neu drychineb naturiol ond nad yw, o angenrheidrwydd, yn ofni cael ei erlid yn unol â diffiniad Confensiwn y Ffoaduriaid, 1951.
Ystyr Mudwr economaidd yw person sydd wedi gadael ei wlad ei hun er mwyn chwilio am waith mewn gwlad arall.
Mae Hwngari’n derbyn llawer o ymfudwyr gan mai hi yw un o’r gwledydd cyntaf yn yr UE mae’r ymfudwyr yn cyrraedd os ydynt yn dewis teithio dros y tir o’r Dwyrain Canol neu Affrica.
Ym mis Mehefin 2015, penderfynodd Hwngari ohirio rheolau’r Undeb Ewropeaidd ar loches. Dywedodd llefarydd ar ran llywodraeth Hwngari, “Mae system lloches Hwngari wedi cael ei gorlwytho; dyma’r un sydd wedi’i gorlwytho fwyaf ymhlith aelodau’r UE sy’n cael eu heffeithio gan fewnfudwyr anghyfreithlon”.
Yr enw ar reolau lloches yr UE yw Rheoliadau Dulyn. Yn ôl y rheoliadau hyn, rhaid i bobl sy’n ceisio lloches ofyn am loches yn y wlad Ewropeaidd GYNTAF maen nhw’n cyrraedd.
Yn ystod chwe mis cyntaf 2015, daeth mwy na 60,000 o fewnfudwyr i mewn i Hwngari yn anghyfreithlon yn ôl llywodraeth y wlad. "Mae Hwngari wedi defnyddio’r holl gapasiti oedd ar gael,” yn ôl datganiad y llywodraeth. "Mae angen gweithredu’n gyflym; mae’r sefyllfa wedi dwysáu felly mae angen i Hwngari weithredu cyn i’r UE wneud penderfyniadau."
Dechreuodd Hwngari godi ffens ar hyd ei ffin ddeheuol gyda Serbia er mwyn atal y llif o ymfudwyr anghyfreithlon sy’n dod i mewn i Ewrop o’r Dwyrain Canol ac Affrica. Mae’r rhan fwyaf ohonyn nhw’n teithio drwy Hwngari i Orllewin Ewrop, sy’n fwy cyfoethog.
Mae gohirio Rheoliadau Dulyn yn effeithio’n benodol ar wledydd sy’n ffinio â Hwngari, fel Awstria, er enghraifft. Mae Awstria wedi rhoi’r gorau i brosesu ceisiadau am loches yn ei hymdrech i roi pwysau ar wledydd eraill yr UE i wneud mwy i helpu drwy gymryd nifer fawr o ffoaduriaid sy’n dod i’r cyfandir.
Derbyniodd Awstria 21,000 o geisiadau am loches yn ystod pum mis cyntaf 2015 o’i gymharu â 17,000 o geisiadau yn ystod 2013 ar ei hyd.
Pan fydd ymfudwr yn cyrraedd gwlad, mae ganddo amser ‘rhesymol’ i ofyn am loches. Tri diwrnod yw’r amser yn y DU oni fydd rheswm da dros beidio gwneud. Mae hyn yn helpu gwlad i benderfynu a yw rhywun yn ‘ddiffuant’ yn ei gred bod angen lloches arno/arni.
Enghraifft o reswm da yw os bydd rhywun wedi cael ei gadw’n gaeth gan smyglwyr pobl - enw arall arnyn nhw yw masnachwyr mewn pobl.
Byddwn yn trafod masnachwyr mewn pobl ymhellach yn yr erthygl gysylltiedig yn ogystal â’u pwysigrwydd yng nghyd-destun deall y cynnydd yn nifer yr ymfudwyr.
Ceiswyr lloches o Dde Swdan yn cofrestru mewn gwersyll UNHCR yn y Swdan.
Mae’r gwersyll hwn yn cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU yn bennaf.
Mae angen deall dau beth pwysig o safbwynt y gyfraith ryngwladol a cheiswyr lloches/ffoaduriaid:
Pan fydd ceisydd lloches yn cyrraedd gwlad ddiogel, dylai ofyn am loches. Yna, dylai dderbyn Dogfen Deithio’r Confensiwn, sy’n cael ei rhoi i bobl sydd â statws ffoaduriaid i’w defnyddio fel dogfen ddilys ar gyfer teithio.
Ni fydd llawer o geiswyr lloches dilys yn cofrestru yn y ‘wlad ddiogel’ gyntaf. Maen nhw’n ceisio cyrraedd gwledydd datblygedig drwy ddulliau ‘anghyfreithiol’.
O ganlyniad, ni fydd llawer o bobl yn gwneud cais am loches oherwydd eu bwriad yw teithio i wledydd gwahanol megis yr Almaen. Dyma’r prif lwybrau anghyfreithiol i mewn i’r UE:
Nid oes unrhyw ffiniau mewnol mewn nifer o rannau’r o’r UE; creodd Cytundeb Schengen yn yr UE reolau a oedd yn golygu na fyddai unrhyw ffiniau mewnol rhwng y gwledydd sy’n aelodau o’r UE. Dim ond y DU a Gweriniaeth Iwerddon optiodd allan o hyn. Felly, pan fydd ymfudwr yn cyrraedd tir mawr yr UE, does dim byd yn ei rwystro rhag symud o wlad i wlad.
Y llwybrau mwyaf peryglus o ddigon ar gyfer ymfudwyr yw ar draws Môr y Canoldir. Yn ystod pedwar mis cyntaf 2015, cyrhaeddodd nifer y rhai a fu farw ar y môr lefelau uchel newydd. Rhwng mis Ionawr a mis Mawrth, gwnaeth 479 o ffoaduriaid ac ymfudwyr foddi neu fynd ar goll, o’i gymharu â 15 yn ystod yr un cyfnod yn 2014. Roedd y sefyllfa’n waeth ym mis Ebrill wrth i 1,308 o ffoaduriaid ac ymfudwyr foddi neu fynd ar goll mewn un mis.
Er bod Gwlad Groeg yn aelod o Grŵp Schengen o wledydd yr UE, nid oes gan Wlad Groeg ffin ffisegol hawdd a syth gyda gweddill yr UE (rhaid i ymfudwyr fynd i’r cyfeiriad anghywir tuag at Fwlgaria a Rwmania). O ganlyniad, rhaid i ymfudwyr adael yr UE (Gwlad Groeg) er mwyn parhau ar eu taith i wledydd fel yr Almaen, er enghraifft ar draws y môr i’r Eidal neu ar draws y tir gan groesi drwy Facedonia a chyrraedd Hwngari. Ym mis Awst 2015, roedd gwrthdaro ffyrnig ar hyd y ffin rhwng Macedonia a Gwlad Groeg.
Beth gall yr UE ei wneud i rwystro ymfudwyr?
Cronfa Lloches, Ymfudo ac Integreiddio
Mae'r Gronfa Lloches, Ymfudo ac Integreiddio yn gronfa sy’n werth 3.14 biliwn ewro ar gyfer ariannu rheoli’r llif ymfudo o fewn yr UE yn effeithiol. Hyd yn hyn, mae 2.392 biliwn ewro wedi cael ei roi i wledydd gwahanol.
Cymharwch ffigurau’r gronfa hon gyda nifer y ceiswyr lloches sydd yn y brif erthygl – edrychwch yn ofalus ar y DU.
Does bosib bod angen i ni roi stop ar ymfudo!
Nac oes, mwy na thebyg!
Dyma’r UE erbyn 2060, heb ymfudwyr.
Mae poblogaeth bresennol yr UE yn heneiddio ac nid oes digon o blant yn cael eu geni. Edrychwch ar hyn:
Poblogaeth yr UE mewn miliynau
Wrth i bobl hŷn farw, a gan fod llai o bobl yn cael eu geni, mae angen ymfudwyr arnon ni er mwyn cynnal lefelau’r boblogaeth. Efallai ei bod hi’n anodd derbyn hyn, yn enwedig pan mae ein gwlad ni a’r rhan fwyaf o’r UE yn parhau i fod mewn dirwasgiad economaidd ac mae llawer o bobl yn ddi-waith ac yn methu cael gwaith; ond, mae angen i ni gynllunio ar gyfer y deg, dau ddeg, tri deg mlynedd nesaf.
Heb ymfudwyr, faint o weithwyr fydd ar gael am bob person fydd angen pensiwn (CHI) yn 2060?
Meddyliwch am ardal Schengen a gwledydd Schengen.
Mae Melilla a Cueto yng Ngogledd Affrica yn rhan o Sbaen yn swyddogol. Gall Sbaen ddefnyddio’r lleoliadau hyn ar gyfer prosesu ceisiadau am loches.
Trafodwch y tri chwestiwn hyn mewn grŵp bach a pharatowch ficro-gyflwyniad byr, 30 eiliad, er mwyn rhannu’ch atebion gyda’ch dosbarth. Ystyr micro-gyflwyniad yw geiriau’n unig – ni ddylid defnyddio delweddau, posteri na PowerPoint.
Erthyglau eraill efallai y byddwch a diddordeb mewn Ymfudo o Fecsico i UDA a Ymfudo yn y DU.