Edrychwch ar y map – Disgrifiwch leoliadau 1-4.
Edrychwch ar y map o’r Dwyrain Canol a defnyddiwch y rhestr isod er mwyn enwi’r gwledydd sydd wedi cael eu rhestru.
Trafodwch mewn grŵp a defnyddiwch atlas neu atlas digidol ar-lein.
Llun: Middle East - Madhero88 © Wikimedia Commons
Yn y rhifyn hwn o Daearyddiaeth yn y Newyddion, rydyn ni’n mynd i ymchwilio i brif leoliad gwreiddiol ymfudwyr sy’n cyrraedd yr Undeb Ewropeaidd.
Y prif rai yw:
Llun: European migrant crisis. Asylum applicants in Europe between 1 January and 30 June 2015. - Maximilian Dörrbecker © Creative Commons Attribution-Share Alike 2.0 Generic license
Lawrlwytho yr Argyfwng Ymfudwyr yn Ewrop 2015
Llun: Middle East - TownDown © Creative Commons Attribution-Share Alike 3.0 Unported license
Daearyddiaeth hanesyddol
Dechreuodd hanes modern y Dwyrain Canol ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf.
Am ganrifoedd cyn hyn, roedd y rhan fwyaf o’r Dwyrain Canol wedi bod yn rhan o’r Ymerodraeth Otomanaidd (Ymerodraeth Twrci).
Cyn hyn, roedd pwerau Cristnogol ac Islamaidd wedi bod yn ymladd dros y rhan hon o’r byd ers y 7fed ganrif O.C.
Cyn y 7fed ganrif, Cristnogaeth oedd y brif ffydd ac roedd y rhan fwyaf o’r grym yn nwylo’r Ymerodraeth Fysantaidd.
Daeth yr Ymerodraeth Fysantaidd i fodolaeth yn bennaf oherwydd rhwyg yn yr Ymerodraeth Rufeinig.
Llun: The maximum extent of the Roman Empire. Superimposed on a physical map - Andrei nacu © Public Domain
Yn aml, yr enw ar y Dwyrain Canol cyn goresgyniad y Rhufeiniaid yw ‘Crud Gwareiddiad’. Y rheswm am hyn yw mai dyma’r rhan o’r byd ble y tyfodd nifer o wareiddiadau mawr, ac roedd y rhain yn cystadlu â’i gilydd, yn uno neu chwalu; yn eu plith yr oedd yr ymerodraethau canlynol:
O’r rhanbarth hon y daeth nifer o’n datblygiadau mwyaf ni (o safbwynt yr hil ddynol):
Daeth nifer o grefyddau mawr y byd o’r rhan hon o’r byd hefyd, yn eu plith Islam, Iddewiaetha Christnogaeth.
Ar ôl bod yn rhan o’r Ymerodraeth Otomanaidd am gannoedd o flynyddoedd, dechreuodd pethau newid pan gafodd olew ei ddarganfod ym 1908 a daeth y rhanbarth i sylw ymerodraethau Ffrainc a Phrydain.
Ym 1914, ymunodd yr Ymerodraeth Otomanaidd gyda’r Almaen ac Awstria/Hwngari yn y Rhyfel Byd Cyntaf.
Gan fod yr Ymerodraeth Otomanaidd ar yr ochr a gollodd y rhyfel, cafodd ei chwalu. Fodd bynnag, dechreuodd rhyfeloedd yn gyflym; un rhyfel mawr oedd Rhyfel Annibyniaeth Twrci, a arweiniodd at sefydlu Twrci fodern ym 1923.
Daeth y rhan fwyaf o Ogledd Affrica a’r Dwyrain Canol o dan reolaeth Ffrainc a Phrydain.
Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd Prydain wedi addo rhoi rheolaeth dros ardaloedd eang i arweinwyr Arabaidd pwerus megis Sharif Hussein yn gyfnewid am ymosod ar yr Otomaniaid.
Anrhydeddwyd y rhan fwyaf o’r addewidion hyn ar ôl 1918 a chrëwyd gwledydd newydd.
Llun: Hussein Bin Ali - Unknown Author © Public Domain
Roedd Palesteina yn un ardal lle’r oedd anghytuno mawr. Roedd arweinwyr Arabaidd lleol yn credu y dylai’r ardal fod yn rhan o’r ardal a oedd dan eu rheolaeth nhw, ond roedd y Prydeinwyr wedi addo y byddai’r ardal hon yn ‘famwlad’ ar gyfer yr Iddewon.
Ar ôl 1918 y dechreuodd y broses hon; rhannwyd Palesteina’n ddwy ran, gyda llywodraeth Iddewig ‘gysgodol’ yng Ngorllewin Palesteina a Phrydain yn ei gwarchod.
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, roedd y rhanbarth cyfan yn rhan o’r gwrthdaro byd-eang.
Roedd y rhanbarth yn ansefydlog iawn ar ôl 1945 ac roedd nifer o ryfeloedd. Mae Wikipedia’n rhestru 69 gwrthdaro/rhyfel ers 1946 ac roedd llawer o’r rhain yn gysylltiedig â’r famwlad Iddewig newydd, Israel.
Llun: Flag of Israel - Typhix © Public Domain
Ar ddiwrnod cyntaf ei hannibyniaeth ym 1948, cafodd Israel ei meddiannu gan fyddinoedd Yr Aifft, Syria, Trawsiorddonen, Libanus, Irác a Sawdi-Arabia.
Roedd gwrthdaro cyson, bron, hyd nes y llofnodwyd cytundebau heddwch ym 1993.
Llun: Gulf War photo collage for use in the infobox - User:Acdx © Public Domain
Mae llawer o ffoaduriaid, yn ddiweddar ac ar hyn o bryd, yn dod o wahanol rannau o Irác.
Roedd Irác wedi bod yn ymladd gyda’i chymydog, Irán, rhwng 1980 a 1988.
Collodd mwy na 1,000,000 o bobl eu bywyd.
Llun: Flag of Iraq - User:Hoshie © Public Domain
Roedd Irác yn cael ei rheoli gan unben creulon o’r enw Saddam Hussein. Roedd llawer o broblemau o fewn Irác ar ôl y rhyfel yn erbyn Irán a phenderfynodd mai’r ateb oedd goresgyn ei gymydog, Coweit, lle’r oedd llawer o olew.
Bu’n bygwth Sawdi-Arabia hefyd.
Llun: Saddam Hussain Iran-Iraqi war 1980s - AFP/Getty-images © Public Domain
Goresgynnodd Coweit o fewn ychydig dros 2 ddiwrnod!
Fodd bynnag, roedd Irác wedi camfarnu’r gefnogaeth ryngwladol ac roedd bellach yn wynebu clymblaid ryngwladol, gan gynnwys Prydain. Yr enw ar y gwrthdaro hwn yw ‘Rhyfel Cyntaf y Gwlff’.
Llun: Coalition of the Gulf War vs Iraq - Author Unknown © Creative Commons Attribution-Share Alike 3.0 Unported license
Cafodd Irác ei gyrru allan o Goweit yn gyflym gan y glymblaid; roedd y cyfan drosodd 100 o oriau ar ôl i’r ymosodiad ar y ddaear ddechrau.
Fodd bynnag, nid oedd y problemau wedi cael eu datrys:
o Yna, dioddefodd grwpiau Cwrdaidd a Shia erledigaeth/hil-laddiad ofnadwy:
Mae dros 200 o feddau torfol y dioddefwyr wedi cael eu darganfod hyd yma, gyda’r un mwyaf ohonyn nhw’n cynnwys dros 10,000 o gyrff.
Llun: Iraq War montage - Futuretrillionaire © CC BY-SA 2.5 / Public Domain
Yn 2003, ymosododd clymblaid ryngwladol newydd, gan gynnwys Prydain, ar Irác. Yr enw arno yw ‘Ail Ryfel y Gwlff’.
Roedd Irác wedi bygwth y Gorllewin gydag ‘Arfau Distryw Mawr’. Roedd Irác yn arfer defnyddio arfau cemegol. Roedd gan Irác dros 500 tunnell o wraniwm hefyd a gellid defnyddio hyn ar gyfer gwneud arfau’n seiliedig ar ymbelydredd ‘budr’ neu fom niwclear efallai.
Roedden nhw’n meddwl bod arfau cemegol fel nwy mwstard neu’r nwy nerfol, sarin, yn Irác. Cafodd nifer fawr o arfau a oedd yn cynnwys y rhain eu darganfod a’u dinistrio gan fyddinoedd y glymblaid.
Oherwydd bod bygythiad y byddai Irác yn defnyddio ‘Arfau Distryw Mawr’ yn erbyngweddill y byd, ymunodd nifer o wledydd yn y rhyfel. Hefyd, roedd tystiolaeth o hil-laddiad o fewn Irác ac roedd y gyfraith ryngwladol yn mynnu bod rhywun yn gweithredu.
Er bod lluoedd y glymblaid wedi ennill, mae wedi bod yn anodd sicrhau heddwch gan fod llawer o grwpiau gwahanol yn ymladd yn erbyn lluoedd y glymblaid, lluoedd llywodraeth Irác ac yn erbyn ei gilydd.
Cyfeirir at hyn fel gwrthryfel.
Rhwng 2003 a 2011, cafodd 179 o filwyr Prydain eu lladd a chafodd 3,598 eu hanafu.
Un o’r grwpiau gwrthryfelgar hyn yw’r Wladwriaeth Islamaidd/ISIL fel y’i gelwir.
Llun: Syria and Iraq 2014-onward War map - Haghal Jagul © Creative Commons CC0 1.0 Universal Public Domain Dedication
Mae astudiaethau dibynadwy yn amcangyfrif fod 600,000 o bobl wedi marw rhwng 2003 a 2006 o ganlyniad i drais, sef dros 500 o bobl bob dydd.
Heddiw, mae rhyfel creulon rhwng y Wladwriaeth Islamaidd/ISIL fel y’i gelwir, lluoedd llywodraeth Irác a lluoedd Cwrdaidd wedi arwain at hil-laddiad yn ogystal â llawer iawn o gaethiwed, artaith, trais rhywiol a llofruddiaeth.
Does dim pŵer, dŵr na bwyd mewn llawer o leoedd.
Mewn amgylchedd o’r fath, lle mae gwrthdaro parhaus, mae Irác yn parhau i fod yn ffynhonnell ffoaduriaid sy’n teithio tuag at ei chymdogion ac Ewrop.
'Eglurwch pam rydych chi wedi gadael Irác’ (Ffactorau Gwthio dros Ymfudo).
·
Mae’r adnodd hwn wedi cael ei gynllunio i’w ddefnyddio gyda’r dosbarth cyfan o du blaen y dosbarth ar brojector/bwrdd gwyn rhyngweithiol.
Dylai’r athro roi eglurhad ar y delweddau amrywiol, gan seilio’r sylwadau ar y testun. Ni fydd modd i fwyafrif llethol y disgyblion ddarllen y testun cyfan o fewn yr amser sydd ar gael.
Yn ddelfrydol, dylai’r disgyblion gael mynediad i’r adnodd ar-lein er mwyn gweithio ar y daflen gweithgareddau (dylid argraffu hon ar bapur A3).
Yn ddelfrydol, dylid rhoi cefnogaeth ar gyfer y gweithgareddau hyn, sef ystafell rwydwaith, llechi/gliniaduron neu ffonau/dyfeisiau’r disgyblion eu hunain, os caniateir y rhain.
Fodd bynnag, mae’r gweithgareddau wedi cael eu cynllunio ar gyfer eu defnyddio mewn gwers arferol, sef un awr, gyda’r athro’n defnyddio’r adnodd yn nhu blaen yr ystafell ddosbarth ochr yn ochr â’r daflen adnoddau.
Yna, gellid rhoi gwaith cartref i’r disgyblion, sef astudio’r tair erthygl cyn y wers nesaf.
Mae’r adnodd a’r daflen gysylltiedig wedi cael eu cynllunio fel eu bod yn cefnogi’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd, gan roi i ddisgyblion wybodaeth ddaearyddol allweddol mewn perthynas â’r lleoedd sy’n gysylltiedig â’r argyfwng sy’n ymwneud â dadleoli gorfodol yn y Dwyrain Canol.
Darllenwch a chwblhewch y gweithgareddau yn yr erthygl ar-lein ac yn yr erthyglau cysylltiedig yn y rhifyn hwn o Daearyddiaeth yn y Newyddion – naill ai yn yr ystafell ddosbarth neu gartref. Ceisiwch orffen yr holl weithgareddau sydd ar y daflen adnoddau.
Beth fyddwch chi’n ei ddysgu:
Byddwch chi’n dysgu ymadroddion daearyddol newydd, wedi’u goleuo mewn porffor. Dylech chi ddysgu’r rhain a’u cynnwys mewn geirfa. Rhestr o eiriau a’u hystyr yw geirfa. Gallech chi gael un yng nghefn eich llyfr ysgrifennu daearyddiaeth. Os oes gyda chi gynlluniadur, mwy na thebyg bod lle da yn hwnnw ar gyfer cadw geirfa neu gallech chi gadw llyfr geirfa ar wahân. Mae geirfa dda yn eich helpu chi i ddatblygu eich geirfa a’ch llythrennedd. Chwiliwch am ystyr geiriau drwy ddefnyddio gweddill cynnwys yr erthygl, drwy drafod neu defnyddiwch eiriadur (naill ai ar-lein neu lyfr).
Erthyglau eraill efallai y byddwch a diddordeb mewn Ymfudo o Fecsico i UDA, Ymfudo yn y DU a Gwneud penderfyniadau – Argyfwng yr Ymfudwyr.