Llun: A collage for MENA protests - User:ليبي صح">ليبي © Creative Commons Attribution-Share Alike 3.0 Unported license
Llun: Celebrations in Tahrir Square after Omar Soliman's statement that concerns Mubarak's resignation. February 11, 2011 - Jonathan Rashad © Creative Commons Attribution 2.0 Generic license
Yn anffodus, trodd y Gwanwyn Arabaidd llawn gobaith yn Aeaf Arabaidd ofnadwy.
Yng Ngorllewin Affrica, mae grŵp o derfysgwyr o’r enw Boko Haram wedi cymryd rheolaeth dros rannau o Ogledd Nigeria a’r ardaloedd cyfagos ger y ffin. Mae Boko Haram wedi dod yn rhan o’r wladwriaeth Islamaidd/ISIL fel y’i gelwir.
Llun: First Lady Michelle Obama holding a sign with the hashtag "#bringbackourgirls" in support of the 2014 Chibok kidnapping. Posted to the FLOTUS Twitter account on May 7, 2014. - Michelle Obama, Office of the First Lady © Public Domain
Llun: Muammar al-Gaddafi at the 12th AU summit, February 2, 2009, in Addis Abeba. - U.S. Navy photo by Mass Communication Specialist 2nd Class Jesse B. Awalt/Released © Public Domain
Llun: Caricatures of Gadafi in old square, Street Al Oroba, Al Bayda - User:ليبي_صح © Creative Commons CC0 1.0 Universal Public Domain Dedication
Un ffynhonnell arian bwysig i’r grwpiau hyn yw masnachu pobl drwy fynd â ffoaduriaid i Ewrop.
Mae llawer o ffoaduriaid yn dioddef oherwydd eu bod yn cael eu camdrin yn ofnadwy gan y masnachwyr pobl, sy’n eu gorfodi i weithio fel caethweision neu ymladd ar ran y grwpiau os nad ydynt yn gallu fforddio i’w talu.
Mae Libia’n ganolfan fawr ar gyfer smyglo pobl o’r ardaloedd canlynol:
Mae Libia wedi troi’n wlad wyllt ac afreolus ac mae llawer o grwpiau’n ymladd er mwyn ceisio rheoli.
Mae un ardal yn cael ei rheoli gan gangen leol o’r Wladwriaeth Islamaidd/ISIL fel y’i gelwir hyd yn oed.
Llun: Libyan Civil War - John Smith © Creative Commons Attribution 3.0 Unported license
Beth yw ystyr ‘Y Gwanwyn Arabaidd’?
Beth yw ystyr ‘Y Gaeaf Arabaidd’?
Meddyliwch am yr hyn a ddigwyddodd yn Libia ac mewn gwledydd eraill yn Affrica.
Beth ddigwyddodd yn Chibok?
Edrychwch ar y ffotograff o Michelle Obama.
Trafodwch y tri chwestiwn hyn mewn grŵp bach a pharatowch ‘feicro-gyflwyniad’ 30 eiliad er mwyn rhannu eich atebion gyda’ch dosbarth. Dim ond geiriau sydd mewn ‘meicro-gyflwyniad’; ddylech chi ddim defnyddio delweddau, posteri na meddalwedd PowerPoint.
Erthyglau eraill efallai y byddwch a diddordeb mewn Ymfudo o Fecsico i UDA, Ymfudo yn y DU a Gwneud penderfyniadau – Argyfwng yr Ymfudwyr.