Syria

Llun: Syria (orthographic projection) - L'Américain © Creative Commons Attribution-Share Alike 3.0 Unported license
- Er gwaetha’r sefyllfa ofnadwy yn Libia, mae’r sefyllfa yn Syria yn llawer iawn gwaeth.
- Mae’r Arlywydd Assad wedi bod yn rheoli Syria ers y flwyddyn 2000.
- Daeth i rym pan fu farw ei dad.
- Roedd ei dad wedi bod mewn grym ers 1970.
- Roedd amodau byw yn Syria yn llwm iawn a dim ond ychydig iawn o ryddid oedd yno.
- Roedd pethau’n well ar gyfer rhai grwpiau crefyddol ac yn waeth ar gyfer grwpiau eraill.
- Mae llywodraeth Assad a’i gefnogwyr yn dilyn Islam Shia gan fwyaf.
- Mae lluoedd y Gwrthwynebwyr yn dilyn Islam Sunni gan fwyaf.
- Mae mwyafrif y Cwrdiaid yn dilyn Islam Sunni ond mae rhai yn dilyn Islam Shia. Mae’r iaith Gwrdeg a’i diwylliant yn bwysicach na chrefydd.
- Mae Byddin Rhyddid Syria yn grŵp ambarél sy’n cynnwys grwpiau megis Ffrynt al-Nusra sy’n rhan o’r grŵp terfysgol rhyngwladol, al-Qaeda.
- Dechreuodd y Wladwriaeth Islamaidd/ISIL fel y’i gelwir fel grŵp Jihadaidd yn Affganistan.
- Roedd yn deyrngar i al-Qaeda.
- Ymunodd â’r gwrthryfel yn Irác yn 2003 a bu’n gyfrifol am lawer o erchyllterau.
- Mae wedi lledu i Syria erbyn hyn.


Llun: Syrian Civil War - Spesh531 © Creative Commons Attribution-Share Alike 4.0 International, 3.0 Unported, 2.5 Generic, 2.0 Generic and 1.0 Generic license
- Ers 2011 mae’r amodau byw yn Syria yn ofnadwy ac mae llawer o erchyllterau yn cael eu cyflawni yno fel rhan o’r gwrthdaro, gan gynnwys defnyddio arfau cemegol, llofruddio, arteithio a threisio’n rhywiol.
- Mae’r sefyllfa’n cael ei waethygu gan fod gwledydd eraill yn cefnogi/ymladd ar ochrau gwahanol.
- Mae Rwsia, Irác ac Irán yn cefnogi llywodraeth Assad.
- Mae 17 gwlad, gan gynnwys y DU, UDA, Ffrainc a mwyafrif gwledydd y Gynghrair Arabaidd yn cefnogi Cynghrair Genedlaethol Syria.
- Fodd bynnag, mae Sawdi-Arabia, Twrci a Qatar yn cefnogi’r Ffrynt al-Nusra yn gwbl agored.
- Yn Syria, mae’r rhan fwyaf o’r pŵer, y dŵr a’r cyflenwad bwyd wedi mynd.

Llun: Syrian refugees in the Middle East map - Furfur © Creative Commons Attribution-Share Alike 4.0 International license
- Ar ben hyn:
- mae dros 7.6 miliwn o bobl wedi cael eu dadleoli’n fewnol yn Syria
- mae dros 5 miliwn o bobl eraill wedi cael eu dadleoli i wledydd cyfagos megis Twrci, Libanus, Irác, Coweit a’r Aifft.
- Dim ond rhai cannoedd o filoedd sydd wedi ceisio cyrraedd Ewrop fel ffoaduriaid ac mae hyn, o ystyried graddfa’r erchylltra, yn nifer cymharol isel.
Y Wladwriaeth Islamaidd/ISIL fel y’i gelwir
Mae’r rhan fwyaf o bobl yn defnyddio’r ymadrodd ‘fel y’i gelwir’ wrth gyfeirio at y mudiad hwn oherwydd byddai rhoi i fudiad o’r fath y lefel o barch/cydnabyddiaeth sy’n ddyledus i ‘wladwriaeth’ neu wlad yn annerbyniol.
Enwau
- Saesneg
- Islamic State of Iraq and the Levant (ISIL)
- Islamic State of Syria (ISIS)
- IS (Islamic State)
- Cymraeg
- Gwladwriaeth Islamaidd Irác a’r Lefant (ISIL)
- Gwladwriaeth Islamaidd Syria (ISIS)
- Y Wladwriaeth Islamaidd
- Dechreuodd yn Affganistan ym 1999.
- Roedd yn cael ei ariannu gan al-Qaeda.
- Yn 2003, ymunodd â’r gwrthryfel yn Irác yn erbyn llywodraeth newydd y wlad ynghyd â’r glymblaid.
- Erbyn 2015,
- mae ganddi reolaeth dros ardaloedd eang ar draws ffin Irác a Syria
- Mae’n rheoli rhannau o:
- Libia
- Affganistan
- Sinai (yr Aifft)
- Nigeria (drwy Boko Haram).
- Mae llawer o grwpiau terfysgol wedi ymuno (gan adael al-Qaeda yn bennaf) ac oherwydd hynny mae’n ehangu’n gyflym.
Mae’r grŵp hwn yn credu mewn lladd pob un nad yw’n derbyn ei ddehongliad cyntefig o Islam.

- Mae pobl wedi ymuno ag ISIL fel y’i gelwir o wledydd ar draws y byd, gan gynnwys Cymru er gwaethaf pethau ofnadwy fel:
- caethiwed
- llofruddiaeth dorfol
- artaith
- torri pennau i ffwrdd.
- Yn 2014, roedd sôn bod ISIL wedi torri pennau dros 100 o recriwtiaid tramor oherwydd eu bod wedi ceisio gadael dinas Raqqa.
- Mae’r defnydd o gyfryngau cymdeithasol yn golygu bod pobl yn gallu cael eu radicaleiddio o fewn eu cartrefi eu hunain.
- Mae gan y grŵp fyddin sy’n ceisio recriwtio ar-lein.
- Rhaid i bawb edrych ar ôl eu ffrindiau ysgol.
- Os byddan nhw’n gweld arwyddion bod ffrindiau’n cefnogi’r mudiad hwn rhaid eu helpu nhw drwy siarad gydag:
- athrawon
- aelodau o’r teulu
- arweinwyr y gymuned.
Mae llawer o recriwtiaid yn ceisio gadael ar ôl cyrraedd; mae rhai’n llwyddo i ddianc ond mae’r rhai sy'n cael eu dal, e.e. y 100+ yn Raqqa, yn cael eu lladd drwy dorri eu pennau i ffwrdd.
Affganistan

Llun: Afghanistan (orthographic projection) - Shahid Parvez © GNU Free Documentation License, version 1.2
- Y gwledydd sy’n ffinio ag Affganistan yw
- Pacistan
- Irán
- Tyrkmenistan
- Wsbecistan
- Tajikistan
- China.
- Roedd chwyldro comiwnyddol yn Affganistan ym 1978.
- Aeth ymladdwyr eithafol i Affganistan i ymladd mewn ‘rhyfel sanctaidd’ neu Jihad yn erbyn llywodraeth gomiwnyddol Affganistan.
- Ym 1979, anfonodd yr Undeb Sofietaidd ei lluoedd arfog i Affganistan a bu rhyfel a laddodd dros 1,000,000 o bobl.
- Aeth degau o filoedd o ymladdwyr o wledydd Islamaidd i ymuno â’r ‘Jihad’.
- Un o’r ymladdwyr cyfoethog hyn oedd Osama Bin Laden o Sawdi-Arabia. Sefydlodd e al-Qaeda.
- Helpodd e i sefydlu’r hyn sy’n cael ei alw’n Wladwriaeth Islamaidd/ISIL.

Llun: Osama bin Laden - Hamid Mir © Creative Commons Attribution-Share Alike 3.0 Unported license
- Ym 1989, tynnodd y lluoedd Sofietaidd allan o Affganistan ac erbyn 1992, roedd y comiwnyddion wedi cael eu trechu.
- Yna, roedd rhyfel cartref arall rhwng grwpiau gwahanol o ymladdwyr Jihadaidd a chafodd 400,000 mwy o bobl eu lladd.
- Erbyn 1996, enillodd un grŵp, y Taliban, ac roedden nhw’n rheoli ar sail eu dehongliad llym eu hunain o Islam.
- Parhaodd Osama bin Laden a’i fudiad al-Qaeda i weithredu ochr yn ochr â’r Taliban.
- Ar Fedi’r 11eg, 2001, ymosododd al-Qaeda ar UDA.

Llun: National Park Service 9-11 Statue of Liberty and WTC fire - National Park Service © Public Domain

Llun: September 17 2001 - U.S. Navy photo by Chief Photographer's Mate Eric J. Tilford © Public Domain
- Arweiniodd hyn at y ‘Rhyfel yn erbyn Terfysg ’ a chafodd Affganistan ei goreesgyn gan glymblaid a oedd yn cynnwys y DU ac UDA.
Y Wal Goffa Brydeinig yn Affganistan

Llun: Camp Bastion Memorial Wall Vigil MOD - Cpl Daniel Wiepen/MOD © OGL (Open Government License)
- Er y llwyddiant cyflym yn 2001, bu’n anodd cael heddwch.
- Bu farw dau aelod o lu awyr y DU ym mis Hydref 2015 gan ddod â chyfanswm colledion milwrol y DU yn ystod y gwrthdaro i 456.
- Bu farw nifer o Gymry, hyd yn oed yn 2015.
- Mae’r Taliban yn parhau i ymladd yn erbyn lluoedd llywodraeth Affganistan.
- Mae’r Wladwriaeth Islamaidd/ISIL fel y‘i gelwir yn rheoli rhai ardaloedd wrth iddo recriwtio aelodau o’r Taliban.
