30

Ymchwilio i’r Gwanwyn Arabaidd a Libia

Y Gwanwyn Arabaidd

undefined

Llun: A collage for MENA protests - User:ليبي صح">ليبي © Creative Commons Attribution-Share Alike 3.0 Unported license

Cyfres o brotestiadau, terfysgoedd a rhyfeloedd a ddechreuodd ar 18 Rhagfyr 2010 yn Tiwnisia ar ffurf Chwyldro Tiwnisia oedd y Gwanwyn Arabaidd. Ymledodd ar draws gwledydd y Gynghrair Arabaidd a’r gwledydd cyfagos.

Dathliadau yn Cairo

undefined

Llun: Celebrations in Tahrir Square after Omar Soliman's statement that concerns Mubarak's resignation. February 11, 2011 - Jonathan Rashad © Creative Commons Attribution 2.0 Generic license

Erbyn mis Chwefror 2012, gorfodwyd  yr arweinwyr i ildio’u grym yn Tiwnisia, yr Aifft, Libia ac Iemen ac roedd gwrthryfeloedd wedi digwydd mewn sawl gwlad arall. 

Yn anffodus, trodd y Gwanwyn Arabaidd llawn gobaith yn Aeaf Arabaidd ofnadwy. 

Yng Ngorllewin Affrica, mae grŵp o derfysgwyr o’r enw Boko Haram wedi cymryd rheolaeth dros rannau o Ogledd Nigeria a’r ardaloedd cyfagos ger y ffin. Mae Boko Haram wedi dod yn rhan o’r wladwriaeth Islamaidd/ISIL fel y’i gelwir. 

  • Mae 2.3 miliwn o bobl wedi cael eu dadleoli gan wrthdaro Boko Haram ers mis Mai 2013.
  • Mae 250,000 o bobl wedi gadael Nigeria ac wedi ffoi i Gamerŵn, Chad neu Niger.
  • Mae Boko Haram wedi lladd dros 17,000 o bobl ers 2009, gan gynnwys dros 10,000 yn 2014.
  • Mae’r grŵp wedi cipio grwpiau o bobl, gan gynnwys 276 o ferched ysgol o Chibok ym mis Ebrill 2014.

Michelle Obama yn cofio merched Chibok

undefined

Llun: First Lady Michelle Obama holding a sign with the hashtag "#bringbackourgirls" in support of the 2014 Chibok kidnapping. Posted to the FLOTUS Twitter account on May 7, 2014. - Michelle Obama, Office of the First Lady © Public Domain

Libia

Mae Libia, yng ngogledd Affrica, wedi bod yn un o’r gwledydd mwyaf problemus ers y Gwanwyn Arabaidd. Roedd Libia wedi bod yn cael ei rheoli gan unben creulon – yr Arlywydd Gaddafi ers 1969. 

Roedd yr Arlywydd Gaddafi wedi bod yn cefnogi llawer o grwpiau o derfysgwyr rhyngwladol yn gwbl agored, gan gynnwys yr IRA. 

Roedd Libia’n gysylltiedig ag ymosodiadau terfysgol, gan gynnwys bomio’r awyren jet uwchben yr Alban, a laddodd 259 o deithwyr a chriw arni ynghyd ag 11 o bobl ar y ddaear.

undefined

Llun: Muammar al-Gaddafi at the 12th AU summit, February 2, 2009, in Addis Abeba. - U.S. Navy photo by Mass Communication Specialist 2nd Class Jesse B. Awalt/Released © Public Domain

Dechreuodd grwpiau o wrthwynebwyr ryfel cartref yn erbyn Gaddafi yn 2011. Ar y dechrau, cafod y grwpiau hyn eu trechu gan rym milwrol cryf y llywodraeth, yn enwedig y lluoedd arfog. Fodd bynnag, cafodd nifer o bobl ddiniwed eu dal yn yr ymladd, yn enwedig pan oedd yr awyrennau’n ymosod. Rhoddodd y Cenhedloedd Unedig awdurdod i’w haelodau weithredu er mwyn gwarchod pobl gyffredin.

undefined

Llun: Caricatures of Gadafi in old square, Street Al Oroba, Al Bayda - User:ليبي_صح © Creative Commons CC0 1.0 Universal Public Domain Dedication

Rhoddodd clymblaid rynglwadol, gan gynnwys Prydain, gefnogaeth y lluoedd awyr ac arfau i’r gwrthryfelwyr. Ym mis Hydref 2011, cafodd Gaddafi a’i uwch-arweinwyr/aelodau agos ei deulu eu lladd.

Y Gaeaf Arabaidd

Ar ôl 2011, gwaethygodd y sefyllfa i’r hyn sy’n cael ei alw’n Aeaf Arabaidd; nid oeddgrwpiau a oedd yn gwrthwynebu ei gilydd yn gallu cytuno ar lywodraeth newydd ac erbyn hyn mae chwech o grwpiau gwahanol yn rheoli rhannau gwahanol o Libia ac mae ymladd cyson. 

Un ffynhonnell arian bwysig i’r grwpiau hyn yw masnachu pobl drwy gymryd ffoaduriaid i Ewrop. 

Mae llawer o ffoaduriaid yn dioddef yn sgil camdrin ofnadwy gan y masnachwyr pobl, sy’n eu gorfodi i weithio fel caethweision neu ymladd ar ran y grwpiau os nad ydynt yn gallu fforddio i’w talu. 

Yn aml iawn, mae ymfudwyr sydd ag arian yn cael eu caethiwo gan y gangiau hyd nes y bydd cychod ar gael er mwyn sicehau nad ydynt yn mynd at gangiau eraill. Ychydig iawn o ymfudwyr sy’n cario arian parod ond mae eu teuluoedd gartref yn gallu cael eu gorfodi i drosglwyddo arian ar-lein neu ar ffôn symudol. 

Mae Libia’n ganolfan fawr ar gyfer smyglo pobl o’r ardaloedd canlynol:

  • Gweddill Gogledd Affrica
  • Irác a Syria
  • Affrica islaw Sahara – pobl sy’n dod o’r gorllewin ac sydd wedi cael eu gyrru allan gan y trais gan eithafwyr Islamaidd fel Boko Haram
  • Affrica islaw Sahara – pobl sy’n dod o Ddwyrain Affrica:
    • Somalia, sydd wedi cael ei dinistrio gan y grŵp eithafol al-Shabaab ac sy’n gysylltiedig ag al-Qaeda.
    • Eritrea, sy’n eithafol o safbwynt cam-drin hawliau dynol ac sy’n cefnogi ac yn ariannu al-Shabaab yn gwbl agored.
    • Swdan a De Swdan, sydd wedi dioddef yn ddiweddar yn sgil rhyfel cartref a cham-drin gan y llywodraeth sy’n cyfateb i hil-laddiad.

Mae Libia wedi troi’n fan gwyllt ac afreolus ac mae llawer o grwpiau’n ymladd er mwyn ceisio rheoli. Mae un ardal yn cael ei rheoli gan gangen leol o’r Wladwriaeth Islamaidd/ISIL fel y’i gelwir hyd yn oed.

undefined

undefined

Llun: Libyan Civil War - John Smith © Creative Commons Attribution 3.0 Unported license 

Gweithgaredd y disgyblion

Trafod a Phenderfynu

Beth yw ystyr ‘Y Gwanwyn Arabaidd’?

Trafod a Phenderfynu

Beth yw ystyr ‘Y Gaeaf Arabaidd’?

Help

Meddyliwch am yr hyn a ddigwyddodd yn Libia ac mewn gwledydd eraill yn Affrica. 

Trafod a Phenderfynu

Beth ddigwyddodd yn Chibok? 

Help

Edrychwch ar y ffotograff o Michelle Obama.

 

 

Gweithgaredd y disgyblion

Trafodwch y tri chwestiwn hyn mewn grŵp bach a pharatowch ‘feicro-gyflwyniad’ 30 eiliad er mwyn rhannu eich atebion gyda’ch dosbarth. Dim ond geiriau sydd mewn ‘meicro-gyflwyniad’; ddylech chi ddim defnyddio delweddau, posteri na meddalwedd PowerPoint.

 

Erthyglau eraill efallai y byddwch a diddordeb mewn Ymfudo o Fecsico i UDAYmfudo yn y DU a Gwneud penderfyniadau – Argyfwng yr Ymfudwyr.

Top

Mwy o’r rhifyn yma...

O ble mae mwyafrif yr ymfudwyr sy’n cyrraedd yr UE yn dod ar hyn o bryd?

O ble mae mwyafrif yr ymfudwyr sy’n cyrraedd yr UE yn dod ar hyn o bryd?

Ymchwilio i Syria ac Affganistan

Ymchwilio i Syria ac Affganistan