Dyma erthygl olaf y rhifyn yma a byddwch yn dysgu sut i ddefnyddio offeryn newydd, sef arolwg deubegynol. Mae’r math hwn o arolwg yn ein helpu ni i roi gwerth i sgôr i leoedd neu gynlluniau i’n helpu ni ddod i benderfyniad.
Caiff ei alw’n ddeubegynol oherwydd mae’n rhaid i chi roi sgôr rhwng dau begwn (neu eithafion); mae naill un yn dda iawn (positif) ac mae’r llall yn ddrwg iawn (negyddol). Dyma sampl isod. Rydyn ni wedi defnyddio Amcanion Cenedlaethau’r Dyfodol fel meini prawf mesur.
Petaech chi’n meddwl fod cynllun yn dda iawn, byddech yn rhoi sgôr o 3 iddo. Petaech chi’n meddwl fod cynllun yn wael iawn, byddech yn rhoi sgôr o -3 iddo. Petai’r cynllun yn ddi-ddrwg ac yn ddi-dda, byddech yn rhoi sgôr o 0 iddo.
Cyn i chi gwblhau’r tablau, atgoffwch eich hunain am ansoddau’r ffordd arfaethedig a sut mae’n osgoi tai a’r tir diwydiannol a thiroedd amaeth iselradd y bydd yn eu dilyn gyda’r lluniau hyn o’r fideo.
Lawrlwytho'r Excel - Cliciwch isod
Lawrlwytho'r PDF Bi-Polar - Cliciwch isod