39

Cynllunio Ffordd Liniaru yr M4

  • Fel dosbarth, gwyliwch y clip fideo.
  • Pam ydyn ni’n cynllunio?
  • Pwy sy’n paratoi cynlluniau ar gyfer eich ardal leol?
  • Beth yw’r NDF?

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Mae angen i bob penderfyniad newydd yng Nghymru gael eu pasio gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

 

Fideo: https://youtu.be/P0M-CnL9FBc

  • Beth yw’r pedair agwedd?
  • Faint o gyrff cyhoeddus yn gweithio gyda’i gilydd yng Nghymru?
  • Beth yw’r 7 amcan?
  • Dewch o hyd i ystyr y geiriau canlynol fel yr ymddangosant yn yr amcanion:
    • Llewyrchus
    • Hydwyth
    • Cydlynol
    • Bywiog
    • Llwyddiannus
    • Cyfrifol
  • Pwy/beth yw Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol?

Diffiniad

Yn y rhifyn diwethaf o Daearyddiaeth yn y Newyddion, fe wnaethon ni ddechrau edrych ar gynlluniau ar gyfer rhan newydd i draffordd yr M4 o gwmpas Casnewydd.

Byddai’r rhan newydd arfaethedig yn mynd â thrafnidiaeth y draffordd hyd at dde Casnewydd.

Mae’r ddadl hon wedi bod yn digwydd ers i drafodaethau i ddatrys y problemau ddigwydd ym 1993 – 24 blynedd!

  • Traffordd yr M4 yw’r ffordd bwysicaf yng Nghymru
    • Mae’n cysylltu de Cymru a gorllewin Cymru â gweddill y DU.
  • Mae'r rhan yng Nghasnewydd yn dal dros 100,000 o gerbydau bob dydd.
  • Mae 2/3 o Gynnyrch Domestig Gros (arian a enillwyd) Cymru gyfan yn dod o dir ar hyd draffordd yr M4 yn Ne Cymru.
  • Dydy'r rhan yng Nghasnewydd ddim yn cyrraedd safonau diogelwch presennol.
  • Mae’r lonydd yn symud o 8 i 4 wrth iddyn nhw symud drwy ddau dwnnel.
  • Bydd y gost rhwng £1-1.2 biliwn ond bydd buddion i’r economi rhwng £2.2-2.6 biliwn
    • yn fras, bydd yn ennill cymaint ddwywaith o arian â’r gost wreiddiol i Gymru.

Y Ffordd Arfaethedig (Y ffordd ddu)

Gwybodaeth 2016

 

Fideo: https://youtu.be/THbjdGT-4IE

A. Pa broblemau iechyd ydy'r tagfeydd ceir yn eu hachosi?

B. Faint o Gynnyrch Domestig Gros (arian a enillwyd) yng Nghymru yn cyd-fynd â rhan hon o’r M4?

C. Faint o opsiynau sydd wedi cael eu hystyried dros y blynyddoedd?

Ch. Pa ganran (%) o SoDdGA (Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig) lefelau Gwent gaiff ei heffeithio

 

Ar hyn o bryd, Gwanwyn 2017, mae ymchwiliad cyhoeddus i edrych ar y ffordd ddu, yr un mae Llywodraeth Cymru yn hoffi’r mwyaf, yn ogystal ag opsiynau eraill.

Rydyn ni’n mynd i edrych ar y ffordd ddu yn ogystal â’r ddau brif ddewis arall, sef:

  • Gwneud Dim
  • Ffordd arall, sef y Ffordd Las

Cofiwch wrth i ni edrych ar yr opsiynau mae’n rhaid i ni feddwl am saith amcan i’r Cenedlaethau Dyfodol:

  1. Cymru Lewyrchus
  2. Cymru Hydwyth
  3. Cymru Iachach
  4. Cymru fwy Cydradd
  5. Cymru â Chymunedau Cydlynol
  6. Cymru â Diwylliant Bywiog ac iaith Gymraeg Lwyddiannus
  7. Cymru Gyfrifiol drwy’r Byd i Gyd

Fideo Trosffordd

Câi’r fideo yma ei gynhyrchu i ddangos y ffordd arfaethedig (y ffordd ddu). Defnyddiwch hwn a’r map i’ch helpu i gwblhau’r tabl.

 

Fideo: https://youtu.be/8JDG2zROdPE

 

Lawrlwytho'r Map - Cliciwch isod

Lawrlwytho'r Map Ordnans - Cliciwch isod

 

Gweithgaredd

Defnyddiwch y Fideo Trosffordd a’r map/iau i lunio tabl yn disgrifio beth sy’n cael ei ddefnyddio gan rannau’r ffordd arfaethedig.

Dewiswch ymhlith:

  • Tir Amaeth
  • Diwydiant
  • Ffyrdd
  • Dŵr
  • Coetir
  • Tai

O

I

Gogledd

De

Cyffordd 23

Cyffordd 23A

 

 

 

 

Cyffordd 23A

Parc Ewro Gwent

 

 

 

 

Parc Ewro Gwent

Solutia Chemical Works

 

 

 

 

Solutia Chemical Works

Afon Wysg/Dociau Casnewydd

 

 

 

 

Afon Wysg/Dociau Casnewydd

Casbach

 

 

 

 


Ar ôl darllen y tair erthygl, a chwblhau’r gweithgareddau, defnyddiwch y daflen A3 atodedig i’ch helpu chi ddechrau ar DME i mewn i Ffordd Linaru arfaethedig yr M4.

Caiff yr adnodd ei gynllunio’n adnodd dosbarth cyfan o flaen y dosbarth ar daflunydd/bwrdd gwyn rhyngweithiol. Dylai’r gwaith graffig gwahanol gael ei egluro ar y testun, er na fydd yn ddarllenadwy gan y rhan fwyaf o’r disgyblion. Yn dilyn hwn, bydd yn ddelfrydol i’r disgyblion gael mynediad i’r adnoddau ar-lein er mwyn gweithio ar y daflen weithgaredd (i’w hargraffu ar dudalen A3). Yn ddelfrydol, caiff y gweithgareddau hyn eu cefnogi gan ddefnydd o ystafell rwydwaith, llechi/gliniaduron, neu ddyfeisiau/ffonau y disgyblion eu hunain os yw’n ganiataol. Sut bynnag, caiff y gweithgareddau eu cynllunio ar gyfer gwers un awr, gyda’r athro/athrawes yn defnyddio’r adnodd o flaen y dosbarth ynghyd â’r daflen adnodd. Gellir wedyn pennu gwaith cartref er mwyn i’r disgyblion astudio’r erthyglau o flaen llaw cyn y wers nesaf.

Mae’r adnodd a’r daflen wedi eu cynllunio i gefnogi’r FfLlRh tra bo’n rhoi gwybodaeth ddaearyddol bwysig i’r disgyblion am lefydd i’w gwneud â Ffordd Liniaru arfaethedig yr M4.

Naill ai yn y dosbarth neu yn y ty, darllenwch a chwblhewch y gweithgareddau yn yr erthygl adnodd ar-lein, ac yn yr erthyglau atodedig yn y rhifyn hwn o Ddaearyddiaeth yn y Newyddion. Ceisiwch gwblhau pob gweithgaredd sydd ar y daflen adnodd.

Beth fyddwch yn ei ddysgu:

  • Byddwch yn cyfoethogi’ch gwybodaeth am Ffordd Liniaru arfaethedig yr M4.
  • Byddwch yn cyfoethogi’ch dealltwriaeth o sut allai’r ffactorau hyn effeithio ar fod dynol a gweithgaredd dyn.
  • Cewch y cyfle i ddysgu neu ymarfer sgiliau llythrennedd a rhifedd pwysig.

Dysgwch dermau daearyddol newydd wedi’u hamlygu’n borffor. Dylai’r rhain gael eu dysgu, a’u hychwanegu i eirfa. Rhestr o eiriau yw geirfa, a’u hystyron. Gallech gael un ar gefnau eich llyfr ymarferion daearyddiaeth; os oes dyddiadur gennych, efallai bydd yn lle da i’w chadw, neu efallai cadwech eirfa neu lyfr geiriau ar wahân i’ch llyfr ymarferion. Mae geirfa dda yn yn eich helpu wella eich geirfa a’ch llythrennedd. Ymchwiliwch i ystyron gan ddefnyddio cynnwys perthnasol i’r erthyglau, trafodaethau neu eiriadur (naill ai ar y we neu lyfr).

Top

Mwy o’r rhifyn yma...

Gwrthwynebu'r Ffordd Ddu Arfaethedig

Gwrthwynebu'r Ffordd Ddu Arfaethedig

Amcanion Cenedlaethau'r Dyfodol a'r Ffordd Arfaethedig

Amcanion Cenedlaethau'r Dyfodol a'r Ffordd Arfaethedig