39

Gwrthwynebu'r Ffordd Ddu Arfaethedig

Mae’n costio gormod o arian, Mae De Cymru bob tro yn derbyn yr arian, a phobl o Dde Cymru yw’r bobl gyfoethocaf.

Dros y ddau rifyn diwethaf o Daearyddiaeth yn y Newyddion, rydyn ni wedi bod yn edrych ar wariant ar rwydwaith mewnol yng Nghymru, a’r prif brosiectau ers 2010 a’r prosiectau sydd wedi eu cynllunio ar gyfer y dyfodol. Dyma’r tablau o’r rhifyn diwethaf sy’n dangos sut mae cyfanswm y gwariant, a gwariant y person yn llawer is yng Nghanol De Cymru a Dwyrain De Cymru.

Gwariant y person ar Rwydwaith Mewnol gyda Ffordd Liniaru yr M4

Poblogaeth Gyfan

Gwariant y person

 

£ biliwn

Gogledd Cymru

20.341

571,500

£35,592

Canolbarth a Gorllewin Cymru

5.548

321,000

£17,283

Dwyrain De Cymru

1.758

641,000

£2,742

Canol De Cymru

1.853

722,200

£2,565

Gorllewin De Cymru

2.918

666,500

£4,378

 

Gwariant y person ar Rwydwaith Mewnol heb Ffordd Liniaru yr M4

Poblogaeth Gyfan

Gwariant y person

 

£ biliwn

Gogledd Cymru

20.341

571,500

£35,592

Canolbarth a Gorllewin Cymru

5.548

321,000

£17,283

Dwyrain De Cymru

1.158

641,100

£1,806

Canol De Cymru

1.285

722,200

£1,779

Gorllewin De Cymru

2.918

666,500

£4,378

M.A.Ll.C. (Mynegrif Amddifadedd Lluosog ar gyfer Cymru)

Pan rydyn ni’n edrych ar ba mor gyfoethog yw ardal, rydyn ni’n defnyddio’r M.A.Ll.C. (Mynegrif Amddifadedd Lluosog ar gyfer Cymru).

M.A.Ll.C. yw mesur swyddogol Llywodraeth Cymru o amddifadedd yng Nghymru. Diffyg mynediad i gyfleoedd ac adnoddau y mae disgwyl i ni gael yn ein cymdeithas yw amddifadedd. Gall hyn fod yn nhermau cael pethau, neu allu’r unigolyn i fyw bywyd normal yn y gymdeithas. Mae M.A.Ll.C. yn cyfuno’r wybodaeth ganlynol i mewn i fynegrif fel eu bod nhw’n haws i’w mesur.

  • Incwm
  • Cyflogaeth
  • Iechyd
  • Addysg
  • Mynediad i Wasanaethau
  • Diogelwch y Gymuned
  • Amgylchedd Corfforol
  • Tai

Bydd yn achosi niwed i amgylcheddau pwysig.
Mae’n wir y caiff y ffordd arfaethedig ei hadeliadu drwy rai SoDdGA (Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Ardderchog) lefelau Gwent. Sut bynnag, bydd dim ond 2% o’r safle yn cael ei cholli, a bydd gweddill y 98% yn cael ei gwella.

Bydd yn rhwystro Dociau Casnewydd rhag gweithio.
Bydd y bont arfaethedig dros Afon Wysg a Dociau Casnewydd yn rhwystro’r llongau uchaf rhag defnyddio rhannau o’r porthladdoedd. Sut bynnag, edrychwch eto ar y fideo, neu’r ciplun ohono, a gwelwch faint o’r dociau fydd yn cael eu heffeithio.

dociau casnewydd

Fydd y rhan fwyaf o’r dociau ddim yn cael eu heffeithio.

Mae yna ffordd well.
Mae rhai pobl yn cytuno fod yn rhaid i rywbeth gael ei wneud, ond bod yna ddewis gwell, sef ‘y Ffordd Las’.

Byddai’r ffordd las yn rhatach, wrth iddi gostio tua £350 miliwn. Byddai’n dilyn llwybr y Ffordd Ddosbarthu y De yng Nghasnewydd a gostiodd £55 miliwn, a chafodd ei hadeiladu yn 2004 i ddatrys problemau’r tagfeydd yng Nghasnewydd. Mae’n ffordd ddeuol gyda nifer o gyffyrdd a ffyrdd lleol, felly y gall gysylltu y cymunedau yn y ddau ben. Mae’n cysylltu Cyffordd 24 (Y Coldra) yr M4 yn nwyrain Casnewydd i gyffordd 28 (Parc Tredegar) yng ngorllewin Casnewydd.

Yn 2013, talodd Llywodraeth Cymru £13 miliwn i droi hen ffordd fynediad gwaith dur Llanwern yn ffodd ddeuol yn ymuno â’r Ffordd Ddosbarthu y De.

Rhoddir y ffordd las arfaethedig yn lle’r ffordd ddeuol 4 lôn, i greu ffordd ddeuol 4 lôn newydd. Sut bynnag, byddai’n cael gwared â chyffyrdd presennol â ffyrdd lleol, felly yn lle cysylltu’r cymunedau byddai’r ffordd yn eu rhannu.

Byddai’r ffordd hon yn rhoi’r drafnidiaeth bellach drwy’r ardaloedd preswyl, a dod â mwy o sŵn a llygredd i filoedd o bobl.

Trwy golli Ffordd Ddosbarthu y De, bydd Canol y Dref Casnewydd yn mynd yn ôl i dagfa eithaf y gorffennol. Darllenwch beth mae gan AS Casnewydd, Paul Flynn i’w ddweud amdani.

“Byddai ‘datrysiad’ y ffordd las yn waeth i Gasnewydd na dim newid o gwbl. Byddai’n dinistrio gweithrediad Ffordd Ddosbarthu y De drwy bentyrru trafnidiaeth yr M4 i ffordd sydd yn hollol lawn yn ystod y cyfnod penllanw. Yn waeth byth byddai rôl Ffordd Ddosbarthu y De i ddosbarthu trafnidiaeth o ddwyrain i orllewin, o ogledd i dde dinas yn cael ei dinistrio. Yn gyflym, rydyn ni wedi anghofio am y dagfa gronig wnaeth ddigwydd cyn i'r Ffordd Ddosbarthu y De agor yn 2004. Roedd hi’n benderfyniad mentrus gan y Cyngor i fuddsoddi llawer o arian i mewn i Ffordd Ddosbarthu y De ac i wynebu’r broblem o dagfeydd. Mae wedi gweithio ond mae tagfeydd wedi ymddangos eto. Byddai cynllun y Ffordd Las yn dod â thagfeydd tua’r flwyddyn 2004 yn ôl, a gyda phroblemau ychwanegol, byddai’n gwneud i Gasnewydd fod yn gymysgedd o lygredd a thagfeydd.”

AS Casnewydd, Paul Flynn

Gwneud Dim

Mae rhai pobl yn credu ei fod yn well i wneud dim byd am nifer o resymau. Mae rhai pobl yn credu y bydd ceir yn llenwi’r ffyrdd cyn gyflymed â chael eu hadeiladu. Mae rhai pobl yn credu ei fod yn well i wella trafnidiaeth gyhoeddus, ac mi fydd Metro De Cymru (gweler y ddau rifyn diwethaf o Daearyddiaeth yn y Newyddion) yn datrys y problemau.

Gyda lwc, bydd Metro De Cymru yn golygu y bydd  gan bobl sy’n byw yn y Cymoedd a threfi De Cymru ddewis arall i ddefnyddio car er mwyn teithio i ganol dinasoedd a threfi i weithio, siopa, a chymdeithasu.

Sut bynnag, bydd ei effeithiau yn isafol dros y deng mlynedd nesaf. Fydd e ddim yn helpu trafnidiaeth fusnes neu’r rheini sydd angen teithio yn rhywle arall i weithio fel yr ardaloedd diwydiannol, a safleoedd gweithio oddi cartref.

Mae gwneud dim wedi digwydd ers 1993, wrth i gynllunio ar gyfer y ffordd yma ddechrau. Ers hynny, mae economi Cymru wedi colli mwy o arian na fyddai wedi costio. A dros y degawdau nesaf bydd Cymru yn colli o leiaf dwbl y gost o’i adeiladu.

A cheisiwch gyfiawnhau hyn i breswylwyr Cymoedd Gwent a Chwmbrân sydd angen teithio dwy awr yn gynharach bob bore er mwyn osgoi’r tagfeydd ar eu ffordd i waith, ac wedyn eistedd o fewn y tagfeydd am un awr bob nos. Meddyliwch am faint o lygredd sy’n cael ei greu oherwydd y nifer o geir sydd yn y tagfeydd bob bore a phob nos. Beth am y busnesau sy’n colli degau o filyniau o bunnoedd, neu’r degau o filoedd o bobl ddi-waith o ganlyniad y diffyg gweithredu dros y 24 blynedd diwethaf?

Disgrifiodd Prif Weinidog diwethaf y DU yr M4 o gwmpas Casnewydd fel “troed dros gorn gwddf economi Cymru”.

Dyma pam mae Llywodraeth Cymru yn credu ei fod yn well i wella trafnidiaeth gyhoeddus gyda Metro De Cymru a chreu traffordd fwy gyda’r ffordd ddu arfaethedig.

Gweithgaredd

Darllenwch erthygl 1 a 2 yn ofalus. Os nad ydych wedi gwneud hyn yn barod, bwrwch olwg trwy’r wybodaeth ar rywdwaith mewnol yng Nghymru yn y ddau rifyn diwethaf o Daearyddiaeth yn y Newyddion.

Byddwch yn ofalus o fias; efallai ceisiwch ymchwilio i mewn i ffynonellau eraill.

Ar gyfer pob dewis:

  • Gwneud Dim
  • Y Ffordd Las
  • Y Ffordd Ddu

Lluniwch dabl syml i’ch helpu chi feddwl am bwyntiau positif a negyddol ar gyfer pob dewis.

Dewis

Positif

Negyddol

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Top

Mwy o’r rhifyn yma...

Cynllunio Ffordd Liniaru yr M4

Cynllunio Ffordd Liniaru yr M4

Amcanion Cenedlaethau'r Dyfodol a'r Ffordd Arfaethedig

Amcanion Cenedlaethau'r Dyfodol a'r Ffordd Arfaethedig