Dros y ddau rifyn diwethaf o Daearyddiaeth yn y Newyddion, rydyn ni wedi bod yn edrych ar wariant ar rwydwaith mewnol yng Nghymru, a’r prif brosiectau ers 2010 a’r prosiectau sydd wedi eu cynllunio ar gyfer y dyfodol.
Dyma’r tablau o’r rhifyn diwethaf sy’n dangos sut mae cyfanswm y gwariant, a gwariant y person yn llawer is yng Nghanol De Cymru a Dwyrain De Cymru.
Gwariant y person ar Rwydwaith Mewnol gyda Ffordd Liniaru yr M4 |
Poblogaeth Gyfan |
Gwariant y person |
|
|
£ biliwn |
||
Gogledd Cymru |
20.341 |
571,500 |
£35,592 |
Canolbarth a Gorllewin Cymru |
5.548 |
321,000 |
£17,283 |
Dwyrain De Cymru |
1.758 |
641,000 |
£2,742 |
Canol De Cymru |
1.853 |
722,200 |
£2,565 |
Gorllewin De Cymru |
2.918 |
666,500 |
£4,378 |
Gwariant y person ar Rwydwaith Mewnol heb Ffordd Liniaru yr M4 |
Poblogaeth Gyfan |
Gwariant y person |
|
|
£ biliwn |
||
Gogledd Cymru |
20.341 |
571,500 |
£35,592 |
Canolbarth a Gorllewin Cymru |
5.548 |
321,000 |
£17,283 |
Dwyrain De Cymru |
1.158 |
641,100 |
£1,806 |
Canol De Cymru |
1.285 |
722,200 |
£1,779 |
Gorllewin De Cymru |
2.918 |
666,500 |
£4,378 |
Pan rydyn ni’n edrych ar ba mor gyfoethog yw ardal, rydyn ni’n defnyddio’r M.A.Ll.C. (Mynegrif Amddifadedd Lluosog ar gyfer Cymru).
Mae M.A.Ll.C. yn mesur amddifadedd yng Nghymru.
Diffyg mynediad i gyfleoedd ac adnoddau y mae disgwyl i ni eu cael yw amddifadedd.
Gallai hyn olygu pethau go iawn, neu allu gwneud pethau normal mae sawl person arall yn gallu gwneud.
Mae M.A.Ll.C. yn cyfuno’r wybodaeth ganlynol i mewn i fynegrif fel eu bod nhw’n haws i’w mesur.
Bydd yn achosi niwed i amgylcheddau pwysig.
Mae’n wir y caiff y ffordd arfaethedig ei hadeliadu drwy 2% o SoDdGA (Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Ardderchog) lefelau Gwent.
Bydd yn rhwystro Dociau Casnewydd rhag gweithio.
Bydd y bont dros Afon Wysg a Dociau Casnewydd yn rhwystro’r llongau uchaf rhag defnyddio rhannau o’r porthladdoedd.
Edrychwch eto ar y fideo, neu’r ciplun yma, a gwelwch faint o’r dociau fydd yn cael eu heffeithio.
Fydd y rhan fwyaf o’r dociau ddim yn cael eu heffeithio.
Mae yna ffordd well.
Mae rhai pobl yn cytuno fod yn rhaid i rywbeth gael ei wneud, ond bod yna ddewis gwell, sef ‘y Ffordd Las’.
Byddai’r ffordd las yn rhatach, wrth iddi gostio tua £350 miliwn.
Byddai’n dilyn llwybr y ffordd ddeuol bresennol sydd, ar hyn o bryd, yn ymuno cyffordd 23 ym Magor â chyffordd 28 ym Mharc Tredegar.
Byddai’r ffordd las yn cael ei rhoi yn lle’r ffordd ddeuol 4 lôn, i greu ffordd ddeuol 4 lôn newydd.
Sut bynnag, byddai’n cael gwared â chyffyrdd presennol ac yn rhoi ffyrdd lleol yn eu lle, felly yn lle cysylltu’r cymunedau byddai’r ffordd yn eu rhannu nhw.
Byddai’r ffordd hon yn rhoi’r drafnidiaeth bellach drwy’r ardaloedd preswyl, a dod â mwy o sŵn a llygredd i filoedd o bobl.
Trwy golli Ffordd Ddosbarthu y De, bydd Canol y Dref Casnewydd yn mynd yn ôl i dagfa eithaf y gorffennol.
Darllenwch beth mae gan AS Casnewydd, Paul Flynn i’w ddweud amdani.
“Byddai ‘datrysiad’ y ffordd las yn waeth i Gasnewydd na dim newid o gwbl. Byddai cynllun y Ffordd Las yn dod â thagfeydd tua’r flwyddyn 2004 yn ôl, a gyda phroblemau ychwanegol, byddai’n gwneud i Gasnewydd fod yn gymysgedd o lygredd a thagfeydd.”
Mae rhai pobl yn credu ei fod yn well i wneud dim byd.
Mae rhai pobl yn credu y bydd ceir yn llenwi’r ffyrdd cyn gyflymed â chael eu hadeiladu. Mae rhai pobl yn credu ei fod yn well i wella trafnidiaeth gyhoeddus, ac mi fydd Metro De Cymru (gweler y ddau rifyn diwethaf o Daearyddiaeth yn y Newyddion) yn datrys y problemau.
Gyda lwc, bydd Metro De Cymru yn golygu y bydd gan bobl sy’n byw yn y Cymoedd a threfi De Cymru ddewis arall i ddefnyddio car er mwyn teithio i ganol dinasoedd a threfi i weithio, siopa, a chymdeithasu.
Sut bynnag, bydd ei effeithiau yn isafol dros y deng mlynedd nesaf.
Fydd e ddim yn helpu trafnidiaeth fusnes neu’r rheini sydd angen teithio yn rhywle arall i weithio fel yr ardaloedd diwydiannol, a safleoedd gweithio oddi cartref.
Mae gwneud dim wedi digwydd ers 1993, wrth i gynllunio ar gyfer y ffordd yma ddechrau.
Ers 1993, mae economi Cymru wedi colli mwy o arian na fyddai wedi costio. A dros y degawdau nesaf bydd Cymru yn colli o leiaf dwbl y gost o’i adeiladu eto.
A cheisiwch gyfiawnhau hyn i breswylwyr Cymoedd Gwent a Chwmbrân sydd angen teithio dwy awr yn gynharach bob bore er mwyn osgoi’r tagfeydd ar eu ffordd i waith, ac wedyn eistedd o fewn y tagfeydd am un awr bob nos.
Meddyliwch am faint o lygredd sy’n cael ei greu oherwydd y nifer o geir sydd yn y tagfeydd bob bore a phob nos.
Meddyliwch am y busnesau sy’n colli degau o filyniau o bunnoedd bob blwyddyn, neu’r degau o filoedd o bobl ddi-waith o ganlyniad y diffyg gweithredu dros y 24 blynedd diwethaf?
Disgrifiodd Prif Weinidog diwethaf y DU yr M4 o gwmpas Casnewydd fel “troed dros gorn gwddf economi Cymru”.
Dyma pam mae Llywodraeth Cymru yn credu ei fod yn well i:
Darllenwch erthygl 1 a 2 yn ofalus. Os nad ydych chi wedi gwneud hyn yn barod, bwrwch olwg trwy’r wybodaeth ar rwydwaith mewnol yng Nghymru yn y ddau rifyn diwethaf o Daearyddiaeth yn y Newyddion.
Byddwch yn ofalus o fias; efallai ceisiwch ymchwilio i mewn i ffynonellau eraill.
Ar gyfer pob dewis:
Lluniwch dabl syml i’ch helpu chi feddwl am bwyntiau da a drwg ar gyfer pob dewis.
Dewis |
|
Da |
Drwg |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|