39

Cynllunio Ffordd Liniaru yr M4

  • Fel dosbarth, gwyliwch y clip fideo.
  • Pam ydyn ni’n cynllunio?
  • Pwy sy’n paratoi cynlluniau ar gyfer eich ardal leol?
  • Beth yw’r NDF?

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Mae angen i bob penderfyniad newydd yng Nghymru gael eu pasio gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

 Fideo: https://youtu.be/P0M-CnL9FBc 

  • Beth yw’r pedair agwedd sy’n gydgysylltiedig?
  • Faint o gyrff cyhoeddus sy’n gweithio gyda’i gilydd yng Nghymru?
  • Beth yw’r 7 amcan cydgysylltiedig?
  • Eglurwch ystyron y termau hyn fel y maen nhw’n cael eu defnyddio yn yr amcanion:
    • Llewyrchus
    • Hydwyth
    • Cydlynol
    • Bywiog
    • Llwyddiannus
    • Cyfrifol
  • Pwy/beth yw Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol?

Diffiniad

Yn y rhifyn diwethaf o Daearyddiaeth yn y Newyddion, fe wnaethon ni ddechrau edrych ar ran arfaethedig newydd traffordd yr M4. Byddai’r rhan newydd arfaethedig yn mynd â thrafnidiaeth y draffordd hyd at dde Casnewydd. Mae’r ddadl hon wedi bod yn digwydd ers i drafodaethau i ddatrys y problemau ddigwydd ym 1993 – 24 blynedd!

  • Traffordd yr M4 yw’r ffordd bwysicaf yng Nghymru; mae’n cysylltu de Cymru a gorllewin Cymru â gweddill y DU.
  • Mae rhan Casnewydd yn dal dros 100,000 o gerbydau bob dydd.
  • Cafodd y rhan ei chynllunio yn y 1960au yn gyntaf, o dan yr enw “Ffordd Osgoi Casnewydd”, ac o ganlyniad nad yw’n cyrraedd safonau diogelwch i gael ei galw’n draffordd (oherwydd y troadau a’r dringfeydd (llethrau), nid oes ganddi ysgwydd galed o ran diogelwch, ac mae ganddi ormod o gyffyrdd heb fod ymhell.
  • Mae’r lonydd yn symud o 8 (tair lôn bob ffordd, yn ogystal ag ysgwydd galed) i 4 (dwy lôn bob ffordd) wrth iddyn nhw symud drwy dwnnel.
  • Mae astudiaethau dibynadwy yn amcangyfrif y bydd cost y prosiect yn £1-1.2 biliwn, ond bydd buddion y prosiect yn gwneud cyfanswm o £2.2-2.6 biliwn i’r economi. Bydd yn ennill cymaint ddwywaith o arian â’r gost wreiddiol i Gymru.

Y Ffordd Arfaethedig (Y ffordd ddu)

Gwybodaeth 2016

 

Fideo: https://youtu.be/THbjdGT-4IE 

A.   Pa broblemau amgylcheddol/iechyd gaiff eu hachosi gan y tagfeydd ceir?
B.   Pam mae’r M4 mor bwysig:

  1. Yn economaidd?
  2. Pa ffracsiwn o Gynnyrch Domestig Gros yng Nghymru yn cyd-fynd â rhan hon o’r M4?

C.   Faint o opsiynau sydd wedi cael eu hystyried dros y blynyddoedd?
Ch. Pa ganran o SoDdGA (Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig) lefelau Gwent gaiff ei heffeithio?
D.   Sut gaiff yr amgylchedd ei wella?

 

Ar hyn o bryd, Gwanwyn 2017, mae ymchwiliad cyhoeddus i edrych ar y ffordd ddethol (a gaiff ei galw y ffordd ddu yn y trafodaethau cynnar oherwydd y lliwiau ar y mapiau). Cofiwch wrth i ni edrych ar yr opsiynau fod angen i’r cynllunio i gyd gael ei ystyried yn nhermau’r 7 amcan i’r cenedlaethau dyfodol:

  1. Cymru Lewyrchus
  2. Cymru Hydwyth
  3. Cymru Iachach
  4. Cymru fwy Cydradd
  5. Cymru â Chymunedau Cydlynol
  6. Cymru â Diwylliant Bywiog ac iaith Gymraeg Lwyddiannus
  7. Cymru Gyfrifiol drwy’r Byd i Gyd

Fideo Trosffordd

Câi’r fideo yma ei gynhyrchu i ddangos y ffordd arfaethedig (y ffordd ddu). Defnyddiwch hwn a’r map i’ch helpu i gwblhau’r tabl.

Fideo: https://youtu.be/8JDG2zROdPE

 

Lawrlwytho'r Map - Cliciwch isod

Lawrlwytho'r Map Ordnans - Cliciwch isod

 

Gweithgaredd

Defnyddiwch fideo’r Drosffordd a’r map/iau i lunio tabl yn disgrifio beth sy’n cael ei ddefnyddio gan rannau’r ffordd arfaethedig.

O

I

Gogledd

De

Cyffordd 23

Cyffordd 23A

 

 

 

 

Cyffordd 23A

Parc Ewro Gwent

 

 

 

 

Parc Ewro Gwent

Solutia Chemical Works

 

 

 

 

Solutia Chemical Works

Afon Wysg/Dociau Casnewydd

 

 

 

 

Afon Wysg/Dociau Casnewydd

Casbach

 

 

 

 

Ar ôl darllen y tair erthygl, a chwblhau’r gweithgareddau, defnyddiwch y daflen A3 atodedig i’ch helpu chi ddechrau ar DME i mewn i Ffordd Linaru arfaethedig yr M4.

Caiff yr adnodd ei gynllunio’n adnodd dosbarth cyfan o flaen y dosbarth ar daflunydd/bwrdd gwyn rhyngweithiol. Dylai’r gwaith graffig gwahanol gael ei egluro ar y testun, er na fydd yn ddarllenadwy gan y rhan fwyaf o’r disgyblion. Yn dilyn hwn, bydd yn ddelfrydol i’r disgyblion gael mynediad i’r adnoddau ar-lein er mwyn gweithio ar y daflen weithgaredd (i’w hargraffu ar dudalen A3). Yn ddelfrydol, caiff y gweithgareddau hyn eu cefnogi gan ddefnydd o ystafell rwydwaith, llechi/gliniaduron, neu ddyfeisiau/ffonau y disgyblion eu hunain os yw’n ganiataol. Sut bynnag, caiff y gweithgareddau eu cynllunio ar gyfer gwers un awr, gyda’r athro/athrawes yn defnyddio’r adnodd o flaen y dosbarth ynghyd â’r daflen adnodd. Gellir wedyn pennu gwaith cartref er mwyn i’r disgyblion astudio’r erthyglau o flaen llaw cyn y wers nesaf.

Mae’r adnodd a’r daflen wedi eu cynllunio i gefnogi’r FfLlRh tra bo’n rhoi gwybodaeth ddaearyddol bwysig i’r disgyblion am lefydd i’w gwneud â Ffordd Liniaru arfaethedig yr M4.

Naill ai yn y dosbarth neu yn y ty, darllenwch a chwblhewch y gweithgareddau yn yr erthygl adnodd ar-lein, ac yn yr erthyglau atodedig yn y rhifyn hwn o Ddaearyddiaeth yn y Newyddion. Ceisiwch gwblhau pob gweithgaredd sydd ar y daflen adnodd.

Beth fyddwch yn ei ddysgu:

  • Byddwch yn cyfoethogi’ch gwybodaeth am Ffordd Liniaru arfaethedig yr M4.
  • Byddwch yn cyfoethogi’ch dealltwriaeth o sut allai’r ffactorau hyn effeithio ar fod dynol a gweithgaredd dyn.
  • Cewch y cyfle i ddysgu neu ymarfer sgiliau llythrennedd a rhifedd pwysig.

Dysgwch dermau daearyddol newydd wedi’u hamlygu’n borffor. Dylai’r rhain gael eu dysgu, a’u hychwanegu i eirfa. Rhestr o eiriau yw geirfa, a’u hystyron. Gallech gael un ar gefnau eich llyfr ymarferion daearyddiaeth; os oes dyddiadur gennych, efallai bydd yn lle da i’w chadw, neu efallai cadwech eirfa neu lyfr geiriau ar wahân i’ch llyfr ymarferion. Mae geirfa dda yn yn eich helpu wella eich geirfa a’ch llythrennedd. Ymchwiliwch i ystyron gan ddefnyddio cynnwys perthnasol i’r erthyglau, trafodaethau neu eiriadur (naill ai ar y we neu lyfr).

Top

Mwy o’r rhifyn yma...

Gwrthwynebu'r Ffordd Ddu Arfaethedig

Gwrthwynebu'r Ffordd Ddu Arfaethedig

Amcanion Cenedlaethau'r Dyfodol a'r Ffordd Arfaethedig

Amcanion Cenedlaethau'r Dyfodol a'r Ffordd Arfaethedig