Fideo: https://youtu.be/EchmRL8_W94
Fideo: https://youtu.be/P0M-CnL9FBc
Yn y rhifyn diwethaf o Daearyddiaeth yn y Newyddion, fe wnaethon ni ddechrau edrych ar ran arfaethedig newydd traffordd yr M4. Byddai’r rhan newydd arfaethedig yn mynd â thrafnidiaeth y draffordd hyd at dde Casnewydd. Mae’r ddadl hon wedi bod yn digwydd ers i drafodaethau i ddatrys y problemau ddigwydd ym 1993 – 24 blynedd!
Fideo: https://youtu.be/THbjdGT-4IE
A. Pa broblemau amgylcheddol/iechyd gaiff eu hachosi gan y tagfeydd ceir?
B. Pam mae’r M4 mor bwysig:
C. Faint o opsiynau sydd wedi cael eu hystyried dros y blynyddoedd?
Ch. Pa ganran o SoDdGA (Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig) lefelau Gwent gaiff ei heffeithio?
D. Sut gaiff yr amgylchedd ei wella?
Ar hyn o bryd, Gwanwyn 2017, mae ymchwiliad cyhoeddus i edrych ar y ffordd ddethol (a gaiff ei galw y ffordd ddu yn y trafodaethau cynnar oherwydd y lliwiau ar y mapiau). Cofiwch wrth i ni edrych ar yr opsiynau fod angen i’r cynllunio i gyd gael ei ystyried yn nhermau’r 7 amcan i’r cenedlaethau dyfodol:
Câi’r fideo yma ei gynhyrchu i ddangos y ffordd arfaethedig (y ffordd ddu). Defnyddiwch hwn a’r map i’ch helpu i gwblhau’r tabl.
Fideo: https://youtu.be/8JDG2zROdPE
Lawrlwytho'r Map - Cliciwch isod
Lawrlwytho'r Map Ordnans - Cliciwch isod
Defnyddiwch fideo’r Drosffordd a’r map/iau i lunio tabl yn disgrifio beth sy’n cael ei ddefnyddio gan rannau’r ffordd arfaethedig.
O |
I |
Gogledd |
De |
Cyffordd 23 |
Cyffordd 23A |
|
|
Cyffordd 23A |
Parc Ewro Gwent |
|
|
Parc Ewro Gwent |
Solutia Chemical Works |
|
|
Solutia Chemical Works |
Afon Wysg/Dociau Casnewydd |
|
|
Afon Wysg/Dociau Casnewydd |
Casbach |
|
|
Ar ôl darllen y tair erthygl, a chwblhau’r gweithgareddau, defnyddiwch y daflen A3 atodedig i’ch helpu chi ddechrau ar DME i mewn i Ffordd Linaru arfaethedig yr M4.
Caiff yr adnodd ei gynllunio’n adnodd dosbarth cyfan o flaen y dosbarth ar daflunydd/bwrdd gwyn rhyngweithiol. Dylai’r gwaith graffig gwahanol gael ei egluro ar y testun, er na fydd yn ddarllenadwy gan y rhan fwyaf o’r disgyblion. Yn dilyn hwn, bydd yn ddelfrydol i’r disgyblion gael mynediad i’r adnoddau ar-lein er mwyn gweithio ar y daflen weithgaredd (i’w hargraffu ar dudalen A3). Yn ddelfrydol, caiff y gweithgareddau hyn eu cefnogi gan ddefnydd o ystafell rwydwaith, llechi/gliniaduron, neu ddyfeisiau/ffonau y disgyblion eu hunain os yw’n ganiataol. Sut bynnag, caiff y gweithgareddau eu cynllunio ar gyfer gwers un awr, gyda’r athro/athrawes yn defnyddio’r adnodd o flaen y dosbarth ynghyd â’r daflen adnodd. Gellir wedyn pennu gwaith cartref er mwyn i’r disgyblion astudio’r erthyglau o flaen llaw cyn y wers nesaf.
Mae’r adnodd a’r daflen wedi eu cynllunio i gefnogi’r FfLlRh tra bo’n rhoi gwybodaeth ddaearyddol bwysig i’r disgyblion am lefydd i’w gwneud â Ffordd Liniaru arfaethedig yr M4.
Naill ai yn y dosbarth neu yn y ty, darllenwch a chwblhewch y gweithgareddau yn yr erthygl adnodd ar-lein, ac yn yr erthyglau atodedig yn y rhifyn hwn o Ddaearyddiaeth yn y Newyddion. Ceisiwch gwblhau pob gweithgaredd sydd ar y daflen adnodd.
Beth fyddwch yn ei ddysgu:
Dysgwch dermau daearyddol newydd wedi’u hamlygu’n borffor. Dylai’r rhain gael eu dysgu, a’u hychwanegu i eirfa. Rhestr o eiriau yw geirfa, a’u hystyron. Gallech gael un ar gefnau eich llyfr ymarferion daearyddiaeth; os oes dyddiadur gennych, efallai bydd yn lle da i’w chadw, neu efallai cadwech eirfa neu lyfr geiriau ar wahân i’ch llyfr ymarferion. Mae geirfa dda yn yn eich helpu wella eich geirfa a’ch llythrennedd. Ymchwiliwch i ystyron gan ddefnyddio cynnwys perthnasol i’r erthyglau, trafodaethau neu eiriadur (naill ai ar y we neu lyfr).