Fideo: https://youtu.be/EchmRL8_W94
Fideo: https://youtu.be/P0M-CnL9FBc
Yn y rhifyn diwethaf o Daearyddiaeth yn y Newyddion, fe wnaethon ni ddechrau edrych ar gynlluniau ar gyfer rhan newydd i draffordd yr M4 o gwmpas Casnewydd.
Byddai’r rhan newydd arfaethedig yn mynd â thrafnidiaeth y draffordd hyd at dde Casnewydd.
Mae’r ddadl hon wedi bod yn digwydd ers i drafodaethau i ddatrys y problemau ddigwydd ym 1993 – 24 blynedd!
Fideo: https://youtu.be/THbjdGT-4IE
A. Pa broblemau iechyd ydy'r tagfeydd ceir yn eu hachosi?
B. Faint o Gynnyrch Domestig Gros (arian a enillwyd) yng Nghymru yn cyd-fynd â rhan hon o’r M4?
C. Faint o opsiynau sydd wedi cael eu hystyried dros y blynyddoedd?
Ch. Pa ganran (%) o SoDdGA (Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig) lefelau Gwent gaiff ei heffeithio
Ar hyn o bryd, Gwanwyn 2017, mae ymchwiliad cyhoeddus i edrych ar y ffordd ddu, yr un mae Llywodraeth Cymru yn hoffi’r mwyaf, yn ogystal ag opsiynau eraill.
Rydyn ni’n mynd i edrych ar y ffordd ddu yn ogystal â’r ddau brif ddewis arall, sef:
Cofiwch wrth i ni edrych ar yr opsiynau mae’n rhaid i ni feddwl am saith amcan i’r Cenedlaethau Dyfodol:
Câi’r fideo yma ei gynhyrchu i ddangos y ffordd arfaethedig (y ffordd ddu). Defnyddiwch hwn a’r map i’ch helpu i gwblhau’r tabl.
Fideo: https://youtu.be/8JDG2zROdPE
Lawrlwytho'r Map - Cliciwch isod
Lawrlwytho'r Map Ordnans - Cliciwch isod
Defnyddiwch y Fideo Trosffordd a’r map/iau i lunio tabl yn disgrifio beth sy’n cael ei ddefnyddio gan rannau’r ffordd arfaethedig.
Dewiswch ymhlith:
O |
I |
Gogledd |
De |
Cyffordd 23 |
Cyffordd 23A |
|
|
Cyffordd 23A |
Parc Ewro Gwent |
|
|
Parc Ewro Gwent |
Solutia Chemical Works |
|
|
Solutia Chemical Works |
Afon Wysg/Dociau Casnewydd |
|
|
Afon Wysg/Dociau Casnewydd |
Casbach |
|
|
Ar ôl darllen y tair erthygl, a chwblhau’r gweithgareddau, defnyddiwch y daflen A3 atodedig i’ch helpu chi ddechrau ar DME i mewn i Ffordd Linaru arfaethedig yr M4.
Caiff yr adnodd ei gynllunio’n adnodd dosbarth cyfan o flaen y dosbarth ar daflunydd/bwrdd gwyn rhyngweithiol. Dylai’r gwaith graffig gwahanol gael ei egluro ar y testun, er na fydd yn ddarllenadwy gan y rhan fwyaf o’r disgyblion. Yn dilyn hwn, bydd yn ddelfrydol i’r disgyblion gael mynediad i’r adnoddau ar-lein er mwyn gweithio ar y daflen weithgaredd (i’w hargraffu ar dudalen A3). Yn ddelfrydol, caiff y gweithgareddau hyn eu cefnogi gan ddefnydd o ystafell rwydwaith, llechi/gliniaduron, neu ddyfeisiau/ffonau y disgyblion eu hunain os yw’n ganiataol. Sut bynnag, caiff y gweithgareddau eu cynllunio ar gyfer gwers un awr, gyda’r athro/athrawes yn defnyddio’r adnodd o flaen y dosbarth ynghyd â’r daflen adnodd. Gellir wedyn pennu gwaith cartref er mwyn i’r disgyblion astudio’r erthyglau o flaen llaw cyn y wers nesaf.
Mae’r adnodd a’r daflen wedi eu cynllunio i gefnogi’r FfLlRh tra bo’n rhoi gwybodaeth ddaearyddol bwysig i’r disgyblion am lefydd i’w gwneud â Ffordd Liniaru arfaethedig yr M4.
Naill ai yn y dosbarth neu yn y ty, darllenwch a chwblhewch y gweithgareddau yn yr erthygl adnodd ar-lein, ac yn yr erthyglau atodedig yn y rhifyn hwn o Ddaearyddiaeth yn y Newyddion. Ceisiwch gwblhau pob gweithgaredd sydd ar y daflen adnodd.
Beth fyddwch yn ei ddysgu:
Dysgwch dermau daearyddol newydd wedi’u hamlygu’n borffor. Dylai’r rhain gael eu dysgu, a’u hychwanegu i eirfa. Rhestr o eiriau yw geirfa, a’u hystyron. Gallech gael un ar gefnau eich llyfr ymarferion daearyddiaeth; os oes dyddiadur gennych, efallai bydd yn lle da i’w chadw, neu efallai cadwech eirfa neu lyfr geiriau ar wahân i’ch llyfr ymarferion. Mae geirfa dda yn yn eich helpu wella eich geirfa a’ch llythrennedd. Ymchwiliwch i ystyron gan ddefnyddio cynnwys perthnasol i’r erthyglau, trafodaethau neu eiriadur (naill ai ar y we neu lyfr).