Cofiwch y llun hwn o erthygl un; Defnyddiwch e gyda thabl poblogaethau pob Awdurdod Lleol a'u rhanbarthau i weithio allan y pethau pwysig o ran cynllunio yng Nghymru.
1. Beth yw’r gwahaniaeth rhwng enillion wythnosol yn Lloegr ac enillion wythnosol yng Nghymru?
2. Beth yw enillion wythnosol cyfartalog y DU?
3. Beth yw’r ganran gyfartalog o ddiweithdra yn y DU?
4. Pa wlad sydd â’r ganran uchaf o ddiweithdra?
5. Pa wlad sydd â’r ganran uchaf o bobl anabl?
6. Pa wlad ydych chi’n meddwl yw’r:
- wlad dlotaf - pam?
- wlad gyfoethocaf - pam?
Defnyddiwch y wybodaeth ganlynol o’r erthyglau blaenorol, a’r tabl o boblogaethau pob Awdurdod Lleol yng Nghymru i ateb y cwestiynau ar brif gostau rhwydwaith mewnol pob rhanbarth.
Gwariant y rhanbarth ar Rwydwaith Mewnol gyda Ffordd Liniaru yr M4 |
|
|
£ biliwn |
Gogledd Cymru |
20.341 |
Canolbarth a Gorllewin Cymru |
5.548 |
Dwyrain De Cymru |
1.758 |
Canol De Cymru |
1.853 |
Gorllewin De Cymru |
2.918 |
Gwariant y rhanbarth ar Rwydwaith Mewnol heb Ffordd Liniaru yr M4 |
|
|
£ biliwn |
Gogledd Cymru |
20.341 |
Canolbarth a Gorllewin Cymru |
5.548 |
Dwyrain De Cymru |
1.158 |
Canol De Cymru |
1.285 |
Gorllewin De Cymru |
2.918 |
Rhif |
Ardal |
Poblogaeth |
Rhanbarth |
1 |
Caerdydd |
357,200 |
Canol De Cymru |
2 |
Abertawe |
242,400 |
Gorllewin De Cymru |
3 |
Rhondda Cynon Taf |
237,400 |
Canol De Cymru |
4 |
Sir Gaerfyrddin |
185,100 |
Canolbarth a Gorllewin Cymru |
5 |
Caerffili |
180,200 |
Dwyrain De Cymru |
6 |
Sir y Fflint |
154,100 |
Gogledd Cymru |
7 |
Casnewydd |
147,800 |
Dwyrain De Cymru |
8 |
Pen-y-Bont ar Ogwr |
142,100 |
Gorllewin De Cymru |
9 |
Castell Nedd Port Talbot |
141,000 |
Gorllewin De Cymru |
10 |
Wrecsam |
136,600 |
Gogledd Cymru |
11 |
Powys |
132,600 |
Canolbarth a Gorllewin Cymru |
12 |
Bro Morgannwg |
127,600 |
Canol De Cymru |
13 |
Sir Benfro |
123,500 |
Canolbarth a Gorllewin Cymru |
14 |
Gwynedd |
122,900 |
Canolbarth a Gorllewin Cymru |
15 |
Conwy |
116,200 |
Gogledd Cymru |
16 |
Sir Ddinbych |
94,700 |
Gogledd Cymru |
17 |
Sir Fynwy |
92,500 |
Dwyrain De Cymru |
18 |
Torfaen |
91,800 |
Dwyrain De Cymru |
19 |
Ceredigion |
74,600 |
Canolbarth a Gorllewin Cymru |
20 |
Ynys Môn |
70,000 |
Gogledd Cymru |
21 |
Blaenau Gwent |
69,500 |
Dwyrain De Cymru |
22 |
Merthyr Tudful |
59,300 |
Dwyrain De Cymru |
7. Cyfrifwch y boblogaeth ym mhob rhanbarth.
8. Cyfrifwch wariant y person ym mhob rhanbarth:
+ Gyda Ffordd Liniaru yr M4 yn Nwyrain De Cymru/Canolbarth
+ Heb Ffordd Liniaru yr M4 yn Nwyrain De Cymru/Canolbarth
Rhannwch y swm sy’n cael ei wario gan y boblogaeth.
Dim ond ar ôl i chi gwblhau eich cyfrifon dylech chi edrych ar y tablau isod:
GYDA |
|||
Gwairiant y person ar Rwydwaith Mewnol gyda Ffordd Liniaru ar yr M4 |
Poblogaeth Gyfan |
Gwariant y person |
|
|
£ biliwn |
||
Gogledd Cymru |
20.341 |
571,500 |
£35,592 |
Canolbarth a Gorllewin Cymru |
5.548 |
321,000 |
£17,283 |
Dwyrain De Cymru |
1.758 |
641,000 |
£2,742 |
Canol De Cymru |
1.853 |
722,200 |
£2,565 |
Gorllewin De Cymru |
2.918 |
666,500 |
£4,378 |
HEB |
|||
Gwariant y person ar Rwydwaith Mewnol heb Ffordd Liniaru yr M4 |
Poblogaeth Gyfan |
Gwariant y person |
|
|
£ biliwn |
||
Gogledd Cymru |
20.341 |
571,500 |
£35,592 |
Canolbarth a Gorllewin Cymru |
5.548 |
321,000 |
£17,283 |
Dwyrain De Cymru |
1.158 |
641,100 |
£1,806 |
Canol De Cymru |
1.285 |
722,200 |
£1,779 |
Gorllewin De Cymru |
2.918 |
666,500 |
£4,378 |
Mae rhai pobl yn dadlau yn erbyn gwario arian yn ne Cymru achos maen nhw’n meddwl bod y bobl sy’n byw yna yn cael incymau cartref uwch (mwy o arian).
Sut bynnag, mae pob un o’r rhanbarthau hyn yn cynnwys Cymoedd De Cymru, sef rhannau yng Nghymru sydd â’r incymau cartref isaf.
9. Pa ardaloedd yng Nghymru sydd â’r incymau uchaf?
10. Pa ardaloedd yng Nghymru sydd â’r incymau isaf?
11. Sut ydy’r incymau ar draws Cymru yn cymharu â rhannau o Loegr y gallwch chi eu gweld?
Mae llawer o bobl yn byw yng Nghymoedd De Cymru (ardal ddwys ei phoblogaeth).
Nid yr ardaloedd tolotaf ydy’r rhain, ond mae ganddyn nhw lwyth o bobl yn byw yddyn nhw hefyd.
12. Pa rannau o Gymru sydd â’r poblogaethau niferus mwyaf?
13. Pa rannau o Gymru sydd ag incymau isel ond poblogaethau niferus? (Lot o bobl, a dim lot o arian).
Defnyddiwch y daflen A3 i’ch helpu chi ddisgrifio patrymau gwario ar rwydwaith mewnol yng Nghymru o gymharu â sut mae pobl yn byw mewn ardal (nifer poblogaeth) a pha mor dlawd neu gyfoethog (incwm y cartref) mae’r ardaloedd. Mae hwn yn rhan fawr o beth sydd angen i Lywodraeth Cymru ei wneud wrth edrych ar beth ddylen nhw wario ei chyllideb arno.
Yn y rhifyn nesaf o Daearyddiaeth yn y Newyddion, byddwn ni’n canolbwyntio ar Ffordd Liniaru arfaethedig yr M4, a’r dadlau o blaid ac yn erbyn ei chael. Mae’n fwy cymhleth na beth mae pobl yn ei sylweddoli.