38

Prosiectau Rhwydwaith Mewnol ar draws Cymru

Prosiectau Rhwydwaith Mewnol ar draws Cymru

Prosiectau Ynni

Yn 2014, fe wnaeth y Swyddfa Gymreig gydnabod 9 prosiect ynni yng Nghymru, ar wahanol gyfnodau o gynllunio, fel rhan o fuddsoddiad llywodraethol o gynhyrchu trydan, gwerth £110 biliwn.

  • Wylfa Newydd – £12 biliwn
  • Gorsaf Drydanol Bio-màs Alwminiwm Ynys Môn - £1 biliwn
  • Trydan Pen y Cymoedd - £365 miliwn
  • Trydan Gwynt y Môr - £2 biliwn
  • Llinell Drosglwyddo’r Canolbarth - £207 miliwn
  • Llinell Drosglwyddo Gogledd Cymru - £549 miliwn
  • Wylfa – Llinell Drosglwyddo HVDC Benfro - £672 miliwn
  • Dosraniad Nwy Cymru a de-orllewin Lloegr - £849 miliwn
  • Terfynfa LNG Amlwch - £330 miliwn
  • Morlyn Llanw Bae Abertawe - £1 biliwn
  • Cyfanswm - £18.972 biliwn

Hefyd, cofiwch fuddsoddiad gwerth £3.25 biliwn i mewn i’r terfynfeydd LNG, piblinellau, a phwerdai sydd â’u lleoliad yn Aberdaugleddau yng ngorllewin Cymru.

Y cyfanswm bris o brosiectau ar sail ynni yw £21.2 biliwn ers 2012, naill ai’n cael eu cynllunio, eu hadeiladu, neu wedi’u gorffen

Rhaglen Datblygu Wledig

Mae’r Rhaglen Datblygu Wledig yn werth £953 miliwn; £47 miliwn yn llai na’r lefel werth £1 biliwn rhwng Mai 2015 (a gytunwyd gan bartneriaid UE) a 2020. Mae’r Rhaglen Datblygu Wledig yn canolbwyntio ar heriau’r ardaloed sydd â phoblogaeth brin, ac wedi ei hanelu at wella amaeth a’r amgylchedd. Mae’n canolbwyntio ar y 9 awdurdod lleol mwyaf gwledig – Ynys Môn; Gwynedd; Conwy; Sir Ddinbych; Powys; Ceredigion; Sir Benfro; Sir Gaerfyrddin; a Sir Fynwy. Mae’r meini prawf sydd eu hangen i fod yn ardal wledig wedi cael eu gosod gan yr UE, sy’n darparu’r ffynonellau cronnol. I ddod o hyd i fwy o wybodaeth am broblemau gwledig, ewch i rifyn 13 o Daearyddiaeth yn y Newyddion (sylwch y sicrhaodd yr arian ychwanegol wrth i Lywodraeth Cymru roi’r £953 miliwn).

Band Eang

Mae nifer o rannau o Ganolbarth a Gorllewin Cymru wedi derbyn prin iawn o fynediad i fand eang cyflym. Gwariodd Llywodraeth Cymru £225 miliwn er mwyn cael band eang gor-gyflym a fydd yn cysylltu hyd at 96% o gyfeiriadau erbyn diwedd 2017. Edrychwch ar y map isod i weld ble’r oedd angen i’r rhan fwyaf o’r arian gael ei wario.

Cymerwch olwg ar rifyn 8 o Daearyddiaeth yn y Newyddion.

Cynlluniau ar gyfer Dinas-Ranbarthau 

Caiff ei awgrymu y bydd Cymru o fudd yn uniongyrchol oherwydd dwy Ddinas-Ranbarth arfaethedig; Dinas-Ranbarth Caerdydd, a Dinas-Ranbarth Abertawe.

 

URL - https://www.youtube.com/watch?v=H83Va9ET0BA

Yn Ne Cymru, mae cynlluniau dinas-ranbarthol ar eu blaen, yn cynnwys 10 o ardaloedd awdurdod lleol er mwyn creu Dinas-Ranbarth Caerdydd. Byddai’r Ddinas-Rhanbarth â’i lleoliad o gwmpas y brifddinas yng Nghaerdydd, ac yn helpu cysylltu Cymoedd De Cymru ag ardaloedd dinesig fel Casnewydd, Cwmbrân a Phen-y-Bont ar Ogwr. Bydd trafnidiaeth gyhoeddus yn cael ei gwella gyda rhwydwaith newydd o fysiau, trenau, tramiau a thrafnidiaeth dram cyflym yn cael ei adeiladu, a chaiff ei alw’n Fetro De Cymru. Bydd Cynllun Dinas-Ranbarth Caerdydd yn costio £1.2 biliwn o arian cyhoeddus, £500 miliwn o Lywodraeth y DU, £500 miliwn o Lywodraeth Cymru, ac o leiaf £120 miliwn o’r 10 awdurdod lleol.

metro de cymru

Llun: http://gov.wales/docs/det/publications/160224-potential-metro-map-image-cy.gif

Mae Abertawe a gorllewin Cymru wedi cynnig cynlluniau ar gyfer Dinas-Ranbarth; bydd yn costio £1.3 biliwn, mae’n debyg, gyda £241 miliwn yn cael eu talu gan Lywodraethau y DU a Chymru; £360 miliwn yn cael eu benthyca gan yr awdurdodau lleol (Abertawe, Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, a Chastell Nedd Port Talbot), a’r gweddill oddi wrth fusnesau preifat.

Prosiectau Trafnidiaeth

Edrychon ni ar broblemau trafnidiaeth yn rhifyn 8 o Daearyddiaeth yn y Newyddion.

Yng ngogledd Cymru, y brif ffordd o’r dwyrain i’r gorllewin yw’r A55:

  • Mae Prosiect Coridor Glannau Dyfrdwy, prosiect arfaethedig a fydd yn costio £200 miliwn, ar fin cael ei gynllunio er mwyn gwella trafnidiaeth ffyrdd o’r dwyrain i’r gorllewin yng ngogledd Cymru.
  • Caiff £22 miliwn ei gwario ar Wella Ffordd Abergwyngregyn i Dai’r Meibion.
  • Bydd angen i o leia’r un swm o arian gael ei wario ar gynllun i adeiladu cyffyrdd newydd i gymryd lle’r cylchfannau yn Llanfairfechan (Cyffordd 15) a Phenmaenmawr (Cyffordd 16).
  • Mae’r cynllunio yn symud ymlaen yn gyflym o ran gwella trafnidiaeth i Ynys Môn, ac mae gwell gan Lywodraeth Cymru bresennol adeiladu croesfan hollol newydd, er nad yw unrhyw beth wedi cael ei derfynu eto o ran cyfarfodydd cynllunio. Mae’r gost arfaethedig yn £133 miliwn.

Yn barod yn 2017, mae Llywodraeth Cymru wedi dechrau ar brosiectau bach a fydd yn creu rhan o Fetro Gogledd Cymru, a ddylai gystadlu â Metro De Cymru, gyda chost debyg o £500 miliwn. Yn y flwyddyn hon, câi £50 miliwn ei neilltuo, ond ni all datblygiad ar raddfa fawr ddigwydd tan i fasnachfraint ddifrifol gael ei diddymu yn 2018.

metro gog cym

Llun: http://www.welshlabour.wales/nwmetro

I dde Powys yw’r A465, ac mae £880 miliwn yn cael ei gwario arno ar hyn o bryd. Mae’r ffordd hon yn gyswllt pwysig rhwng Canolbarth a Gorllewin Cymru, a de Cymru, yn ogystal â ‘Phennau’ Cymoedd De Cymru.

trunkroads

Llun: http://gov.wales/topics/transport/roads/schemes/?skip=1&lang=cy

Cymerwch olwg ar welliannau presennol ac arfaethedig ar wefan Llywodraeth Cymru.

 

Ar hyn o bryd, mae £1 biliwn o arian y DU yn cael ei gwario yn ne Cymru ar drydaneiddio’r brif reilffordd rhwng Abertawe a Llundain.

Gyda’r holl biliynau yn cael eu buddsoddi o gwmpas Cymru, mae un prosiect sydd â chost arfaethedig o rhwng £1-1.2 bilwn yn derbyn sylw negyddol yn bennaf. Dyma ran newydd arfaethedig i draffordd yr M4. Byddai’r rhan newydd arfaethedig yn mynd â thrafnidiaeth y draffordd hyd at dde Casnewydd. Mae’r ddadl hon wedi bod yn digwydd ers i drafodaethau ddigwydd i ddatrys y problemau ym 1993 – 24 blynedd!

  • Traffordd yr M4 yw’r ffordd bwysicaf yng Nghymru; mae’n cysylltu de Cymru a gorllewin Cymru â gweddill y DU.
  • Mae rhan Casnewydd yn dal dros 100,000 o gerbydau bob dydd.
  • Cafodd y rhan ei chynllunio yn y 1960au yn gyntaf, o dan yr enw “Ffordd Osgoi Casnewydd”, ac o ganlyniad nad yw’n cyrraedd safonau diogelwch i gael ei galw’n draffordd (oherwydd y troadau a’r dringfeydd (llethrau), nid oes ganddi ysgwydd galed o ran diogelwch, ac mae ganddi ormod o gyffyrdd heb fod ymhell.
  • Mae’r lonydd yn symud o 8 (tair lôn bob ffordd, yn ogystal ag ysgwydd galed) i 4 (dwy lôn bob ffordd) wrth iddyn nhw symud drwy dwnnel.
  • Mae astudiaethau dibynadwy yn amcangyfrif y bydd cost y prosiect yn £1-1.2 biliwn, ond bydd buddion y prosiect yn gwneud cyfanswm o £2.2-2.6 biliwn i’r economi. Bydd yn ennill cymaint ddwywaith o arian â’r gost wreiddiol i Gymru.
  • Ers i drafodaethau ddechrau, mae busnesau lleol wedi colli dros £1 biliwn oherwydd y tagfeydd yn unig. Dros £50 miliwn bob blwyddyn. Bob dydd, mae miloedd o bobl yn cael eu dal mewn tagfeydd sy’n para milltiroedd. Mae’r problemau hyn wedi atal buddsoddiadau busnes ar draws y Canolbarth, gorllewin a de Cymru.

Gweithgaredd

  1. Adiwch i fyny costau rhwydwaith mewnol yr holl brosiectau o’r ffynonellau a grybwyllwyd.
  2. Ceisiwch eu rhannu i mewn i grwpiau o faint y bydd yn cael ei wario ym mhob un o’r pum rhanbarth yng Nghymru.
  3. Ewch drwy bob eitem yn yr erthygl.
  4. Gwnewch nodiadau’n fras ar gyfer pob rhanbarth.
  5. Os mae’r prosiect yn ymddangos mewn mwy nag un rhanbarth, rhannwch y rhanbarth i awdurdodau lleol, ac wedyn defnyddiwch hyn i weithio allan faint fydd y cyfanswm ar gyfer pob rhanbarth.
  6. Nid oes ateb hollol gywir neu’n anghywir ar gyfer yr ymarfer yma, oherwydd mae’n rhaid i chi wneud penderfyniadau ac amcangyfrif, ond dylai’r ateb edrych rhywbeth fel yr ateb hwn:

 

£ biliwn

Gogledd Cymru

20.341

Canolbarth a Gorllewin Cymru

5.548

Dwyrain De Cymru

1.758

Canol De Cymru

1.853

Gorllewin De Cymru

2.918

Top

Mwy o’r rhifyn yma...

Trosolwg ar Rwydwaith Mewnol

Trosolwg ar Rwydwaith Mewnol

Gwariant y person ar Rwydwaith Mewnol yng Nghymru

Gwariant y person ar Rwydwaith Mewnol yng Nghymru