38

Trosolwg ar Rwydwaith Mewnol

Trosolwg ar Rwydwaith Mewnol

 

URL: https://www.youtube.com/watch?v=lMaVAjNohZY 

  1. Fel dosbarth gwyliwch y clip fideo.
  2. Faint o arian fydd yn cael ei wario?
  3. Ble fydd yr arian yn cael ei wario?
  4. Ydych chi’n meddwl ei fod yn deg i wario gymaint o arian â hyn yn y rhanbarth yma o Gymru?
    Pam?

Diffiniad

Yn y rhifyn diwethaf o Daearyddiaeth yn y Newyddion, fe wnaethon ni ddechrau edrych ar rwydwaith mewnol o fewn Cymru a’r DU.

Popeth sydd ei angen ar economi lle yw rhwydwaith mewnol.

Sut mae lle yn ennill arian yw’r economi.

Cydweddiad

  • Os oes cynhwysion penodol ar goll, fydd y deisen ddim cystal ag y medrai fod
  • Meddyliwch am yr economi fel teisen.
  • Meddyliwch am rwydwaith mewnol fel cynhwysion iddi.
  • Po fwya’r cynhwysion sydd gennych, po fwyaf y deisen.

Mae pob rhanbarth yng Nghymru yn tueddi i fod yn gystadleuol yn erbyn rhanbarthau eraill.

Weithiau, rydyn ni’n meddwl bod rhannau eraill yng Nghymru yn cael cynigion gwell nag ein rhan ni o Gymru.

Yn swyddogol, caiff Cymru ei rhannu’n 22 Awdurdod Lleol; mae’r awdurdodau hyn yn creu 5 rhanbarth swyddogol, ac mae’r awdurdodau lleol yn cydweithio er mwyn darparu gwasanaethau.

   
Gogledd Cymru Ynys Môn
  Conwy
  Sir Ddinbych
  Sir y Fflint
  Wrecsam
   
Canolbarth a Gorllewin Cymru Gwynedd
  Powys
  Ceredigion
  Sir Gaerfyrddin
  Sir Benfro
   
Gorllewin De Cymru Abertawe
  Castell Nedd Port Talbot
  Pen-y-Bont ar Ogwr
   
Canol De Cymru Rhondda Cynon Taf
  Caerdydd
  Bro Morgannwg
   
Dwyrain De Cymru Merthyr Tudful
  Blaenau Gwent
  Caerffili
  Torfaen
  Casnewydd
  Sir Fynwy

Map o Gymru

Llun: Wales Administrative Map 2009 - XrysD © Wikimedia Commons o dan GNU Free Documentation License, Fersiwn 1.2

Poblogaethau Awdurdodau Lleol

Rhif

Ardal

Poblogaeth

Dwysedd poblogaeth/km²

1

Caerdydd

357,200

2,534

2

Abertawe

242,400

638

3

Rhondda Cynon Taf

237,400

559

4

Sir Gaerfyrddin

185,100

78

5

Caerffili

180,200

649

6

Sir y Fflint

154,100

352

7

Casnewydd

147,800

775

8

Pen-y-Bont ar Ogwr

142,100

566

9

Castell Nedd Port Talbot

141,000

319

10

Wrecsam

136,600

271

11

Powys

132,600

25

12

Bro Morgannwg

127,600

385

13

Sir Benfro

123,500

76

14

Gwynedd

122,900

48

15

Conwy

116,200

103

16

Sir Ddinbych

94,700

113

17

Sir Fynwy

92,500

108

18

Torfaen

91,800

730

19

Ceredigion

74,600

41

20

Ynys Môn

70,000

98

21

Blaenau Gwent

69,500

639

22

Merthyr Tudful

59,300

532

Weithiau mae rhannau gwahanol o Gymru yn cwyno pan mae rhan arall yn cael llawer o arian i’w wario ar brosiect mawr.

Fodd bynnag, dylen ni fod eisiau i bob rhan o Gymru lwyddo oherwydd bydd hyn yn gwneud i’r economi dyfu. Mae rhannu teisen fwy yn golygu y bydd pob person ungiol yn cael fwy o deisen i’w bwyta!

Mae’n gynorthwyol defnyddio cydweddiad arall i ddeall hyn.

Meddyliwch am y 22 Awdurdod Lleol fel 23 o chwaraewyr rygbi.

O fewn y tîm yw grwpiau penodol o chwaraewyr, sef y blaenwyr, yr hanerwyr, y cefnwyr a’r chwaraewyr ar y fainc.

Fydd y tîm ddim yn llwyddo os nad yw’r chwaraewyr unigol yn llwyddo.

Dydy’r cefnwyr byth yn beirniadu’r blaenwyr am chwarae’n dda a chael y bêl am y rhan fwyaf o’r gêm.

Mae’n rhyfedd, felly, i ranbarthau o Gymru fod yn genfigennus wrth i ranbarth arall dderbyn prosiect rhwydwaith mewnol mawr.

Yn bennaf yng Nghymru, wrth i bobl mewn un rhanbarth fod yn genfigennus, mae’n debyg dydyn nhw ddim yn cofio pryd cawson eu tro, neu dydyn nhw ddim yn sylweddoli mai nhw fydd nesaf.

Prosiectau

Cafodd y prosiect rhwydwaith mewnol diwethaf yng Nghymru ei gwblhau yn 2012, ac roedd yn werth £3.25 biliwn:

  • Yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru oedd e.
  • Cafodd 2 le newydd eu hadeiladu er mwyn derbyn nwy naturiol hylifedig (LNG) ar long.
  • Cafodd piblinell ei hadeiladu ar draws Cymru i gysylltu’r cyfleusterau hyn â Lloegr.
  • Cafodd gorsaf nwy newydd ei hadeiladu.

Ar hyn o bryd, mae Cytundeb Dinesig Rhanbarth Caerdydd, sy’n costio £1.2 biliwn, yn cynnwys y 10 Awdurdod Lleol rhwng Dwyrain De Cymru, Canol De Cymru, Gorllewin De Cymru a Phen-y-Bont ar Ogwr.

Mae Gorllewin Cymru a Gorllewin De Cymru wedi dechrau cynllunio ‘Cytundeb Dinesig’ gwerth £1.3 biliwn, a biliwn bunt ychwanegol er mwyn adeiladu morlyn llanw ym Mae Abertawe.

Mae’r tri rhanbarth yn Ne Cymru yn elwa oherwydd i biliwn o bunnoedd gael eu gwario ar y brif reilffordd rhwng Llundain ac Abertawe.

Caiff ei awgrymu fod angen i £1-1.2 biliwn gael ei gwario er mwyn datrys problem y dagfa ar draffordd yr M4 i’r dwyrain i Gasnewydd.

Fodd bynnag, mae cyfanswm cost yr holl brosiectau sydd wedi eu crybwyll hyd yn hyn yn llai na chyfanswm y prosiect i adeiladu Gorsaf Ynni Niwclear yng Ngogledd Cymru – sef £12 biliwn.

Wrth edrych ar wariannau ar rwydwaith mewnol, mae’n werth edrych ar sawl person sy’n byw mewn ardal. Ffordd dda o ddod o hyd i’r wybodaeth hon yw edrych ar fap sy’n dangos dwysedd poblogaeth.

Nifer Poblogaeth

Llun: Population density map in Wales from the 2011 census - SkateTier © Wikimedia Commons o dan drwydded Creative Commons Attribution-Share Alike 3.0 Unported.

Wrth i chi edrych ar ddwysedd poblogaeth hefyd, mae’n glir fod y gwariant yn Ne Cymru yn llawer is y person na gwariant mewn llefydd eraill yng Nghymru.

Mae’n bwysig ein bod ni’n gwario er mwyn i ni gael y gorau o Gymru.

Mae gwella’r economi yn bwysig iawn achos mae Cymru yn wynebu’r heriau mwyaf o fewn y Deyrnas Unedig; cymerwch olwg ar y llun hwn o SYG (Swyddfa Ystadegau Gwladol).

Llun: Profile of WalesOffice for National Statistics © Wikimedia Commons o dan yr Open Government Licence v1.0

  • Mae gan Gymru y boblogaeth hynaf
  • Mae Cymru yn cyfrannu at 5% o boblogaeth y DU, ond 4% o allgynnyrch economaidd.
  • Mae gan Gymru y rhannau uchaf o boblogaeth anabl.
  • Mae gan Gymru y lefel uchaf o ddiweithdra.
  • Mae gan Gymru yr enillion isaf.

Wrth wynebu’r problemau hyn, dylen ni i gyd gefnogi unrhyw brosiect a allai wella economi Cymru a’n helpu ni ddal i fyny gyda gweddill y DU.

Gweithgaredd

Atebwch y cwestiynau hyn:

  1. Pam byddai’n o fudd i ogledd Cymru petai de Cymru yn ennill llawer o arian ar wario ar rwydwaith mewnol?
  2. Pam ydy e’n bwysig fod Cymru yn gwneud popeth y gall er mwyn gwella ei heconomi (sef ennill arian)?

Ar ôl darllen y tair erthygl, a chwblhau’r gweithgareddau, defnyddiwch y daflen A3 atodedig i’ch helpu chi ddechrau ar DME i mewn i brosiectau gwario ar rwydwaith mewnol yng Nghymru.

Caiff yr adnodd hyn ei gynllunio’n adnodd dosbarth cyfan o flaen y dosbarth ar daflunydd/bwrdd gwyn rhyngweithiol. Dylai’r gwaith graffig gwahanol gael ei egluro ar y testun, er na fydd yn ddarllenadwy i’r rhan fwyaf o’r disgyblion. Yn dilyn hwn, bydd yn ddelfrydol i’r disgyblion gael mynediad i’r adnoddau ar-lein er mwyn gweithio ar y daflen weithgaredd (i’w hargraffu ar dudalen A3). Yn ddelfrydol, caiff y gweithgareddau hyn eu cefnogi gan ddefnydd o ystafell rwydwaith, llechi/gliniaduron, neu ddyfeisiau/ffonau y disgyblion eu hunain os yw’n ganiataol. Sut bynnag, caiff y gweithgareddau eu cynllunio ar gyfer gwers un awr, gyda’r athro/athrawes yn defnyddio’r adnodd o flaen y dosbarth ynghyd â’r daflen adnodd. Gellir wedyn pennu gwaith cartref er mwyn i’r disgyblion astudio’r erthyglau o flaen llaw cyn y wers nesaf.

Mae’r adnodd a’r daflen wedi eu cynllunio i gefnogi’r FfLlRh tra bo’n rhoi gwybodaeth ddaearyddol bwysig i’r disgyblion am lefydd i’w gwneud â phrosectiau ar rwydwaith mewnol.

Naill ai yn y dosbarth neu yn y tŷ, darllenwch a chwblhewch y gweithgareddau yn yr erthygl adnodd ar-lein, ac yn yr erthyglau atodedig yn y rhifyn hwn o Ddaearyddiaeth yn y Newyddion. Ceisiwch gwblhau pob gweithgaredd sydd ar y daflen adnodd.

Beth fyddwch yn ei ddysgu:

  • Byddwch yn cyfoethogi’ch gwybodaeth am rwydwaith mewnol.
  • Byddwch yn cyfoethogi’ch dealltwriaeth o sut allai’r ffactorai hyn effeithio ar fod dynol a gweithgaredd dyn.
  • Cewch y cyfle i ddysgu neu ymarfer sgiliau llythrennedd a rhifedd pwysig.

Dysgwch dermau daearyddol newydd wedi’u hamlygu’n borffor. Dylai’r rhain gael eu dysgu, a’u hychwanegu i eirfa. Rhestr o eiriau yw geirfa, a’u hystyron. Gallech gael un ar gefnau eich llyfr ymarferion daearyddiaeth; os oes dyddiadur gennych, efallai bydd yn lle da i’w chadw, neu efallai cadwech eirfa neu lyfr geriau ar wahân i’ch llyfr ymarferion. Mae geirfa dda yn eich helpu wella eich geirfa a’ch llythrennedd. Ymchwiliwch i ystyron gan ddefnyddio cynnwys perthnasol i’r erthyglau, trafodaethau neu eiriadur (naill ai ar y we neu lyfr).

Top

Mwy o’r rhifyn yma...

Prosiectau Rhwydwaith Mewnol ar draws Cymru

Prosiectau Rhwydwaith Mewnol ar draws Cymru

Gwariant y person ar Rwydwaith Mewnol yng Nghymru

Gwariant y person ar Rwydwaith Mewnol yng Nghymru