38

Prosiectau Rhwydwaith Mewnol ar draws Cymru

Prosiectau Rhwydwaith Mewnol ar draws Cymru

Prosiectau Ynni

Dyma’r prosiectau ynni mwyaf yng Nghymru sy’n cael eu hadeiladu neu gynllunio.

  • Wylfa Newydd - £12 biliwn
  • Gorsaf Drydanol Bio-màs Alwminiwm Ynys Môn - £1 biliwn
  • Trydan Pen y Cymoedd - £365 miliwn
  • Trydan Gwynt y Môr - £2 miliwn
  • Llinell Drosglwyddo’r Canolbarth - £207 miliwn
  • Llinell Drosglwyddo Gogledd Cymru - £549 miliwn
  • Wylfa – Llinell Drosglwyddo HVDC Benfro - £672 milwn
  • Dosraniad Nwy Cymru a de-orllewin Lloegr - £849 miliwn
  • Terfynfa LNG Amlwch - £330 miliwn
  • Morlyn Llanw Bae Abertawe - £1 biliwn

Cyfanswm - £18.972 biliwn

Hefyd, cofiwch fuddsoddiad gwerth £3.25 biliwn i mewn i’r terfynfeydd LNG, piblinellau, a phwerdai sydd â’u lleoliad yn Aberdaugleddau yng ngorllewin Cymru.

Rhaglen Datblygu Wledig

Mae’r Rhaglen Datblygu Wledig yn werth £953 miliwn rhwng Mai 2015 a 2020. Mae’r Rhaglen Datblygu Wledig yn canolbwyntio ar heriau’r ardaloedd gwledig, yn bennaf.

Mae’n canolbwyntio ar y 9 awdurdod lleol mwyaf gwledig:

  • Ynys Môn
  • Gwynedd
  • Conwy
  • Sir Ddinbych
  • Powys
  • Ceredigion
  • Sir Benfro
  • Sir Gaerfyrddin
  • Sir Fynwy

Band Eang

Mae nifer o rannau o Ganolbarth a Gorllewin Cymru wedi derbyn prin iawn o fynediad i fand eang cyflym.

Gwariodd Llywodraeth Cymru £225 miliwn er mwyn cael band eang gor-gyflym a fydd yn cysylltu hyd at 96% o gyfeiriadau erbyn diwedd 2017. Edrychwch ar y map isod i weld ble’r oedd angen i’r rhan fwyaf o’r arian gael ei wario.

Cynlluniau ar gyfer Dinas-Ranbarthau

Caiff ei awgrymu y bydd Cymru o fudd yn uniongyrchol oherwydd dwy ddinas-ranbarth, sef Dinas-Ranbarth Caerdydd a Dinas-Ranbarth Abertawe.

 

URL - https://www.youtube.com/watch?v=H83Va9ET0BA 

Mae Cytundeb Dinas-Ranbarth Caerdydd ar ei flaen yn barod.

Mae’n cynnwys 10 o ardaloedd yr Awdurdodau Lleol er mwyn creu Dinas-Ranbarth Caerdydd.

Y nodwedd fwyaf fydd gwella trafnidiaeth drwy adeiladu beth sydd wedi cael ei alw’n Fetro De Cymru.

Bydd Cynllun Dinas-Ranbarth Caerdydd yn costio £1.2 biliwn o arian cyhoeddus:

  • £500 miliwn o Lywodraeth y DU
  • £500 miliwn o Lywodraeth Cymru
  • £120 miliwn o’r 10 awdurdod lleol.

Mae Abertawe a gorllewin Cymru wedi cynnig cynlluniau ar gyfer Dinas-Ranbarthau; bydd yn costio £1.3 biliwn, mae’n debyg, ond mae’r cynllun hwn yn dal i fod yn y rhannau cynnar o gynllunio.

Metro De Cymru

Llun: http://gov.wales/docs/det/publications/160224-potential-metro-map-image-cy.gif

Prosiectau Trafnidiaeth

Yng ngogledd Cymru, y brif ffordd o’r dwyrain i’r gorllewin yw’r A55:

  • Mae cynllunio wedi dechrau ar brosiect gwerth £200 miliwn, a gaiff ei alw'n Brosiect Coridor Glannau Dyfrdwy er mwyn gwella trafnidiaeth ffyrdd o ogledd-ddwyrain Cymru i ogledd-orllewin Cymru.
  • Caiff £44 miliwn ei gwario ar wella'r cyffyrdd ar yr A55 yng ngogledd Cymru.
  • Caiff croesfan i Ynys Môn ei chynllunio, a fydd yn costio £133 miliwn.

Yn barod yn 2017, mae Llywodraeth Cymru wedi gwario £50 miliwn a fydd yn rhoi cychwyn i Fetro Gogledd Cymru, gyda chost o £500 miliwn.

metro gog cym

Llun: http://www.welshlabour.wales/nwmetro

I dde Powys yw’r A465, ac mae £880 miliwn yn cael ei gwario arno ar hyn o bryd. Mae’r ffordd hon yn gyswllt pwysig rhwng Canolbarth a Gorllewin Cymru, a de Cymru, yn ogystal â ‘Phennau’ Cymoedd De Cymru.

trunkroads

Llun: http://gov.wales/topics/transport/roads/schemes/?skip=1&lang=cy

Cymerwch olwg ar brif welliannau presennol ac arfaethedig ar wefan Llywodraeth Cymru.

 

Ar hyn o bryd, mae £1 biliwn o arian y DU yn cael ei gwario yn ne Cymru ar drydaneiddio’r brif reilffordd rhwng Abertawe a Llundain.

Mae Llywodraeth Cymru eisiau adeiladu rhan newydd i draffordd yr M4 i fynd trwy Gasnewydd.

Sut bynnag, mae yna ddadlau mawr dros y cynllun hwn, sydd wedi bod yn digwydd ers 1993 – 24 blynedd!

Cost arfaethedig y cynllun hwn yw £1-1.2 biliwn.

Dyma broblemau sydd wedi cael eu codi gan Lywodraeth Cymru:

  • Traffordd yr M4 yw’r ffordd bwysicaf yng Nghymru; mae’n cysylltu de Cymru a gorllewin Cymru â gweddill y DU.
  • Mae'r rhan yng Nghasnewydd yn dal dros 100,000 o gerbydau bob dydd.
  • Dydy'r rhan yng Nghasnewydd ddim yn cyrraedd safonau diogelwch presennol.
  • Mae’r lonydd yn symud o 8 i 4 wrth iddyn nhw symud drwy ddau dwnnel.
  • Bydd y gost rhwng £1-1.2 biliwn.
  • Bydd buddion i’r economi rhwng £2.2-2.6 biliwn – yn fras, bydd yn ennill cymaint ddwywaith o arian â’r gost wreiddiol i Gymru.
  • Ers i’r dadlau dros y prosiect hwn ddechrau ym 1993, mae busnesau lleol wedi colli tua £1.3 biliwn oherwydd y tagfeydd o gwmpas Casnewydd yn unig.

Gweithgaredd

  1. Adiwch i fyny costau rhwydwaith mewnol yr holl brosiectau a grybwyllwyd.
  2. Ceisiwch weithio allan faint o arian fydd yn cael ei wario ym mhob un o’r pum rhanbarth yng Nghymru.

Nid oes ateb hollol gywir neu’n anghywir ar gyfer yr ymarfer yma, oherwydd mae’n rhaid i chi wneud penderfyniadau ac amcangyfrif, ond dylai’r ateb edrych rhywbeth fel yr ateb hwn:

 

£ biliwn

Gogledd Cymru

20.341

Canolbarth a Gorllewin Cymru

5.548

Dwyrain De Cymru

1.758

Canol De Cymru

1.853

Gorllewin De Cymru

2.918

Top

Mwy o’r rhifyn yma...

Trosolwg ar Rwydwaith Mewnol

Trosolwg ar Rwydwaith Mewnol

Gwariant y person ar Rwydwaith Mewnol yng Nghymru

Gwariant y person ar Rwydwaith Mewnol yng Nghymru