38

Trosolwg ar Rwydwaith Mewnol

Trosolwg ar Rwydwaith Mewnol

 

URL: https://www.youtube.com/watch?v=lMaVAjNohZY

  1. Fel dosbarth gwyliwch y clip fideo.
  2. Faint o arian fydd yn cael ei wario?
  3. Ble fydd yr arian yn cael ei wario?
  4. Beth fydd manteision y prosiect yma?
  5. Ydych chi’n meddwl ei fod yn deg i wario gymaint o arian â hyn yn y rhanbarth yma o Gymru?
    Pam?

Diffiniad

Yn y rhifyn diwethaf o Daearyddiaeth yn y Newyddion, fe wnaethon ni edrych ar bwysigrwydd rhwydwaith mewnol o fewn Cymru a’r DU. Achos y rhifyn diwethaf, dylech chi wybod fod rhwydwaith mewnol yn cyfeirio at y strwythurau, systemau a chyfleusterau ar gyfer economi busnes, diwydiant, gwlad, dinas, tref neu ardal; gan gynnwys y gwasanaethau a chyfleusterau sydd eu hangen er mwyn i’r economi weithio. Cawsoch chi eich gofyn i feddwl am yr economi (sef sut rydyn ni’n ennill ein harian i gyd) fel teisen; a’r rhwydwaith mewnol fel cynhwysion iddi. Po fwya’r cynhwysion sydd gennych, po fwyaf y deisen. Os oes cynwhysion penodol ar goll, fydd y deisen ddim cystal ag y medrai fod. Drwy wario mwy o arian ar rwydwaith mewnol, daw’r deisen yn fwyfwy; mae’r deisen, wrth gwrs, yn drosiad am yr economi, ac mae’r economi yn cyfeirio at faint o arian sy’n cael ei ennill bob blwyddyn.

Yng Nghymru, rydyn ni’n tueddi i fod yn gystadleuol iawn yn erbyn ein gilydd, a weithiau rydyn ni’n tueddi i feddwl bod rhannau o Gymru yn cael cynigion gwell na rhannau eraill o Gymru.

Yn swyddogol, caiff Cymru ei rhannu’n 22 Awdurdod Lleol; mae’r awdurdodau hyn yn creu 5 rhanbarth swyddogol, ac mae’r awdurdodau lleol yn cydweithio er mwyn darparu gwasanaethau.

   
Gogledd Cymru Ynys Môn
  Conwy
  Sir Ddinbych
  Sir y Fflint
  Wrecsam
   
Canolbarth a Gorllewin Cymru Gwynedd
  Powys
  Ceredigion
  Sir Gaerfyrddin
  Sir Benfro
   
Gorllewin De Cymru Abertawe
  Castell Nedd Port Talbot
  Pen-y-Bont ar Ogwr
   
Canol De Cymru Rhondda Cynon Taf
  Caerdydd
  Bro Morgannwg
   
Dwyrain De Cymru Merthyr Tudful
  Blaenau Gwent
  Caerffili
  Torfaen
  Casnewydd
  Sir Fynwy

Map o Gymru

Llun: Wales Administrative Map 2009 - XrysD © Wikimedia Commons o dan GNU Free Documentation License, Fersiwn 1.2

Poblogaethau Awdurdodau Lleol

Rhif Ardal Poblogaeth Dwysedd poblogaeth/km²
1 Caerdydd 357,200 2,534 

2

Abertawe

242,400

638

3

Rhondda Cynon Taf

237,400

559

4

Sir Gaerfyrddin

185,100

78

5

Caerffili

180,200

649

6

Sir y Fflint

154,100

352

7

Casnewydd

147,800

775

8

Pen-y-Bont ar Ogwr

142,100

566

9

Castell Nedd Port Talbot

141,000

319

10

Wrecsam

136,600

271

11

Powys

132,600

25

12

Bro Morgannwg

127,600

385

13

Sir Benfro

123,500

76

14

Gwynedd

122,900

48

15

Conwy

116,200

103

16

Sir Ddinbych

94,700

113

17

Sir Fynwy

92,500

108

18

Torfaen

91,800

730

19

Ceredigion

74,600

41

20

Ynys Môn

70,000

98

21

Blaenau Gwent

69,500

639

22

Merthyr Tudful

59,300

532

Mae Cymru yn tueddi i fod yn gystadleuol ac mae e i’w weld yn normal i edrych ar benawdau prosiectau rhwydwaith mewnol newydd a meddwl bod rhannau eraill o Gymru yn cael cynigion gwell, yn enwedig pan mae prosiectau mawr gwerth dros biliwn o bunnoedd yn brin iawn.

Mae’n gynorthwyol defnyddio cydweddiad er mwyn deall yn well sut ddylen ni edrych ar fuddsoddiad yng Nghymru; y cydweddiad y byddwn ni’n ei ddefnyddio yw meddwl o Gymru fel tîm rygbi. Meddyliwch am y 22 Awdurdod Lleol fel 23 o chwaraewyr rygbi. O fewn y tîm yw grwpiau penodol o chwaraewyr yr ydyn ni’n gallu meddwl ohonyn nhw fel rhanbarthau Cymru; y pum blaenwr tynn, y cefnwyr, yr hanerwyr, y chwarterwyr, y tri yn y cefn, a’r chwaraewyr ar y fainc.

Ni fydd y tîm yn llwyddo os nad yw’r chwaraewyr unigol yn llwyddo. Dydy’r cefnwyr byth yn beirniadu’r blaenwyr am chwarae’n dda a chael y bêl am y rhan fwyaf o’r gêm. Mae’n rhyfedd, felly, i ranbarthau o Gymru fod yn genfigennus wrth i ranbarth arall dderbyn prosiect rhwydwaith mewnol mawr.

Hefyd, wrth i bobl mewn un rhanbarth o Gymru fod yn genfigennus pan mae’n dro i ranbarth arall dderbyn prosiect rhwydwaith mewnol, mae’n debyg dydyn nhw ddim yn cofio pryd cawson nhw eu tro, neu dydyn nhw ddim yn sylweddoli mai nhw fydd nesaf.

Cafodd y prosiect rhwydwaith mewnol lluosbiliwn diwethaf ei gwblhau yn 2012, ac roedd yn werth £3.25 biliwn; Yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru oedd e, lle cafodd dau o gyfleusterau eu hadeiladu. Er mwyn derbyn nwy naturiol hylifedig ar long, cafodd piblinell ei hadeiladu ar draws Cymru er mwyn cysylltu’r cyfleusterau hyn â Lloegr, a chafodd gorsaf nwy ei hadeiladu.

Mae Cytundeb Dinesig Rhanbarth Caerdydd, a fydd yn costio £1.2 biliwn, yn cynnwys y 10 Awdurdod Lleol rhwng Dwyrain De Cymru, Canol De Cymru, Gorllewin De Cymru a Phen-y-Bont ar Ogwr.

Caiff ei awgrymu fod Gorllewin De Cymru wedi dechrau cynllunio ‘Cytundeb Dinesig’ gwerth £1.3 biliwn, a chaiff biliwn bunt ychwanegol ei gwario er mwyn adeiladu morlyn llanw ym Mae Abertawe.

Mae dros £5 biliwn yn cael ei gwario ar drydaneiddio’r brif reilffordd rhwng Llundain ac Abertawe, ac mae’r tri rhanbarth De Cymru yn elwa oherwydd i dros biliwn o bunnoedd o’r arian gael eu gwario ar eu cyfer.

Caiff ei awgrymu fod angen i rhwng £1-1.2 biliwn gael ei gwario er mwyn datrys problem y dagfa ar draffordd yr M4, i’r dwyrain i Gasnewydd.

Mae cynllun arfaethedig i wario £12 biliwn ar Orsaf Ynni Niwclear yng Ngogledd Cymru; a phetaen ni’n adio i fyny costau’r holl brosiectau sydd wedi eu crybwyll hyd yn hyn, bydd y cyfanswm yn llai na chyfanswm yr Orsaf Ynni Niwclear hon.

Wrth edrych ar wariannau ar rwydwaith mewnol, mae’n werth meddwl am beth sy’n cael ei wario ar y prosectau hyn ar sail poblogaeth bob rhanbarth. Mae gan y tri rhanbarth yn Ne Cymru boblogaethau llawer mwy uchel, a dwysedd poblogaeth llawer mwy uchel hefyd.

Nifer Poblogaeth

Llun: Population density map in Wales from the 2011 census - SkateTier © Wikimedia Commons o dan drwydded Creative Commons Attribution-Share Alike 3.0 Unported.

Os ydych chi’n meddwl am y prosiectau sydd newydd gael eu trafod, mae’n glir, er bod yna sawl prosiect dros biliwn o bunnoedd ar draws y tri rhanbarth yn Ne Cymru, fod y gwerth o’r rhain fesul person yn llawer is na’r prosiectau sydd newydd eu cwblhau yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, ac yn llawer is na beth sydd wedi ei gynllunio ar gyfer Gogledd Cymru.

Mae gwella economi Cymru yn bwysig iawn, oherwydd mae’n tueddi i gael yr heriau mwyaf o fewn y Deyrnas Unedig; cymerwch olwg ar y llun hwn o SYG (y Swyddfa Ystadegau Gwladol)

Llun: Profile of WalesOffice for National Statistics © Wikimedia Commons o dan yr Open Government Licence v1.0

  • Mae gan Gymru y boblogaeth hynaf
  • Mae Cymru yn cyfrannu at 5% o boblogaeth y DU, ond 4% o allgynnyrch economaidd.
  • Mae gan Gymru y rhannau uchaf o boblogaeth anabl.
  • Mae gan Gymru y lefel uchaf o ddiweithdra.
  • Mae gan Gymru yr enillion isaf.

Wrth wynebu’r problemau hyn, dylen ni i gyd gefnogi unrhyw brosiect a allai wella economi Cymru a’n helpu ni ddal i fyny gyda gweddill y DU.

Gweithgaredd

Atebwch y cwestiynau hyn:

  1. Pam byddai’n o fudd i ogledd Cymru petai de Cymru yn ennill llawer o arian ar wario ar rwydwaith mewnol?
  2. Pam ydy e’n bwysig fod Cymru yn gwneud popeth y gall er mwyn gwella ei heconomi (sef ennill arian)?

Ar ôl darllen y tair erthygl, a chwblhau’r gweithgareddau, defnyddiwch y daflen A3 atodedig i’ch helpu chi ddechrau ar DME i mewn i brosiectau gwario ar rwydwaith mewnol yng Nghymru

Caiff yr adnodd ei gynllunio’n adnodd dosbarth cyfan o flaen y dosbarth ar daflunydd/bwrdd gwyn rhyngweithiol. Dylai’r gwaith graffig gwahanol gael ei egluro ar y testun, er na fydd yn ddarllenadwy gan y rhan fwyaf o’r disgyblion. Yn dilyn hwn, bydd yn ddelfrydol i’r disgyblion gael mynediad i’r adnoddau ar-lein er mwyn gweithio ar y daflen weithgaredd (i’w hargraffu ar dudalen A3). Yn ddelfrydol, caiff y gweithgareddau hyn eu cefnogi gan ddefnydd o ystafell rwydwaith, llechi/gliniaduron, neu ddyfeisiau/ffonau y disgyblion eu hunain os yw’n ganiataol. Sut bynnag, caiff y gweithgareddau eu cynllunio ar gyfer gwers un awr, gyda’r athro/athrawes yn defnyddio’r adnodd o flaen y dosbarth ynghyd â’r daflen adnodd. Gellir wedyn pennu gwaith cartref er mwyn i’r disgyblion astudio’r erthyglau o flaen llaw cyn y wers nesaf.

Mae’r adnodd a’r daflen wedi eu cynllunio i gefnogi’r FfLlRh tra bo’n rhoi gwybodaeth ddaearyddol bwysig i’r disgyblion am lefydd i’w gwneud â phrosectiau ar rwydwaith mewnol.

Naill ai yn y dosbarth neu yn y tŷ, darllenwch a chwblhewch y gweithgareddau yn yr erthygl adnodd ar-lein, ac yn yr erthyglau atodedig yn y rhifyn hwn o Ddaearyddiaeth yn y Newyddion. Ceisiwch gwblhau pob gweithgaredd sydd ar y daflen adnodd.

Beth fyddwch yn ei ddysgu:

  • Byddwch yn cyfoethogi’ch gwybodaeth am rwydwaith mewnol.
  • Byddwch yn cyfoethogi’ch dealltwriaeth o sut allai’r ffactorau hyn effeithio ar fod dynol a gweithgaredd dyn.
  • Cewch y cyfle i ddysgu neu ymarfer sgiliau llythrennedd a rhifedd pwysig.

Dysgwch dermau daearyddol newydd wedi’u hamlygu’n borffor. Dylai’r rhain gael eu dysgu, a’u hychwanegu i eirfa. Rhestr o eiriau yw geirfa, a’u hystyron. Gallech gael un ar gefnau eich llyfr ymarferion daearyddiaeth; os oes dyddiadur gennych, efallai bydd yn lle da i’w chadw, neu efallai cadwech eirfa neu lyfr geiriau ar wahân i’ch llyfr ymarferion. Mae geirfa dda yn yn eich helpu wella eich geirfa a’ch llythrennedd. Ymchwiliwch i ystyron gan ddefnyddio cynnwys perthnasol i’r erthyglau, trafodaethau neu eiriadur (naill ai ar y we neu lyfr).

Top

Mwy o’r rhifyn yma...

Prosiectau Rhwydwaith Mewnol ar draws Cymru

Prosiectau Rhwydwaith Mewnol ar draws Cymru

Gwariant y person ar Rwydwaith Mewnol yng Nghymru

Gwariant y person ar Rwydwaith Mewnol yng Nghymru