Trefnwch eich hunain yn ddau grŵp ar sail pa rai o’r bobl yma y byddech chi’n pleidleisio drostyn nhw. Byddwch yn barod i egluro pam rydych chi wedi dewis y grŵp.
Carwyn Jones - Y Blaid Lafur
Llun: Carwyn Jones 2011 - National Assembly For Wales / Cynulliad Cymru © Wikimedia Commons dan Creative Commons Attribution 2.0 Generic
David Cameron - Y Blaid Geidwadol
Andrew RT Davies - Y Blaid Geidwadol
Llun: Andrew R. T. Davies - National Assembly For Wales / Cynulliad Cymru © Wikimedia Commons dan Creative Commons Attribution 2.0 Generic
Nigel Farage - UKIP
Llun: Nigel Farage (2014) - Diliff © Wikimedia Commons dan Creative Commons Attribution-Share Alike 3.0 Unported
Ymchwiliad - a fyddai’n well i Gymru pe bai’r Deyrnas Unedig yn aros yn yr Undeb Ewropeaidd?
Bydd refferendwm ddydd Iau, 23ain Mehefin, i benderfynu a ddylai’r Deyrnas Unedig aros o fewn yr Undeb Ewropeaidd (UE).
Ystyr refferendwm yw pleidlais lle mae bron pawb sydd wedi cyrraedd oed pleidleisio yn cael pleidleisio. Yr ochr sy’n cael mwy na hanner y pleidleisiau sy’n ennill.
Mae’r rhan fwyaf o’r drafodaeth ynglŷn â’r Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd yn sôn am y Deyrnas Unedig yn unig.
Ychydig iawn o’r drafodaeth sy’n sôn am Gymru’n gadael yr UE. Gobeithio bydd y rhifyn hwn o Daearyddiaeth yn y Newyddion yn newid hyn.
Pwy fydd yn gallu pleidleisio?
Dolen CA2: Sut mae'r Deyrnas Unedig yn gweithio? - Cliciwch isod
"A ddylai'r Deyrnas Unedig ddal i fod yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd?".
Gall pleidleiswyr ddewis:
neu
Partneriaeth rhwng 28 gwlad yw’r Undeb Ewropeaidd (UE).
Y 28 gwlad sy’n aelodau ar hyn o bryd yw:
Llun: EC-EU-enlargement animation - Kolja21 © Wikimedia Commons dan Creative Commons Attribution-Share Alike 3.0 Unported
Mae’r UE wedi tyfu i fod yn “farchnad gyfunol” ers i’r gwledydd cyntaf ymuno ym 1958. Mae hyn yn golygu bod nwyddau a phobl yn gallu symud o gwmpas bron fel pe bai pob gwladwriaeth sy’n aelod o’r UE yn un wlad.
Mae llawer o aelodau’n defnyddio’r un arian, sef yr ewro - mae’n cael ei ddefnyddio gan 19 o’r gwledydd. Mae gan yr UE ei senedd ei hun ac mae’n gosod rheolau neu ddeddfau.
Canllaw y BBC ar y tarddiad yr UE - Cliciwch isod
Mae poblogaeth Cymru ar hyn o bryd yn agos iawn at 3,150,000 (poblogaeth Caerdydd yw tua 358,000). Ei harwynebedd yw 20,761 km².
Cymharwch faint Cymru gyda:
Yn eich barn chi, faint o ddylanwad sydd gan Gymru yn yr UE?
Yn eich barn chi, sut mae Cymru’n cymharu o ran pwysigrwydd gyda dinasoedd mawr fel Llundain?
Pa mor bwysig yw hi bod Cymru’n gwneud ei phenderfyniadau ei hun yn lleol yn ei Chynulliad/Llywodraeth ei hun?
A fyddai Cymru’n cael ei hanwybyddu pe na bai ganddi ei Chynulliad ei hun, yn enwedig o ystyried bod gan wledydd a dinasoedd mwy leisiau cryfach?
Ymchwiliad
Yn gyntaf, ceisiwch ddarllen gweddill yr adnoddau cysylltiol a defnyddiwch y daflen A3 i’ch helpu chi i wneud ymchwiliad o ddaearyddiaeth Etholiad Refferendwm yr EU yn 2016 ac i baratoi cwestiynau y gallwch chi eu hateb ar ôl i ganlyniadau’r bleidlais ym mis Mehefin gael eu cyhoeddi.
Cyflwyniad
Canlyniadau
Dadansoddi
Casgliadau
Gwerthuso
Mae’r adnodd hwn wedi cael ei gynllunio i’w ddefnyddio gyda’r dosbarth cyfan o du blaen y dosbarth ar brojector/bwrdd gwyn rhyngweithiol.
Dylai’r athro roi eglurhad ar y delweddau amrywiol, gan seilio’r sylwadau ar y testun. Ni fydd modd i fwyafrif llethol y disgyblion ddarllen y testun cyfan o fewn yr amser sydd ar gael.
Yn ddelfrydol, dylai’r disgyblion gael mynediad i’r adnodd ar-lein er mwyn gweithio ar y daflen gweithgareddau (dylid argraffu hon ar bapur A3).
Yn ddelfrydol, dylid rhoi cefnogaeth ar gyfer y gweithgareddau hyn, sef ystafell rwydwaith, llechi/gliniaduron neu ffonau/dyfeisiau’r disgyblion eu hunain, os caniateir y rhain.
Fodd bynnag, mae’r gweithgareddau wedi cael eu cynllunio ar gyfer eu defnyddio mewn gwers arferol, sef un awr, gyda’r athro’n defnyddio’r adnodd yn nhu blaen yr ystafell ddosbarth ochr yn ochr â’r daflen adnoddau.
Yna, gellid rhoi gwaith cartref i’r disgyblion, sef astudio’r tair erthygl cyn y wers nesaf.
Mae’r adnodd a’r daflen gysylltiedig wedi cael eu cynllunio fel eu bod yn cefnogi’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd, gan roi i ddisgyblion wybodaeth ddaearyddol allweddol mewn perthynas â’r lleoedd sy’n gysylltiedig â’r argyfwng sy’n ymwneud â dadleoli gorfodol yn y Etholiad Refferendwm yr UE yn 2016.
Darllenwch a chwblhewch y gweithgareddau yn yr erthygl ar-lein ac yn yr erthyglau cysylltiedig yn y rhifyn hwn o Daearyddiaeth yn y Newyddion – naill ai yn yr ystafell ddosbarth neu gartref. Ceisiwch orffen yr holl weithgareddau sydd ar y daflen adnoddau.
Beth fyddwch chi’n ei ddysgu:
Byddwch chi’n dysgu ymadroddion daearyddol newydd, wedi’u goleuo mewn porffor. Dylech chi ddysgu’r rhain a’u cynnwys mewn geirfa. Rhestr o eiriau a’u hystyr yw geirfa. Gallech chi gael un yng nghefn eich llyfr ysgrifennu daearyddiaeth. Os oes gyda chi gynlluniadur, mwy na thebyg bod lle da yn hwnnw ar gyfer cadw geirfa neu gallech chi gadw llyfr geirfa ar wahân. Mae geirfa dda yn eich helpu chi i ddatblygu eich geirfa a’ch llythrennedd. Chwiliwch am ystyr geiriau drwy ddefnyddio gweddill cynnwys yr erthygl, drwy drafod neu defnyddiwch eiriadur (naill ai ar-lein neu lyfr).
Rhifyn arall efallai y byddwch a diddordeb mewn, Yr etholiad yng Nghymru yn 2016.