25

Sut mae'r Deyrnas Unedig yn gweithio?

 

undefined

Nid cyfeirio at swyddi a gwaith y mae’r cwestiwn hwn ond mae’n gofyn sut mae’r wlad yn cael ei llywodraethu a sut mae hyn, wedyn, yn effeithio ar bob un ohonon ni.

Bydd etholiad cyffredinol yn y D.U. ym mis Mai er mwyn dewis llywodraeth newydd.

Yn yr etholiad hwn, bydd bron pob dinesydd o’r Deyrnas Unedig sydd dros 18 oed yn cael pleidleisio i gael cynrychiolydd yn Nhŷ’r Cyffredin yn y Senedd yn Llundain.

Yn gyffredinol, mae’r D.U. yn cael ei llywodraethu o ddau Dŷ’r Senedd yn Llundain. Yr enwau ar ddau Dŷ’r Senedd yw Tŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi.

big ben

Tŷ’r Cyffredin yw’r tŷ pwysicaf o’r ddau. Mae’n cael ei ethol bob pum mlynedd mewn etholiad cyffredinol (cyn hyn weithiau, ond ddim ar ôl hyn).

Mae’r wefan www.gov.uk yn dweud bod hawl gyda chi i bleidleisio yn etholiad cyffredinol seneddol y D.U. os ydych chi wedi cofrestru i bleidleisio a’ch bod chi:

  • yn 18 oed neu’n hŷn ar y diwrnod pleidleisio
  • yn ddinesydd Prydeinig, yn ddinesydd y Gymanwlad neu’n ddinesydd Gweriniaeth Iwerddon (os ydych chi’n byw yn y D.U.)
  • heb eich eithrio’n gyfreithiol rhag pleidleisio (e.e. oherwydd eich bod chi mewn carchar).

Allwch chi ddim pleidleisio mewn etholiad cyffredinol seneddol y D.U. os ydych chi:

  • o dan 18 oed
  • yn aelod o Dŷ’r Arglwyddi
  • yn ddinesydd yr Undeb Ewropeaidd (a heb fod yn ddinesydd Prydeinig, yn ddinesydd Gwyddelig neu’n ddinesydd y Gymanwlad hefyd)
  • mewn carchar (ar wahân am garcharorion remand).

Pwy sy’n Brydeiniwr/Brydeinwraig?

Rydyn ni’n defnyddio'r gair “dinesydd”, ond ydych chi’n gwybod beth yw ei ystyr?

citizen

Mae gan ddinesydd set o hawliau, breintiau a dyletswyddau yn y wlad lle mae’n ddinesydd – sy’n llawer o hawliau a breintiau i ddinesydd ym Mhrydain, sydd tua chweched wlad gyfoethoca’r byd!

Mae dros biliwn o bobl o gwmpas y byd yn breuddwydio am gael bod yn ddinesydd Prydeinig. I’r bobl hyn, sy’n byw yng ngwledydd tlotaf y byd gan fwyaf, mae hyn yn debyg i’n breuddwyd ni o ‘ennill y loteri’.

Ydych chi’n sylweddoli pa mor lwcus ydych chi eich bod chi’n gymwys i fod yn ddinesydd Prydeinig – dim ond am eich bod chi wedi cael eich geni yng Nghymru neu mewn rhan arall o’r D.U.?

Mae rheolau gwahanol ar gyfer pobl a gafodd eu geni cyn 1983, ond bydd pobl sydd wedi cael eu geni ar ôl y dyddiad hwn yn gymwys i fod yn ddinasyddion Prydeinig yn awtomatig:

  1. os cawson nhw eu geni yn y D.U. neu mewn Tiriogaeth Brydeinig Dramor, a
  2. os oedd un o’u rhieni’n ddinesydd Prydeinig neu os oedd wedi ymsefydlu’n gyfreithiol yn y D.U.

Os na fydd rhywun yn gymwys yn awtomatig, efallai y bydd yn gallu cofrestru. Un enghraifft dda yw plentyn sy’n cael ei eni neu ei fabwysiadu y tu allan i’r D.U. ac mae ganddo riant sy’n ddinesydd Prydeinig, neu bobl sydd â chysylltiad â Phrydain.

mo fara

Os na fydd person yn gymwys yn awtomatig neu os na fydd yn gymwys i gofrestru, efallai y bydd yn derbyn caniatâd i ddinasyddio fel dinesydd Prydeinig. Er mwyn gallu dinasyddio, rhaid cytuno â rheolau llym sy’n penderfynu a fydd yn cael byw yn y D.U. Yna, rhaid i’r person aros rhwng tair a phum mlynedd ac yna, rhaid llwyddo mewn arholiad yn Saesneg (neu yn Gymraeg) ac yn olaf rhaid llwyddo mewn arholiad ar fywyd ym Mhrydain. Mae hyn yn costio llawer o arian. 

undefined

Unwaith eto, does gan y rhan fwyaf o bobl ifanc Cymru, sy’n gymwys yn awtomatig yn sgil eu geni yma, ddim syniad pa mor lwcus ydyn nhw i gael eu geni mewn gwlad sydd mor gyfoethog.

Dychmygwch am eiliad cael eich geni a byw yn un o wledydd tlota’r byd – yn union fel y ddau blentyn yma mewn rhan o Affrica sydd â chysylltiad â De Cymru.

Yr Etholiad Cyffredinol

undefined

Ym mis Mai, bydd pawb sydd a’r hawl i bleidleisio yn cael cyfle i bleidleisio dros A.S. (Aelod Seneddol).

Mae 650 A.S. yn cynrychioli 650 o etholaethau, sef ardaloedd o wahanol faint a phoblogaeth. 

Mae 40 A.S. o Etholaethau Cymru yn Senedd Llundain. Mae hyn yn golygu bod Cymru’n cael rhywfaint o ddylanwad yno. Fodd bynnag, mae rhai pobl yn credu y dylai pob etholaeth fod â thua’r un nifer o bobl yn byw ymhob un. Pe bai hyn yn digwydd, dim ond 18 etholaeth fyddai yng Nghymru.

Y blaid wleidyddol sydd â’r nifer fwyaf o A.S.au yw’r blaid gyntaf i gael y cyfle i ffurfio llywodraeth; y llywodraeth sy’n gwneud y dewisiadau ar ran y wlad o ddydd i ddydd.

Os oes gan un blaid fwyafrif (mwy na hanner) o’r holl A.S.au, yna mae hyn yn hawdd. Os nad oes gan unrhyw blaid fwyafrif, yna mae angen i ddwy blaid neu fwy ddod i gytundeb a sefydlu llywodraeth gyda’i gilydd, sef llywodraeth glymblaid. Yr enw ar arweinydd y llywodraeth yw’r Prif Weinidog. Os yw’r llywodraeth eisiau newid y gyfraith neu wneud rhai penderfyniadau pwysig eraill, rhaid pasio cyfres o bleidleisiau gyda mwyafrif yn Nhŷ’r Cyffredin. Mae Tŷ’r Arglwyddi’n edrych ar  benderfyniadau Tŷ’r Cyffredin ac yn pleidleisio arnyn nhw.

undefined

Nid yw aelodau Tŷ’r Arglwyddi wedi cael eu hethol (ond mae rhai pobl yn dweud mai dyna ddylai  ddigwydd); yn hytrach, mae unigolion yn cael eu penodi oherwydd eu profiad neu eu safle yn ein cymdeithas.

Mae ganddyn nhw’r pŵer i geisio adolygu neu newid penderfyniadau Tŷ’r Cyffredin, ond nid i’w stopio nhw. Os bydd mwyafrif yr A.S.au’n pasio penderfyniad, yna bydd y penderfyniad hwnnw’n cael ei weithredu.

Fel arfer, bydd Tŷ’r Cyffredin yn pleidleisio dros rywbeth dair gwaith cyn y bydd yn troi’n gyfraith. Mae hyn yn rhoi cyfle i’n harweinwyr siarad amdano a’i newid.

undefined

Yn y Senedd, mae gan Dŷ’r Cyffredin seddau gwyrdd ac mae gan Dŷ’r Arglwyddi seddau coch.

Datganoli

undefined

Llywodraeth a Senedd y Deyrnas Unedig sy’n gwneud yr holl benderfyniadau dros y Deyrnas Unedig. Fodd bynnag, mae rhai penderfyniadau’n cael eu gwneud yng Nghymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon – maen nhw wedi cael eu datganoli.

Cafodd y tair gwlad hyn refferendwm a phleidleisiodd y mwyafrif o blaid datganoli. Mae hyn yn golygu bod penderfyniadau ar bethau penodol megis addysg ac iechyd yn cael eu gwneud mewn cynulliad yng Ngogledd Iwerddon a Chymru ond mewn Senedd yn yr Alban.

Ers y refferendwm cyntaf yng Nghymru, bu ail refferendwm pryd y pleidleisiodd pobl Cymru o blaid datganoli mwy o bwerau i Gymru.

Yn 2014, roedd refferendwm yn yr Alban ynglŷn â mynd yn annibynnol. Penderfynodd pobl yr Alban aros fel rhan o’r Deyrnas Unedig ond er mwyn eu perswadio nhw i wneud hynny, addawodd arweinwyr prif bleidiau llywodraeth y D.U. roi nifer fawr o bwerau newydd i Senedd yr Alban ac mae hyn wedi arwain at nifer o faterion newydd sy’n gysylltiedig â Chymru a gweddill y Deyrnas Unedig. 

Mae llawer o bobl yn Lloegr yn credu ei bod hi’n annheg bod A.S.au o’r Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon yn cael pleidleisio ar faterion sydd wedi cael eu datganoli, fel iechyd ac addysg, yn Lloegr ond nad yw A.S.au Lloegr yn cael pleidleisio dros yr un materion yn y tair gwlad arall.

Mae rhai pobl wedi galw am ‘Bleidleisiau Seisnig ar faterion Seisnig’ ond byddai hyn yn golygu y byddai gan A.S.au’r tair gwlad datganoledig lai o ddweud yn y Senedd nag A.S.au Lloegr.

Bydd hyn yn stori fawr iawn yn y newyddion eleni. Beth yw eich barn chi am y canlynol:

  • Dylai pethau aros yr un peth.
  • Ni ddylai A.S.au Cymru gael yr hawl i bleidleisio yn San Steffan ar unrhyw bwnc sydd wedi cael ei ddatganoli.

Dylai pob A.S. fod yn gyfartal yn senedd y Deyrnas Unedig a dylai Lloegr gael ei datganoli ei hun ynghyd â’i chynulliad/senedd ei hun ac, efallai, fwy nag un – un yn y Gogledd ac un yn y De, efallai. Mae rhai pobl wedi awgrymu bod angen pedwar cynulliad gwahanol ar Loegr hyd yn oed.

Tybed ai dyma ddyfodol datganoli yn y Deyrnas Unedig?

Edrychwch ar groes felen Dewi Sant ar faner yr Undeb.

undefined

 

Ariannu Cymru

welsh pound

Mae arian yn fater pwysig. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn cwyno ers amser fod Cymru’n derbyn llawer llai o arian na’r Alban a Gogledd Iwerddon.

Mae Cymru’n derbyn ychydig mwy o arian ar gyfer pob person na Lloegr er bod gan Gymru yr un problemau, sy’n gwneud bywyd yn ddrutach, fel yn yr Alban. 

Lloegr yw’r man rhataf i lywodraeth y D.U. ddarparu gwasanaethau, felly un ddadl yw y dylai fod angen llai o arian yno; byddai hyn yn caniatáu i Gymru gael rhagor o arian, fel ei bod yn derbyn yr un faint â’r Alban.

Dadl arall yw y dylai’r Alban dderbyn llai, fel ei bod yn derbyn yr un faint â Chymru a Lloegr. Mae mwyafrif y bobl yn cytuno bod Gogledd Iwerddon yn haeddu derbyn mwy o arian oherwydd ei bod wedi ei lleoli oddi ar y tir mawr ac oherwydd bod llawer o wrthdaro a therfysgaeth wedi bod yno yn y gorffennol.

undefined

 

Mae arian yn fater pwysig mewn eitem newyddion arall sy’n gysylltiedig â hyn i gyd, sef aelodaeth y Deyrnas Unedig o’r Undeb Ewropeaidd.

Fel rhan o’r cytundeb i ymuno â’r U.E., cytunodd y Deyrnas Unedig gyda rhai pethau, gan gynnwys cydymffurfio â phenderfyniadau penodol y Senedd Ewropeaidd. Un o’r rhain oedd talu biliynau o bunnau bob blwyddyn fel cyfraniad.

Mae hyn yn fargen wael o safbwynt ardaloedd cyfoethocaf Lloegr, sef yr ardaloedd sy’n cyfrannu llawer o’r arian hwn. Fodd bynnag, mae’n beth da o safbwynt ardaloedd tlotaf y D.U., fel rhannau helaeth o Gymru, sy’n derbyn grantiau (arian am ddim) anferth o gannoedd o filiynau o bunnau bob blwyddyn er mwyn helpu’r mannau tlotaf i ddod yn fwy cyfoethog.

Bydd y posibilrwydd o gynnal refferendwm ar ddyfodol y Deyrnas Unedig yn Ewrop yn eitem newyddion bwysig iawn yn ystod 2015 – ac ar ôl hynny efallai – felly dyma rybudd!

Sganiwch y wybodaeth yn yr erthygl hon a threfnwch y pwyntiau allweddol ar fformat gwahanol. Defnyddiwch naill ai dabl neu fap meddwl. Dylech chi nodi’r pwyntiau allweddol fel ‘newyddion da i Gymru’ a ‘newyddion drwg i Gymru’.

Defnyddiwch liw gwyrdd ar gyfer ‘da’ a lliw coch ar gyfer ‘drwg’.

Bydd angen y wybodaeth hon arnoch chi er mwyn gwneud yr ymarfer Gwneud Penderfyniadau.

Top

Mwy o’r rhifyn yma...

Cymru yn y Deyrnas Unedig

Cymru yn y Deyrnas Unedig