Pleidleisiodd Cymru o blaid datganoli ym 1997. Ystyr datganoli yn y Deyrnas Unedig yw rhoi pwerau statudol i’r cynulliadau sydd wedi’u datganoli (Senedd yn yr Alban). (Ystyr statud yw cyfraith ysgrifenedig; weithiau mae statud yn cael ei alw’n ddeddfwriaeth. Cyn datganoli, roedd statudau neu gyfreithiau o’r fath yn cael eu pasio gan Senedd y Deyrnas Unedig.)
Cafodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ei sefydlu ym 1988. Roedd ganddo 60 o aelodau a oedd wedi cael eu hethol ac roedd yn gallu gwneud penderfyniadau ar bynciau a oedd wedi cael eu datganoli, ond nid oedd yn gallu pasio deddfwriaeth sylfaenol (sef cyfreithiau). Newidiodd hyn ychydig yn 2006, pan gafodd Llywodraeth Cymru ei sefydlu – mae’n gallu gwneud yr holl benderfyniadau o ddydd i ddydd ond rhaid cael pleidlais fwyafrif yn y Cynulliad Cenedlaethol er mwyn newid unrhyw ddeddfwriaeth sy’n bodoli eisoes. Roedd rhaid i Senedd y Deyrnas Unedig yn Llundain barhau i basio’r penderfyniadau hyn. Newidiodd hyn eto ar ôl refferendwm 2011 a chafodd y Cynulliad Cenedlaethol bwerau i wneud deddfau’n ymwneud â’r pynciau sydd wedi cael eu datganoli. Y pynciau hyn, ym mis Ionawr 2015, yw:
Yn sgil y bleidlais ‘Ie’ yn refferendwm 2011, sefydlwyd ymchwiliad er mwyn ymchwilio i’r llwybr mwyaf priodol ar gyfer cael rhagor o ddatganoli. Paul Silk oedd arweinydd y grŵp o bobl brofiadol (sef comisiwn) a gynhaliodd yr ymchwiliad hwn a chynhyrchodd ddau adroddiad. Felly, mae’r ddau adroddiad yn cael eu galw’n Adroddiadau Silk, neu Gomisiwn Silk, neu ganfyddiadau Comisiwn Silk.
Er mwyn gallu deall Adroddiad 1, bydd angen i chi ddeall sut mae Cymru’n derbyn ei harian ar hyn o bryd; bydd angen i chi ddarllen yr adran nesaf ar ‘Fformiwla Barnett’. Cafodd Adroddiad 1 dderbyniad da gan lywodraeth y Deyrnas Unedig a chafodd y rhan fwyaf ohono ei gynnwys yn Neddf Cymru, a gafodd ei phasio yn 2014. Mae rhan o’r ddeddf wedi cael croeso brwd gan Lywodraeth Cymru ond mae’n gwrthod gweithredu peth ohoni hyd nes y bydd ariannu teg wedi cael ei ddatrys.
Mae Adroddiad 2 yn argymell amrywiaeth eang o bwerau newydd, er enghraifft, pwerau sy’n ymwneud â’r heddlu, cyfreithiau’n ymwneud â thrafnidiaeth (e.e. terfyniadau cyflymder), y diwydiant dŵr, projectau ynni mawr ac, yn bwysicach na hynny, rhestr ‘cadw pwerau’ tebyg i un yr Alban, sy’n cynnwys rhestr o feysydd sy’n cael eu deddfu gan lywodraeth y D.U. yn unig, gan gymryd yn ganiataol fod popeth arall wedi cael ei ddatganoli. Mae’r rhan fwyaf o’r adroddiad hwn wedi cael croeso brwd gan Lywodraeth Cymru ond nid gan lywodraeth gyfredol y D.U., sydd wedi dweud nad oes digon o amser i ymdrin â hyn a bod rhaid aros hyd at ar ôl yr etholiad cyffredinol.
Mae’n debygol y bydd argymhellion Comisiwn Silk ac ariannu teg i Gymru yn bynciau mawr yn yr Etholiad Cyffredinol ym mis Mai eleni ac wedyn yn yr etholiadau nesaf ar gyfer Cynulliad Cymru ym mis Mai 2016.
Yn ystod cyfweliad gyda’r papur newydd The Daily Telegraph ym mis Tachwedd 2014, disgrifiodd Joel Barnett (Arglwydd Barnett bellach) Fformiwla Barnett, fel “embaras cenedlaethol”, er mai ef ei hun oedd wedi dyfeisio’r fformiwla.
Mae e’n annheg a dylid ei stopio, mae e’n gamgymeriad. Mae’r dull hwn yn ofnadwy ac nid oes modd iddo fod yn gynaliadwy byth; mae’n embaras cenedlaethol ac yn embaras personol i fi hefyd.
Fformiwla Barnett yw’r ffordd mae llywodraeth y D.U. yn penderfynu faint o arian i’w roi i’r cynulliad yng Nghymru ac yn Iwerddon ac i Senedd yr Alban.
Cafodd ei dyfeisio ym 1978. Roedd Joel Barnett yn weinidog yn llywodraeth y D.U. a dyfeisiodd y fformiwla yn bennaf er mwyn stopio’r dadlau yn y llywodraeth am y datganoli arfaethedig a faint o arian y dylai pob gwlad ddatganoledig ei gael.
Dywedodd ef ei hun mai cynllun tymor byr yn unig oedd hwn i fod – rhywbeth i bara am hyd at 2 flynedd efallai. Fel mae’n digwydd, ni phleidleisiodd digon o bobl Cymru a’r Alban yn y refferendwm ym 1979, felly ni chafwyd datganoli am ddau ddegawd arall. Pan oedd e’n siarad yn 2014, dywedodd “Cafodd yr Alban £10,152 y pen a chafodd Cymru, er ei bod yn dlotach, £9,709” (derbyniodd Lloegr £8,529 y pen o’r un ffynhonnell).
Fodd bynnag, ni chafodd Fformiwla Barnett ei daflu allan, ond yn hytrach cafodd ei ddefnyddio ar gyfer penderfynu ar gyllidau gweinidogion llywodraeth y D.U. (yr Ysgrifenyddion Gwladol) a oedd â gofal dros yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon. Ers datganoli, mae’r fformiwla wedi cael ei defnyddio ar gyfer cyfrifo faint o arian y dylai pob gwlad ddatganoledig ei dderbyn. Roedd yn ffordd eitha syml o weithio pethau allan ac roedd yr arian yn cael ei dalu mewn dwy ffordd:
Mae hyn yn golygu fod gan Lywodraeth Cymru lai o arian i’w wario ar bob person yng Nghymru o’i gymharu â Senedd ddatganoledig yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon. Mae'n derbyn tua’r un faint y pen â Lloegr ond mae’r anghenion yn llawer iawn uwch ac mae daearyddiaeth ffisegol y wlad yn golygu bod darparu gwasanaethau i’r bobl yn ddrutach fyth. Mae gan Lywodraeth Cymru lai o arian i’w wario arnon ni nag sydd gan unrhyw ran arall o’r Deyrnas Unedig. Mae ysgolion, er enghraifft, wedi bod yn gwario £560 y flwyddyn yn llai ar bob disgybl unigol o’i gymharu â Lloegr; mae llai o arian ar gael i’w wario ar ysbytai, ffyrdd, ac, mewn gwirionedd, ar bob maes sydd wedi cael ei ddatganoli.
Mae’n beth ofnadwy i’w ddweud, ond mae Cymru’n cael bargen wirioneddol wael o fewn y Deyrnas Unedig. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud na fydd yn dechrau gweithredu’r refferendwm sy’n cael ei grybwyll yn Neddf Cymru, a basiwyd yn 2014, ar sail rhan 1 o adroddiad Comisiwn Silk hyd nes y bydd ariannu teg wedi cael ei ddatrys. Mae gennym lawer o broblemau yng Nghymru a byddai derbyn y £5.6 biliwn y dylem fod wedi ei dderbyn ar sail rheolau llywodraeth y D.U. pe baem yn rhan o Loegr yn mynd yn bell iawn tuag at ddatrys llawer ohonyn nhw.
Bydd yr etholiad cyffredinol ym mis Mai eleni a bydd etholiadau Llywodraeth Cymru y flwyddyn nesaf. Bydd y brwydrau yn ystod yr etholiadau hyn yn penderfynu pa fath o fywyd a gawn ni yn ystod y 5-10 mlynedd nesaf. Mae’r refferendwm ar annibyniaeth wedi arwain at lawer o frwydrau newydd a fydd yn effeithio arnom ni yma yng Nghymru:
Pleidleisiau Seisnig ar gyfer A.S.au Seisnig: pe bai hyn yn digwydd – ac mae llawer o bobl yn Lloegr eisiau hyn – byddai A.S.au Cymru (a’r Alban a Gogledd Iwerddon) yn A.S.au ail ddosbarth a bydden nhw’n methu pleidleisio ar y rhan fwyaf o’r ddeddfwriaeth yn Senedd y D.U. Byddem yn colli llawer o’n dylanwad yn llywodraeth y D.U. pe bai hyn yn digwydd.
Newid maint yr etholaethau: byddai llawer o bobl yn Lloegr yn hoffi gwneud yr holl etholaethau tua’r un maint o safbwynt nifer y bobl sy’n byw ym mhob un. Cofiwch: mewn etholiad cyffredinol, mae’r holl bleidleiswyr cymwys mewn etholaeth yn pleidleisio dros A.S. i’w cynrychioli yn Senedd y D.U. Mae 650 A.S. ac mae’r blaid sydd â’r nifer fwyaf o A.S.au yn sefydlu llywodraeth y D.U. fel arfer. Pe bai’r newid hwn yn digwydd, byddai nifer yr A.S.au yng Nghymru yn lleihau o 40 i 18. Sut byddai hyn yn effeithio ar ein dylanwad ni yn y D.U.?
Cynnal refferendwm ar adael yr UE (yr Undeb Ewropeaidd): byddai llawer o bobl yn hoffi cael pleidlais ar adael yr UE. Maen nhw’n meddwl fod rhaid i’r D.U. dalu mwy nag y mae’n cael yn ôl oddi wrth yr UE a bod gan Aelodau Seneddol Ewrop (ASE) ormod o ddylanwad ar yr hyn sy’n digwydd yn y D.U. Mae llawer o’n masnach ni yn y D.U., ac yng Nghymru, yn digwydd gyda gwledydd partneriaethol yn yr UE, felly pe baem yn gadael yr UE, byddai’r nwyddau rydyn ni’n eu gwneud a’r cnydau rydyn ni’n eu tyfu yn ddrutach yn y gwledydd hynny a bydden nhw’n prynu llai ohonyn nhw. Byddai hyn yn effeithio ar faint o arian rydyn ni’n ei gael yng Nghymru drwy fasnach.
Er bod y Deyrnas Unedig yn talu mwy o arian i’r UE nag yw’n cael yn ôl, mae’r arian hwnnw’n dod o’r ardaloedd cyfoethocaf, lle mae llai o anghenion. Mae lleoedd yn y D.U. sydd ag anghenion uwch, fel rhannau o Gymru er enghraifft, yn derbyn grantiau mawr. Rhwng 2014 a 2020, rhoddodd yr UE £2.3 biliwn (£2,300,000,000) i Lywodraeth Cymru i’w wario ar brojectau er mwyn helpu i wella bywyd ar draws Cymru, ond yn bennaf yn yr ardaloedd lle mae’r angen mwyaf.
Mae grantiau’r UE yn un ffordd o wneud ein sefyllfa yn y Deyrnas Unedig ychydig yn decach ac mae llawer o bobl eisiau cymryd hyn i ffwrdd.
Newid Fformiwla Barnett: byddai rhai pobl yn hoffi newid yr arian ychwanegol mae Gogledd Iwerddon a’r Alban yn ei dderbyn yn eu grant bloc er mwyn eu gwneud yn gyfartal â ni yma yng Nghymru ac â phobl yn Lloegr. Fodd bynnag, dim ond Llywodraeth Cymru sy’n ymladd i ddiddymu Fformiwla Barnett a chael rhywbeth sy’n deg i bawb.
© Hawlfraint 2014 Prifysgol Cymru oni bai y nodir yn wahanol
Datganoli mwy o bwerau i Gymru: mae’r rhan fwyaf o bobl y tu allan i Gymru eisiau i Gymru ddefnyddio’r ddeddfwriaeth yn Neddf Cymru 2014 er mwyn dechrau’r broses lle byddai 25% o’r arian sy’n cael ei wario yng Nghymru yn cael ei godi yng Nghymru drwy drethi. Fodd bynnag, mae llywodraeth bresennol Cymru’n gwrthod gwneud hyn hyd nes y bydd Fformiwla Barnett wedi cael ei newid oherwydd byddai defnyddio’r ddeddfwriaeth yn gallu cloi Cymru i mewn i’r ariannu annheg sydd wedi bodoli ers 35 mlynedd.
Er bod Llywodraeth Cymru eisiau’r pwerau datganoledig sydd wedi cael eu hamlinellu yn adroddiad Comisiwn Silk, nid oes unrhyw gefnogwyr mawr i hyn yn llywodraeth y D.U. eto.
Bydd ein rhifyn nesaf yn canolbwyntio ar ddaearyddiaeth yr etholiad cyffredinol a byddwn yn gallu gweld pwy sy’n dweud beth ac yn ceisio dyfalu beth fydd hyn yn ei olygu i ni.
Cwis ar y cynnwys – Cyfarwyddiadau: I gefnogi datblygiad eich llythrennedd, mae’n hanfodol eich bod chi ddim yn dyfalu’r atebion ac yna’n clicio. Ceisiwch fod yn siŵr cyn rhoi cynnig arni; beth am drafod a chytuno gyda ffrind. SGANIWCH y tair erthygl er mwyn chwilio am eiriau allweddol a fydd yn eich helpu chi i ateb y cwestiynau. Os byddwch chi’n anghywir, peidiwch â cheisio dewis ateb arall – ewch yn ôl a SGANIWCH yr erthyglau eto. Os byddwch chi’n clicio ar hap, byddwch chi’n dysgu dim byd a byddwch chi’n gwneud yn waeth yn yr Ymarfer Gwneud Penderfyniadau (YGP).
Ar ôl cymryd y cwis dylech fod yn barod i roi cynnig i’r ymarferion Gwneud Penderfyniadau. Sicrhewch eich bod yn defnyddio'r termau daearyddol rydych wedi dysgu.