25

Y Deyrnas Unedig

Y Deyrnas Unedig – nid yw’r rhan fwyaf o bobl ein gwlad yn gwybod yr enw cywir!

undefined

  1. Edrychwch ar y deunydd pecynnu hwn. Beth mae’n dweud wrth bobl am fywyd yng Nghymru?  Ysgrifennwch o leiaf bum peth.
  2. Ydyn nhw’n ddisgrifiad da o’r Gymru lle rydych chi’n byw?

Cyflwyniad 

map flags

Yn 2014, mae’n siŵr mai’r eitem fwyaf yn y newyddion oedd y refferendwm yn yr Alban ynglŷn â gadael y Deyrnas Unedig. Yn  2015, mwy na thebyg mai’r eitem fwyaf yn y newyddion fydd yr etholiad cyffredinol ym mis Mai.

Yn y rhifyn hwn o Daearyddiaeth  yn y Newyddion,  rydyn ni’n mynd i edrych ar beth yw’r Deyrnas Unedig.  Yn y rhifyn nesaf, byddwn ni’n edrych yn fanylach ar yr etholiad cyffredinol. 

Yn aml iawn, rydyn ni’n galw’r wlad yn Deyrnas Unedig, y D.U., Prydain neu Brydain Fawr. Fodd bynnag, yr enw swyddogol yw Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon. Mae’r ymadrodd Teyrnas Unedig yn yr enw yn dyddio’n ôl i’r flwyddyn 1801. Dechreuodd yr uno gyda Deddfau Uno 1536 a 1543 rhwng Cymru a Lloegr. Yn 1707, pasiodd senedd yr Alban a senedd Lloegr a Chymru  Ddeddf Uno a daethon ni’n Deyrnas Prydain Fawr. Ym 1801, arweiniodd Deddfau Uno rhwng Teyrnas Prydain  Fawr a Theyrnas Iwerddon at sefydlu Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon. Ym 1922, daeth y rhan fwyaf o Iwerddon yn wlad annibynnol (ac eithrio Gogledd Iwerddon) a daethon ni’n Deyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon.

Mae’r Deyrnas Unedig yn cynnwys Cymru, Yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr  (yr enw arnyn nhw weithiau yw pedair gwlad Prydain). Fodd bynnag, mae lleoedd eraill o gwmpas y byd sydd ddim yn rhan o’r Deyrnas Unedig ond mae gan y Deyrnas Unedig sofraniaeth drostyn nhw; mae tri o Diriogaethau Dibynnol ar y Goron ac un deg pedwar o Diriogaethau Prydeinig Tramor.                                                    

Mae’r Tiriogaethau Dibynnol ar y Goron yn eu rheoli eu hunain ond yn eiddo i’r Goron, sef Beiliaethau Jersey a Guernsey (sy’n cynnwys ynysoedd Sark ac Alderney - ac mae gan y rhain eu fersiynau etholedig eu hunain o senedd/cynulliad) ac Ynys Manaw. Er nad ydyn nhw’n wledydd annibynnol, mae gan bob un ohonyn nhw eu fersiynau etholedig eu hunain o senedd/cynulliad ac maen nhw’n pasio’u deddfau eu hunain.

Yr 14 Tiriogaeth Brydeinig Dramor yw: Anguilla; Bermuda; Tiriogaeth Antarctig Prydain; Tiriogaeth Cefnfor India Prydain; Ynysoedd y Wyryf Prydain; Ynysoedd Cayman; Ynysoedd Falkland; Gibraltar; Montserrat; Saint Helena, Ascension a Tristan da Cunha; Ynysoedd Turks a Caicos; Ynysoedd Pitcairn; Ynysoedd De Georgia a De Sandwich; a Gorsafoedd Sofran ar Gyprus. Roedd y rhan fwyaf o’r rhain yn perthyn i’r Ymerodraeth Brydeinig a phenderfynon nhw beidio â bod yn annibynnol er bod rhai ohonyn nhw'n rhan o gytundebau sydd wedi cael eu negodi gyda gwlad arall.

undefined

 

Mae’r map yn dangos pa mor eang oedd yr Ymerodraeth Brydeinig. Daeth y rhan fwyaf o wledydd yr Ymerodraeth Brydeinig yn wledydd annibynnol ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd. Daeth llawer ohonyn nhw’n weriniaethau. Dewisodd rhai gadw’r Frenhiniaeth Brydeinig (y Frenhines Elizabeth 2il ar hyn o bryd) fel Pennaeth y Wladwriaeth a dewisodd rhai gadw brenhiniaeth ond gan ddewis brenin/brenhines wahanol. Ymunodd llawer o’r gwledydd hyn â’r Gymanwlad o Genhedloedd ac erbyn heddiw mae 53 o aelodau.  Roedd y rhan fwyaf ohonyn nhw’n perthyn i’r Ymerodraeth Brydeinig neu mae ganddyn nhw gysylltiad cryf gydag aelod o’r Gymanwlad a oedd yn arfer bod yn aelod o’r Ymerodraeth. Mae’r aelodau’n ceisio cydweithio er mwyn hyrwyddo datblygiad economaidd pob aelod a hyrwyddo gwerthoedd fel democratiaeth a rhyddid ac mae gweithgareddau diwylliannol fel Gemau’r Gymanwlad yn cael eu cynnal hefyd.

Daearyddiaeth Ffisegol y Deyrnas Unedig 

undefined

Dyma lun lloeren o’r Deyrnas Unedig a gymerwyd gan NASA a gallwn ni weld llawer o ddaearyddiaeth ffisegol ynddo; ystyr daearyddiaeth ffisegol yw’r pethau naturiol a fyddai yno hyd yn oed pe na fyddai pobl yno. Fodd bynnag, mae’n bwysig cofio fod pobl yn gallu newid y ddaearyddiaeth ffisegol.

Beth am i chi a’ch ffrindiau nodi’r gwledydd canlynol ar y ddelwedd gan ddefnyddio eich gwybodaeth bresennol (rhowch sgôr i chi eich hun – ac yna chwiliwch amdanyn nhw mewn atlas (ar ffurf llyfr neu ar-lein):

Gwledydd Prydain:

  • Cymru
  • Yr Alban
  • Gogledd Iwerddon
  • Lloegr

O gwmpas yr arfordir

Ynysoedd

  • Ynys Môn (yr un fwyaf yng Nghymru)
  • Ynys Wyth (yr un fwyaf yn Lloegr)
  • Lewis a Harris (yr un fwyaf yn y D.U.)
  • Ynys Manaw

Cilfachau

  • Môr Hafren/ Aber Hafren 
  • Bae Ceredigion
  • Aber Tafwys
  • Y Wash
  • Aber Forth

Lleoliadau arfordirol pwysig eraill

  • Penrhyn Gŵyr (penrhyn = darn o dir gyda dŵr ar dair ochr)
  • Penrhyn Llŷn
  • Penrhyn Wrath
  • John o’Groats
  • Land’s End
  • Pentir Dunnet
  • Ynysoedd Orkney

Y llyn mwyaf

  • Lough Neagh

Tirwedd

undefined

Mae’r llun lloeren yn rhoi llawer o wybodaeth am dirwedd hefyd; tirwedd yw siâp y tir, pa mor uchel neu wastad neu serth yw’r tir. Cymharwch y llun lloeren gyda’r map tirwedd  hwn.

Ceisiwch nodi’r ardaloedd canlynol ar sail beth rydych chi’n ei wybod yn barod (rhowch sgôr i chi eich hun) ac yna defnyddiwch atlas neu ewch ar-lein): 

  • Eryri
  • Bannau Brycheiniog
  • Mynyddoedd Cambria
  • Y Cairngorms
  • Ucheldir yr Alban
  • Uwchdiroedd y De
  • Y Mynydd Bannog (Grampian)
  • Ardal y Llynnoedd
  • Y Pennines
  • Dartmoor
  • Mynyddoedd Mourne
  • Y Ffens

Yr ardal isaf yn y D.U. yw ardal y Ffens yn East Anglia, sy’n 4 metr islaw’r môr. 

Ceisiwch ddod o hyd i uchder y mynyddoedd uchaf canlynol (mewn metrau) ym mhob un o wledydd Prydain.

 

Lleoliad

Enw

Uchder (metrau)

Yr Alban

Ben Nevis

Chwiliwch am yr uchder.

Cymru

Yr Wyddfa

Chwiliwch am yr uchder.

Lloegr

Scafell Pike

Chwiliwch am yr uchder.

Gogledd Iwerddon

Slieve Donard

Chwiliwch am yr uchder.

Afonydd

Mae afonydd yn agwedd bwysig arall ar ddaearyddiaeth ffisegol. Ceisiwch lenwi’r tabl isod drwy ddarganfod hyd yr afonydd hyn mewn cilometrau.

Lleoliad

Enw

Hyd (km)

Y D.U. (drwy Gymru a Lloegr)

Afon Hafren

Chwiliwch am yr hyd.

Lloegr

Afon Tafwys

Chwiliwch am yr hyd.

Cymru

Afon Tywi

Chwiliwch am yr hyd.

Yr Alban

Afon Tay

Chwiliwch am yr hyd.

Gogledd Iwerddon

Afon Bann

Chwiliwch am yr hyd.

Arwynebedd

Fel arfer, ystyr arwynebedd yw faint o le sydd ar arwyneb gwastad. Mae’r tabl isod yn rhoi’r wybodaeth hon ar gyfer pob un o wledydd Prydain. Pan fyddwn ni’n meddwl am arwynebedd, mae angen rhoi ystyriaeth i dirwedd hefyd; yr hen jôc yw, ‘pe bai Cymru’n cael ei gwneud yn fflat, byddai’n fwy na Lloegr’; fodd bynnag, nid yw hyn yn wir, ond mae’n gwneud i ni sylweddoli os oes llawer o fryniau a mynyddoedd yn y wlad, bod pethau ychydig yn fwy cymhleth na mesur arwynebedd Cymru a Lloegr a gwneud penderfyniad ar sail hynny’n unig. Byddwn yn edrych yn fanylach ar hyn yn yr erthygl am Gymru.

Lleoliad

Arwynebedd

Lloegr

130,427 km2

Yr Alban

78,772 km2

Cymru

20,778 km2

Gogledd Iwerddon

13,843 km2

Cyfanswm yr arwynebedd

Cyfrifwch hyn.

Pam mae hyn i gyd yn bwysig?

Mae daearyddiaeth ffisegol yn effeithio ar eich bywyd, neu, yn bwysicach na hyn, ar ansawdd eich bywyd. Mae gan y rhan fwyaf o bobl syniad ‘Bocs Siocled’ am fywyd, sef ei fod yn debyg i’r darlun hyfryd o fynyddoedd neu fôr sydd ar ambell focs siocled neu felysion, yn enwedig y rhai sydd ar werth i dwristiaid. Ond nid yw bywyd fel hyn. Mae mynyddoedd, afonydd, cilfachau arfordirol, ynysoedd a phenrhynnau diarffordd fel Penrhyn Llŷn, Penrhyn Gŵyr a’r rhan fwyaf o Sir Benfro yn golygu bod lleoedd yn llawer pellach ac yn ddrutach i deithio iddyn nhw neu i ddarparu gwasanaethau ar eu cyfer nhw – gwasanaethau fel gofal iechyd, gofal cymdeithasol, casglu/gwaredu sbwriel ac addysg. Mae’r nodweddion hyn i gyd yng Nghymru; mae hyd yn oed y briffordd i Dde Cymru, lle mae mwyafrif y boblogaeth yn byw, yn croesi Môr Hafren/Aber Hafren ar hyd dwy bont ac mae pob car, fan a lori sy’n dod â phobl, nwyddau neu’n cario pethau i mewn ac allan o Gymru ar gyfer pob ffatri, fferm neu laethdy yn nhraean deheuol ein gwlad yn gorfod talu toll (tâl) uchel er mwyn eu croesi.

Ar gyfartaledd, mae byw yng Nghymru yn llawer drutach na byw yn Lloegr!

Agweddau allweddol ar ddaearyddiaeth ddynol y Deyrnas Unedig

Ystyr daearyddiaeth ddynol yw’r materion hynny mae pobl yn gyfrifol amdanyn nhw –pethau pwysig fel poblogaeth (nifer y bobl sydd mewn lle neu ardal), ble mae pobl yn byw (anheddiad/aneddiadau), ble mae pobl yn gweithio neu’n gwneud eu harian, sut mae pobl yn teithio o un lle i’r llall (trafnidiaeth) a sut rydyn ni’n cael ein hynni, megis trydan neu betrol. Gallai’r rhestr fod yn llawer hirach pe baen ni’n edrych ar bopeth, o iechyd i droseddau a hyd yn oed chwaraeon fel pêl-droed.

Demograffeg y Deyrnas Unedig

Astudiaeth o’r boblogaeth yw Demograffeg. Bob deng mlynedd, mae’r Deyrnas Unedig yn cynnal cyfrifiad, sef astudiaeth fanwl o’r holl bobl yn y wlad. Cynhaliwyd y cyfrifiad diwethaf yn 2011 a bydd yr un nesaf yn cael ei gynnal yn 2021. Mae pob teulu/cartref neu breswylfa yn derbyn llyfryn sy’n cynnwys cwestiynau manwl am bawb sy’n byw yno. Y Cyfrifiad yw’r brif ffynhonnell wybodaeth ar ddemograffeg yn y Deyrnas Unedig yn ogystal ag am nifer o ffactorau eraill sy’n effeithio ar y bobl sy’n byw yma. Mae’r wybodaeth hon yn cael ei defnyddio wrth wneud llawer o benderfyniadau; bydd angen i chi wneud hyn maes o law.

Poblogaeth yn y Deyrnas Unedig

Lleoliad

Poblogaeth

Lloegr

53,012,456

Yr Alban

5,295,000

Cymru

3,063,456

Gogledd Iwerddon 

1,810,863

Cyfanswm y boblogaeth

Cyfrifwch y cyfanswm.

Mae poblogaeth y Deyrnas Unedig yn cynyddu ar hyn o bryd a rhagwelir y bydd cynnydd o tua 10 miliwn o bobl yn ystod yr 20 mlynedd nesaf.  Mae cynllunio ar gyfer cynnydd mor fawr yn rheswm pam mae astudio demograffeg o safbwynt daearyddiaeth ddynol mor bwysig i’r bobl sy’n gwneud penderfyniadau.

Anheddiad

Ystyr anheddiad ym maes daearyddiaeth yw man lle mae pobl yn byw; gall fod yn ddinas, tref, pentref neu bentrefan. Ym maes daearyddiaeth, rydyn ni’n gallu disgrifio lle fel un trefol (sy’n cyfeirio at ardaloedd lle mae adeiladau yn bennaf e.e. trefi neu ddinasoedd) neu fel un gwledig (ardaloedd cefn gwlad yn bennaf, gyda rhai pentrefi neu drefi llai efallai).

Yng Nghyfrifiad 2011, a gafodd ei gynnal a’i ddadansoddi gan lywodraeth y Deyrnas Unedig, cafodd yr ymadrodd ardal drefol ei newid i ardal adeiledig. Gallwch chi weld y rhain yn y tabl isod. Mae mwyafrif y rhai mwyaf yn glymdrefi (clymdref yw’r gair rydyn ni’n ei ddefnyddio am ardaloedd lle mae trefi a dinasoedd gwahanol wedi tyfu tuag at ei gilydd neu wedi uno). Cyn y bydd y cyfrifiad yn ystyried tref neu ddinas yn rhan o ardal drefol fwy, rhaid cael bwlch o lai na 200 metr rhyngddyn nhw, heb unrhyw adeiladau. O ddefnyddio’r diffiniad hwn, mae hynny’n golygu bod Penarth, Caerffili a Phontypridd yn rhan o ardal adeiledig Caerdydd mewn gwirionedd.

Safle

Enw

Poblogaeth

1

Ardal adeiledig Llundain Fwyaf*

9,787,426

2

Ardal adeiledig Manceinion Fwyaf

2,553,379

3

Ardal adeiledig Gorllewin Canolbarth Lloegr (o gwmpas Birmingham)

2,440,986

4

Ardal adeiledig Gorllewin Swydd Efrog (o gwmpas Leeds)

1,777,934

5

Glasgow

1,209,143

6

Ardal adeiledig Lerpwl

864,122

7

Ardal adeiledig De Hampshire (o gwmpas  Southampton)

855,569

8

Ardal adeiledig Tyneside (o gwmpas Newcastle)

774,891

9

Ardal adeiledig Nottingham

729,977

10

Ardal adeiledig Sheffield

685,368

11

Ardal adeiledig Bryste

617,280

12

Ardal adeiledig Belfast*

579,127

14

Ardal adeiledig Caeredin*

482,005

17

Ardal adeiledig Caerdydd*

447,287

26

Ardal adeiledig Casnewydd

306,844

27

Ardal adeiledig Abertawe

300,352

-

Wrecsam (heb ei rancio)

134,844

* prifddinas un o wledydd Prydain

Cwestiwn – Trafodwch a Phenderfynwch

Dangosodd y Cyfrifiad fod 81.5% o’r bobl sy’n byw yng Nghymru a Lloegr yn byw mewn ardaloedd trefol.  Fodd bynnag, dim ond 67% oedd y ffigur ar gyfer Cymru. Mae hyn yn golygu bod tua 15% yn fwy o bobl Cymru’n byw mewn ardaloedd gwledig o’i gymharu â Lloegr.

Cwestiwn – Trafodwch a Phenderfynwch

Mae’n llawer iawn drutach darparu gwasanaethau fel iechyd ac addysg mewn ardal wledig nag mewn ardal drefol. Yn syml iawn, mae’n costio mwy y pen i ddarparu ar gyfer pobl yng Nghymru nag i ddarparu ar gyfer pobl yn Lloegr. Ardaloedd trefol mawr yw’r ardaloedd rhataf, felly, yn aml iawn, mae Llundain yn perfformio’n well nag ardaloedd eraill o safbwynt meysydd fel addysg, a hynny’n bennaf oherwydd ei bod yn rhatach darparu  gwasanaethau, felly mae mwy o arian ar gael ar gyfer gwella’r gwasanaethau hyn o’i gymharu â Chymru.

Trafnidiaeth

Mae trafnidiaeth yn rhan bwysig o ddaearyddiaeth ddynol. Meddyliwch am y wybodaeth ganlynol: yn ôl www.distancebetween.com, mae 132 milltir rhwng Caerdydd a Llundain ar hyd llinell syth. Mae 139 milltir o Gaerdydd i Gaergybi, sef ein prif borthladd ar gyfer masnach gydag Iwerddon a Gogledd Iwerddon. Am 5 o’r gloch ar nos Fawrth, roedd Google Maps yn amcangyfrif y byddai’n cymryd 2 awr 59 munud i deithio o Gaerdydd i Lundain mewn car. Ar yr un pryd, roedd yn amcangyfrif y byddai’r daith rhwng Caerdydd a Chaergybi’n cymryd 4 awr a 41 munud mewn car.

Cwestiwn – Trafodwch a Phenderfynwch ar ôl edrych eto ar y map tirwedd.

Yr ateb syml yw tirwedd uchel Cymru; mae gan Gymru lawer o fynyddoedd ac nid yw’r daith o Gaerdydd i Gaergybi’n un syml.

Cwestiwn – Trafodwch a Phenderfynwch ar ôl edrych ar y map tirwedd eto.

Mae’r daith o Gaerdydd i Gaergybi’n mynd drwy Fannau Brycheiniog, Mynyddoedd Cambria ac, yn olaf, Eryri.  Mae adeiladu ffyrdd drwy dirwedd fel hyn yn ddrud iawn, felly mae’r daith yn mynd ar hyd ffyrdd hŷn a llai sy’n troelli o gwmpas bryniau a mynyddoedd neu sy’n dilyn dargyfeiriad er mwyn mynd i fyny dyffryn afon er mwyn dod o hyd i dir mwy gwastad.

Gwaith

undefined

Mae gwaith a chyflogaeth yn rhan fawr iawn o ddaearyddiaeth ddynol. Yng Nghymru, rydyn ni’n wynebu sawl her, sy’n cynyddu anghenion y bobl sy’n byw yma. Hyd at tua 30 mlynedd yn ôl, roedd llawer o swyddi’n gysylltiedig â chloddio am lo, cynhyrchu dur a pheirianneg trwm.

O’i gymharu â gweddill y D.U. roedd, ac mae, gan Gymru lawer llai o bobl yn cael eu cyflogi mewn gwasanaethau a llawer mwy o bobl yn cael eu cyflogi ym myd gwneuthuro neu mewn gweithgareddau sylfaenol megis cael adnoddau megis glo yn uniongyrchol o’r blaned.

Edrychwch ar y ddelwedd o’r newidiadau mewn Cyflogaeth ers Cyfrifiad 1841.

Sut rydych chi’n meddwl y bydd hyn yn effeithio ar Gymru o’i gymharu â Lloegr?

undefined

Gallai’r swyddi hyn effeithio’n wael iawn ar iechyd y gweithwyr; mae gan lawer o bobl sydd dros 55 oed fwy o broblemau iechyd ac, mewn rhai ardaloedd, mae lefelau anabledd yn llawer iawn uwch na’r cyfartaledd ar gyfer y D.U.

undefined

Roedd llawer o’r swyddi hyn, megis cloddio am lo a gwneud dur, wedi’u lleoli mewn ardaloedd lle’r oedd y deunydd crai ar gael, e.e. glo a mwyn haearn. Tyfodd nifer o’n trefi o gwmpas y diwydiannau hyn ond wrth i’r diwydiannau gau, roedd ein trefi yn y mannau anghywir o safbwynt lleoli busnesau modern ynddyn nhw. Mae nifer o bobl yn ein hen drefi yn gaeth yno oherwydd ffactorau fel edrych ar ôl y teulu neu fethu â gwerthu eu cartrefi am bris rhesymol a phrynu tŷ mewn man arall. Canlyniad hyn yw bod pobl naill ai’n gorfod teithio’n bell i’r gwaith bob dydd neu, yn waeth na hynny, eu bod nhw’n gaeth i ardal lle mae nifer fach o swyddi sy’n talu’n dda neu lle nad oes unrhyw swyddi ar gael o gwbl, bron.

 

Ymarfer Gwneud Penderfyniadau

Yn gyntaf, ceisiwch ddarllen gweddill yr adnoddau cysylltiedig cheisiwch lenwi’r daflen adnoddau ar gyfer disgyblion.

Mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu cynhyrchu canllaw ar gyfer pleidleiswyr yng Nghymru fel eu bod nhw’n deall y brwydrau mawr yn ystod yr etholiad cyffredinol eleni.

Ariannu Teg

Fel daearyddwr, penderfynwch (rhowch resymau manwl dros ddewis un opsiwn yn hytrach na’r opsiynau eraill) a dywedwch wrth Lywodraeth Cymru a ddylai llywodraeth y Deyrnas Unedig yn Llundain roi arian i Gymru gan: 

  • Roi mwy o arian i Gymru fel ei bod yn cyfateb i’r Alban a bod pobl Cymru’n derbyn yr un faint o arian y pen fel pe bai Cymru’n rhanbarth o Loegr a bod hyn yn seiliedig ar eu hanghenion.
  • Rhoi llai o arian i Gymru fel ei bod yn cael yr un faint y pen ag yn Lloegr, lle mae’r anghenion yn llawer llai.
  • Cadw pethau fel y maen nhw.

Refferendwm ar yr UE

Fel daearyddwr, penderfynwch (rhowch resymau manwl dros ddewis un opsiwn yn hytrach na’r opsiynau eraill) a: 

  • Dywedwch beth fyddai’r effaith debygol ar Gymru pe bai’r Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.
  • Dywedwch beth fyddai’r effaith debygol ar Gymru pe bai’r Deyrnas Unedig yn aros yn yr Undeb Ewropeaidd.

Diwygio’r Senedd

Fel daearyddwr, penderfynwch (rhowch resymau manwl dros ddewis un opsiwn yn hytrach na’r opsiwn arall) a:

  • Dywedwch beth fyddai’r effaith debygol ar Gymru pe bai senedd y Deyrnas Unedigyn cael Pleidleisiau Seisnig ar Faterion Seisnig.
  • Dywedwch beth fyddai’r effaith debygol ar Gymru pe bai nifer Aelodau Seneddol y Deyrnas Unedig yn lleihau o 40 allan o 650 i ddim ond 18 allan o 650.

Mae’r adnodd hwn wedi cael ei gynllunio i’w ddefnyddio gyda’r dosbarth cyfan o du blaen y dosbarth ar brojector/bwrdd gwyn rhyngweithiol. Dylai’r athro roi eglurhad ar y delweddau amrywiol, gan seilio’r sylwadau ar y testun. Ni fydd modd i fwyafrif llethol y disgyblion ddarllen y testun cyfan o fewn yr amser sydd ar gael. Yn ddelfrydol, dylai’r disgyblion gael mynediad i’r adnodd ar-lein er mwyn gweithio ar y daflen gweithgareddau (dylid argraffu hon ar bapur A3). Yn ddelfrydol, dylid rhoi cefnogaeth ar gyfer y gweithgareddau hyn, sef ystafell rwydwaith, llechi/gliniaduron neu ffonau’r disgyblion eu hunain, os caniateir y rhain. Fodd bynnag, mae’r gweithgareddau wedi cael eu cynllunio ar gyfer eu defnyddio mewn gwers arferol, sef un awr, gyda’r athro’n defnyddio’r adnodd yn nhu blaen yr ystafell ddosbarth ochr yn ochr â’r daflen adnoddau. Yna, gellid rhoi gwaith cartref i’r disgyblion, sef astudio’r tair erthygl cyn y wers nesaf.

Mae’r adnodd a’r daflen gysylltiedig wedi cael eu cynllunio fel eu bod yn cefnogi’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd, gan roi i ddisgyblion wybodaeth ddaearyddol allweddol (elfennau o lythrennedd diwylliannol fel y’u cyflwynwyd gan E.D. Hirsch ac sy’n gyrru llawer o’r newid ideolegol cyfredol yn y cwricwlwm Saesneg) ynglŷn â lleoedd er mwyn gwneud penderfyniad goleuedig ar fater cyfredol pwysig iawn yn y newyddion ar hyn o bryd – ariannu teg ar gyfer Cymru.

Darllenwch a chwblhewch y gweithgareddau yn yr erthygl ar-lein ac yn yr erthyglau cysylltiedig yn y rhifyn hwn o Daearyddiaeth yn y Newyddion - naill ai yn yr ystafell ddosbarth neu gartref. Ceisiwch orffen yr holl weithgareddau sydd ar y daflen adnoddau.

Beth fyddwch chi’n ei ddysgu:

  • Byddwch chi’n cynyddu eich gwybodaeth am leoedd gwahanol.
  • Byddwch chi’n cynyddu eich dealltwriaeth o’r ffordd mae’r gwahaniaethau yn y lleoedd hyn yn effeithio ar bobl.
  • Byddwch chi’n cael cyfle i ddysgu neu ymarfer sgiliau llythrennedd a rhifedd pwysig.
  • Byddwch chi’n dysgu sut i wneud penderfyniadau ac yn cael profiad o wneud hynny.

Byddwch chi’n dysgu ymadroddion daearyddol newydd, wedi’u goleuo mewn porffor. Dylech chi ddysgu’r rhain a’u cynnwys mewn geirfa. Rhestr o eiriau a’u hystyr yw geirfa. Gallech chi gael un yng nghefn eich llyfr ysgrifennu daearyddiaeth. Os oes gyda chi gynlluniadur, mwy na thebyg bod lle da yn hwnnw ar gyfer cadw geirfa neu gallech chi gadw llyfr geirfa ar wahân. Mae geirfa dda yn eich helpu chi i ddatblygu eich geirfa a’ch llythrennedd.

Top

Mwy o’r rhifyn yma...

Sut mae'r Deyrnas Unedig yn gweithio?

Sut mae'r Deyrnas Unedig yn gweithio?

Cymru yn y Deyrnas Unedig

Cymru yn y Deyrnas Unedig