Y Deyrnas Unedig – Nid yw’r rhan fwyaf o bobl ein gwlad yn gwybod yr enw cywir!
Yn 2014, roedd y refferendwmyn yr Alban yn eitem fawr yn y newyddion. Ystyr refferendwm yw pleidlais ar benderfyniad pwysig. Pleidleisiodd yr Alban o blaid aros yn y Deyrnas Unedig yn hytrach na bod yn wlad annibynnol.
Yn 2015, mwy na thebyg mai’r eitem fwyaf yn y newyddion fydd yr etholiad cyffredinol ym mis Mai. Ystyr etholiad cyffredinol yn y Deyrnas Unedig yw pan fyddwn ni’n pleidleisio i gael y 650 A.S. i ffurfio Senedd y D.U. Ystyr A.S. yw Aelod Seneddol a’r Senedd yw’r enw ar y lle mae ein haelodau seneddol yn mynd iddo yn Llundain er mwyn rhedeg y Deyrnas Unedig.
Yn aml iawn, rydyn ni’n galw ein gwlad yn Deyrnas Unedig, y D.U., Prydain neu Brydain Fawr, ond yr enw swyddogol yw Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon.
Mae’r Deyrnas Unedig yn cynnwys Cymru, Yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr (yr enw arnyn nhw weithiau yw pedair gwlad Prydain), ond mae rhai lleoedd yn y byd sydd ddim yn rhan o’r Deyrnas Unedig ond mae gan y Deyrnas Unedig sofraniaeth (rheolaeth) drostyn nhw. Mae rhai’n cael eu galw’n Diriogaethau Dibynnol ar y Goron ac mae rhai’n cael eu galw’n Diriogaethau Brydeinig Dramor.
Anguilla; Bermuda; Tiriogaeth Antarctig Prydain; Tiriogaeth Cefnfor India Prydain; Ynysoedd y Wyryf Prydain; Ynysoedd Cayman; Ynysoedd Falkland; Gibraltar; Montserrat; Saint Helena, Ascension a Tristan da Cunha; Ynysoedd Turks a Caicos; Ynysoedd Pitcairn; Ynysoedd De Georgia a De Sandwich; a Gorsafoedd Sofran ar Gyprus. Roerdd y rhan fwyaf o’r rhain yn perthyn i’r Ymerodraeth Brydeinig a phenderfynon nhw beidio â bod yn annibynnol er bod rhai ohonyn nhw'n rhan o gytundebau sydd wedi cael eu trafod gyda gwlad arall.
Mae’r map yn dangos pa mor eang oedd yr Ymerodraeth Brydeinig. Daeth y rhan fwyaf o wledydd yr Ymerodraeth Brydeinig yn wledydd annibynnol ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd. Ymunodd llawer o’r gwledydd hyn â’r Gymanwlad o Genhedloedd ac erbyn heddiw mae 53 o aelodau. Roedd y rhan fwyaf ohonyn nhw’n perthyn i’r Ymerodraeth Brydeinig neu mae ganddyn nhw gysylltiad cryf gydag aelod o’r Gymanwlad a oedd yn arfer bod yn aelod o’r Ymerodraeth. Mae’r aelodau’n ceisio cydweithio er mwyn helpu ei gilydd a hyrwyddo syniadau fel democratiaeth a rhyddid ac mae gweithgareddau diwylliannol fel Gemau’r Gymanwlad yn cael eu cynnal hefyd.
Dyma ffotograff o’r Deyrnas Unedig o’r gofod. Rydyn ni’n gallu gweld llawer o ddaearyddiaeth ffisegol yn y llun. Ystyr daearyddiaeth ffisegol yw’r pethau naturiol sydd ar y ddaear hyd yn oed os nad oes pobl yno.
Ceisiwch enwi’r lleoedd canlynol ar y llun gyda’ch ffrindiau a defnyddiwch atlas (mewn llyfr neu ar-lein) i’ch helpu chi:
Ynysoedd
Cilfachau
Dyma fap sy’n dangos y dirwedd. Ystyr tirwedd yw pa mor uchel neu isel neu serth yw’r tir.
Unwaith eto, ceisiwch nodi’r mannau canlynol. Nodwch y rhai sy’n gyfarwydd i chi ac yna defnyddiwch atlas neu ewch ar-lein i ateb y lleill:
Yr ardal isaf yn y D.U. yw ardal y Ffens yn East Anglia, sy’n 4 metr islaw’r môr:
Ceisiwch ddod o hyd i uchder y mynyddoedd uchaf canlynol (mewn metrau) ym mhob un o wledydd Prydain.
Lleoliad |
Enw |
Uchder (metrau) |
Yr Alban |
Ben Nevis |
Chwiliwch am yr uchder. |
Cymru |
Yr Wyddfa |
Chwiliwch am yr uchder. |
Lloegr |
Scafell Pike |
Chwiliwch am yr uchder. |
Gogledd Iwerddon |
Slieve Donard |
Chwiliwch am yr uchder. |
Mae afonydd yn agwedd bwysig arall ar ddaearyddiaeth ffisegol. Ceisiwch lenwi’r tabl isod drwy ddarganfod hyd yr afonydd hyn mewn cilometrau.
Lleoliad |
Enw |
Hyd (km) |
Y D.U. (drwy Gymru a Lloegr) |
Afon Hafren |
Chwiliwch am yr hyd. |
Lloegr |
Afon Tafwys |
Chwiliwch am yr hyd. |
Cymru |
Afon Tywi |
Chwiliwch am yr hyd. |
Yr Alban |
Afon Tay |
Chwiliwch am yr hyd. |
Gogledd Iwerddon |
Afon Bann |
Chwiliwch am yr hyd. |
Fel arfer, arwynebedd yw faint o le sydd ar dir gwastad.
Mae’r tabl isod yn dangos arwynebedd pob un o wledydd Prydain.
Lleoliad |
Arwynebedd |
Lloegr |
130,427 km2 |
Yr Alban |
78,772 km2 |
Cymru |
20,778 km2 |
Gogledd Iwerddon |
13,843 km2 |
Cyfanswm yr arwynebedd |
Cyfrifwch hyn. |
Yn ôl hen jôc:
‘Pe bai Cymru’n cael ei gwneud yn fflat, byddai’n fwy na Lloegr.’
Dydy hyn DDIM yn wir ond mae’n gwneud i ni sylweddoli bod pethau’n wahanol mewn gwlad fel Cymru, lle mae llawer o fryniau a mynyddoedd o’i gymharu â gwlad fwy gwastad fel Lloegr.
Mae daearyddiaeth ffisegol yn effeithio ar eich bywyd chi, neu, yn bwysicach na hyn, ar ansawdd eich bywyd chi.
Mae gan lawer o bobl syniad ‘Bocs Siocled’ am fywyd yng Nghymru.
Mae hyn yn golygu eu bod nhw'n meddwl ein bod ni’n byw mewn gwlad sy’n debyg i’r llun hardd o fynyddoedd neu fôr rydyn ni’n ei weld ar focs siocledi neu felysion eraill – yn enwedig y rhai sydd ar werth i dwristiaid.
Ond dydy bywyd ddim fel hyn oherwydd mae mynyddoedd, afonydd, cilfachau arfordirol, ynysoedd a phen pellaf penrhynnau anghysbell fel Penrhyn Gŵyr neu’r rhan fwyaf o Sir Benfro yn ei gwneud hi’n llawer pellach a drutach i deithio iddyn nhw neu i dalu am bethau fel ysbytai ac ysgolion.
Ar gyfartaledd, mae byw yng Nghymru yn llawer drutach na byw yn Lloegr!
Ystyr daearyddiaeth ddynol yw’r pethau mae pobl yn gyfrifol amdanyn nhw –pethau pwysig fel poblogaeth (nifer y bobl sydd mewn lle neu ardal), ble mae pobl yn byw (aneddiadau), ble mae pobl yn gweithio neu’n gwneud eu harian, sut mae pobl yn teithio o un lle i’r llall (trafnidiaeth).
Poblogaeth y Deyrnas Unedig
Ystyr poblogaeth yw nifer y bobl sy’n byw yn rhywle.
Bob deng mlynedd, mae’r Deyrnas Unedig yn cynnal cyfrifiad, sef astudiaeth fanwl o’r holl bobl yn y wlad.
Cafodd y cyfrifiad diwethaf ei gynnal yn 2011 a bydd yr un nesaf yn cael ei gynnal yn 2021.
Mae pob cartref yn derbyn ffurflen fawr i’w llenwi am bawb sy’n byw yno.
Y cyfrifiad yw'r brif ffynhonnell wybodaeth am y bobl sy’n byw yn y Deyrnas Unedig. Mae’r wybodaeth yn cael ei defnyddio gan ein harweinwyr er mwyn gwneud penderfyniadau.
Poblogaeth yn y Deyrnas Unedig
Lleoliad |
Poblogaeth |
Lloegr |
53,012,456 |
Yr Alban |
5,295,000 |
Cymru |
3,063,456 |
Gogledd Iwerddon |
1,810,863 |
Cyfanswm y boblogaeth |
Cyfrifwch y cyfanswm. |
Mae poblogaeth y Deyrnas Unedig yn cynyddu ar hyn o bryd a bydd yn cynyddu tua 10 miliwn o bobl yn ystod yr 20 mlynedd nesaf. Rhaid i’n harweinwyr wneud cynlluniau ar gyfer yr holl bobl ychwanegol hyn.
Ystyr anheddiad mewn daearyddiaeth yw man lle mae pobl yn byw; gall fod yn ddinas, tref neu bentref. Mewn daearyddiaeth, rydyn ni’n disgrifio lle fel un trefol (adeiladau yn bennaf e.e. trefi neu ddinasoedd) neu fel un gwledig (cefn gwlad yn bennaf).
Roedd Cyfrifiad 2011, yn galw’r ardaloedd trefol mawr yn ardaloedd adeiledig. Gallwch chi weld y rhain yn y tabl isod. Mae mwyafrif y rhai mwyaf yn glymdrefi (clymdref yw’r gair rydyn ni’n ei ddefnyddio am ardaloedd lle mae trefi a dinasoedd gwahanol wedi tyfu tuag at ei gilydd neu wedi uno).
Safle |
Enw |
Poblogaeth |
1 |
Ardal adeiledig Llundain Fwyaf* |
9,787,426 |
2 |
Ardal adeiledig Manceinion Fwyaf |
2,553,379 |
3 |
Ardal adeiledig Gorllewin Canolbarth Lloegr (o gwmpas Birmingham) |
2,440,986 |
4 |
Ardal adeiledig Gorllewin Swydd Efrog (o gwmpas Leeds) |
1,777,934 |
5 |
Glasgow |
1,209,143 |
6 |
Ardal adeiledig Lerpwl |
864,122 |
7 |
Ardal adeiledig De Hampshire (o gwmpas Southampton) |
855,569 |
8 |
Ardal adeiledig Tyneside (o gwmpas Newcastle) |
774,891 |
9 |
Ardal adeiledig Nottingham |
729,977 |
10 |
Ardal adeiledig Sheffield |
685,368 |
11 |
Ardal adeiledig Bryste |
617,280 |
12 |
Ardal adeiledig Belfast* |
579,127 |
14 |
Ardal adeiledig Caeredin* |
482,005 |
17 |
Ardal adeiledig Caerdydd* |
447,287 |
26 |
Ardal adeiledig Casnewydd |
306,844 |
27 |
Ardal adeiledig Abertawe |
300,352 |
- |
Wrecsam (heb ei rancio) |
134,844 |
* prifddinas un o wledydd Prydain |
Dangosodd y Cyfrifiad fod 81.5% o’r bobl sy’n byw yng Nghymru a Lloegr yn byw mewn ardaloedd trefol. Fodd bynnag, dim ond 67% oedd y ffigur ar gyfer Cymru. Mae hyn yn golygu bod tua 15% yn fwy o bobl Cymru’n byw mewn ardaloedd gwledig o’i gymharu â Lloegr.
“Beth yw’r ots am hynny?” rydych chi’n dweud.
Mae’n llawer iawn drutach darparu gwasanaethau fel iechyd ac addysg mewn ardal wledig nag mewn ardal drefol.
Yn syml iawn, mae’n costio mwy i ddarparu ar gyfer pob person yng Nghymru nag i ddarparu ar gyfer pobl yn Lloegr.
Trafodwch a Phenderfynwch – Awgrymwch rai rhesymau pam mae’n ddrutach darparu gwasanaethau mewn ardal wledig nag mewn ardal drefol.
Mae trafnidiaeth yn rhan bwysig o ddaearyddiaeth ddynol.
Mae 132 milltir rhwng Caerdydd a Llundain ar hyd llinell syth. Mae 139 milltir o Gaerdydd i Gaergybi, sef ein prif borthladd ar gyfer masnachu gydag Iwerddon a Gogledd Iwerddon.
Am 5 o’r gloch ar nos Fawrth, roedd Google Maps yn amcangyfrif y byddai’n cymryd 2 awr 59 munud i deithio o Gaerdydd i Lundain mewn car. Ar yr un pryd, roedd yn amcangyfrif y byddai’r daith rhwng Caerdydd a Chaergybi’n cymryd 4 awr a 41 munud mewn car.
Trafodwch a Phenderfynwch
Yr ateb syml yw’r dirwedd; cofiwch fod gan Gymru lawer o fynyddoedd ac mae’r daith o Gaerdydd i Gaergybi’n mynd drwy Fannau Brycheiniog, Mynydd Cambria ac Eryri. Mae adeiladu ffyrdd drwy dirwedd fel hyn yn ddrud iawn, felly mae’r daith yn mynd ar hyd ffyrdd hŷn a llai sy’n troelli o gwmpas bryniau a mynyddoedd.
Mae gwaith a chyflogaeth yn rhan fawr iawn o ddaearyddiaeth ddynol. Yng Nghymru, rydyn ni’n wynebu sawl her, sy’n cynyddu anghenion y bobl sy’n byw yma.
Hyd at tua 30 mlynedd yn ôl, roedd llawer o swyddi’n gysylltiedig â chloddio am lo, cynhyrchu dur a pheirianneg trwm.
Roedd y swyddi hyn yn gallu effeithio ar iechyd y gweithwyr yn ofnadwy; mae gan lawer o bobl sydd dros 55 oed fwy o broblemau iechyd ac, mewn rhai ardaloedd, mae lefelau anabledd yn llawer iawn uwch na’r cyfartaledd ar gyfer y D.U.
Roedd llawer o’r swyddi hyn, fel cloddio am lo neu wneud dur, mewn ardaloedd lle’r oedd glo a haearn o dan y ddaear.
Tyfodd nifer o’n trefi o gwmpas yr hen swyddi hyn ond wrth i’r swyddi ddiflannu, roedd ein trefi yn y mannau anghywir o safbwynt y mathau newydd o swyddi. Canlyniad hyn yw bod pobl naill ai’n gorfod teithio’n bell i’r gwaith bob dydd neu, yn waeth na hynny, eu bod nhw’n gorfod aros mewn man lle mae nifer fach o swyddi sy’n talu’n dda neu lle nad oes unrhyw swyddi o gwbl ar gael.
Yn gyntaf, ceisiwch ddarllen y tair erthygl a’r daflen gweithgareddau.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i chi gynhyrchu canllaw daearyddiaeth ar gyfer pleidleiswyr yng Nghymru fel eu bod nhw’n deall y brwydrau mawr yn ystod yr etholiad cyffredinol eleni.
Penderfynwch (rhowch resymau dros ddewis un opsiwn yn hytrach na’r opsiynau eraill) a dywedwch a ddylai llywodraeth y Deyrnas Unedig yn Llundain roi arian i Gymru gan:
Penderfynwch (rhowch resymau dros ddewis un opsiwn yn hytrach na’r opsiwn arall) ac:
Penderfynwch (rhowch resymau dros ddewis un opsiwn yn hytrach na’r opsiwn arall) ac:
Mae’r adnodd hwn wedi cael ei gynllunio i’w ddefnyddio gyda’r dosbarth cyfan o du blaen y dosbarth ar brojector/bwrdd gwyn rhyngweithiol. Dylai’r athro roi eglurhad ar y delweddau amrywiol, gan seilio’r sylwadau ar y testun. Ni fydd modd i fwyafrif llethol y disgyblion ddarllen y testun cyfan o fewn yr amser sydd ar gael. Yn ddelfrydol, dylai’r disgyblion gael mynediad i’r adnodd ar-lein er mwyn gweithio ar y daflen gweithgareddau (dylid argraffu hon ar bapur A3). Yn ddelfrydol, dylid rhoi cefnogaeth ar gyfer y gweithgareddau hyn, sef ystafell rwydwaith, llechi/gliniaduron neu ffonau’r disgyblion eu hunain, os caniateir y rhain. Fodd bynnag, mae’r gweithgareddau wedi cael eu cynllunio ar gyfer eu defnyddio mewn gwers arferol, sef un awr, gyda’r athro’n defnyddio’r adnodd yn nhu blaen yr ystafell ddosbarth ochr yn ochr â’r daflen adnoddau. Yna, gellid rhoi gwaith cartref i’r disgyblion, sef astudio’r tair erthygl cyn y wers nesaf.
Mae’r adnodd a’r daflen gysylltiedig wedi cael eu cynllunio fel eu bod yn cefnogi’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd, gan roi i ddisgyblion wybodaeth ddaearyddol allweddol (elfennau o lythrennedd diwylliannol fel y’u cyflwynwyd gan E.D. Hirsch ac sy’n gyrru llawer o’r newid ideolegol cyfredol yn y cwricwlwm Saesneg) ynglŷn â lleoedd er mwyn gwneud penderfyniad goleuedig ar fater cyfredol pwysig iawn yn y newyddion ar hyn o bryd – ariannu teg ar gyfer Cymru.
Darllenwch a cheisiwch orffen yr holl weithgareddau sydd ar y daflen adnoddau, naill ai yn y dosbarth neu gartref.
Byddwch chi’n dysgu ymadroddion daearyddol newydd, sydd wedi’u goleuo mewn porffor. Dylech chi ddysgu’r rhain a’u hychwanegu at eirfa. Rhestr o eiriau a’u hystyr yw geirfa. Gallech chi gael un yng nghefn eich llyfr ysgrifennu daearyddiaeth. Os oes gyda chi gynlluniadur, mwy na thebyg bod lle da yn hwnnw ar gyfer cadw geirfa neu gallech chi gadw llyfr geirfa ar wahân. Mae rhestr dda o eiriau yn eich helpu chi i ddatblygu eich geirfa a’ch llythrennedd.