Pleidleisiodd Cymru dros ddatganoli ym 1997. Ystyr datganoli yn y Deyrnas Unedig yw statud sy’n rhoi pwerau penodol i’r cynulliadau sydd wedi cael eu datganoli (Senedd yn yr Alban). (Ystyr statud yw cyfraith sydd wedi cael ei phasio gan y Senedd yn y D.U.)
Dechreuodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym 1998.
Mae ganddo 60 aelod sydd wedi cael eu hethol.
Ym 1998, roedd yn gallu gwneud penderfyniadau ar y pynciau a oedd wedi cael eu datganoli iddo ond doedd e ddim yn gallu pasio deddfau.
Newidiodd hyn ychydig yn 2006 pan newidiodd y rheolau – cafodd Llywodraeth Cymru ei sefydlu, ond roedd yn rhaid i Senedd y D.U. basio’r penderfyniadau cyn y gallen nhw fod yn ddeddfau.
Newidiodd hyn eto ar ôl refferendwm yn 2011 a chafodd y Cynulliad Cenedlaethol bwerau uniongyrchol i basio deddfau sy’n ymwneud â’r pynciau sydd wedi cael eu datganoli iddo. Ar Ionawr 2015, y pynciau hyn yw:
Ar ôl y bleidlais ‘Ie’ yn refferendwm 2011, cafodd ymchwiliad ei sefydlu er mwyn edrych ar y ffordd orau o gael mwy o ddatganoli. Cafodd y grŵp o bobl brofiadol (a oedd yn cael ei alw’n gomisiwn) a gynhaliodd yr ymchwiliad ei arwain gan ddyn o’r enw Paul Silk a chafodd dau adroddiad ei gynhyrchu. Mae’r comisiwn a’r adroddiadau’n cael eu galw ar ei ôl, er enghraifft, ‘Comisiwn Silk’ neu ‘Adroddiad Silk’.
Bydd angen i chi ddarllen yr adran nesaf ar ‘Fformiwla Barnett’ er mwyn deall Adroddiad 1. Roedd yr adroddiad eisiau i Lywodraeth Cymru godi chwarter ei arian ei hun drwy drethi.
Roedd llywodraeth y Deyrnas Unedig yn hoffi Adroddiad 1 a chafodd y rhan fwyaf ohono ei gynnwys yn Neddf Cymru, a gafodd ei phasio yn 2014.
Roedd Llywodraeth Cymru’n hoffi peth ohono ond gwrthododd ddefnyddio rhan ohono hyd nes y bydd Cymru’n cael arian teg.
Mae Adroddiad 2 yn awgrymu amrywiaeth eang o bwerau newydd, er enghraifft, rheoli:
Mae Llywodraeth Cymru’n hoffi’r rhan fwyaf o’r adroddiad hwn ond nid yw llywodraeth bresennol y D.U. yn ei hoffi – mae wedi dweud nad oes digon o amser i ddelio gyda’r mater a bydd rhaid iddo aros hyd at ar ôl yr etholiad cyffredinol.
Mae’n debygol y bydd argymhellion Comisiwn Silk ac ariannu teg i Gymru yn bynciau mawr yn yr Etholiad Cyffredinol ym mis Mai eleni ac yna yn yr etholiadau nesaf ar gyfer Cynulliad Cymru ym mis Mai 2016.
Ym mis Tachwedd 2014, dywedodd Joel Barnett (Arglwydd Barnett erbyn hyn) fod Fformiwla Barnett yn “embaras cenedlaethol” – ac ef ei hun oedd wedi dyfeisio’r fformiwla.
Mae e’n annheg a dylid ei stopio, mae e’n gamgymeriad. Mae’r dull hwn yn ofnadwy ac nid oes modd iddo fod yn gynaliadwy byth; mae’n embaras cenedlaethol ac yn embaras personol i fi hefyd.
Fformiwla Barnett yw’r ffordd mae llywodraeth y D.U. yn Llundain yn penderfynu faint o arian i’w roi i’r Cynulliad yng Nghymru ac yn Iwerddon ac i Senedd yr Alban.
Cafodd ei dyfeisio gan Joel Barnett ym 1978. Roedd e’n weinidog yn llywodraeth y D.U.
Mae ef ei hun wedi dweud mai rhywbeth tymor byr oedd y fformiwla i fod – yn para am hyd at 2 flynedd, efallai – ond mae e’n dal i gael ei ddefnyddio heddiw ac mae hyn yn creu llawer o broblemau i Gymru. Pan oedd e’n siarad yn 2014, dywedodd, “Cafodd yr Alban £10,152 y pen, cafodd Cymru £9,709 er ei bod yn dlotach.” (Cafodd Lloegr £8,529 y pen o’r un ffynhonnell.)
Roedd Fformiwla Barnett yn ffordd eitha syml o weithio pethau allan; roedd yr arian yn cael ei dalu mewn dwy ffordd:
Mae hyn yn golygu fod gan Lywodraeth Cymru lai o arian i’w wario ar bob person yng Nghymru o’i gymharu â Senedd ddatganoledig yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon.
Mae Llywodraeth Cymru 'n derbyn llai ar gyfer pob person o’i gymharu gyda lleoedd yn Lloegr sydd ag anghenion tebyg i rai Cymru ond mae daearyddiaeth ffisegol Cymru yn golygu bod rhoi gwasanaethau i’r bobl yn ddrutach fyth.
Mae gan ein llywodraeth yng Nghymru lai o arian i wario arnon ni nag unrhyw ran arall o’r Deyrnas Unedig. Mewn ysgolion, er enghraifft, mae £560 y flwyddyn yn llai yn cael ei wario ar bob disgybl, ar gyfartaledd, nag yn Lloegr ac mae llai o arian ar gael i’w wario ar ysbytai, ffyrdd ac ar bob un o’r pynciau sydd wedi cael eu datganoli.
Mae’n beth ofnadwy i’w ddweud, ond mae Cymru’n cael bargen wirioneddol wael o fewn y Deyrnas Unedig.
Mae gennyn ni lawer o broblemau yng Nghymru a byddai derbyn y £5.6 biliwn y dylen ni fod wedi ei dderbyn ar sail rheolau llywodraeth y D.U. pe baen ni’n rhan o Loegr yn mynd yn bell iawn tuag at ddatrys llawer ohonyn nhw.
Bydd yr etholiad cyffredinol ym mis Mai eleni ac yna bydd etholiadau Llywodraeth Cymru y flwyddyn nesaf. Bydd y brwydrau yn ystod yr etholiadau hyn yn penderfynu pa fath o fywyd byddwn ni’n ei gael yn ystod y 5-10 mlynedd nesaf. Mae’r refferendwm ar annibyniaeth yr Alban wedi arwain at lawer o frwydrau newydd a fydd yn effeithio arnon ni yma yng Nghymru:
Pleidleisiau Seisnig ar gyfer A.S.au Seisnig: pe bai hyn yn digwydd – ac mae llawer o bobl yn Lloegr eisiau hyn – byddai A.S.au Cymru (a’r Alban a Gogledd Iwerddon) yn A.S.au ail ddosbarth a bydden nhw’n methu pleidleisio ar fwyafrif y ddeddfwriaeth yn Senedd y D.U. Bydden ni'n colli llawer o’n dylanwad yn llywodraeth y D.U. pe bai hyn yn digwydd.
Newid maint yr etholaethau: Byddai llawer o bobl yn Lloegr yn hoffi gwneud yr holl etholaethau tua’r un maint o safbwynt nifer y bobl sy’n byw ym mhob un. Cofiwch: mewn etholiad cyffredinol, mae’r holl bleidleiswyr cymwys mewn etholaeth yn pleidleisio dros A.S. i’w cynrychioli nhw yn Senedd y D.U. Mae 650 A.S. ac mae’r blaid sydd â’r nifer fwyaf o A.S.au yn sefydlu llywodraeth y D.U. fel arfer. Pe bai’r newid hwn yn digwydd, byddai nifer yr A.S.au yng Nghymru yn lleihau o 40 i 18. Sut byddai hyn yn effeithio ar ein dylanwad ni yn y D.U.?
Cynnal refferendwm ar adael yr UE (yr Undeb Ewropeaidd): byddai llawer o bobl yn hoffi pleidleisio ar adael yr UE. Maen nhw’n meddwl fod rhaid i’r D.U. dalu mwy nag y mae’n cael yn ôl oddi wrth yr UE a bod gan Aelodau o Senedd Ewrop (ASE) ormod o ddylanwad ar yr hyn sy’n digwydd yn y D.U.
Mae llawer o’n masnach ni yn y D.U., ac yng Nghymru, yn digwydd gyda gwledydd partneriaethol yn yr UE, felly pe baen ni’n gadael yr UE, byddai’r nwyddau rydyn ni’n eu gwneud a’r cnydau rydyn ni’n eu tyfu yn ddrutach yn y gwledydd hynny a bydden nhw’n prynu llai ohonyn nhw. Byddai hyn yn effeithio ar faint o arian rydyn ni’n ei gael yng Nghymru drwy fasnach.
Er bod y Deyrnas Unedig yn talu mwy o arian i’r UE nag y mae’n ei gael yn ôl, mae’r arian hwnnw’n dod o drethi o ardaloedd cyfoethocaf y D.U., lle mae llai o anghenion.
Mae lleoedd yn y D.U. sydd ag anghenion uwch, fel rhannau o Gymru er enghraifft, yn derbyn grantiau mawr (arian am ddim) oddi wrth yr UE. Rhwng 2014 a 2020, rhoddodd yr UE £2.3 biliwn (£2,300,000,000) i Lywodraeth Cymru i’w wario ar brojectau er mwyn helpu i wella bywyd ar draws Cymru, ond yn bennaf yn yr ardaloedd lle mae’r angen mwyaf.
Mae grantiau’r UE yn un ffordd o wneud ein sefyllfa yn y Deyrnas Unedig ychydig yn decach ac mae llawer o bobl eisiau cymryd hyn i ffwrdd.
Newid Fformiwla Barnett: byddairhai pobl yn hoffi newid yr arian ychwanegol mae Gogledd Iwerddon a’r Alban yn ei dderbyn yn eu grant bloc er mwyn eu gwneud yn gyfartal â ni yma yng Nghymru ac â phobl yn Lloegr. Fodd bynnag, dim ond Llywodraeth Cymru sy’n ymladd i gael gwared â Fformiwla Barnett a chael rhywbeth sy’n deg i bawb.
© Hawlfraint 2014 Prifysgol Cymru oni bai y nodir yn wahanol
Datganoli mwy o bwerau i Gymru: mae’r rhan fwyaf o bobl y tu allan i Gymru eisiau i Gymru ddefnyddio’r ddeddfwriaeth yn Neddf Cymru 2014 er mwyn dechrau’r broses lle byddai 25% o’r arian sy’n cael ei wario yng Nghymru yn cael ei godi yng Nghymru drwy drethi.
Ond, mae llywodraeth bresennol Cymru’n gwrthod gwneud hyn hyd nes y bydd Fformiwla Barnett wedi cael ei newid gan y byddai defnyddio’r ddeddfwriaeth yn gallu cloi Cymru i mewn i’r ariannu annheg sydd wedi bodoli ers 35 mlynedd.
Er bod Llywodraeth Cymru eisiau’r pwerau datganoledig sydd wedi cael eu hamlinellu yn ail adroddiad Comisiwn Silk, nid oes unrhyw gefnogwyr mawr i hyn yn llywodraeth y D.U. eto.
Bydd ein rhifyn nesaf yn canolbwyntio ar ddaearyddiaeth yr etholiad cyffredinol a byddwn ni’n gallu gweld pwy sy’n dweud beth ac yn ceisio dyfalu beth fydd hyn yn ei olygu i ni.
Cwis ar y cynnwys – Cyfarwyddiadau: I gefnogi datblygiad eich llythrennedd, mae’n hanfodol eich bod chi ddim yn dyfalu’r atebion ac yna’n clicio. Ceisiwch fod yn siŵr cyn rhoi cynnig arni; beth am drafod a chytuno gyda ffrind. SGANIWCH y tair erthygl er mwyn chwilio am eiriau allweddol a fydd yn eich helpu chi i ateb y cwestiynau. Os byddwch chi’n anghywir, peidiwch â cheisio dewis ateb arall – ewch yn ôl a SGANIWCH yr erthyglau eto. Os byddwch chi’n clicio ar hap, byddwch chi’n dysgu dim byd a byddwch chi’n gwneud yn waeth yn yr Ymarfer Gwneud Penderfyniadau (YGP).
Ar ôl cymryd y cwis dylech fod yn barod i roi cynnig i’r ymarferion Gwneud Penderfyniadau. Sicrhewch eich bod yn defnyddio'r termau daearyddol rydych wedi dysgu.