34

2016 – Y Refferendwm ar yr Undeb Ewropeaidd

Trefnwch eich hunain yn ddau grŵp ar sail pa rai o’r bobl ganlynol y byddech chi’n pleidleisio drostyn nhw. Byddwch yn barod i egluro pam rydych chi wedi dewis y grŵp.

Aros

Carwyn Jones - Y Blaid Lafur

Llun: Carwyn Jones 2011 - National Assembly For Wales / Cynulliad Cymru © Wikimedia Commons dan Creative Commons Attribution 2.0 Generic

David Cameron - Y Blaid Geidwadol

Gadael

Andrew RT Davies - Y Blaid Geidwadol

Llun: Andrew R. T. Davies - National Assembly For Wales / Cynulliad Cymru © Wikimedia Commons dan Creative Commons Attribution 2.0 Generic

Nigel Farage - UKIP

Llun: Nigel Farage (2014) - Diliff © Wikimedia Commons dan Creative Commons Attribution-Share Alike 3.0 Unported

Ymchwiliad - a fyddai’n well i Gymru pe bai’r Deyrnas Unedig yn aros yn yr Undeb Ewropeaidd?

Bydd refferendwm ddydd Iau, 23ain Mehefin, i benderfynu a ddylai’r Deyrnas Unedig aros o fewn yr Undeb Ewropeaidd (UE).

Ystyr refferendwm yw pleidlais lle mae bron pawb sydd wedi cyrraedd oed pleidleisio yn cael pleidleisio (nid yw pawb yn gymwys i bleidleisio – gweler rhifyn 25). Fel arfer, mae hyn yn golygu ateb "Ie" neu "Na" i gwestiwn. Yr ochr sy’n cael mwy na hanner y pleidleisiau sy’n ennill.

Mae’r rhan fwyaf o’r drafodaeth ynglŷn â’r Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd yn ymwneud â’r Deyrnas Unedig yn unig. Ychydig iawn o’r drafodaeth ar y teledu, ar-lein neu yn y newyddion sy’n ymwneud â Chymru’n gadael yr UE. Gobeithio bydd y rhifyn hwn o Daearyddiaeth yn y Newyddion yn helpu i sicrhau cydbwysedd.

Beth yw’r UE?

Pwy fydd yn gallu pleidleisio?

Mae dinasyddion Prydain, Iwerddon a’r Gymanwlad sydd dros 18 oed ac sy’n byw yn y DU, yn ogystal â gwladolion y DU sy’n byw dramor ac sydd wedi bod ar y rhestr etholwyr yn y DU yn ystod yn 15 mlynedd diwethaf yn cael pleidleisio. Bydd aelodau Tŷ’r Arglwyddi a dinasyddion y Gymanwlad yn Gibraltar yn cael pleidleisio hefyd – sy’n wahanol i’r sefyllfa mewn etholiad cyffredinol. Ni fydd dinasyddion gwledydd yr UE yn cael pleidleisio, ac eithrio Iwerddon, Malta a Chyprus.

Dolen CA3: Sut mae'r Deyrnas Unedig yn gweithio? - Cliciwch isod

Cwestiwn y Refferendwm

Y Comisiwn Etholiadau, sy’n gyfrifol am wneud yn siŵr bod pob etholiad yn y DU yn deg, awgrymodd y geiriau canlynol: "A ddylai'r Deyrnas Unedig aros yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd neu adael yr Undeb Ewropeaidd?". Derbyniodd yr Aelodau Seneddol y cwestiwn hwn. Yr opsiynau ar gyfer pleidleiswyr fydd, ‘Aros yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd' a ‘Gadael yr Undeb Ewropeaidd’.

Mae’r ffordd mae cwestiwn mewn refferendwm yn cael ei eirio yn bwysig iawn oherwydd gall unrhyw gwestiwn sy’n gofyn am ateb cadarnhaol neu negyddol ffafrio’r opsiwn cadarnhaol, yn enwedig os yw’r cwestiwn yn dechrau gyda’r geiriau, “Ydych chi’n cytuno…”.

Beth yw’r Undeb Ewropeaidd?

Partneriaeth rhwng 28 gwlad yw’r Undeb Ewropeaidd (UE). Cafodd ei sefydlu ar ôl yr Ail Ryfel Byd er mwyn cynyddu cydweithredu’n economaidd. Roedd hen elynion yn meddwl y byddai gwledydd sy’n masnachu â’i gilydd yn fwy tebygol o osgoi mynd i ryfel yn erbyn ei gilydd. Y 28 gwlad sy’n aelodau ar hyn o bryd yw:

  • Awstria (1995)
  • Gwlad Belg (1958)
  • Bwlgaria (2007)
  • Croatia (2013)
  • Cyprus (2004)
  • Gweriniaeth Tsiec (2004)
  • Denmarc (1973)
  • Estonia (2004)
  • Y Ffindir (1995)
  • Ffrainc (1958)
  • Yr Almaen (1958)
  • Gwlad Groeg (1981)
  • Hwngari (2004)
  • Iwerddon (1973)
  • Yr Eidal (1958)
  • Latfia (2004)
  • Lithwania (2004)
  • Lwcsembwrg (1958)
  • Malta (2004)
  • Yr Iseldiroedd (1958)
  • Gwlad Pwyl (2004)
  • Portiwgal (1986)
  • Romania (2007)
  • Slofacia (2004)
  • Slofenia (2004)
  • Sbaen (1986)
  • Sweden (1995)
  • Y Deyrnas Unedig (1973)

 

Llun: EC-EU-enlargement animation - Kolja21 © Wikimedia Commons dan Creative Commons Attribution-Share Alike 3.0 Unported

Gwledydd yr UE

 

Mae’r UE wedi tyfu i fod yn “farchnad gyfunol” ers i’r gwledydd cyntaf ymuno ym 1958. Mae hyn yn golygu bod nwyddau a phobl yn gallu symud o gwmpas bron fel pe bai pob gwladwriaeth sy’n aelod o’r UE yn un wlad. Mae llawer o aelodau’n defnyddio’r un arian, sef yr ewro - mae’n cael ei ddefnyddio gan 19 o’r gwledydd. Mae gan yr UE ei senedd ei hun ac mae’n gosod rheolau ar gyfer llawer o wahanol bethau megis yr amgylchedd, cludiant, hawliau defnyddwyr a hyd yn oed bethau fel taliadau am ffonau symudol.

Canllaw y BBC ar y tarddiad yr UE - Cliciwch isod

Cymru a’r UE

Mae poblogaeth Cymru ar hyn o bryd yn agos iawn at 3,150,000 (poblogaeth Caerdydd yw tua 358,000). Ei harwynebedd yw 20,761 km²; cymharwch hyn gyda’r tablau am y gwledydd sy’n aelodau o’r UE ond cymharwch hyn hefyd gyda phoblogaeth y dinasoedd mwyaf yn yr UE hefyd – gweler isod.

Yn eich barn chi, faint o ddylanwad sydd gan Gymru yn yr UE?

Yn eich barn chi, sut mae Cymru’n cymharu o ran pwysigrwydd gyda dinasoedd mawr fel Llundain?

Pa mor bwysig yw hi bod Cymru’n gwneud ei phenderfyniadau ei hunan yn lleol yn ei Chynulliad/Llywodraeth ei hun?

A fyddai Cymru’n cael ei hanwybyddu pe na bai ganddi ei Chynulliad ei hun, yn enwedig o ystyried bod gan wledydd a dinasoedd mwy leisiau cryfach?

Gweithgareddau disgyblion

Ymchwiliad

Yn gyntaf, ceisiwch ddarllen gweddill yr adnoddau cysylltiol a defnyddiwch y daflen A3 i’ch helpu chi i wneud ymchwiliad o ddaearyddiaeth Etholiad Refferendwm yr EU yn 2016 ac i baratoi cwestiynau y gallwch chi eu hateb ar ôl i ganlyniadau’r bleidlais ym mis Mehefin gael eu cyhoeddi.

Cyflwyniad

  • Yn yr adran hon, byddwch chi’n egluro beth rydyn chi’n ymchwilio iddo.
  • Byddwch chi’n dewis cwestiynau ymholi er mwyn chwilio am atebion.
  • Byddwch chi’n egluro gwybodaeth gefndirol bwysig.

Canlyniadau

  • Gwnewch dablau i ddangos y data.
  • Trowch y data i ffurf a fydd yn haws i’w dehongli:
    • Defnyddiwch graffiau
    • Defnyddiwch fapiau.

Dadansoddi

  • Dangoswch sut mae eich canlyniadau’n ateb eich cwestiynau ymholi:
    • Anodwch graffiau a diagramau
    • Ysgriffenwch baragraffau.

Casgliadau

  • Edrychwch ar eich cwestiynau ymholi. Beth ydych chi wedi’i ddarganfod?
  • A oes ateb? Os oes, beth yw e?

Gwerthuso

  • Gwerthuswch eich proses (sut gwnaethoch chi eich ymholiad) – beth oedd yn llwyddiannus? Beth aeth o’i le? Beth allech chi ei wneud yn wahanol y tro nesaf?
  • Gwerthuswch eich ffynonellau – (eich gwybodaeth a’ch data). Pa rai sy’n ddibynadwy? Pam? Pa rai sy’n dangos rhagfarn efallai? Pam?
  • Gwerthuswch eich casgliadau. Beth sy’n ddibynadwy? Pam? Pa rai allai fod yn anghywir neu’n wallus? Pam?
  • Ysgrifennwch gwestiynau eraill sy’n seiliedig ar eich casgliadau ar gyfer ymholiadau eraill yn y dyfodol. Mae hyn yn arbennig o bwysig er mwyn darganfod a fydd eich rhagfynegiadau yn gywir ar ôl yr etholiad.

Mae’r adnodd hwn wedi cael ei gynllunio i’w ddefnyddio gyda’r dosbarth cyfan o du blaen y dosbarth ar brojector/bwrdd gwyn rhyngweithiol.

Dylai’r athro roi eglurhad ar y delweddau amrywiol, gan seilio’r sylwadau ar y testun. Ni fydd modd i fwyafrif llethol y disgyblion ddarllen y testun cyfan o fewn yr amser sydd ar gael.

Yn ddelfrydol, dylai’r disgyblion gael mynediad i’r adnodd ar-lein er mwyn gweithio ar y daflen gweithgareddau (dylid argraffu hon ar bapur A3).

Yn ddelfrydol, dylid rhoi cefnogaeth ar gyfer y gweithgareddau hyn, sef ystafell rwydwaith, llechi/gliniaduron neu ffonau/dyfeisiau’r disgyblion eu hunain, os caniateir y rhain.

Fodd bynnag, mae’r gweithgareddau wedi cael eu cynllunio ar gyfer eu defnyddio mewn gwers arferol, sef un awr, gyda’r athro’n defnyddio’r adnodd yn nhu blaen yr ystafell ddosbarth ochr yn ochr â’r daflen adnoddau.

Yna, gellid rhoi gwaith cartref i’r disgyblion, sef astudio’r tair erthygl cyn y wers nesaf.

Mae’r adnodd a’r daflen gysylltiedig wedi cael eu cynllunio fel eu bod yn cefnogi’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd, gan roi i ddisgyblion wybodaeth ddaearyddol allweddol mewn perthynas â’r lleoedd sy’n gysylltiedig â’r argyfwng sy’n ymwneud â dadleoli gorfodol yn y Etholiad Refferendwm yr UE yn 2016.

Darllenwch a chwblhewch y gweithgareddau yn yr erthygl ar-lein ac yn yr erthyglau cysylltiedig yn y rhifyn hwn o Daearyddiaeth yn y Newyddion – naill ai yn yr ystafell ddosbarth neu gartref. Ceisiwch orffen yr holl weithgareddau sydd ar y daflen adnoddau.

Beth fyddwch chi’n ei ddysgu:

  • Byddwch chi’n cynyddu eich gwybodaeth am broblemau yn y Etholiad Refferendwm yr UE yn 2016.
  • Byddwch chi’n cynyddu eich dealltwriaeth o’r ffordd mae’r ffactorau hyn yn gallu  effeithio ar bobl ac ar weithgareddau pobl.
  • Byddwch chi’n cael cyfle i ddysgu neu ymarfer sgiliau llythrennedd a rhifedd pwysig. 

Byddwch chi’n dysgu ymadroddion daearyddol newydd, wedi’u goleuo mewn porffor. Dylech chi ddysgu’r rhain a’u cynnwys mewn geirfa. Rhestr o eiriau a’u hystyr yw geirfa. Gallech chi gael un yng nghefn eich llyfr ysgrifennu daearyddiaeth. Os oes gyda chi gynlluniadur, mwy na thebyg bod lle da yn hwnnw ar gyfer cadw geirfa neu gallech chi gadw llyfr geirfa ar wahân. Mae geirfa dda yn eich helpu chi i ddatblygu eich geirfa a’ch llythrennedd. Chwiliwch am ystyr geiriau drwy ddefnyddio gweddill cynnwys yr erthygl, drwy drafod neu defnyddiwch eiriadur (naill ai ar-lein neu lyfr).

 

Rhifyn arall efallai y byddwch a diddordeb mewn, Yr etholiad yng Nghymru yn 2016.

Top

Mwy o’r rhifyn yma...

Sut mae’r UE yn gweithio?

Sut mae’r UE yn gweithio?

Pa agweddau ar yr UE sy’n dda neu’n ddrwg i Gymru?

Pa agweddau ar yr UE sy’n dda neu’n ddrwg i Gymru?