34

Sut mae’r UE yn gweithio?

Y refferendwm ar yr UE

Yr enw sy’n cael ei ddefnyddio weithiau am y refferendwm ar yr UE, neu hyd yn oed am y syniad y bydd y DU yn gadael yr UE, yw ‘Brexit’. Mae’r gair hwn yn gyfuniad o ddau air, sef Britain ac Exit. Mae hwn yn debyg i’r gair Grexit a gafodd ei ddefnyddio pan oedd Gwlad Groeg mewn perygl o adael yn 2015. Mae rhai pobl wedi creu’r gair ‘Bremain’, sy’n gyfuniad o Britain a Remain

Roedd y refferendwm ar Brexit yn addewid ym maniffesto'r Blaid Geidwadol yn Etholiad Cyffredinol 2015. Addawodd y Blaid Geidwadol y byddai’n cynnal refferendwm ar ôl newid rhai o’r rheolau sy’n effeithio ar aelodaeth y DU o’r UE. Cytunodd y Prif Weinidog ar becyn o newidiadau gydag arweinwyr aelodau eraill yr UE ym Mrwsel ym mis Chwefror.

Os bydd y DU yn pleidleisio o blaid aros yn yr UE, bydd y newidiadau’n cael eu gweithredu ar unwaith, gan gynnwys newidiadau i: 

  • Sofraniaeth - roedd Cytundeb gwreiddiol yr UE yn cynnwys y cymal y byddai pob aelod yn ymrwymo i "undeb agosach" gydag aelodau eraill yr UE. Bydd y DU yn cael ei heithrio o hyn a bydd hyn yn cael ei gynnwys mewn newid i gytundeb gyda’r UE. 
  • Ardal yr Ewro – gall Prydain gadw’r bunt tra bydd yn Ewrop, heb ofni anffafriaeth. Bydd unrhyw arian o Brydain a fydd yn cael ei ddefnyddio i achub gwledydd yn Ardal yr Ewro yn cael ei ad-dalu. 
  • Gwarchod Dinas Llundain - bydd diwydiant y gwasanaethau ariannol mawr ym Mhrydain yn cael ei warchod rhag rheoliadau Ardal yr Ewro. 
  • Cystadleurwydd - mae angen i holl sefydliadau’r UE a’r gwledydd sy’n aelodau o’r UE wella pa mor effeithiol mae’r farchnad gyfunol yn gweithio. Mae hyn yn cynnwys lleihau ‘biwrocratiaeth’. 
  • 'Cerdyn coch' ar gyfer llywodraethau cenedlaethol – os bydd 55% o lywodraethau cenedlaethol yr UE yn gwrthwynebu deddfwriaeth yr UE, bydd yr UE yn ail-ystyried. 
  • Rhai cyfyngiadau ar y rhyddid i symud - gwrthod yr hawl awtomatig i ddinasyddion o wlad y tu allan i’r UE symud os ydyn nhw’n priodi dinesydd o’r UE, a phwerau newydd i wahardd pobl y credir eu bod yn risg i ddiogelwch - hyd yn oed os nad ydyn nhw’n euog o droseddau o’r blaen.
  • Taliadau lles i ymfudwyr - gall y DU benderfynu cyfyngu ar fudd-daliadau mewn gwaith i ymfudwyr o’r UE yn ystod eu pedair blynedd gyntaf yn y DU. Mae hyn yn cael ei alw’n ‘brêc argyfwng’ ac mae modd ei ddefnyddio os bydd lefelau “eithriadol” o ymfudo.
  • Budd-dal plant - bydd modd ail-gyfrifo taliadau budd-dal plant i weithwyr mudol ar gyfer plant sy’n byw dramor fel eu bod yn cyfateb i gostau byw yn eu gwledydd eu hunain.

A fun guide to the EU for Americans

 

A fyddai gadael yr UE yn golygu na fyddai’n rhaid i ni gydymffurfio â Llys Hawliau Dynol Ewrop? 

Mae llawer o bobl yn gofidio y byddai llawer o’r hawliau sydd gennyn ni fel dinasyddion y DU yn cael eu colli petaen ni’n gadael yr UE. Mae hyn oherwydd ein bod ni wedi cytuno i dderbyn deddf Ewropeaidd  o’r enw Deddf Hawliau Dynol. Mae hon yn cael ei gorfodi gan Lys Hawliau Dynol Ewrop. 

Nid yw llawer o bobl eraill, fodd bynnag, sy’n ymgyrchu dros adael yr UE, yn hoffi’r ffaith fod y DU o dan awdurdod allanol llys nad yw’n atebol i unrhyw Lywodraeth neu Gynulliad yn y DU. 

Nid yw Llys Hawliau Dynol Ewrop yn un o sefydliadau’r Undeb Ewropeaidd.  Cafodd ei sefydlu gan Gyngor Ewrop, sy’n cynnwys 47 aelod, gan gynnwys Rwsia a’r Wcráin. Felly, ni fyddai gadael yr UE yn eithrio’r DU o’i benderfyniadau. 

Mae llywodraeth bresennol y DU wedi dweud y byddai’n diddymu’r Ddeddf Hawliau Dynol, sy’n mynnu bod y DU yn derbyn bod Llys Hawliau Dynol Ewrop yn penderfynu ar gynseiliau cyfreithiol ar gyfer y DU. Yn lle hynny, byddai llywodraeth y DU yn sefydlu Deddf Hawliau Dynol Prydeinig. Mae disgwyl y bydd David Cameron yn cyhoeddi mesurau a fydd yn cryfhau pwerau llysoedd Cymru a Lloegr i wrthod dyfarniadau Llys Hawliau Dynol Ewrop.

Llun: Advokat, Engelsk advokatdräkt, Nordisk familjebok - Tene~commonswiki © Wikimedia Commons dan Public Domain

Rhannau’r UE

 

Llun: Political System of the European Union - 111Alleskönner © Wikimedia Commons dan Creative Commons Attribution-Share Alike 3.0 Germany

Senedd Ewrop

Mae pobl yn yr UE yn gallu pleidleisio dros gynrychiolwyr yn eu llywodraethau/cynulliadau cenedlaethol eu hunain yn ogystal â phleidleisio dros gynrychiolwyr yn Senedd Ewrop. Ar hyn o bryd, mae 751 sedd yn Senedd Ewrop ac mae etholiad bob pum mlynedd.

Mae pobl ar draws Ewrop yn pleidleisio dros eu Haelodau Senedd Ewrop eu hunain. Ychydig iawn o bwerau sydd gan Senedd Ewrop. Mae’n cymeradwyo’r gyllideb ond nid yw’n penderfynu beth sydd ynddi. Ar wahân am hyn, yr unig beth mae’n ei wneud yw cyflwyno argymhellion ond nid yw’r rhain yn orfodol. Felly, nid oes ganddi lawer o bŵer ond mae ganddi lawer o ddylanwad o safbwynt ei hargymhellion ac nid ydynt yn cael eu hanwybyddu fel arfer. Mae Senedd Ewrop yn gallu gofyn i’r Comisiwn Ewropeaidd baratoi deddfau. Y Comisiwn Ewropeaidd yw’r unig ran o’r UE sy’n gallu gwneud hyn.

Llun: European Parliament Strasbourg Hemicycle - Diliff © Wikimedia Commons dan Creative Commons Attribution-Share Alike 3.0 Unported

Mae Cyngor Ewrop yn cynnwys Pennaeth Gwladwriaeth pob gwlad sy’n aelod. Y Prif Weinidog sy’n cynrychioli’r Deyrnas Unedig. Nid oes gan Gyngor Ewrop unrhyw bwerau ffurfiol ond nid yw’n cael ei anwybyddu fel arfer gan ei fod yn cynnwys 28 o Brif Weinidogion ac Arlywyddion. Mae’n gallu gofyn i’r Comisiwn Ewropeaidd am ddeddfau, yr un fath â Senedd Ewrop. Yr un Penaethiaid Gwladwriaethol sy’n penodi aelodau o Gomisiwn Ewrop a hwn yw corff mwyaf pwerus yr UE. 

Mae Comisiwn Ewrop yn cynnwys 28 aelod (un o bob gwlad sy’n aelod ohono). Llywodraeth genedlaethol pob gwlad sy’n dewis yr aelodau. Felly, yn y DU, mae ein comisiynydd yn cael ei benodi gan gabinet y llywodraeth yn San Steffan. Y Prif Weinidog a’r Gweinidogion yw aelodau’r Cabinet. Mae’r Comisiwn yn gyfrifol am redeg yr UE o ddydd i ddydd, yn union fel Llywodraethau Cabinet Cymru a’r DU. Mae bron yr holl bwerau ffurfiol a’r pŵer i ddechrau paratoi deddfau yn cael eu rhoi i’r Comisiwn. 

Felly, mae rhan fwyaf y pŵer yn yr UE yn dod yn uniongyrchol o Benaethiaid Gwladwriaethau y gwledydd sy’n aelodau ohono, naill ai’n uniongyrchol neu drwy’r Comisiynydd Ewropeaidd sy’n cael ei benodi i’r Comisiwn. Gan fod mwyafrif Aelodau Senedd Ewrop (ASE) yn cynrychioli pleidiau gwleidyddol sy’n cael eu harwain gan Benaethiaid y Gwladwriaethau, ganddyn nhw mae’r gair olaf -  cyhyd ag y byddan nhw’n gallu cytuno! 

Fodd bynnag, mae holl adrannau llywodraeth yr UE  (ynghyd â nifer o rai bach eraill sydd heb gael eu disgrifio yma) yn creu llawer o fiwrocratiaeth ddrud a llawer o reolau – naill ai ddeddfau neu  gyfarwyddebau – mae llawer o bobl yn ei ddisgrifio yn Saesneg fel ‘red tape’. Dyma fydd prif gynnwys  yr erthygl gysylltiol olaf, sy’n trafod beth sy’n dda a beth sy’n ddrwg am yr UE o safbwynt Cymru.

Gweithgaredd disgyblion

Gwnewch ddiagram ar ffurf map meddwl er mwyn dangos gan bwy mae’r grym mwyaf yn yr UE.

 

Rhifyn arall efallai y byddwch a diddordeb mewn, Yr etholiad yng Nghymru yn 2016.

Top

Mwy o’r rhifyn yma...

2016 –  Y Refferendwm ar yr Undeb Ewropeaidd

2016 – Y Refferendwm ar yr Undeb Ewropeaidd

Pa agweddau ar yr UE sy’n dda neu’n ddrwg i Gymru?

Pa agweddau ar yr UE sy’n dda neu’n ddrwg i Gymru?