34

Pa agweddau ar yr UE sy’n dda neu’n ddrwg i Gymru?

Ydy’r UE yn dda neu’n ddrwg i Gymru?

Ar y dechrau, pwrpas yr UE oedd helpu gyda heddwch yn Ewrop drwy gynyddu masnach rhwng gwledydd.

Wrth i fasnachu greu cyfoeth, roedd hi’n bwysig rhannu’r cyfoeth hwnnw. Roedd disgwyl i’r ardaloedd cyfoethocach gyfrannu arian i’r UE ac yna byddai’r UE yn defnyddio'r arian hwnnw er mwyn helpu ardaloedd tlotach.

Mae’r map isod yn dangos cyfoeth ar draws yr holl wledydd sy’n aelodau o’r UE.

Llun: EU-regions GDP per capita PPP - European Comission eurostat - © Wikimedia Commons

Arian

Yn ystod y refferendwm, mwy na thebyg mai arian, neu faint mae’n costio i fod yn yr UE, yw’r brif drafodaeth am ein haelodaeth o’r UE.

Mae’r DU yn un o 10 gwlad sy’n talu mwy i gyllid yr UE nag y mae’n ei gael yn ôl. Dim ond Ffrainc a’r Almaen sy’n cyfrannu mwy.

Mae’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol wedi cyfrifo mai’r gost i DU yn 2014 oedd £5.7bn. Os rhannwch chi hyn gyda 365, y ffigur yw bron £15.6m y dydd.

Cymorth rhanbarthol

Mae’r map yn debyg iawn i’r map cyfoeth ond mae’n dangos yr ardaloedd sy’n derbyn arian neu gymorth oddi wrth yr UE.

Llun: EU economic aid - © BBC / EU

Mae rhannau helaeth o Ogledd a Gorllewin Cymru a’r Cymoedd yn derbyn y lefelau uchaf o arian oherwydd bod y bobl yn ennill llai na 75% o o incwm cyfartalog yr UE.

Bydd Cymru’n derbyn dros £5 biliwn o arian yr UE erbyn 2020. 

Mae Cymru’n derbyn llawer iawn mwy o arian o’r UE nag y mae’n talu iddo.

Ffermio a physgota

Mae rheolau llym yn yr UE ynglŷn â ffermio a physgota – yn y Polisi Amaethyddol Cyffredin a’r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin.

Llun: Claas-lexion-570-1 - Hinrich - © Wikimedia Commons dan Creative Commons Attribution-Share Alike 3.0 Unported 

Mae tua 40% o gyllid yr UE yn mynd i ffermwyr, sef taliadau sy’n cael eu galw weithiau yn gymorthdaliadau

Mae llawer o ffermwyr ac undebau amaeth eisiau aros yn yr UE (ond nid pawb) achos mae taliadau’r UE yn gallu bod yn fwy na hanner incwm ffermwyr.

Mae gan Gymru a’r DU rai o’r pysgodfeydd gorau yn yr UE ond mae’r diwydiant pysgota wedi bod yn lleihau.

Llun: Krabbenkutter Ivonne Pellworm P5242390jm - Joachim Müllerchen / Jom - © Wikimedia Commons dan Creative Commons Attribution-Share Alike 2.0 Germany

Mae dadl fawr - ydy rheolau’r UE yn helpu i warchod cyflenwadau o bysgod ar gyfer y dyfodol.

Mae’r rhan fwyaf o bobl yn cytuno bod caniatáu i unrhyw gwch o’r UE bysgota yn y môr o gwmpas Prydain yn ddrwg i ddiwydiant pysgota’r DU.

Ymfudo

Mae gan y Deyrnas Unedig reolaeth dros ei ffiniau o hyd ac mae’n rhaid i bawb o bob man ddangos pasbort ac mae hwnnw’n cael ei wirio.

Llun: UK Border, Heathrow - dannyman - © Wikimedia Commons dan Creative Commons Attribution 2.0 Generic

Mae gan ddinasyddion gwledydd yr UE hawl i fyw a gweithio yn unrhyw un o wledydd yr UE.

Mae miliynau o Brydeinwyr yn byw ac yn gweithio ar draws Ewrop ond mae llawer o ddinasyddion o wledydd Ewropeaidd eraill yn symud yma.

Mae rhai pobl yn dweud bod hyn yn beth da gan fod pobl o’r UE yn dod â sgiliau hanfodol gyda nhw ac maen nhw’n fwy tebygol o weithio na dinasyddion y DU, felly maen nhw’n talu mwy mewn trethi nag maen nhw’n cymryd ar ffurf gwasanaethau.

Mae rhai’n dweud bod hyn yn ddrwg oherwydd bod ymfudwyr yn cystadlu am swyddi a thai ac yn defnyddio gwasanaethau.

Biwrocratiaeth

Ystyr biwrocratiaeth yw rheolau a rheoliadau. Mae gwrthwynebwyr yr UE yn dweud eu bod nhw’n ddrwg oherwydd eu bod nhw’n costio arian ychwanegol i fusnesau.

Llun: BahnhofsuhrZuerich RZ - JuergenG - © Wikimedia Commons dan Creative Commons Attribution-Share Alike 3.0 Unported, 2.5 Generic, 2.0 Generic and 1.0 Generic

Mae pobl sydd o blaid yr UE yn dweud eu bod nhw’n dda oherwydd bod y rheolau a’r rheoliadau, yn bennaf, yn rhoi hawliau cyflogaeth i weithwyr, er enghraifft, gwneud yn siŵr eu bod nhw ddim yn gweithio gormod o oriau, gwarchod defnyddwyr pan fyddan nhw’n prynu pethau a gwarchod yr amgylchedd.

Masnach

Masnachu yw’r brif ffordd mae gwlad yn ennill arian.

Gweddill yr UE yw ein partner masnachu mwyaf ni ac nid oes trethi ar y rhan fwyaf o’r masnach, diolch i’r UE.

Mae cefnogwyr yr UE yn tynnu sylw at y ffaith fod gan y gwledydd sy’n aelodau o’r UE gytundebau masnachu gyda bron pob gwlad yn y byd.

Yn ogystal, mae’r UE wedi bod yn trafod cytundeb masnachu mawr gyda’r Unol Daleithiau a hon fydd yr ardal fasnachu fwyaf mae’r byd wedi’i gweld erioed.

Byddai gadael yr UE yn golygu na fyddai’r DU yn rhan o’r cytundeb newydd gydag UDA.

Llun: New100front - Bureau of Engraving and Printing - © Wikimedia Commons dan Public Domain

Mae’r rhai sy’n gwrthwynebu aros yn yr UE yn credu y byddai’r DU yn rhydd i drafod ei chytundebau masnachu newydd ei hun petai’n gadael yr UE. Gallai hyn fod yn well na’r rhai sydd wedi’u cytuno gan yr UE.

Os na fyddwn ni’n pleidleisio i adael, fyddwn ni ddim yn gwybod a allen ni drafod cytundebau fel hyn yn ddigon cyflym, neu a fydden ni mewn sefyllfa lle nad ydyn ni’n gallu masnachu’n rhydd gyda mwyafrif ein prif farchnadoedd.

Ffactorau eraill

Dyna rai pethau i feddwl amdanyn nhw. Mae llawer o bethau eraill hefyd, er enghraifft:

  • Diogelwch
  • Atal troseddau
  • Amddiffyn
  • Ymchwil mewn prifysgolion
  • Hawliau
  • Deddfau
  • Gwyliau
  • Yr amgylchedd

Mae ein haelodaeth ni o’r UE yn effeithio ar bron popeth y gallwch chi feddwl amdano.

Gweithgareddau disgyblion

Ar ôl darllen pob un o'r tri erthyglau a chynnal y gweithgareddau. Defnyddiwch y daflen A3 sy'n cyd-fynd i'ch helpu chi i gynnal ymchwiliad i mewn i'r 2016 Refferendwm yr UE yng Nghymru.

 

Rhifyn arall efallai y byddwch a diddordeb mewn, Yr etholiad yng Nghymru yn 2016.

Top

Mwy o’r rhifyn yma...

2016 –  Y Refferendwm ar yr Undeb Ewropeaidd

2016 – Y Refferendwm ar yr Undeb Ewropeaidd

Sut mae’r UE yn gweithio?

Sut mae’r UE yn gweithio?