34

Sut mae’r UE yn gweithio?

Y refferendwm ar yr UE

Yr enw sy’n cael ei ddefnyddio weithiau am y refferendwm ar yr UE, neu hyd yn oed am y syniad y bydd y DU yn gadael yr UE, yw ‘Brexit’. Mae’r gair hwn yn gyfuniad o ddau air, sef Britain ac Exit. 

Mae rhai pobl wedi creu’r gair ‘Bremain’ hefyd, sy’n gyfuniad o Britain a Remain

Rydyn ni’n cynnal refferendwm oherwydd bod y Blaid Geidwadol wedi addo cynnal un os oedd hi’n  ennill Etholiad Cyffredinol 2015. 

Cyn cynnal refferendwm, gwnaeth y Prif Weinidog rai newidiadau i’r rheolau sy’n effeithio ar aelodaeth y DU o’r UE: 

  • Sofraniaeth – ni fydd y DU yn rhan o’r "undeb agosach" gydag aelodau eraill yr UE. 
  • Ardal yr Ewro – gall Prydain gadw’r bunt tra bydd yn Ewrop ac ni ddylai fod unrhyw broblem am nad yw’n defnyddio’r ewro. 
  • Bydd diwydiant gwasanaethau ariannol mawr Prydain yn ninas Llundain yn cael ei warchod rhag rheoliadau Ardal yr Ewro. 
  • Cystadleurwydd – bydd pob rhan o’r UE yn lleihau biwrocratiaeth. 
  • 'Cerdyn coch' ar gyfer llywodraethau cenedlaethol – os bydd 55% o lywodraethau cenedlaethol yr UE yn gwrthwynebu un o reolau’r UE. 
  • Rhai cyfyngiadau ar y rhyddid i symud - gwrthod yr hawl awtomatig i ddinasyddion o wlad y tu allan i’r UE symud os ydyn nhw’n priodi dinesydd o’r UE, a phwerau newydd i wahardd pobl sydd, ym marn yr awdurdodau, yn risg i ddiogelwch.
  • Budd-daliadau - gall y DU benderfynu lleihau rhai budd-daliadau i ymfudwyr o’r UE yn ystod eu pedair blynedd gyntaf yn y DU.
  • Budd-dal plant – bydd budd-dal plant sy’n byw dramor yn seiliedig ar gostau byw y plant.

A fun guide to the EU for Americans

 

Rhannau’r UE

 

Senedd Ewrop

Mae pobl ar draws Ewrop yn pleidleisio dros eu Haelodau Senedd Ewrop eu hunain.

Ar hyn o bryd, mae 751 sedd yn Senedd Ewrop ac mae etholiad bob pum mlynedd.

Ychydig iawn o bwerau sydd gan Senedd Ewrop:

  • Mae’n cymeradwyo’r gyllideb ond nid yw’n penderfynu beth sydd ynddi.
  • Mae’n cyflwyno argymhellion ond nid yw’r rhain yn orfodol. Felly, nid oes ganddi lawer o bŵer.
  • Mae’n gallu gofyn am ddeddfwriaeth (deddfau) drwy ofyn i’r Comisiwn Ewropeaidd eu paratoi. Y Comisiwn Ewropeaidd yw’r unig ran o’r UE sy’n gallu gwneud hyn.

Llun: European Parliament Strasbourg Hemicycle - Diliff © Wikimedia Commons dan Creative Commons Attribution-Share Alike 3.0 Unported

Mae Cyngor Ewrop yn cynnwys Pennaeth Gwladwriaeth (fel y Prif Weinidog) pob gwlad sy’n aelod.

Nid oes gan Gyngor Ewrop unrhyw bwerau ffurfiol ond nid yw’n cael ei anwybyddu fel arfer gan ei fod yn cynnwys 28 o Brif Weinidogion ac Arlywyddion.

Mae’n gallu gofyn i’r Comisiwn Ewropeaidd am ddeddfau, yr un fath â Senedd Ewrop.

Mae Comisiwn Ewrop yn cynnwys 28 aelod (un o bob gwlad sy’n aelod ohono). Llywodraeth genedlaethol pob gwlad sy’n dewis yr aelodau.

Mae’r Comisiwn yn gyfrifol am redeg yr UE o ddydd i ddydd, yn union fel Llywodraethau Cabinet Cymru a’r DU.

Mae bron yr holl bwerau a’r pŵer i ddechrau paratoi deddfau yn cael eu rhoi i’r Comisiwn.

Felly, mae rhan fwyaf y pŵer yn yr UE yn dod yn uniongyrchol o Benaethiaid Gwladwriaethau y gwledydd sy’n aelodau ohono, naill ai’n uniongyrchol neu drwy’r Comisiynydd Ewropeaidd sy’n cael ei benodi i’r Comisiwn.

Gweithgaredd disgyblion

Gwnewch ddiagram ar ffurf map meddwl er mwyn dangos gan bwy mae’r grym mwyaf yn yr UE.

 

Rhifyn arall efallai y byddwch a diddordeb mewn, Yr etholiad yng Nghymru yn 2016.

Top

Mwy o’r rhifyn yma...

2016 –  Y Refferendwm ar yr Undeb Ewropeaidd

2016 – Y Refferendwm ar yr Undeb Ewropeaidd

Pa agweddau ar yr UE sy’n dda neu’n ddrwg i Gymru?

Pa agweddau ar yr UE sy’n dda neu’n ddrwg i Gymru?