34

Pa agweddau ar yr UE sy’n dda neu’n ddrwg i Gymru?

Ydy’r UE yn dda neu’n ddrwg i Gymru?

Ar y dechrau, pwrpas yr UE oedd helpu gyda heddwch yn Ewrop ar ôl yr holl ddinistrio yn ystod dau ryfel byd. Roedd pobl yn meddwl y byddai gwledydd a fyddai’n dibynnu ar ei gilydd ar gyfer masnachu yn fwy tebygol o fod yn gynghreiriaid ac yn llai tebygol o fod yn elynion.

Wrth i fasnachu greu cyfoeth, roedd hi’n bwysig rhannu’r cyfoeth hwnnw a mabwysiadodd yr UE nod pwysig o gael cydbwysedd yng nghyfoeth y gwledydd - roedd disgwyl i’r ardaloedd cyfoethocach gyfrannu arian i’r UE ac yna byddai’r UE yn defnyddio'r arian hwn er mwyn helpu ardaloedd tlotach i ddal i fyny gyda’r gwledydd eraill. Yr enw ar yr arian hwn weithiau yw ‘cronfeydd strwythurol yr UE’.

Mae’r map isod yn dangos cyfoeth cymharol (y cynnyrch domestig gros) ar draws yr holl wledydd sy’n aelodau o’r UE.

Llun: EU-regions GDP per capita PPP - European Comission eurostat - © Wikimedia Commons

Arian

Yn ystod y refferendwm, mwy na thebyg mai arian, neu faint mae’n costio i fod yn yr UE, yw’r brif drafodaeth yng nghyd-destun ein haelodaeth o’r UE. 

Mae’r DU yn un o 10 gwlad sy’n talu mwy i gyllid yr UE nag y mae’n ei gael yn ôl. Dim ond Ffrainc a’r Almaen sy’n cyfrannu mwy. Yn 2014/15, Gwlad Pwyl oedd y wlad a elwodd fwyaf o arian yr UE, yna Hwngari a Gwlad Groeg. 

Mae rhai pobl sy’n ymgyrchu dros adael yr UE yn dweud bod y DU yn anfon £55m y dydd i’r UE ond mae hyn yn seiliedig ar y ffigurau gros, sy’n amcangyfrif teg o “ffi aelodaeth” y DU, ond nid yw hyn yn rhoi ystyriaeth i’r ad-daliadau

Mae’r DU yn cael ad-daliad blynyddol ar ffurf grantiau datblygu rhanbarthol a thaliadau i ffermwyr. Cyfanswm hyn yn 2014/15 oedd £4.6bn. Yn ôl ffigurau diweddaraf y Trysorlys,  cyfraniad net y DU yn 2014/15 oedd £8.8bn – bron ddwywaith cymaint â’r ffigur yn 2009/10. 

O roi hyn yn ei gyd-destun: mae hyn tua £24m y dydd neu tua 1.4% o gyfanswm yr arian mae’r DU yn ei wario ar wasanaethau cyhoeddus yn flynyddol – ychydig yn llai na chyllid blynyddol yr adran ynni a newid yn yr hinsawdd. 

Mae’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol yn defnyddio fformiwla wahanol, sy’n cymryd i ystyriaeth arian o’r UE sy’n cael ei dalu’n uniongyrchol i gwmnïau’r sector preifat a phrifysgolion er mwyn ariannu gwaith ymchwil. Mae hyn yn dangos mai cyfraniad net y DU yn 2014 oedd £5.7bn. Os rhannwch chi hyn gyda 365, y ffigur yw bron £15.6m y dydd. Mae hyn yn dal i fod yn llawer o arian.

Cymorth rhanbarthol

Mae’r map yn debyg iawn i’r map cyfoeth ond mae’n dangos yr ardaloedd sy’n derbyn arian neu gymorth oddi wrth yr UE ar wahanol lefelau. Mae rhannau helaeth o Ogledd a Gorllewin Cymru a’r Cymoedd yn derbyn y lefelau uchaf o arian oherwydd bod y bobl ymhlith y tlotaf yn yr UE - maen nhw’n ennill llai na 75% o’r cynnyrch domestig gros ar gyfartaledd (yr arian sy’n cael ei ennill).

Llun: EU economic aid - © BBC / EU

Ar y cyfan, mae Cymru ymhlith rhannau tlotaf yr UE a bydd yn derbyn dros £5 biliwn o gronfeydd strwythurol yr UE erbyn 2020. Mae Cymru’n derbyn llawer iawn mwy o arian o’r UE nag y mae’n talu iddo. 

Mae rhai pobl sy’n ymgyrchu dros adael yr UE yn dweud mai arian o’r DU sy’n cael ei ailgylchu yw hwn ac y byddai Cymru’n derbyn yr un swm beth bynnag. Fodd bynnag, mae rheolau llym yn yr UE sy’n gwarantu’r arian hwnnw. Pe bai’r DU yn gadael yr UE, byddai’r arian yn cael ei rannu yn ôl disgresiwn y llywodraeth yn San Steffan. 

Fodd bynnag, y ffaith syml yw bod ardaloedd cyfoethocach y DU a gweddill yr UE yn talu arian i gronfeydd yr UE a bod ardaloedd tlotach yn derbyn yr arian hwnnw. Mae Cymru, ar gyfartaledd, yn ardal dlotach gan fod Gorllewin Cymru, Gogledd Cymru a’r Cymoedd yn is na 75% o gynnyrch domestig gros cyfartalog yr UE.

Ffermio a physgota

Mae rheolau llym yn yr UE am ffermio a physgota – yn y Polisi Amaethyddol Cyffredin a’r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin.

Llun: Claas-lexion-570-1 - Hinrich - © Wikimedia Commons dan Creative Commons Attribution-Share Alike 3.0 Unported 

Mae tua 40% o gyllid yr UE yn mynd i ffermwyr, sef taliadau sy’n cael eu galw weithiau yn gymorthdaliadau. Ar ben hyn, mae’r UE yn gwneud deddfau sy’n hanfodol ym marn llawer o ffermwyr er  mwyn cael prisiau teg oddi wrth brynwyr fel archfarchnadoedd. Mae undebau ffermwyr sy’n cynrychioli ffermwyr ar draws Cymru, Gogledd Iwerddon a’r Alban o blaid aros yn yr UE ar y cyfan. 

Mae Andrew RT Davies, sydd wedi bod yn arweinydd y Blaid Geidwadol yng Nghymru ers cryn amser ac sy’n Aelod Cynulliad yn y Cynulliad Cenedlaethol, yn ffermwr hefyd  ond mae e’n ymgyrchu o blaid gadael yr UE. Felly nid yw pob ffermwr yn cytuno gan eu bod nhw’n credu y bydd mwy o arian ar gael y tu allan i’r UE oherwydd, ar hyn o bryd, mae’r DU yn gwneud cyfraniad net i’r UE a byddai amgylchiadau masnachu yn well heb fiwrocratiaeth yr UE. 

Mae gan Gymru a’r DU rai o’r pysgodfeydd gorau yn yr UE ond mae’r diwydiant pysgota wedi bod yn lleihau. Mae llawer o bobl yn beio rheolau’r UE a’r ffaith fod gwledydd eraill yr UE yn cael anfon llongau pysgota mawr i fôr y DU a chymryd pysgod yn ôl i’w gwledydd eu hunain er mwyn cefnogi eu diwydiant bwyd eu hunain.

Llun: Krabbenkutter Ivonne Pellworm P5242390jm - Joachim Müllerchen / Jom - © Wikimedia Commons dan Creative Commons Attribution-Share Alike 2.0 Germany

Mae dadl fawr - a ydy rheolau’r UE yn helpu i wella cynaladwyedd pysgota neu beidio ond nid oes amheuaeth o fewn y diwydiant pysgota yn y DU bod caniatáu mynediad agored i fôr y DU i holl wledydd yr UE yn ddrwg i ddiwydiant pysgota’r DU.

Ymfudo

Mae gan y Deyrnas Unedig reolaeth dros ei ffiniau o hyd ac mae’n rhaid i bawb o bob man ddangos pasbort ac mae hwnnw’n cael ei wirio.

Llun: UK Border, Heathrow - dannyman - © Wikimedia Commons dan Creative Commons Attribution 2.0 Generic

Fodd bynnag,  mae gan ddinasyddion gwledydd yr UE hawl i fyw a gweithio yn unrhyw un o wledydd yr UE. Mae llawer o ddinasyddion y DU a busnesau’r DU yn manteisio ar hyn; mae miliynau o Brydeinwyr yn ymddeol i’r haul yn Sbaen a Ffrainc ac mae nifer cynyddol yn ymddeol i wledydd rhatach ymhellach i’r dwyrain. Fodd bynnag, mae llawer o ddinasyddion o wledydd Ewropeaidd eraill yn symud i’r cyfeiriad arall - i’r DU. 

Mae rhai pobl yn dweud bod hyn yn beth da oherwydd mae’r manteision rydyn ni’n eu cael yn y DU yn sgil y rhyddid i symud ynghyd â’r sgiliau hanfodol sydd gan fewnfudwyr i’r DU yn bwysicach nag agweddau negyddol fel cynnydd yn y gystadleuaeth am swyddi neu fod ymfudwyr yn defnyddio gwasanaethau cyhoeddus. 

Mae tua 3 miliwn o bobl oed gweithio o wledydd eraill yr UE yn byw yn y DU. Mae llawer ohonyn nhw’n dod i astudio a thrwy hynny maen nhw’n cefnogi ein sefydliadau addysg uwch a’r economi yn gyffredinol drwy ddod ag arian o’u gwledydd er mwyn talu am ffioedd prifysgol, llety, bwyd, cyfleustodau a gweithgareddau hamdden. Mae pobl oed gweithio o wledydd eraill yr UE yn fwy tebygol o fod mewn gwaith (80%) na dinasyddion y DU (75%). Felly, ar gyfartaledd, maen nhw’n cyfrannu mwy o drethi er mwyn talu am y gwasanaethau maen nhw’n eu defnyddio; maen nhw’n rhoi mwy o arian i mewn nag y maen nhw’n ei dynnu allan. Fodd bynnag, o ganlyniad, byddan nhw’n cystadlu am swyddi ac efallai y bydd hyn yn ei gwneud hi’n fwy anodd i rai pobl gael swydd, ond bydd yr arian y byddan nhw’n ei ennill yn creu swyddi.

Biwrocratiaeth

Ystyr biwrocratiaeth yw rheolau a rheoliadau ac mae gwrthwynebwyr yr UE yn dweud eu bod nhw’n ddrwg oherwydd eu bod nhw’n costio arian ychwanegol i fusnesau.

Llun: BahnhofsuhrZuerich RZ - JuergenG - © Wikimedia Commons dan Creative Commons Attribution-Share Alike 3.0 Unported, 2.5 Generic, 2.0 Generic and 1.0 Generic

Mae pobl sydd o blaid yr UE yn dweud eu bod nhw’n dda oherwydd bod y rheolau a’r rheoliadau, yn bennaf, yn rhoi hawliau cyflogaeth i weithwyr, yn gwarchod defnyddwyr pan fyddan nhw’n prynu nwyddau a gwasanaethau ac yn gwarchod yr amgylchedd.

Yn ôl y felin drafod, Open Europe, mae pedwar o bum rheoliad drutaf yr UE yn ymwneud naill ai â chyflogaeth neu’r amgylchedd. Strategaeth ynni adnewyddadwy y DU sydd ar ben y rhestr – mae’n costio £4.7bn y flwyddyn yn ôl y felin drafod. Mae’r Gyfarwyddeb Oriau Gwaith (£4.2bn y flwyddyn) – sy’n cyfyngu’r wythnos waith i 48 awr – a’r Gyfarwyddeb Gweithwyr Asiantaeth Dros Dro (£2.1bn y flwyddyn), sy’n rhoi’r un hawliau i staff dros dro ag i staff parhaol – ar y rhestr hefyd. 

Mae’r rhain i gyd naill ai’n helpu i warchod yr amgylchedd neu i warchod gweithwyr a’u teuluoedd; mae rheoliadau eraill yn cynnwys pethau fel sicrhau ansawdd bwyd, rhwystro cwmnïau awyrennau rhag codi gormod ar deithwyr am deithiau awyrennau hwyr neu am deithiau sydd wedi cael eu canslo, a rhwystro cwmnïau rhag codi gormod am alwadau a defnyddio data ar ffonau symudol.

Y cwestiwn mawr yw: ydy rheolau a rheoliadau’r UE yn dda i bobl Cymru?

Masnach

Masnachu yw’r brif ffordd o ennill arian. 

Gweddill yr UE yw ein partner masnachu mwyaf ac nid oes trethi nwyddau (trethi ar fewnforion) a thaliadau eraill, diolch i’r UE.

Yng Nghymru, mae gennyn ni nifer o swyddi sy’n gysylltiedig â’r ffaith mai ein porthladdoedd ni yw’r prif rai sy’n cysylltu Gweriniaeth Iwerddon gyda’r DU ac yna weddill yr UE. 

Mae cefnogwyr yr UE yn tynnu sylw hefyd at y ffaith fod gan y gwledydd sy’n aelodau o’r UE gytundebau masnachu gyda bron bob gwlad yn y byd. Yn ogystal, mae’r UE wedi bod yn trafod y Bartneriaeth Drawsiwerydd ar Fasnachu a Buddsoddi gyda’r Unol Daleithiau a hon fydd yr ardal fasnachu fwyaf mae’r byd wedi’i gweld erioed. 

Mae cefnogwyr y bartneriaeth, gan gynnwys arweinydd y Blaid Geidwadol, David Cameron, yn credu y byddai’r bartneriaeth yn gwneud mewnforion o’r Unol Daleithiau yn rhatach ac y byddai’n rhoi hwb gwerth £10bn y flwyddyn i allforion o Brydain i’r Unol Daleithiau. Mae gwrthwynebwyr, gan gynnwys arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn, yn ofni y bydd yn trosglwyddo mwy o rym i gorfforaethau rhyngwladol, yn bygwth gwasanaethau cyhoeddus, yn niweidio safonau bwyd ac yn lleihau hawliau pobl. 

Byddai gadael yr UE yn golygu na fyddai’r DU yn rhan o’r Bartneriaeth uchod ond mae rhai economyddion yn credu y bydd yr UE yn gweld cynnydd o £120 biliwn y flwyddyn yn lefel y masnachu ac y bydd yr Unol Daleithiau’n gweld cynnydd o £90 biliwn y flwyddyn - a byddai’r DU yn colli ei chyfran o hynny.

Llun: New100front - Bureau of Engraving and Printing - © Wikimedia Commons dan Public Domain

Mae’r rhai sy’n gwrthwynebu aros yn yr UE yn credu y byddai’r DU yn rhydd i drafod ei chytundebau masnachu newydd ei hun petai’n gadael yr UE. Gallai hyn fod yn well na’r rhai sydd wedi’u cytuno ar gyfer yr UE oherwydd mae’n anodd iawn cael pob un o’r 28 gwlad sydd yn yr UE i gytuno ar bethau. 

Os na fyddwn ni’n pleidleisio i adael, fyddwn ni ddim yn gwybod a allen ni drafod cytundebau fel hyn yn ddigon cyflym, neu a fydden ni mewn sefyllfa lle nad ydyn ni’n gallu masnachu’n rhydd gyda mwyafrif ein prif farchnadoedd.

Ffactorau eraill

Dyna rai pethau i feddwl amdanyn nhw. Mae llawer o bethau eraill hefyd, er enghraifft:

  • Diogelwch
  • Atal troseddau
  • Amddiffyn
  • Ymchwil mewn prifysgolion
  • Hawliau
  • Deddfau
  • Gwyliau
  • Yr amgylchedd

Mae ein haelodaeth ni o’r UE yn effeithio ar bron popeth y gallwch chi feddwl amdano.

Gweithgareddau disgyblion

Ar ôl darllen pob un o'r tri erthyglau a chynnal y gweithgareddau. Defnyddiwch y daflen A3 sy'n cyd-fynd i'ch helpu chi i gynnal ymchwiliad i mewn i'r 2016 Refferendwm yr UE yng Nghymru.

 

Rhifyn arall efallai y byddwch a diddordeb mewn, Yr etholiad yng Nghymru yn 2016.

Top

Mwy o’r rhifyn yma...

2016 –  Y Refferendwm ar yr Undeb Ewropeaidd

2016 – Y Refferendwm ar yr Undeb Ewropeaidd

Sut mae’r UE yn gweithio?

Sut mae’r UE yn gweithio?