23

Datrys y broblem

Datrys y broblem

Yn y rhifyn hwn o Daearyddiaeth yn y Newyddion, rydym ni wedi bod yn edrych ar y system garthffosiaeth a gwastraff dŵr yn y DU.

Mae gan y DU boblogaeth o dros 62 miliwn o bobl. Mae trin triliynau o litrau o wastraff dŵr a chadw'r carthfosydd yn llifo yn costio miliynau o bunoedd. Un o ddyletswyddau Llywodraeth Prydain a'r deuddeg cwmni gwasanaethau cyhoeddus yw cadw'r carthffosieth yn llifo ac i wneud hynny, rhaid buddsoddi miliynau o bunoedd.

Yn benodol, rydyn ni wedi edrych ar rai o'r heriau sy'n wynebu'r diwydiant dŵr wrth geisio cadw'r carthffosydd yn rhydd o unrhyw rwystrau (blockages). Rydym wedi darganfod, er bod y fam natur - gyda'i stormydd a'i llifogydd - yn gallu gorlifo'r system gwastraff dŵr, pobl a sefydliadau yn ei chamddefnyddio sy'n achosi problemau yn gyson.

Yn yr erthygl hon byddwn yn edrych ar gynlluniau a datblygiadau i gael gwared ar wastraff dŵr allai ddatrys y broblem...


1. Seicoleg carthffosiaeth - newid ymddygiad bodau dynol

Mae gwleidyddion yn hoffi siarad am bwysigrwydd addysg a pham fod eu syniadau nhw yn mynd i wneud gwahaniaeth i'r ffordd y mae myfyrwyr yn dysgu.

Wel, mae'n rhaid i gwmnïau dŵr feddwl am eu syniadau eu hunain. Fel gwelson ni yn y lluniau a'r fideo yn yr ail erthygl - I Lawr y Draen - prif achos rhwysrtau, oed nhw'n fawr neu fach,yw camddefnydd o'r system garthffosiaeth gan ddnasyddion,busnesau a diwydiannau.

undefined

Mae bron iawn pob un o gwmnïau dŵr a charthhffosiaeth y DU yn ceisio addysgu pobl bod rhoi unrhyw beth i lawr y toiled neu'r sinc yn gallu achosi rhwystr, sy'n costio llawer iawn o arian.

Edrychwch ar y dolenni isod er mwyn gweld enghreifftiau o'r ymgyrchoedd hyn:

Ar waelod y dudalen hon, mae dolen i wefan bob un o gwmnïau carthffosiaeth y DU.


Stop Cyn Creu Bloc

Ym mis Ebrill 2013, lansioddd Dŵr Cymru eu hymgyrch ‘'Stop cyn Creu Bloc'' Mae'r ymgyrch yn annog cwsmeriaid i dyngu llw i gael gwared ar wastraff allai rwystro draeniau a charthffosydd, yn y ffordd gywir.(Mae'r rhai sy'n tyngu llw cyn 31 Rhagfyr 2013 yn cael cyfle i ennill offer gwyddoniaeth i ysgol o'u dewis nhw, felly soniwch am hyn wrth eich rhieni a'ch athrawon).

Gwyliwch y fideo isod i ddysgu mwy. Yna cliciwch ar y llun isod er mwyn mynd i dudalen rhyngweithiol Stop Cyn Creu Bloc.

                       

undefined

 

Mae cwmniau dŵr yn gweithio i godi ymwybyddiaeth ymysg cwsmeriaid masnachol a diwydiannol hefyd. Darperir gwybodaeth a chyngor gan Dŵr Cymru i fusnesau sy'n cael gwared ar fraster, olewau a saim..

Caiff cyngor am wastraff amaethyddool a diwydiannol ei ddarparu gan sefydliadau fel Water UK, yr Asiantaeth Amgylchedd a DEFRA.


2. Robotiaid

Arolygir carthffosydd i chwilio am broblemau neu rwystrau ac i helpu cwmnïau dŵr gynllunio gwaith cynnal a chadw neu waith trwsio. Nid yw'r rhan fwyaf o bibellau carthffosydd yn ddigon mawr i berson fynd i mewn iddynt, felly caiff jetiau dŵr pwerus eu defnyddio, neu bibell sugno i gael gwared ar rwystau.

I archwilio carthffosydd, caiff camerau isgoch (infrared) eu gwthio drwy'r pibellau. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae robotiaid wedi cael eu datblygu i wneud yr un swydd. Maen nhw'n gweithio ar eu pen eu hunain, ac maen nhw'n gallu mynd i mewn i bibell sydd mor gul â 20cm mewn diametr. Edrychwch ar y fideo isod i ddysgu mwy.

3. Lleihau, ailddefnyddio, ailgylchu...

Mae defnyddio robbotiaid a chynnal ymgychoedd codi ymwybyddiaeth i addysgu cwsmeriaid am y problemau sy'n codi yn sgil rhoi braster, olew a gwastraff anaddas eraill i lawr y draen yn helpu - ond beth am gynlluniau ac ymgyrchoedd allai leihau faint o fraster ac olew sy'n gorfod cael ei daflu?

Mae olewau a brasterau sy'n cael eu defnyddio i goginio yn cynnwys llawer iawn o ynni, yn union fel yr olew sy'n cael ei ddefnyddio i wneud petrol a diesel. Mae rhai cwmniau nawr yn edrych ar ffyrdd i ailddefnyddio brasterau coginio, fel eu bod nhw'n gallu gwario llai ar danwydd confensiynol a lleihau allyrriadau carbon deuocsid o danwydd ffosil.

undefined

Bysiau sy'n cael eu cynnal gan danwydd gwyrdd ac olew coginio - y BioBuses (c) Stagecoach

Mae'r cwmni bysiau, coets a thrennau Stagecoach wedi bod yn rhedeg y 'BioBuses' cyntaf yn y DU,yn Kilmarnock, yr Alban. Maen nhw'n cychwyn yr injan drwy ddefnyddio diesel cyffredin ac yna'n newid i danwydd wedi'i wneud o olew coginio a sgil gynhyrchion eraill o'r diwydiant bwyd.

Fel rhan o'r cynllun, anogir teithwyr i ailgylchu brasterau ac olewau coginio eu hunain er mwyn cael tocyn teithio am bris rhatach.

Nid bysiau yn unig sydd wrthi... Erbyn hyn, mae lorïau nwyddau McDonalds yn mynd â'r olew coginnio sydd wedi'i ailgylchu o geginau'r cwmni. Hefyd, ambell flwyddyn yn ôl hedfanodd jet teithwyr yn defnyddio cymysgedd o olew coginio a thanwydd arferol y jet.


4. Ysgafnu'r baich...

“Rydym ni'n rhoi gormod o ddŵr ffo glân i mewn i'r rhwydwaith. Mae'n cael ei heintio gan garthffosiaeth yno cyn llifo yn ôl allan.”

Fergus O'Brien, Dŵr Cymru

Fel y gwelson ni yn yr erthygl ddiwethaf, gall gormod o ddŵr ffo achosi trychineb. Mae cwmnïau dŵr yn chwilio am ffyrdd i leihau'r baich sydd ar y system, drwy rwystro dŵr glaw rhag mynd i'r system.

Yn Llanelli yn 2013, lansiodd Dŵr Cymru brosiect werth £15 miliwn i reoli llif dŵr y glaw. Enw'r prosiect yw RainScape Mae'n defnyddio coed, glaswellt ac ardaloedd eraill o blanhigion i symud dŵr ffo oddi wrth rwydwaith carthffosiaeth y dref.

Mae'r cam cyntaf wedi dechrau gyda sianel fawr ar gaeau chwarae Queen Mary's Walk, sy'n ardal dan ddŵr.

undefined

Diagram o'r Cynllun RainScape yn Llanelli (c) Dŵr Cymru

Allwedd:

  1. 01. Ardaloedd plannu

  2. 02. Siannel draennu graean

  3. 03. Meinciau

  4. 04. Bwrdd Gwybodaeth

  5. 05. Arllwysfa

  6. 06. Coed Awgrymedig (Bedwen, Poplysen, Gwernen)

Mae'r prosiect yn dwyn ysbrydoliaeth o gynlluniau tebyg yn Sweden. Bydd yn parahu drwy gydol 2013-2014 pan fydd basnau a sianeli gwahanol yn cynnwys coed a glaswellt yn cael eu plannu ar rwydwaith ffyrdd y dref.

undefined

Enghraifft o fasn ar ochr y ffordd (c) Dŵr Cymru

undefined

Enghraifft o sianel laswellt (c) Dŵr Cymru

undefined

Planwr ar ochr y ffordd er mwyn lleihau dŵr ffo (c) Dŵr Cymru

O ran rheoli dŵr ffo, mae RainScape Llanelli yn ffordd amgen i'r dull traddodiadol o adeiladu tanciau a strwythurau mawr concrid er mwyn dal y dŵr yn ôl. Mae'r dref yn cael cymaint o law bob blwyddyn byddai'n rhaid i'r tanciau fod yr un maint a 200 pwll nofio Olympaidd!


Dim ond megis dechrau

Ychydig o enghreifftiau yn unig yw'r cynlluniau ymarferol y mae cwmnïau dŵr a charthffosiaeth yn y DU yn eu cynnal i sicrhau bod y system garthffosiaeth yn gweithio heddiw ac y bydd hi'n gweithio yn y dyfodol yw rhai uchod. 


Gweithgaredd disgyblion

Gan weithio mewn grwpiau bychain, agorwch y dolenni uchod ac isod ac edrychwch ar yr ymgyrchoedd addysgu a chynghori mae'r cwmniau dŵr yn eu cynnal. Hwyrach hoffech chi edrych ar ymgyrch sy'n ymwneud â'r math o wastraff edrychoch chi arno yn y gweithgaredddau blaenorol.

Ystyrwich:

  • At bwy anelir yr ymgyrch?

  • Beth yw prif nod yr ymgyrch?

  • Pa adnoddau sydd ar gael? (Gwefannau, adnodddau rhyngweithiol, llawlyfrau, posteri?)

  • Pa fath o garthffosiaeth a gwastraff dŵr sydd dan sylw yn yr ymgyrch?

Meddyliwch am ba fath o iaith sy'n cael ei defnnyddio a sut caiff y wybodaeth ei chyflwyno:

  • Yn eich barn chi, a fydd yr ymgyrch yn un effeithiol?

  • Pam eich bod chi'n meddwl hynny?

  • Beth fyddech chi'n ei wneud yn wahanol?

Trafodwch y cwestiynau uchod a gwnewch nodiadau. Yna dyluniwch eich pamffled eich hun i ddweud wrth bobl am y problemau sy'n gallu digwydd wrth gamddefnyddio'r system garthffosiaeth.

Cwmnïau Carthffosiaeth a Dŵr y DU:

Top

Mwy o’r rhifyn yma...