23

Perygl y 'fatberg'!

Anghenfilod y carthffosydd…

Beth sydd yr un maint â bws, sy'n pwyso pymtheg tunnell ac sy'n byw yn y carthffosydd o dan Lundain?

Siarc morfil? Mwtan o grocodeil? Llygod mawr enfawr?

Mae'r gwirionedd yn ffaith llawer iawn mwy ffiaidd a pheryglus…

Dechreuodd y stori yn Kingston upon Thames, pan gafodd trigolion yr ardal drafferth yn fflysio eu toiledau'n iawn. Dywedon nhw wrth Thames Water - y cwmni sy'n gyfrifol am systemau dŵr a charthffosiaeth yr ardal - am y broblem.

Rhoddwyd y dasg o ymchwilio'r broblem i weithiwr carthffosiaeth, Gordon Hailwood. Pan fentrodd ef a'i dîm o 'ysgubwyr' o dan strydoedd Llundain, daethon nhw o hyd i fwystfil yn stelcian yn y tywyllwch, oedd bron iawn wedi blocio'r pibellau yn llwyr.

undefined

Anghenfil y garthffosiaeth © CountyClean

Dim ond dechrau'r broblem oedd diffyg 'fflysh' y toiled - oni bai bod yr erchyllbeth seimllyd a drewllyd yn cael ei ddinistrio, gallai fod wedi achosi i'r garthffosiaeth amrwd orlifo i strydoedd Kingston, gan ddod a gofid a pherygl afiechyd i ddegau o filoedd o bobl gydag ef.

Felly, beth oedd yn llechu yn y dyfnderoedd?

Pan gyrhaeddodd Hailwood a'i dîm di-ofn y garthffos, darganfyddon nhw fynydd o fraster a gwastraff toiled yn pydru. Cafodd y llysenw 'fatberg'.

Cyn i'r tîm ddechrau'r broses o dorri'r 'fatberg' yn defnyddio jetiau dŵr pwerus a rhawiau mawr, ffilmion nhw'r hyn oedd yn eu wynebu. Gallwch ei wylio isod.

Byddwch yn ddiolchgar nad yw camera fideo yn gallu recordio arogl!

'Fatberg' a daearyddiaeth?

Felly, pam mae plwg enfawr o fraster coginio wedi ceulo a wet wipes o bwys i ddaearyddwyr?

Mae carthffosiaeth yn sgil gynnyrch anochel o weithgareddau dynol ac felly mae mwy o bobl yn golygu bod mwy o wastraff yn cael ei gynhyrchu. Mae'r gwastraff hwn yn cael effaith enfawr ar yr amgylchedd, yn ogystal ag ar y boblogaeth. Ni allwn astudio'r ffordd y mae bodau dynol yn rhyngweithio â byd natur heb edrych ar sut y caiff gwastraff ei gynhyrchu a sut y ceir gwared arno.

Yn y ddwy erthygl nesaf o'r rhifyn hwn, bydddwn ni'n edrych ar ddwy agwedd ar reolaeth gwastraff hylif yn y DU:

  • Yr her o ddelio gyda chynnydd parhaol yng nghyfaint carthffosiaeth mewn ffordd ddiogel ac amgylcheddol.

  • Datblygiadau a chynlluniau allai arwain at ffordd well, mwy cynaliadwy o reoli gwastraff.

Cyn i ni ddechrau, beth am edrych ar rai ffeithiau a ffigurau am gynhyrchiant carthffosiaeth a sut y ceir gwared arno yn y DU.

Beth yw carthffosiaeth?

Yn syml, gwastraff sy'n cael ei gario gan ddŵr oddi wrth y cymunedau sy'n ei gynhyrchu yw carthffosiaeth.

Mae carthffosiaeth yn cynnwys:

  • Gwastraff ymolchi

    • gwastraff y toiled, yn cynnwys carthion (faeces), wrin, papur toiled ac unrhyw beth arall sy'n cael ei fflysio i lawr y toiled

    • dŵr a solidau o sinciau, baddonnau, peiriannau golchi, peiriannau golchi llestri ac ati

  • Gwastraff diwydiannol

    • sgil gynnyrch mewn prosesau gweithgynhyrchu a diwydiannol mewn ffatrioedd, gorsafoedd pŵer ac ati

  • Gwastraff masnachol

    • hylif a gwastraff wedi'i gario gan ddŵr o siopau, bwytai a darparwyr gwasanaethau eraill mewn cymunedau

  • Gwastraff amaethyddol

    • sgil gynhyrchion ffermydd, o wastraff anifeiliaid i wrtaith a chemegolion eraill a ddefnyddir i dyfu cnydau a magu da byw.

  • Dŵr-ffo

    • dŵr y glaw sy'n llifo'n gyflym ar hyd wyneb y ddaear (yn cynnwys oddi ar doeau adeiladau) i mewn i gwteri a draeniau sydd wedi cael eu dylunio i'w gario ymaith

Carthffosiaeth – ffeithiau a ffigurau

Yn ôl Asiantaethyr Amgylchedd, mae Cymru a Lloegr yn cynhyrchu 10 biliwn litr o garthffosiaeth pob dydd. Mae hynny'n 3.65 triliwn litr pob blwyddyn - digon i lenwi Loch Ness (llyn mwyaf Prydain) bum gwaith mewn degawd... Nessie druan!

undefined

Loch Ness, yr Alban

Mae delio gyda'r holl garthffosiaeth yn defnyddio 2,800,000,000 KWh o drydan bob blwyddyn. Mae hynny'n ddigon i gynnal tair miliwn o fylbiau golau 100W am 24 awr y dydd, am flwyddyn, ac mae angen cymaint a 1,000,000 tunnell o lo i'w gynnal.

undefined

Ym y DU mae dros 300,000 cilometr o garthffosydd. Mae hynny'n ddigon i fynd o amgylch y ddaear 7 gwaith a hanner. Mae'r pibellau hyn yn cysylltu 95% o boblogaeth y DU i'r prif waith trin gwastraff dŵr.

undefined

Dwr yw rhwng 99.5% a 99.9% o carthffosiaeth. Mae'r system trin gwastraff wedi cael ei dylunio i ddelio gyda'r 0.1% i 0.5% sy'n solid. Ar gyafrtaledd, mae pob person yn y DU yn cynhyrchu tua 150 litr o wastraff bob dydd. Mae hynny yr un faint a 450 o ganiau pop. Dwr yw'r rhan fwyaf ohono, sy'n fflysio'r gwastraff ymaith.

undefined

Mae gan rai rhannau o'r DU wahanol garthffosydd ar gyfer gwastraff a dŵr glaw. Fodd bynnag, yng Nghymru, mae llawer o'r carthffosydd yn cludo dŵr-ffo a charthffosiaeth. Mae hyn yn golygu y gall stormydd garw iawn orweithio'r system. Ar ei waethaf, gall hyn achosi i garthffosiaeth orlifo trwy dyllau archwilio i strydoedd a gerddi.

undefined

 

Gweithgaredd disgybl

Cyn symud ymlaen at weddill yr erthyglau, cwblhewch y gweithgaredd isod er mwyn darganfod mwy o wybodaeth am un neu ddwy agwedd ar gynhyrchu a rheoli gwastraff yn y DU.

Defnyddiwch y rhyngrwyd i ddysgu mwy am un math penodol o garthffosiaeth. Dewiswch un o'r pump y soniwyd amdanynt yn yr erthygl hon:

  • Gwastraff ymolchi

  • Gwastraff diwydiannol

  • Gwastraff masnachol

  • Gwastraff amaethyddol

  • Dŵr-ffo

Darganfyddwch:

  • O beth mae wedi'i wneud? (Dewisiwch chi pa mor fannwl rydych chi eisiau bod!)

  • Pa gwmnïau sy'n gyfrifol am y system garthffosiaeth yn eich ardal chi? (Mae deuddeg o gwmniau'r DU wedi'u rhestru isod)

  • Sut mae cael gwared arno, sut caiff ei gasglu a'i gludo i'r gwaith trin?

  • Faint o'r gwastraf rydych chi wedi'i ddewis sy'n cael ei gynhyrchu'n flynyddol (un ai'n genedlaethol neu'n lleol)

  • Pa beryglon sydd, pe na bai y gwastraff yn cael ei drin yn iawn (afiechydon, llygredd ac ati)

Casglwch y wybodaeth, yr erthyglau a'r lluniau rydych chi'n dod ar eu traws mewn cyflwyniad PowerPoint. Byddwch yn cyfeirio at hwn yng ngweithgareddau'r ddwy erthygl nesaf.

Cwmnïau Carthffosiaeth a Dŵr y DU:

Top

Mwy o’r rhifyn yma...