23

Perygl y 'fatberg'!

Anghenfilod y carthffosydd…

Beth sydd yr un maint a bws, sy'n pwyso pymtheg tunnell ac sy'n byw yn y carthffosydd o dan Lundain?

Siarc morfil? Mwtan o grocodeil? Llygod mawr enfawr?

Mae'r gwirionedd yn ffaith llawer iawn mwy ffiaidd a pheryglus…

Dechreuodd y stori yn Kingston upon Thames, pan gafodd trigolion yr ardal drafferth yn fflysio eu toiledau'n iawn.

Pan ddywedwyd wrth y cwmni carthffosiaeth a dŵr, Thames Water, am y broblem, fe anfonon nhw dîm o ysgubwyr i'r garthffos o dan Lundain i ymchwilio.

Doedden nhw ddim yn credu'r hyn a welsant; bwystfil yn stelcian yn y tywyllwch yn blocio'r pibellau, bron iawn yn llwyr!

undefined

Anghenfil y garthffos © CountyClean

Gallai'r erchyllbeth seimllyd, drewllyd fod wedi achosi i garthffosiaeth amrwd orlifo i strydoedd Llundain, gan achosi gofid a pherygl o afiechyd i ddegau o filoedd o bobl.

Felly, beth oedd y llechu yn y dyfnderoedd?

Roedd y 'fflysiwyr' wedi darganfod lwmp enfawr o fraster a gwastraff toiled oedd yn pydru. Cafodd ei enwi yn 'fatberg'.

Cymerodd dair wythnos i ddinistrio'r anghenfil 15 tunnell yn defnyddio jetiau dŵr pwerus a rhawiau mawr. Recordiodd y tîm fideo byr o'r mynydd oedd yn eu wynebu, gallwch weld y fideo isod.

Byddwch yn ddiolchgar nad yw camera fideo yn gallu recordio'r arogl!

'Fatberg' a daearyddiaeth?

Felly, pam fyddai plwg anferth o fraster coginio wedi ceulo a wet wipes o bwys i ddaearyddwyr?

Sgil gynnyrch i weithgareddau dynol yw carthffosiaeth, felly mae mwy o bobl yn golygu mwy o wastraff. Ni allwn ddeall sut mae bodau dynol yn effeithio ar y byd naturiol, heb ddysgu sut caiff y gwastraff hwnnw ei gynhyrchu a sut y ceir gwared arno.

Yn y ddwy erthygl nesaf o'r rhifyn hwn o 'Daearyddiaeth yn y Newyddion', byddwn ni'n edrych ar ddwy agwedd o reolaeth gwastraff dŵr yn y DU:

  • Yr her o ddeilo gyda charthffosiaeth mewn dull diogel ac amgylcheddol.

  • Syniadau newydd i ddelio gyda gwastraff yn well

Ond cyn i ni ddechrau, beth am edrych ar y ffeithiau a'r ffigurau sy'n ymwneud â chynhyrchu carthffosiaeth a chael gwared arno yn y DU.

Beth yw carthffosiaeth?

Yn syml, gwastraff sy'n cael ei gario gan ddŵr oddi wrth y cymunedau sy'n ei gynhyrchu yw carthffosiaeth.

Mae carthffosiaeth yn cynnwys:

  • Gwastraff ymolchi

    • gwastraff y toiled, yn cynnwys carthion (faeces), wrin, papur toiled ac unrhyw beth arall sy'n cael ei fflysio i lawr y toiled

    • dŵr a solidau o sinciau, baddonnau, peiriannau golchi, peiriannau golchi llestri ac ati

  • Gwastraff diwydiannol

    • sgil gynnyrch mewn prosesau gweithgynhyrchu a diwydiannol mewn ffatrioedd, gorsafoedd pŵer ac ati

  • Gwastraff masnachol

    • hylif a gwastraff wedi'i gario gan ddŵr o siopau, bwytai a darparwyr gwasanaethau eraill mewn cymunedau

  • Gwastraff amaethyddol

    • sgil gynhyrchion ffermydd, o wastraff anifeiliaid i wrtaith a chemegolion eraill a ddefnyddir i dyfu cnydau a magu da byw.

  • Dŵr-ffo

    • dŵr y glaw sy'n llifo'n gyflym ar hyd wyneb y ddaear (yn cynnwys oddi ar doeau adeiladau) i mewn i gwteri a draeniau sydd wedi cael eu dylunio i'w gario ymaith

Carthffosiaeth – ffeithiau a ffigurau

Yn ôl Asiantaethyr Amgylchedd, mae Cymru a Lloegr yn cynhyrchu 10 biliwn litr o garthffosiaeth pob dydd. Mae hynny'n 3.65 triliwn litr pob blwyddyn - digon i lenwi Loch Ness (llyn mwyaf Prydain) bum gwaith mewn degawd... Nessie druan!

undefined

Loch Ness, yr Alban

Mae delio gyda'r holl garthffosiaeth yn defnyddio 2,800,000,000 KWh o drydan bob blwyddyn. Mae hynny'n ddigon i gynnal tair miliwn o fylbiau golau 100W am 24 awr y dydd, am flwyddyn, ac mae angen cymaint a 1,000,000 tunnell o lo i'w gynnal.

undefined

Ym y DU mae dros 300,000 cilometr o garthffosydd. Mae hynny'n ddigon i fynd o amgylch y ddaear 7 gwaith a hanner. Mae'r pibellau hyn yn cysylltu 95% o boblogaeth y DU i'r prif waith trin gwastraff dŵr.

undefined

Dŵr yw'r rhan fwyaf o garthffosiaeth mewn gwirionedd, ond mae'r system trin gwastraff wedi'i dylunio i ddelio gyda'r rhan fechan o'r carthion sy'n solid.

Ar gyfartaledd, mae pob person yn y DU yn cynhyrchu tua 150 litr o garthffosiaeth bob dydd. Mae hynny yr un fath â 450 o ganiau pop. Dŵr yw'r rhan fwyaf ohono sy'n cael ei ddefnyddio i fflysio'r gwastraff ymaith.

undefined

Mae gan rai rhannau o'r DU wahanol garthffosydd ar gyfer gwastraff a dŵr glaw. Fodd bynnag, yng Nghymru, mae llawer o'r carthffosydd yn cludo dŵr-ffo a charthffosiaeth. Mae hyn yn golygu y gall stormydd garw iawn orweithio'r system. Ar ei waethaf, gall hyn achosi i garthffosiaeth orlifo trwy dyllau archwilio i strydoedd a gerddi.

undefined

 

Gweithgaredd disgybl

Cyn symud ymlaen at weddill yr erthyglau, cwblhewch y gweithgaredd isod er mwyn darganfod mwy o wybodaeth am un neu ddwy agwedd ar gynhyrchu a rheoli gwastraff yn y DU.

Defnyddiwch y rhyngrwyd i ddysgu mwy am un math penodol o garthffosiaeth. Dewiswch un o'r pump y soniwyd amdanynt yn yr erthygl hon:

  • Gwastraff ymolchi

  • Gwastraff diwydiannol

  • Gwastraff masnachol

  • Gwastraff amaethyddol

  • Dŵr-ffo

Darganfyddwch:

  • O beth mae wedi'i wneud? (Dewisiwch chi pa mor fannwl rydych chi eisiau bod!)

  • Pa beryglon sydd, pe na bai'r carthion yn cael eu trin yn iawn? (afiechyd, llygredd ac ati)

Casglwch y wybodaeth, yr erthyglau ac unrhyw luniau rydych chi'n dod ar eu traws mewn cyflwyniad PowerPoint. Byddwch yn defnyddio hwn ar gyfer y gweithgareddau yn y ddwy erthygl nesaf.

Cwmnïau Carthffosiaeth a Dŵr y DU:

Top

Mwy o’r rhifyn yma...