23

Datrys y broblem

Datrys y broblem

Yn y rhifyn hwn o Daearyddiaeth yn y Newyddion, rydym ni wedi bod yn edrych ar y systemau carthffosiaeth a gwastraff dŵr yn y DU.

Mae gan y DU boblogaeth o dros 62 miliwn o bobl. Mae trin triliynau o litrau o wastraff dŵr a chadw'r carthfosydd yn llifo yn costio miliynau o bunoedd. Ond mae camddefnydd o'r carthffosydd yn gallu achosi rhwystrau (blockages.

Yn yr erthygl hon, byddwn ni'n edrych ar rai cynlluniau a datblygiadau i gael gwared ar wastraff dŵr allai helpu gyda datrys y broblem...


1. Seicoleg carthffosiaeth - newid ymddygiad bodau dynol

Mae gwleidyddion yn hoffi siarad am bwysigrwydd addysg a pham fod eu syniadau nhw yn mynd i wneud gwahaniaeth i'r ffordd y mae myfyrwyr yn dysgu.

Wel, mae'n rhaid i gwmnïau dŵr feddwl am eu syniadau eu hunain. Mae bron iawn pob un o gwmnïau dŵr a charthhffosiaeth y DU yn ceisio addysgu pobl bod rhoi unrhyw beth a fynnon nhw i lawr y toiled neu'r sinc yn gallu achosi rhwystr, sy'n costio llawer iawn o arian.

undefined

Edrychwch ar y dolenni isod er mwyn gweld enghreifftiau o'r ymgyrchoedd hyn:

Ar waelod y dudalen hon, mae dolen i wefan bob un o gwmnïau carthffosiaeth y DU.

Stop Cyn Creu Bloc

Ym mis Ebrill 2013, lansioddd Dŵr Cymru eu hymgyrch ‘'Stop cyn Creu Bloc'' Mae'r ymgyrch yn annog cwsmeriaid i dyngu llw llw i gael gwared ar wastraff allai rwystro draeniau a charthffosydd, yn y ffordd gywir. (Mae'r rhai sy'n tyngu llw cyn 31 Rhagfyr 2013 yn cael cyfle i ennill offer gwyddoniaeth i ysgol o'u dewis nhw, felly soniwch am hyn wrth eich rhieni a'ch athrawon).

Gwyliwch y fideo isod i ddysgu mwy. Yna cliciwch ar y llun isod er mwyn mynd i dudalen rhyngweithiol Stop Cyn Creu Bloc.

                       

 undefined

Mae cwmniau dŵr yn gweithio i godi ymwybyddiaeth ymysg cwsmeriaid masnachol a diwydiannol hefyd. Darperir gwybodaeth a chyngor gan Dŵr Cymru i fusnesau sy'n cael gwared ar fraster, olewau a saim..

Caiff cyngor am wastraff amaethyddool a diwydiannol ei ddarparu gan sefydliadau fel Water UK, yr Asiantaeth Amgylchedd a DEFRA.


2. Robotiaid

Arolygir carthffosydd i chwilio am broblemau neu rwystrau ac i helpu cwmnïau dŵr gynllunio gwaith cynnal a chadw neu waith trwsio. Nid yw'r rhan fwyaf o bibellau carthffosydd yn ddigon mawr i berson fynd i mewn iddynt, felly caiff jetiau dŵr pwerus eu defnyddio, neu bibell sugno i gael gwared ar rwystau.

I archwilio carthffosydd, caiff camerau isgoch (infrared) eu gwthio drwy'r pibellau. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae robotiaid wedi cael eu datblygu i wneud yr un swydd. Maen nhw'n gweithio ar eu pen eu hunain, ac maen nhw'n gallu mynd i mewn i bibell sydd mor gul â 20cm mewn diametr. Edrychwch ar y fideo isod i ddysgu mwy.

3. Lleihau, ailddefnyddio, ailgylchu...

Er bod robotiaid ac ymgyrchoedd i godi ymwybyddiaeth yn dda, pam nad oes cynlluniau sy'n ceisio lleihau faint o fraster ac olew sydd angen cael eu taflu?

Mae olewau a brasterau sy'n cael eu defnyddio i goginio yn cynnwys llawer iawn o ynni, yn union fel yr olew sy'n cael ei ddefnyddio i wneud petrol a diesel.

Mae rhai cwmniau nawr yn edrych ar ffyrdd i ailddefnyddio brasterau coginio, fel eu bod nhw'n gallu gwario llai ar danwydd confensiynol a lleihau allyrriadau carbon deuocsid o danwydd ffosil.

undefined

Bysiau sy'n cael eu cynnal gan danwydd gwyrdd ac olew coginio - y BioBuses (c) Stagecoach

Mae'r cwmni bysiau, coets a thrennau Stagecoach wedi bod yn rhedeg y 'BioBuses' cyntaf yn y DU,yn Kilmarnock, yr Alban. Maen nhw'n cychwyn yr injan drwy ddefnyddio diesel cyffredin ac yna'n newid i danwydd wedi'i wneud o olew coginio a sgil gynhyrchion eraill o'r diwydiant bwyd.

Fel rhan o'r cynllun, anogir teithwyr i ailgylchu brasterau ac olewau coginio eu hunain er mwyn cael tocyn teithio am bris rhatach

Nid bysiau yn unig sydd wrthi... Erbyn hyn, mae lorïau nwyddau McDonalds yn mynd â'r olew coginnio sydd wedi'i ailgylchu o geginau'r cwmni. Hefyd, ambell flwyddyn yn ôl hedfanodd jet teithwyr yn defnyddio cymysgedd o olew coginio a thanwydd arferol y jet.


4. Ysgafnu'r baich...

“Rydym ni'n rhoi gormod o ddŵr ffo glân i mewn i'r rhwydwaith. Mae'n cael ei heintio gan garthffosiaeth yno cyn llifo yn ôl allan.”

Fergus O'Brien, Dŵr Cymru/Welsh Water

Fel y gwelson ni yn yr erthygl ddiwethaf, gall gormod o ddŵr ffo achosi trychineb. Mae cwmnïau dŵr yn chwilio am ffyrdd i leihau'r baich sydd ar y system, drwy rwystro dŵr glaw rhag mynd i'r system.

Yn Llanelli yn 2013, lansiodd Dŵr Cymru brosiect werth £15 miliwn i reoli llif dŵr y glaw. Enw'r prosiect yw RainScape Mae'n defnyddio coed, glaswellt ac ardaloedd eraill o blanhigion i symud dŵr ffo oddi wrth rwydwaith carthffosiaeth y dref.

Mae'r cam cyntaf wedi dechrau gyda sianel fawr ar gaeau chwarae Queen Mary's Walk, sy'n ardal dan ddŵr.

undefined

Diagram o'r Cynllun RainScape yn Llanelli (c) Dŵr Cymru

Allwedd:

  1. 01. Ardaloedd plannu

  2. 02. Siannel draennu graean

  3. 03. Meinciau

  4. 04. Bwrdd Gwybodaeth

  5. 05. Arllwysfa

  6. 06. Coed Awgrymedig (Bedwen, Poplysen, Gwernen)

Mae'r prosiect yn dwyn ysbrydoliaeth o gynlluniau tebyg yn Sweden. Bydd yn parahu drwy gydol 2013-2014 pan fydd basnau a sianeli gwahanol yn cynnwys coed a glaswellt yn cael eu plannu ar rwydwaith ffyrdd y dref.

undefined

Enghraifft o fasn ar ochr y ffordd (c) Dŵr Cymru

undefined

Enghraifft o sianel laswellt (c) Dŵr Cymru

undefined

Planwr ar ochr y ffordd er mwyn lleihau dŵr ffo (c) Dŵr Cymru

O ran rheoli dŵr ffo, mae RainScape Llanelli yn ffordd amgen i'r dull traddodiadol o adeiladu tanciau a strwythurau mawr concrid er mwyn dal y dŵr yn ôl.

Mae'r dref yn cael cymaint o law bob blwyddyn byddai'n rhaid i'r tanciau fod yr un maint a 200 pwll nofio Olympaidd!


Dim ond megis dechrau

Ychydig o enghreifftiau yn unig yw'r cynlluniau ymarferol y mae cwmnïau dŵr a charthffosiaeth yn y DU yn eu cynnal i sicrhau bod y system garthffosiaeth yn gweithio heddiw ac y bydd hi'n gweithio yn y dyfodol. 


Gweithgaredd disgyblion

Fel dosbarth, neu mewn grwpiau mawr, ewch i edrych ar y dolenni gwe uchod ac isod, a darganfod mwy am wahanol gwmniau cathrffosiaeth.

Meddyliwch am y cwestiynau hyn:

  • At bwy mae'r ymgyrch yn cael ei anelu?

  • Beth mae'r ymgyrch yn ceisio ei ddysgu i bobl?

  • Pa adnoddau sydd ar gael? (Gwefannau, adnoddau rhyngweithiol, llawlyfrau, possteri?)

  • Pa fath o garthffosiaeth a gwastraff dŵr mae'r ymgyrch yn ymdrin ag e?

Edrychwch ar y lluniau a'r ffordd mae'r ymgyrchoedd wedi cael eu hawduro:

  • Yn eich barn chi, a fydd yr ymgyrch yn gweithio a pham?

  • Beth fyddech chi'n ei wneud yn wahanol?

Siaradwch, fel dosbarth, am sut y byddech chi'n cynnal ymgyrch tebyg. Ysgrifennwch eich syniadau ar y bwrdd gwyn neu ar bapur mawr.

Dyluniwch eich pamffled eich hun i ddweud wrth bobll am y problemau sy'n gallu codi wrth gamddefnyddio'r system garthffosiaeth.

Cwmnïau Carthffosiaeth a Dŵr y DU:

Top

Mwy o’r rhifyn yma...