23

I lawr y draen

I lawr y draen…

Yn erthygl gyntaf y rhifyn arbennig hwn am Garthffosiaeth, darllenom ni am y 'fatberg' gafodd ei ddarganfod yng ngharthffosydd ardal Kingston upon Thams yn Llundain.

Roedd y 'fatberg' yn fwystfil o beth. "Er ein bod ni wedi cael gwared ar gyfaint mwy o fraster o ganol Llundain yn y gorffennol, dydyn ni erioed wedi gweld un lwmp mawr wedi ceulo yn blocio'r carthffosydd o'r blaen," dywedodd datganiad gan Thames Water, y cwmni sy'n gyfrifol am systemau dŵr a charthffosiaeth Llundain.

Mae'e cwmni yn credu mai hwn oedd y 'fatberg' mwyaf yn hanes Prydain. Ond y cwestiwn ar dafod pawb yw, sut ffurfiodd y fath beth?

undefined

Gellir darganfod yr ateb drwy edrych ar y lwmp mawr ei hun. Nid olew a braster coginio yn unig oedd wedi cael eu harllwys i lawr sinciau a draeniau a cheulo wedyn oedd yma - roedd y lwmpyn mawr yn cynnwys miloedd o wet wipes oedd wedi cael eu fflysio i lawr toiledau.

Gallwn ddyfalu at ba bwrpas ddefnyddiwd y wet wipes -ych a fi, am afiach! Dychmygwch orfod clirio lwmp main bws.

When they made their way into the sewers, Hailwood and his intrepid team discovered an enormous mass of rotting fat and toilet waste nicknamed a 'fatberg'.

Daliwyd sylw papurau newyd a gorsafoedd teledu y DU a thramor gan faint y rhwystr hwn. Ond, nid yw'n achos cwbl unigryw. Mae Thames Water, un o 12 cwmni cyhoeddus sy'n delio gyda charthffosiaeth, yn clirio mwy na 40,000 o rwystrau wedi'u gwneud o fraster a chadachau ymolchi bob blwyddyn. Maen nhw'n gyfrifol am 59,000 milltir o garthffosydd.

Mae'r map isod yn dangos prif garthffosydd Llundain fel roedden nhw'n 1930. Wrth reswm, mae'r carthffosydd wedi'u ehangu a'u gwella yn sylweddol dros y 80 mlynedd diwethaf. Mae hynny'n dangos nid yn unig twf ym mhoblogaeth y ddinas ond hefyd twf yn faint o wastraff sy'n cael ei gynhyrchu. Cliciwch yma i weld a lawrlwytho fersiwn mawr o'r map.

undefined

Problem gyhoeddus...

Mae astudio isadeiledd ffisegol systemau trin gwastraff dŵr yn gallu dweud llawer o bethau wrthom. Er enghraifft, gall roi gwybodaeth i ni am ddatblygiadau mewn cymdeithasau, effaith twf y boblogaeth mewn amgylchedd wledig a dinesig a rôl y llywodraeth leol a chenedlaethol yn sicrhau iechyd a diogelwch eu dinasyddion.

Yng ngweddill y rhifyn hwn, fodd bynnag, byddwn ni'n canolbwyntio ar yr her sy'n wynebu cwmnïau cyhoeddus sy'n trin gwastraff dŵr, wrth iddyn nhw geisio trin biliynau o litrau o garthffosiaeth sy'n cael ei gynhyrchu'n ddyddiol. Un o'r heriau mwyaf sy'n eu wynebu'r yw addysgu'r cyhoedd, busnesau a diwydiannau am yr hyn sy'n iawn, a sydd ddim yn iawn i'w roi i lawr y toiled ac yn y system garthffosiaeth.

Byddwn ni'n dechrau drwy edrych ar enghreifftiau o eitemau annisgwyl a gafwyd mewn carthffosydd.

1. I lawr ag e...

Mae Dŵr Cymru wedi creu rhestr 'dwsin di-angen' o bethau sy'n cael eu rhoi i lawr y toiled pan ddylen nhw ddim. Maent yn cynnwys:

  • ffyn cotwm (cotton buds)

  • wet wipes

  • clytiau/cewynau

  • plasteri

  • tyweli mislif

  • gwlân cotwm

undefined

Llynedd, cafodd y cwmni wared ar 1.3 miliwn o ffyn cotwm o'r rhwydwaith carthffosiaeth yng Nghymru. Hefyd, gwelsant rasel, brwshys dannedd, tegannau meddwl a, ie, dyna chi, pysgod aur...

Ni wnaiff yr un o'r eitemau hyn, ddim hyd yn oed cadachau babi, dorri i lawr mewn dŵr. Mae profion a wnaed gan y diwydiant dŵr yn dangos bod unrhyw beth, ac eithrio papur toiled cyffredin, yn gallu achosi rhwystrau. Fodd bynnag, does dim rheolau yn dweud na chaiff gwmniau werthu eu cynnyrch gyda geiriau fel "flushable" arnynt. Felly, mae hi'n hanfodol addysgu'r cyhoedd er mwyn cadw dŵr y carthffosydd yn llifo.

2. I lawr y plwg

Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol, mae 23.4 miliwn o gartrefi yn y DU. Ychwanegwch 400,000 o fwytai, caffis a ffreuturau at hynny ac mae gennych chi lawer iawn o goginio yn digwydd yn y wlad.

undefined

Mae Thames Water yn amcangyfrif bod rhwng 32 a 44 miliwn litr o olew coginio yn cael ei ddefnyddio yn Llundain bob blwyddyn. Caiff llawer o hynny ei arllwys i lawr draeniau a sinciau yn hytrach na chael ei wared yn y dull cywir. Mae braster ac olew poeth yn oeri'n sydyn yn y draeniau a phibellau'r carthffosydd a gall hynny rwystro'r dŵr rhag llifo'n rhwydd - sy'n gallu achosi canlyniadau amhleserus iawn.

Mae cynghorau ledled y DU wedi dechrau darparu gwasanaeth ailgylchu olew coginio. Yn y cyfamser, mae cwmniau dŵr wedi bod yn ymgyrchu i godi ymwybyddiaeth am y problemau mae'n gallu achosi. Maen nhw'n argymell gadael i'r olew neu'r braster oeri'n llwyr ac yna ei roi yn y bin sbwriel - sy'n gwneud synnwyr pan mae clirio rhwystrau yn Llundain yn unig yn costio tua £12,000,000 y flwyddyn!

3. Popeth, yn cynnwys sinc y gegin...

Ym mis Ebrill 2013, dechreuodd Dŵr Cymru eu ymgyrch eu hunain i dynnu sylw at bwysigrwydd cadw'r system garthffosiaeth yn glir. Un o'r gwrthrychau anarferol a gafwyd yn un o garthffosydd gogledd Cymru oedd beic modur bychan, a hefyd, rhwyd o gôl pêl-droed, sawl beic tair olwyn a thegannau meddal mawr.

undefined

Cyhoeddodd Scottish Water restr o'r 20 peth rhyfeddaf gafodd eu canfod yn rhwydwaith carthffosiaeth yr Alban. Dyma rai o'r uchafbwyntiau:

  • mochyn daear byw

  • pysgodyn aur sydd nawr yn byw mewn bowlen (ei enw yw Pooh)

  • cadair haul

  • dannedd gosod

  • ffonau symudol

  • côn traffig

  • haearn smwddio (sy'n dal yn gweithio)

  • Action Man a phlatŵn o filwyr tegan

Nid pysgod aur a moch daear yn unig sydd wedi goroesi'r carthffosydd - yn ôl yn 1935, cafwyd aligator maint llawr yng ngharthffosydd Harlem, Efrog Newydd. Yn fwy diweddar, cafodd Geoff a Linda Peck o Cleethorpes yng ngogledd Lloegr, sioc enfawr pan lithrodd neidr Mexican King o'u draen.

Os oes well gennych chi greduriaid mwy 'cydli' yr olwg yn byw yn eich carthffosydd, edrychwch ar y preswyliwr annisgwyl hwn yn Bournemouth, yn y fideo hwn...

4. Gormod o ddŵr...

Gwyliwch y fideo isod:

Beth sy'n digwydd? Ydych chi'n cofio ein pumed categori gwastraff? Dŵr ffo - dŵr glaw sy'n llifo oddi ar y llawr (neu doeau mewn trefi a dinasoedd). Mae'n rhaid i'r dŵr hwn fynd i rywle.

Yn y wlad, mae'n llifo i ffrydiau ac afonydd - dyfrffosydd - gan weithiau eu llenwi nes eu bod ar fin gorlifo ac achosi llifogydd. Ond mewn ardaloedd dinesig, nid oes cynifer o ddyfrffosydd naturiol ac felly mae dŵr glaw yn mynd i'r carthffosydd ar hyd gwteri, sianneli a draeniau.

Mewn rhai lleoedd, mae gan ddŵr arwyneb ei system ddraenio ei hun, yn cynnws y carthffosydd, er mwyn cludo'r dŵr ymaith. Fodd bynnag, nid fel hyn y mae pob tro, a hyd yn oed bryd hynny, gall law trwm iawn orweithio'r system gan achosi llifogydd.

Oherwydd bod gan ddyfrffosydd artiffisial fel draeniau a charthffosydd eu diametrau sefydlog eu hunain, nid yw dŵr yn gallu llifo dros yr ochr fel y gwna afon. Yn hytrach, mae pwysau yn cynyddu ac mae dŵr yn dechrau gorlifo drwy unrhyw agoriad sydd ar gael.

Hyd yn oed pan mai dim ond dŵr sy'n gwneud hyn, gall fod yn beryglus iawn - mae'r fideos yn dyst i hynny. Ond os yw'r carthffosydd wedi'u cyfuno hefyd, yna gall gormod o ddŵr glaw achosi gorlifiant trwy ddraeniau, tyllau archwilio a thoiledau hyd yn oed, gan ddod â charthffosiaeth amrwd gydag ef.

Mewn gwledydd lle mae rheolaeth gwastraff dŵr yn gyfyngedig, gall llifogydd achosi afiechydon o bob math - fel colera - oherwydd bod gwastraff dynol ac anifeiliaid yn cael ei gario i strydoedd a thai.

Cymryd cyfrifoldeb...

Mae rhwystrau sy'n cael eu hachosi gan wastraff anaddas yn cael eu fflysio a'u harllwys i'r system garthffosiaeth yn gallu achosi llifogydd. Mae cwmniau dŵr yn treulio llawer o'u hamser ac yn gwario arian ar addysgu eu cwsmeriaid am y peryglon hyn. Byddwn ni'n edrych ar yr ymgyrchoedd hyn yn yr erthygl olaf.

undefined

Taflen wybodaeth yn tynnu sylw at beryglon draeniau sydd wedi blocio (c) Thames Water

Byddwn yn edrych ar rai prosiectau ymarferol y mae cwmnïau dŵr yn eu defnyddio i atal a datrys problemau sy'n ymwneud â'r isadeiledd gwastraff dŵr sy'n gwasanaethu poblogaeth y DU mewn pentrefi, trefi a dinasoedd ar hyd y wlad.

 


Gweithgaredd disgyblion

Mae'r gweithgaredd hwn yn barhad o'r un blaenorol. Yn hwnnw fe wnaethoch waith ymchwil am fath penodol o wastraff (ymolchi, masnachol, diwydiannol, amaethyddol, dŵr ffo).

Defnyddiwch y rhyngrwyd a ffynonnellau eraill i ddarganfod:

  • Sut allai eich dewis chi o wastraff achosi rhwystr mewn draeniau, carthffosydd neu ddyfrffosydd.

  • Pa berygl sydd, pe na bai eich dewis chi o wastraff yn cael ei drin yn iawn (afiechyd, llygredd ac ati)

Defnyddiwch destun a llun i gynhyrchu poster, am ei dewis chi o wastraff, sy'n cynnwys ychydig o'r wybodaeth rydych chi wedi'i chasglu.

Rhowch eich poster i'ch athro/athrawes i'w farcio.

Top

Mwy o’r rhifyn yma...