23

I lawr y draen

I lawr y draen…

Yn yr erthygl gyntaf o'r rhifyn arbennig hwn am Garthffosiaeth, ddarllenon ni am y 'fatberg' a ddarganfyddwyd yn blocio'r carthffosydd o dan Kingston upon Thames yn Llundain.

Rooed y 'fatberg' yn fwystfil o beth! Mae'r cwmni yn credu ei fod y mwyaf o'i fath yn hanes Prydain.

Ond, sut ffurfiodd y fath beth?

undefined

Gellir dod hyd i'r ateb drwy edrych ar y lwmp mawr ei hun. Nid braster coginio ac olew o sinciau a draeniau yn unig oedd yno - roedd miloedd o wet wipes oedd wedi cael eu fflysio i lawr toiledau yno hefyd.

Gallwn ddyfalu at ba bwrpas defnyddiwyd y wet wipes hefyd - ych a fi! Dychmygwch orfod clirio lwmp maint bws ohono!

Mae Thames Water yn clirio mwy na 40,000 o rwystrau braster a wet wipes bob blwyddyn yn y 59,000 milltir o garthffosydd maen nhw'n gyfrifol amdanynt.

Pan gyrhaeddodd Hailwood a'i dîm di-ofn y garthffos, darganfyddon nhw fynydd o fraster a gwastraff toiled yn pydru. Cafodd y llysenw 'fatberg'.

Mae'r map isod yn dangos prif garthffosydd Llundain, fel roedden nhw yn 1930. Dros yr 80 mlynedd diwethaf mae'r carthffosydd wedi tyfu ynghyd â'r ddinas a'r boblogaeth. Mae llawer o wastraff yn cael ei gynhyrchu. Cliciwch yma i gael gweld a lawrlwytho fersiwn mawr o'r map.

undefined

Problem gyhoeddus...

Gall astudio carthffosydd ddweud llawer wrthom am ddinasoedd, y bobl a'r sefydliadau ynddyn nhw, ac ym mha ffordd maen nhw wedi tyfu. Gall garthffosydd ddweud wrthom am faint o arian mae llwyodraethau yn ei fuddsoddi mewn isadeiledd hefyd - y pethau sydd ei hangen ar ddinas i weithredu.

Am nawr, fodd bynnag, rydyn ni'n mynd i ganolbwyntio ar yr her o ymdrin â 'r biliynau o litrau o garthffosiaeth rydyn ni'n ei gynhyrchu'n ddyddiol. Un o'r heriau yw addysgu'r cyhoedd, busnesau a diwydiannau am beth na ddylai gael ei arllwys neu ei fflysio i'r system garthffosiaeth.

Dechreuwn drwy edrych ar engreifftiau o bethau na ddylid eu canfod mewn carthffosydd.

1. I lawr ag e...

Mae Dŵr Cymru wedi rhestru 'dwsin di-angen' o bethau sy'n cael eu fflysio i lawr y toiled yn aml, pan ddylen nhw ddim. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • ffyn cotwm (cotton buds)

  • wet wipes

  • clytiau/cewynau

  • plasteri

  • fflos dannedd

  • gwlân cotwm

undefined

Llynedd, cafodd y cwmni wared ar 1.3 miliwn o ffyn cotwm o rwydwaith carthffosydd Cymru. Ymhlith pethau eraill a ddarganfuwyd gan y cwmni roedd rasel, brwshys dannedd, tegannau meddwl a - ie, dyna chi - pysgod aur...

Ni wnaiff yr un o'r rhain, ddim hyd yn oed cadachau babi, dorri i lawr mewn dŵr. Mae arbrofion a wnaed gan y diwydiant yn dangos bod unrhyw beth, ac eithrio papur toiled cyffredin, yn gallu achosi rhwystrau. Mae addysgu'r cyhoedd yn hanfodol er mwyn cadw'r carthffosydd yn llifo.

2. I lawr y plwg

Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol, mae 23.4 miliwn o gartrefi yn y DU a dros 400,000 o fwytai, caffis a ffreuturau. Mae hynny'n dipyn go lew o goginio ledled y wlad.

undefined

Caiff miliynau o litrau o olew coginio eu defnyddio yn Llundain bob blwyddyn. Bydd llawer iawn o hynny yn cael ei arllwys i lawr draeniau a sinciau, yn hytrach na thrwy'r dull cywir.

Mae olew a braster poeth yn oeri ac yn troi'n solid yn y draeniau a'r pibellau. Gall hynny stopio'r dŵr rhag llifo ac mae'r canlyniadau yn rhai amhleserus iawn.

Mae'r cwmniau dŵr yn awgrymu bod person yn gadael i'r olew oeri'n llwyr ac yna ei roi yn y bin sbwriel. Mae hynny'n gwneud synnwyr perffaith pan fod cost clirio rhwystrau (blockage) braster, yn Llundain yn unig, yn £12 miliwn y flwyddyn!

3. Popeth, yn cynnwys sinc y gegin...

Ym mis Ebrill 2013, dechreuodd Dŵr Cymru eu ymgyrch eu hunain. Un o'r gwrthrychau rhyfedd a gafodd ei ganfod yng ngharthffosydd gogledd Cymru oedd beic modur bach, a hefyd rhwyd o gôl pêl-droed, sawl beic tair olwyn a thegannau meddal mawr.

undefined

Mae Scottish Water wedi cyhoeddi rhestr o'r 20 peth rhyfeddaf i gael eu canfod yn rhwydwaith carthffosiaeth yr Alban. Dyma rai o'r uchafbwyntiau:

  • mochyn daear byw

  • pysgodyn aur sydd nawr yn byw mewn bowlen (ei enw yw Pooh)

  • cadair haul

  • dannedd gosod

  • ffonau symudol

  • côn traffig

  • haearn smwddio (sy'n dal yn gweithio)

  • Action Man a phlatŵn o filwyr tegan

Nid pysgod aur a moch daear yn unig sydd wedi goroesi'r carthffosydd - yn ôl yn 1935, cafwyd aligator maint llawr yng ngharthffosydd Harlem, Efrog Newydd. Yn fwy diweddar, cafodd Geoff a Linda Peck o Cleethorpes yng ngogledd Lloegr, sioc enfawr pan lithrodd neidr Mexican King o'u draen.

Os oes well gennych chi greduriaid mwy 'cydli' yr olwg yn byw yn eich carthffosydd, edrychwch ar y preswyliwr annisgwyl hwn yn Bournemouth, yn y fideo hwn...

4. Gormod o ddŵr...

Gwyliwch y fideo isod:

Beth sy'n digwydd? Ydych chi'n cofio ein pumed categori gwastraff? Dŵr ffo - dŵr glaw sy'n llifo oddi ar y llawr (neu doeau mewn trefi a dinasoedd). Mae'n rhaid i'r dŵr hwn fynd i rywle.

Yn y wlad, mae'n llifo i ffrydiau ac afonydd - dyfrffosydd - gan weithiau eu llenwi nes eu bod ar fin gorlifo ac achosi llifogydd. Ond mewn ardaloedd dinesig, nid oes cynifer o ddyfrffosydd naturiol ac felly mae dŵr glaw yn mynd i'r carthffosydd ar hyd gwteri, sianneli a draeniau.

Mewn rhai lleoedd, mae gan ddŵr arwyneb ei system ddraenio ei hun, yn cynnws y carthffosydd, er mwyn cludo'r dŵr ymaith. Fodd bynnag, nid fel hyn y mae pob tro, a hyd yn oed bryd hynny, gall law trwm iawn orweithio'r system gan achosi llifogydd.

Oherwydd bod gan ddyfrffosydd artiffisial fel draeniau a charthffosydd eu diametrau sefydlog eu hunain, nid yw dŵr yn gallu llifo dros yr ochr fel y gwna afon. Yn hytrach, mae pwysau yn cynyddu ac mae dŵr yn dechrau gorlifo drwy unrhyw agoriad sydd ar gael.

Hyd yn oed pan mai dim ond dŵr sy'n gwneud hyn, gall fod yn beryglus iawn - mae'r fideos yn dyst i hynny. Ond os yw'r carthffosydd wedi'u cyfuno hefyd, yna gall gormod o ddŵr glaw achosi gorlifiant trwy ddraeniau, tyllau archwilio a thoiledau hyd yn oed, gan ddod â charthffosiaeth amrwd gydag ef.

Mewn gwledydd lle mae rheolaeth gwastraff dŵr yn gyfyngedig, gall llifogydd achosi afiechydon o bob math - fel colera - oherwydd bod gwastraff dynol ac anifeiliaid yn cael ei gario i strydoedd a thai.

Cymryd cyfrifoldeb...

Mae rhwystrau sy'n cael eu hachosi gan wastraff anaddas yn cael eu fflysio a'u harllwys i'r system garthffosiaeth yn gallu achosi llifogydd. Mae cwmniau dŵr yn treulio llawer o'u hamser ac yn gwario arian ar addysgu eu cwsmeriaid am y peryglon hyn. Byddwn ni'n edrych ar yr ymgyrchoedd hyn yn yr erthygl olaf.

undefined

Taflen wybodaeth yn tynnu sylw at beryglon draeniau sydd wedi blocio (c) Thames Water

Byddwn yn edrych ar rai prosiectau ymarferol y mae cwmnïau dŵr yn eu defnyddio i atal a datrys problemau sy'n ymwneud â'r isadeiledd gwastraff dŵr sy'n gwasanaethu poblogaeth y DU mewn pentrefi, trefi a dinasoedd ar hyd y wlad.

 


Gweithgaredd disgyblion

Mae'r gweithgaredd hwn yn barhad o'r un blaenorol. Yn hwnnw fe wnaethoch waith ymchwil am fath penodol o wastraff (ymolchi, masnachol, diwydiannol, amaethyddol, dŵr ffo).

Defnyddiwch y rhyngrwyd a ffynonnellau eraill i ddarganfod:

  • Sut allai eich dewis chi o wastraff achosi rhwystr mewn draeniau, carthffosydd neu ddyfrffosydd.

  • Pa berygl sydd, pe na bai eich dewis chi o wastraff yn cael ei drin yn iawn (afiechyd, llygredd ac ati)

Defnyddiwch destun a llun i gynhyrchu poster, am ei dewis chi o wastraff, sy'n cynnwys ychydig o'r wybodaeth rydych chi wedi'i chasglu.

Rhowch eich poster i'ch athro/athrawes i'w farcio.

Top

Mwy o’r rhifyn yma...