Beth sydd yr un maint â bws, sy'n pwyso pymtheg tunnell ac sy'n byw yn y carthffosydd o dan Lundain?
Siarc morfil? Mwtan o grocodeil? Llygod mawr enfawr?
Mae'r gwirionedd yn ffaith llawer iawn mwy ffiaidd a pheryglus…
Dechreuodd y stori yn Kingston upon Thames, pan gafodd trigolion yr ardal drafferth yn fflysio eu toiledau'n iawn. Dywedon nhw wrth Thames Water - y cwmni sy'n gyfrifol am systemau dŵr a charthffosiaeth yr ardal - am y broblem.
Rhoddwyd y dasg o ymchwilio'r broblem i weithiwr carthffosiaeth, Gordon Hailwood. Pan fentrodd ef a'i dîm o 'ysgubwyr' o dan strydoedd Llundain, daethon nhw o hyd i fwystfil yn stelcian yn y tywyllwch, oedd bron iawn wedi blocio'r pibellau yn llwyr.
Anghenfil y garthffosiaeth © CountyClean
Dim ond dechrau'r broblem oedd diffyg 'fflysh' y toiled - oni bai bod yr erchyllbeth seimllyd a drewllyd yn cael ei ddinistrio, gallai fod wedi achosi i'r garthffosiaeth amrwd orlifo i strydoedd Kingston, gan ddod a gofid a pherygl afiechyd i ddegau o filoedd o bobl gydag ef.
Pan gyrhaeddodd Hailwood a'i dîm di-ofn y garthffos, darganfyddon nhw fynydd o fraster a gwastraff toiled yn pydru. Cafodd y llysenw 'fatberg'.
Cyn i'r tîm ddechrau'r broses o dorri'r 'fatberg' yn defnyddio jetiau dŵr pwerus a rhawiau mawr, ffilmion nhw'r hyn oedd yn eu wynebu. Gallwch ei wylio isod.
Byddwch yn ddiolchgar nad yw camera fideo yn gallu recordio arogl!
Felly, pam mae plwg enfawr o fraster coginio wedi ceulo a wet wipes o bwys i ddaearyddwyr?
Mae carthffosiaeth yn sgil gynnyrch anochel o weithgareddau dynol ac felly mae mwy o bobl yn golygu bod mwy o wastraff yn cael ei gynhyrchu. Mae'r gwastraff hwn yn cael effaith enfawr ar yr amgylchedd, yn ogystal ag ar y boblogaeth. Ni allwn astudio'r ffordd y mae bodau dynol yn rhyngweithio â byd natur heb edrych ar sut y caiff gwastraff ei gynhyrchu a sut y ceir gwared arno.
Yn y ddwy erthygl nesaf o'r rhifyn hwn, bydddwn ni'n edrych ar ddwy agwedd ar reolaeth gwastraff hylif yn y DU:
Yr her o ddelio gyda chynnydd parhaol yng nghyfaint carthffosiaeth mewn ffordd ddiogel ac amgylcheddol.
Datblygiadau a chynlluniau allai arwain at ffordd well, mwy cynaliadwy o reoli gwastraff.
Cyn i ni ddechrau, beth am edrych ar rai ffeithiau a ffigurau am gynhyrchiant carthffosiaeth a sut y ceir gwared arno yn y DU.
Yn syml, gwastraff sy'n cael ei gario gan ddŵr oddi wrth y cymunedau sy'n ei gynhyrchu yw carthffosiaeth.
Mae carthffosiaeth yn cynnwys:
Gwastraff ymolchi
gwastraff y toiled, yn cynnwys carthion (faeces), wrin, papur toiled ac unrhyw beth arall sy'n cael ei fflysio i lawr y toiled
dŵr a solidau o sinciau, baddonnau, peiriannau golchi, peiriannau golchi llestri ac ati
Gwastraff diwydiannol
sgil gynnyrch mewn prosesau gweithgynhyrchu a diwydiannol mewn ffatrioedd, gorsafoedd pŵer ac ati
Gwastraff masnachol
hylif a gwastraff wedi'i gario gan ddŵr o siopau, bwytai a darparwyr gwasanaethau eraill mewn cymunedau
Gwastraff amaethyddol
sgil gynhyrchion ffermydd, o wastraff anifeiliaid i wrtaith a chemegolion eraill a ddefnyddir i dyfu cnydau a magu da byw.
Dŵr-ffo
dŵr y glaw sy'n llifo'n gyflym ar hyd wyneb y ddaear (yn cynnwys oddi ar doeau adeiladau) i mewn i gwteri a draeniau sydd wedi cael eu dylunio i'w gario ymaith
Yn ôl Asiantaethyr Amgylchedd, mae Cymru a Lloegr yn cynhyrchu 10 biliwn litr o garthffosiaeth pob dydd. Mae hynny'n 3.65 triliwn litr pob blwyddyn - digon i lenwi Loch Ness (llyn mwyaf Prydain) bum gwaith mewn degawd... Nessie druan!
Loch Ness, yr Alban
Mae delio gyda'r holl garthffosiaeth yn defnyddio 2,800,000,000 KWh o drydan bob blwyddyn. Mae hynny'n ddigon i gynnal tair miliwn o fylbiau golau 100W am 24 awr y dydd, am flwyddyn, ac mae angen cymaint a 1,000,000 tunnell o lo i'w gynnal.
Ym y DU mae dros 300,000 cilometr o garthffosydd. Mae hynny'n ddigon i fynd o amgylch y ddaear 7 gwaith a hanner. Mae'r pibellau hyn yn cysylltu 95% o boblogaeth y DU i'r prif waith trin gwastraff dŵr.
Dwr yw rhwng 99.5% a 99.9% o carthffosiaeth. Mae'r system trin gwastraff wedi cael ei dylunio i ddelio gyda'r 0.1% i 0.5% sy'n solid. Ar gyafrtaledd, mae pob person yn y DU yn cynhyrchu tua 150 litr o wastraff bob dydd. Mae hynny yr un faint a 450 o ganiau pop. Dwr yw'r rhan fwyaf ohono, sy'n fflysio'r gwastraff ymaith.
Mae gan rai rhannau o'r DU wahanol garthffosydd ar gyfer gwastraff a dŵr glaw. Fodd bynnag, yng Nghymru, mae llawer o'r carthffosydd yn cludo dŵr-ffo a charthffosiaeth. Mae hyn yn golygu y gall stormydd garw iawn orweithio'r system. Ar ei waethaf, gall hyn achosi i garthffosiaeth orlifo trwy dyllau archwilio i strydoedd a gerddi.
Cyn symud ymlaen at weddill yr erthyglau, cwblhewch y gweithgaredd isod er mwyn darganfod mwy o wybodaeth am un neu ddwy agwedd ar gynhyrchu a rheoli gwastraff yn y DU.
Defnyddiwch y rhyngrwyd i ddysgu mwy am un math penodol o garthffosiaeth. Dewiswch un o'r pump y soniwyd amdanynt yn yr erthygl hon:
Gwastraff ymolchi
Gwastraff diwydiannol
Gwastraff masnachol
Gwastraff amaethyddol
Dŵr-ffo
Darganfyddwch:
O beth mae wedi'i wneud? (Dewisiwch chi pa mor fannwl rydych chi eisiau bod!)
Pa gwmnïau sy'n gyfrifol am y system garthffosiaeth yn eich ardal chi? (Mae deuddeg o gwmniau'r DU wedi'u rhestru isod)
Sut mae cael gwared arno, sut caiff ei gasglu a'i gludo i'r gwaith trin?
Faint o'r gwastraf rydych chi wedi'i ddewis sy'n cael ei gynhyrchu'n flynyddol (un ai'n genedlaethol neu'n lleol)
Pa beryglon sydd, pe na bai y gwastraff yn cael ei drin yn iawn (afiechydon, llygredd ac ati)
Casglwch y wybodaeth, yr erthyglau a'r lluniau rydych chi'n dod ar eu traws mewn cyflwyniad PowerPoint. Byddwch yn cyfeirio at hwn yng ngweithgareddau'r ddwy erthygl nesaf.