Beth sydd yr un maint a bws, sy'n pwyso pymtheg tunnell ac sy'n byw yn y carthffosydd o dan Lundain?
Siarc morfil? Mwtan o grocodeil? Llygod mawr enfawr?
Mae'r gwirionedd yn ffaith llawer iawn mwy ffiaidd a pheryglus…
Dechreuodd y stori yn Kingston upon Thames, pan gafodd trigolion yr ardal drafferth yn fflysio eu toiledau'n iawn.
Pan ddywedwyd wrth y cwmni carthffosiaeth a dŵr, Thames Water, am y broblem, fe anfonon nhw dîm o ysgubwyr i'r garthffos o dan Lundain i ymchwilio.
Doedden nhw ddim yn credu'r hyn a welsant; bwystfil yn stelcian yn y tywyllwch yn blocio'r pibellau, bron iawn yn llwyr!
Anghenfil y garthffos © CountyClean
Gallai'r erchyllbeth seimllyd, drewllyd fod wedi achosi i garthffosiaeth amrwd orlifo i strydoedd Llundain, gan achosi gofid a pherygl o afiechyd i ddegau o filoedd o bobl.
Roedd y 'fflysiwyr' wedi darganfod lwmp enfawr o fraster a gwastraff toiled oedd yn pydru. Cafodd ei enwi yn 'fatberg'.
Cymerodd dair wythnos i ddinistrio'r anghenfil 15 tunnell yn defnyddio jetiau dŵr pwerus a rhawiau mawr. Recordiodd y tîm fideo byr o'r mynydd oedd yn eu wynebu, gallwch weld y fideo isod.
Byddwch yn ddiolchgar nad yw camera fideo yn gallu recordio'r arogl!
Felly, pam fyddai plwg anferth o fraster coginio wedi ceulo a wet wipes o bwys i ddaearyddwyr?
Sgil gynnyrch i weithgareddau dynol yw carthffosiaeth, felly mae mwy o bobl yn golygu mwy o wastraff. Ni allwn ddeall sut mae bodau dynol yn effeithio ar y byd naturiol, heb ddysgu sut caiff y gwastraff hwnnw ei gynhyrchu a sut y ceir gwared arno.
Yn y ddwy erthygl nesaf o'r rhifyn hwn o 'Daearyddiaeth yn y Newyddion', byddwn ni'n edrych ar ddwy agwedd o reolaeth gwastraff dŵr yn y DU:
Yr her o ddeilo gyda charthffosiaeth mewn dull diogel ac amgylcheddol.
Syniadau newydd i ddelio gyda gwastraff yn well
Ond cyn i ni ddechrau, beth am edrych ar y ffeithiau a'r ffigurau sy'n ymwneud â chynhyrchu carthffosiaeth a chael gwared arno yn y DU.
Yn syml, gwastraff sy'n cael ei gario gan ddŵr oddi wrth y cymunedau sy'n ei gynhyrchu yw carthffosiaeth.
Mae carthffosiaeth yn cynnwys:
Gwastraff ymolchi
gwastraff y toiled, yn cynnwys carthion (faeces), wrin, papur toiled ac unrhyw beth arall sy'n cael ei fflysio i lawr y toiled
dŵr a solidau o sinciau, baddonnau, peiriannau golchi, peiriannau golchi llestri ac ati
Gwastraff diwydiannol
sgil gynnyrch mewn prosesau gweithgynhyrchu a diwydiannol mewn ffatrioedd, gorsafoedd pŵer ac ati
Gwastraff masnachol
hylif a gwastraff wedi'i gario gan ddŵr o siopau, bwytai a darparwyr gwasanaethau eraill mewn cymunedau
Gwastraff amaethyddol
sgil gynhyrchion ffermydd, o wastraff anifeiliaid i wrtaith a chemegolion eraill a ddefnyddir i dyfu cnydau a magu da byw.
Dŵr-ffo
dŵr y glaw sy'n llifo'n gyflym ar hyd wyneb y ddaear (yn cynnwys oddi ar doeau adeiladau) i mewn i gwteri a draeniau sydd wedi cael eu dylunio i'w gario ymaith
Yn ôl Asiantaethyr Amgylchedd, mae Cymru a Lloegr yn cynhyrchu 10 biliwn litr o garthffosiaeth pob dydd. Mae hynny'n 3.65 triliwn litr pob blwyddyn - digon i lenwi Loch Ness (llyn mwyaf Prydain) bum gwaith mewn degawd... Nessie druan!
Loch Ness, yr Alban
Mae delio gyda'r holl garthffosiaeth yn defnyddio 2,800,000,000 KWh o drydan bob blwyddyn. Mae hynny'n ddigon i gynnal tair miliwn o fylbiau golau 100W am 24 awr y dydd, am flwyddyn, ac mae angen cymaint a 1,000,000 tunnell o lo i'w gynnal.
Ym y DU mae dros 300,000 cilometr o garthffosydd. Mae hynny'n ddigon i fynd o amgylch y ddaear 7 gwaith a hanner. Mae'r pibellau hyn yn cysylltu 95% o boblogaeth y DU i'r prif waith trin gwastraff dŵr.
Dŵr yw'r rhan fwyaf o garthffosiaeth mewn gwirionedd, ond mae'r system trin gwastraff wedi'i dylunio i ddelio gyda'r rhan fechan o'r carthion sy'n solid.
Ar gyfartaledd, mae pob person yn y DU yn cynhyrchu tua 150 litr o garthffosiaeth bob dydd. Mae hynny yr un fath â 450 o ganiau pop. Dŵr yw'r rhan fwyaf ohono sy'n cael ei ddefnyddio i fflysio'r gwastraff ymaith.
Mae gan rai rhannau o'r DU wahanol garthffosydd ar gyfer gwastraff a dŵr glaw. Fodd bynnag, yng Nghymru, mae llawer o'r carthffosydd yn cludo dŵr-ffo a charthffosiaeth. Mae hyn yn golygu y gall stormydd garw iawn orweithio'r system. Ar ei waethaf, gall hyn achosi i garthffosiaeth orlifo trwy dyllau archwilio i strydoedd a gerddi.
Cyn symud ymlaen at weddill yr erthyglau, cwblhewch y gweithgaredd isod er mwyn darganfod mwy o wybodaeth am un neu ddwy agwedd ar gynhyrchu a rheoli gwastraff yn y DU.
Defnyddiwch y rhyngrwyd i ddysgu mwy am un math penodol o garthffosiaeth. Dewiswch un o'r pump y soniwyd amdanynt yn yr erthygl hon:
Gwastraff ymolchi
Gwastraff diwydiannol
Gwastraff masnachol
Gwastraff amaethyddol
Dŵr-ffo
Darganfyddwch:
O beth mae wedi'i wneud? (Dewisiwch chi pa mor fannwl rydych chi eisiau bod!)
Pa beryglon sydd, pe na bai'r carthion yn cael eu trin yn iawn? (afiechyd, llygredd ac ati)
Casglwch y wybodaeth, yr erthyglau ac unrhyw luniau rydych chi'n dod ar eu traws mewn cyflwyniad PowerPoint. Byddwch yn defnyddio hwn ar gyfer y gweithgareddau yn y ddwy erthygl nesaf.