19

Heriau sy’n wynebu’r A.F.G.

Croeso i’r Ardal Fusnes Ganolog!

Mae'r Ardal Fusnes Ganolog (A.F.G.) yn gysyniad sydd tu hwnt i’r Stryd Fawr a mân-werthu. Mae’r Ardal Fusnes Ganolog yn ardal fawr mewn tref neu ddinas le mae busnesau o fath penodol yn gallu dod at ei gilydd mewn grwp.

undefined

Yn aml iawn, mae’r Ardal Fusnes Ganolog yn lleoliad i fusnesau ariannol fel banciau; nid y canghennau banc ond y lle mae penderfyniadau buddsoddi mawr yn cael eu gwneud. Mae busnesau mawr eraill fel cwmnïau yswiriant yma hefyd. Fel arfer, byddai’r Ardaloedd Busnes Canolog o amgylch y mannau hawsaf i’w cyrraedd - mannau lle deuai’r ffyrdd trafnidiaeth at ei gilydd (nod trafnidiaeth). Yn fan hyn y byddai mân-werthu yn tyfu o fusnesau masnachu bychain a oedd yn darparu nwyddau i deithwyr ac i’r bobl oedd yn gweithio yn yr ardal. 

 

undefined

Gydag amser, mewn ardaloedd fel Caerdydd parhaodd y busnesau i dyfu. Oherwydd eu bod nhw wedi’u hamgylchynu gan yr adeiladau eraill, doedden nhw methu tyfu am allan ac felly mi dyfon nhw am ei fyny. Yn bwysicach na hynny, roedd rhent neu drethi tir yn cael eu talu yn ôl arwynebedd, felly roedd synnwyr busnes da yn dweud y dylid adeiladu am i fyny. Dyma’r rheswm pam mae gan rai rhannau o drefi a dinasoedd adeiladau uchel. Mi ddylech chi allu canfod yr Ardal Fusnes Ganolog mewn tref fawr neu ddinas drwy edrych ar uchder adeiladau. Fel arfer, mae mwy o loriau ar adeiladau pan fyddwch chi’n nesáu at yr Ardal Fusnes Ganolog. Ceisiwch ddefnyddio system wybodaeth ddaearyddol i weld a yw hyn yn wir. 

  


Heriau sy’n wynebu’r Ardaloedd Busnes Canolog - Twf 'tu allan i’r dref'

undefined

Un o’r heriau mwyaf sy’n wynebu Ardaloedd Busnes Canolog yw twf lleoliadau y tu allan i’r dref. Mae hyn yr un mor berthnasol i fusnesau mân-werthu ag ydyw i fusnesau eraill. Gyda thwf yn y nifer o berchnogion ceir, mae llawer o siopwyr eisiau taith syml gyda digon o le i barcio tu allan i’r siop. Mae hyn wedi arwain at dwf parciau mân-werthu tu allan i ganol y dref, fel Parc Trostre ar gyrion Llanelli. Gyda chymaint o siopau mawr yn symud i barciau mân-werthu, sut mae modd i ganol y dref barhau i ddenu siopwyr? 

 

 

undefined

Yn y gorffennol byddai nifer yr ymwelwyr i Ardaloedd Busnes Canolog (gweithwyr a chwsmeriaid) wedi bod yn ddigon i gadw siopau yn yr Ardal Fusnes Ganolog. Fodd bynnag, mae hyn hefyd yn dylanwadu ar fusnesau heb fod yn rhai mân-werthu yn yr Ardaloedd Busnes Canolog traddodiadol. Mae’r llun hwn yn dangos Parc Busnes Celtic Springs ar gyrion Casnewydd. Mae’r parc hwn yn denu llawer o fusnesau a fyddai fel rheol yn yr Ardal Fusnes Ganolog. Yn sgil hyn a heb y gweithwyr, mae mân-werthwyr mawr yng nghanol y dref wedi teimlo’r diffyg.

Heb atyniad y mân-werthwyr mawr yn yr Ardal Fusnes Ganolog, mae busnesau eraill yn symud o ganol y dref. Mae’n gylchdro annifyr, neu’n rhywbeth sy’n cael ei alw yn yr effaith domino – mae un yn gadael yn gwthio’r nesaf sydd yna’n gwthio’r un nesaf ac yn y blaen. 

 


Heirau sy’n wynebu’r Ardaloedd Busnes Canolog – Cynnal y Profiad Siopa

Yn ddiweddar, mae daearyddwyr wedi dechrau defnyddio ymadrodd newydd - ‘trefi clôn’. Mae tref glôn wedi colli ei chymeriad unigryw neu ei hunaniaeth ac mae hi’n debyg i nifer o drefi eraill gyda’r un siopau cadwyn ynddi, wedi'i lleoli yn yr un math o Ardal Fusnes Ganolog. Dros y ddegawd neu ddwy ddiwethaf, mae mân-werthwyr annibynnol wedi cael eu gwthio i un ochr gan gadwyni cenedlaethol a rhyngwladol nes bod y dewis sydd ar gael yn fychan iawn.

undefined

Y cwestiwn sy’n codi yn sgil y gystadleuaeth y mae canolfannau siopa tu allan i’r dref a’r dirywiad yng nghanol y trefi yn ei gosod yw, a fydd gan y ‘trefi clôn’ hyn y gallu i ddenu digon o siopwyr o bellter? Yr enw ar y pellter y gall canolfan siopa ddenu rhywun yw’r sffêr dylanwad. Mae maint y sffêr dylanwad yn pennu’r boblogaeth drothwy gan felly bennu’r amrywiaeth o nwyddau a gwasanaethau fydd ar gael. 

 


Sffêr Dylanwad

undefinedYr ardal y mae anheddiad yn darparu nwyddau a gwasanaethau ar ei gyfer yw sffêr dylanwad. Mae’r sffêr dylanwad yn rhannol seiliedig ar y cysyniad o ‘hierarchiaeth anheddiad’; mae hyn yn dangos bod yno lawer o adeiladau wedi’u hynysu neu grwpiau bychain o dai a elwir yn bentrefan.

Wrth i aneddiadau dyfu fel pentrefi neu drefi bychain, mae llai ohonyn nhw. Fodd bynnag, os oes gan bentref sffêr dylanwad sy’n ymestynna r draws sawl pentrefan mae’n bosibl y bydd yn cyrraedd y boblogaeth drothwy angenrheidiol i gynnal siop fechan, swyddfa bost neu dafarn.

Wrth i aneddiadau dyfu, mae llai ohonynt oherwydd bod angen poblogaeth drothwy fawr arnyn nhw i gynnal eu hystod eang o nwyddau a gwasanaethau. Ar ben yr hierarchaeth efallai y bydd un ddinas fawr.

Weithiau mae trefi a dinasoedd yn tyfu neu’n cyfuno i wneud ardaloedd a elwir yn glymdref. Mae clymdref yn dechrau datblygu ar hyd yr M4 yn ne Cymru wrth i Gaerdydd gyfuno â threfi a dinasoedd eraill fel Casnewydd.

Oeddech chi'n gwybod?

Mae lleoliad yr anheddiad a’i sffêr dylanwad ar yr hierarchaeth yn rheoli’r ystod o nwyddau a gwasanaethau y mae anheddiad yn gallu ei gynnal. Mae’n debygol y bydd aneddiadau bychain ddim ond yn gwerthu’r pethau rhad sydd ei angen ar bobl drwy’r adeg, fel llaeth a bara. Bydd dinasoedd mawr yn gwerthu ystod lawn o nwyddau drud a gwasanaethau nad yw pobl yn eu prynu’n aml. Tan yn ddiweddar, byddai hyn wedi cynnwys nwyddau electronig fel teledu neu gyfrifiaduron ond mae llawer o’r rhain bellach wedi symud allan o’r ddinas neu ar lein.

Mae rhai o’n parciau mân-werthu ni wedi’u lleoli’n glyfar iawn er mwyn ceisio cymryd mantais o sffêr dylanwad sawl canol tref. Mae Talbot Green yn Llantrisant yn enghraifft dda oherwydd ei fod ar gyrion sffêr dylanwad Caerdydd, Pen-y-bont a Phontypridd.


Heriau sy’n wynebu’r Ardaloedd Busnes Canolog - Oes Newydd Mân-werthu

Dyma lun o du mewn i warws y mân-werthwr arlein enfawr Amazon, ger Abertawe. Mae gwasanaethau arlein yn gystadleuaeth gref i sawl mân-werthwr yn yr ardal fusnes ganolog. Fodd bynnag, mae’n effeithio ar rai yn fwy nag eraill.

undefinedGall unrhyw gynnyrch sy’n gallu cael ei drosi i gyfrwng digidol fel cerddoriaeth neu fideo gael ei lawrlwytho. Yn aml iawn dydy siopwyr ddim eisiau llenwi eu cartrefi â chynnyrch ffisegol fel DVD neu gryno ddisgiau. Mae’n rhaid i fân-werthwyr yn y maes hwn addasu’n sydyn neu dderbyn eu tranc. Er hynny, dim ond am 10% o wariant y DU y mae’r siopau arlein yn cyfri. Efallai mai’r her fwyaf sy’n eu hwynebu yw dyfodiad yr arch-adwerthwyr.

 

Warws Amazon, Abertawe

 

Oeddech chi'n gwybod?

Tan yn ddiweddar, roedd yr archfarchnad yn rhywle y byddai person yn mynd i brynu bwyd. Nawr, mae rhai cadwyni am i’ch ymweliad chi fod yn un i siop bob dim, gyda nwyddau trydanol, nwyddau’r cartref, dillad a hyd yn oed gwasanaethau fel optegwyr a fferyllfeydd ar gael. Yn yr oes fodern hon, mae amser werth arian a bydd llawer o siopwyr yn meddwl yn nhermau cyflymder a hwylustod cael popeth dan un to.

Yn aml iawn, mae’r mân-werthwyr hyn yn llwyddo o ran economi maint, sy’n golygu eu bod nhw’n gallu prynu mewn sypiau mawr, neu rannu staff rhwng dwy adran. O ganlyniad maen nhw’n gallu prisio’n is na phrisiau canol y dref. At hynny, maen nhw’n gallu ychwanegu hwylustod prynu ar y we a chasglu o’r siop ar yr un diwrnod.

Byddai rhai yn dadlau eu bod nhw’n darparu’r gorau o bob byd a dyna pam eu bod nhw wedi adeiladu cymaint o ran yn y farchnad.

 

 

Gweithgareddau dosbarth

Defnyddiwch y System Wybodaeth Ddaearyddol i ymchwilio i ystod o nwyddau a gwasanaethau sydd ar gael mewn aneddiadau o wahanol faint. Cwblhewch y tabl tali er mwyn gweld faint o ddilynwyr sydd i bob anheddiad canol tref.

  • Nwyddau rhad

  • Gwasanaethau rhad

  • Nwyddau drud

  • Gwasanaethau drud

  • Hamdden

  • Gwag

Lluniwch graffiau i bob anheddiad a phenderfynwch p’un ai yw’r syniadau am sffêr dylanwad / poblogaeth drothwy a hierarchaeth anheddiad dal yn wir.

Top

Mwy o’r rhifyn yma...

A.F.G. - Amser penderfynu

A.F.G. - Amser penderfynu

Newid gwedd mân-werthu

Newid gwedd mân-werthu