19

A.F.G. - Amser penderfynu

Beth allwn ni ei wneud i achub Ardaloedd Busnes Canolog Cymru?

Heb os nac oni bai, mae Ardal Fusnes Ganolog Caerdydd yn llwyddiant ysgubol. Llwyddodd i osgoi’r dirywiad y mae trefi a dinasoedd eraill wedi’i wynebu ac i dyfu yn lle. Fodd bynnag, nid yw hyn yn wir am y rhan fwyaf o’n trefi a’n dinasoedd. Beth ddylai cynllunwyr wneud yn y dyfodol? Beth am edrych ar lwyddiannau, ymdrechion a methiannau ledled Cymru yn y gobaith o weld beth allwn ni ei wneud yn y dyfodol?


Amser penderfynu - Hamdden

undefined

 

Mae cyfuno mân-werthu gyda hamddena yng Nghaerdydd wedi profi’n llwyddiant. Mae siopwyr yn gallu mwynhau pryd o fwyd neu ddiod yn ystod y dydd ac mae hynny yn creu ffrwd arall o incwm busnes sydd yn gallu tyfu. Gyda’r nos, mae hyn yn darparu ystod eang o gyfleusterau hamdden sy’n denu ymwelwyr. Yn ystod y dydd, mae’r ymwelwyr hyn yn gwsmeriaid yn y siopau.

Mae Caerdydd bellach yn un o’r 10 cyrchfan mân-werthu gorau yn y DU, sy’n golygu bod pobl yn dod i aros mewn gwestai er mwyn mynd i siopa. Maen nhw felly yn rhoi hwb i’r economi leol gyda’r nos.

Mae gwestai yng nghanol y ddinas yn brysur iawn ac yn ehangu hyd yn oed. Yng Nghasnewydd, y ddinas agosaf i Gaerdydd, caewyd y gwesty olaf yng nghanol y ddinas llynedd. 


Amser penderfynu - Harddu

undefined

 

Mae harddu canol trefi yn mynd tu hwnt i bedestreiddio ond mae’n rhan allweddol o sawl cynllun ail-ddatblygu ardaloedd busnes canolog. Dyma ran brysur o dref Wrecsam yng Ngogledd CYmru sydd wedi’i phedestreiddio. Mae’r profiad siopa yn llawer iawn gwell heb beryglon traffig a chael eich gwasgu ar balmentydd cul.

Mae cau’r lonydd, llenwi’r canol gyda phafin addurniadol a gwell dodrefn stryd, celf ac arddangosfeydd blodau atyniadol i gyd wedi bod yn bwysig iawn yn adfywio’r profiad siopa yn nhref fwyaf gogledd Cymru.  


Amser penderfynu - Siopa dan do

undefinedMae’r ganolfan siopa yn ddatblygiad mân-werthu sydd wedi dod yn boblogaidd iawn yng Nghymru. Dyma’r ganolfan Cwadrant yn Abertawe, sy’n mynd i’r afael â llawer o broblemau’r profiad siopa. Mae gan ganolfannau o’r fath faes parcio sydd un ai wedi’i gysylltu fel bloc cyfagos, neu fel lloriau uwchben neu o dan y ganolfan. Mae gan Ganolfan Siopa Dewi Sant 2 yng Nghaerdydd dros 2,000 o leoedd parcio uwchben y siopau.

 

  


Amser penderfynu - Myfyrwyr yn lle busnesau

undefinedMae sawl Ardal Fusnes Ganolog wedi colli busnesau yn sgil parciau busnes mewn trefi, Maen nhw wedi colli nifer yr ymwelwyr sydd ei angen ar fân-werthwyr a chyfleusterau hamdden. Mae rhai trefi wedi ceisio datrys hyn drwy geisio denu poblogaethau nad ydynt, fel arfer, yn rhan o’r Ardal Fusnes Ganolog. Mae Casnewydd wedi symud rhan fawr o gampws y brifysgol at lan yr afon yno, sy’n lleoliad gyferbyn i’r Ardal Fusnes Ganolog.

Dyma ymgais i wella’r profiad myfyriwr ond hefyd i geisio adfywio canol y ddinas. Mae eisoes wedi defnyddio strategaethau eraill ac mae canol y ddinas yn parhau i ddirywio. Tynnwyd y llun hwn o ben to bloc parcio'r ganolfan siopa sydd newydd sbon yng Nghasnewydd. Mae’n dangos gwaith adeiladu’r Campws Prifysgol newydd yng nghanol y ddinas.


Asesu ar gyfer Dysgu: Cwis

Cyn rhoi cynnig ar y cwis, sicrhewch eich bod chi wedi darllen pob erthygl yn y rhifyn hwn:

  • Heriau sy’n wynebu’r A.F.G.

  • Newid gwedd mân-werthu

  • A.F.G. - Amser penderfynu


Flash Player Required

Get Adobe Flash player

Gweithgareddau dosbarth

Paratowch gyflwyniad am yr hyn rydych chi'n meddwl hellir ei wneud i wella canol tref neu ddinas o'ch dewis chi.

Top

Mwy o’r rhifyn yma...

Newid gwedd mân-werthu

Newid gwedd mân-werthu

Heriau sy’n wynebu’r A.F.G.

Heriau sy’n wynebu’r A.F.G.